Hafan y Blog

‘Gwarchod y gwaddol; ffotograffwaith Harry Morrey-Salmon’

16 Chwefror 2026

Mae project diddorol wedi bod ar waith yn Amgueddfa Cymru dros y blynyddoedd diwethaf. Gyda chymorth Cymdeithas Naturiaethwyr Caerdydd, mae mil a mwy o ffotograffau a dynnwyd gan y naturiaethwr arloesol o Gymru, Harry Morrey-Salmon (1891 – 1985) wedi'u digideiddio a byddant yn cael eu hychwanegu at Gasgliadau Ar-lein yr Amgueddfa.  Mae cadw'r delweddau rhyfeddol hyn wedi bod yn dasg aruthrol ond hynod werth chweil. Mae eu gweld yn dod yn fyw ar y sgrin, a gwybod y byddant ar gael ar-lein cyn bo hir i bawb eu harchwilio, wedi bod yn uchafbwynt go iawn.

Mae'r casgliad hwn yn fwy na ffotograffiaeth hardd yn unig. Mae'n cynnig cipolwg prin ar fywyd gwyllt Cymru gydol yr ugeinfed ganrif, gan gofnodi manylion gwyddonol a threftadaeth ddiwylliannol ym mhob ffrâm. Mae'n dathlu gwaith gwych Morrey-Salmon a'i ymroddiad i'w grefft; anrhydedd oedd cyfrannu at ei waddol.

 

Pam mae digideiddio mor bwysig?

 

Mae digideiddio yn fwy na dim ond sganio hen ffotograffau; mae'n offeryn pwerus ar gyfer cadwraeth. Pan fyddwn ni'n digideiddio casgliad fel un Morrey-Salmon, nid creu copïau wedi’u digideiddio yn unig ydyn ni; rydyn ni'n diogelu deunyddiau bregus rhag traul amser.

Mae ffotograffau Morrey-Salmon yn ddegawdau oed. Mae rhai wedi pylu, eraill yn sensitif, ac mae pob un yn agored i ddifrod gan olau, cyffwrdd a thrin a thrafod, neu newidiadau amgylcheddol. Mae Cymdeithas Naturiaethwyr Caerdydd wedi gwneud gwaith anhygoel o adnabod, glanhau a threfnu'r delweddau hyn i ni, fel y gallai Robin Maggs, ein ffotograffydd, droi'r delweddau hyn yn ffeiliau wedi’u digideiddio cydraniad uchel. 

 

Fy rôl i fel Cynorthwyydd Dogfennau oedd rhoi'r holl metadata yn ein system gasglu. Efallai ei fod yn swnio braidd yn dechnegol, ond yn y bôn, metadata yw sut rydyn ni'n rhoi cyd-destun ac ystyr i bob delwedd.

Yn achos casgliad Harry Morrey-Salmon, roedd hyn yn golygu archwilio pob ffotograff yn ofalus a chofnodi manylion fel:

  1. - Beth sydd yn y llun – adar, tirweddau, pobl, neu fywyd gwyllt.
  2.  
  3. - Lle cafodd y llun ei dynnu – rhywle yng Nghymru fel arfer, ond weithiau'n bellach i ffwrdd.
  4.  
  5. - Pryd y cafodd ei dynnu – os yw'n hysbys, neu amcangyfrif yn seiliedig ar gliwiau.

  • - Unrhyw nodiadau neu gapsiynau. edd gen i ddigonedd o ddyddiaduron a llythyrau gan Morrey-Salmon i roi'r llun yn ei gyd-destun. 

Roedd pob cofnod yn rhyw fath o fini-ymchwiliad. Roedd nodiadau yn llawysgrifen Morrey-Salmon ei hun yn cyd-fynd â rhai lluniau, a oedd yn cynnig gwybodaeth am y rhywogaethau a welodd neu'r lleoliadau dan sylw. Roedd eraill yn fwy dirgel, ac yn gofyn am ychydig o waith ditectif, croesgyfeirio lleoliadau, adnabod rhywogaethau adar, neu ddehongli'r wynebau yn y lluniau.

Yr hyn wnaeth fy nharo’n bennaf oedd sut mae'r wybodaeth hon yn trawsnewid delwedd syml yn rhywbeth y gellir ei chwilio a'i rannu. Hebddi, dim ond rhywbeth gweledol yw llun. Gyda gwybodaeth, mae'n dod yn rhan o stori fwy; sy’n gysylltiedig â lle, amser, ac angerdd yr unigolyn am fyd natur.

Ar ben hynny, mae'r broses wedi gwneud i mi fyfyrio ar faint o ofal a gwaith sy’n mynd i sicrhau bod casgliadau'r amgueddfa yn fwy hygyrch. Y tu ôl i bob delwedd welwch chi ar-lein, mae rhywun wedi cymryd yr amser i'w disgrifio, ei thagio, a sicrhau bod ymchwilwyr, adarwyr, neu borwyr chwilfrydig yn gallu dod o hyd iddi.

 

Unwaith y bydd ffotograff wedi'i ddigideiddio, gellir ei storio'n ddiogel, creu copi wrth gefn ohono a'i rannu ledled y byd. Mae'n dod yn rhan o archif fyw, sy'n hygyrch i unrhyw un sy'n ymddiddori yn hanes naturiol Cymru. Nid yw'r ffotograffau arloesol hyn yn hel llwch yn un o storfeydd yr amgueddfa mwyach; gall unrhyw un, ymhob cwr o’r byd, archwilio'r delweddau.

Mewn ffordd, mae digideiddio yn rhoi bywyd newydd i gasgliadau hanesyddol. Mae'n caniatáu inni gysylltu'r gorffennol â'r presennol ac yn sicrhau nad yw'r straeon sydd yn y ffotograffau hyn, o adar, tirweddau, ac ymroddiad Morrey-Salmon i natur, yn mynd yn angof dros amser.

 

Uchafbwyntiau'r Casgliad

 

Mae'r broses ddigideiddio wedi datgelu sawl darganfyddiad cyffrous sy'n taflu goleuni ar fywyd a gwaith Morrey-Salmon. 

 

Ymhlith trysorau niferus y casgliad mae'r hyn sy'n ymddangos fel ffotograff cynharaf Morrey-Salmon sydd wedi goroesi, o aderyn: cornchwiglen, yn eistedd ar nyth, a dynnwyd ym mis Ebrill 1909. Ar yr olwg gyntaf, efallai mai dyma oedd ei ymgais gyntaf i dynnu llun o aderyn, ond mae ei ddyddiaduron yn adrodd stori wahanol. Mewn cofnodion cynharach, mae Morrey-Salmon yn ysgrifennu am dynnu lluniau o adar amrywiol, ac mae yna sawl delwedd o nythod ac wyau sy'n rhagflaenu’r llun hwn. Felly, er nad y llun hwn o gornchwiglen yw'r cyntaf iddo ei dynnu erioed, mae'n debyg mai dyma'r hynaf sydd wedi goroesi hyd heddiw. Mae'n atgof pwysig o ba mor fregus y gall archifau ffotograffig fod a pha mor lwcus ydyn ni i gael y cipolwg hwn ar ei waith cynnar.

 

Cofnododd Morrey-Salmon lawer o ymweliad y Gyngres Adareg Ryngwladol ag Ynys Sgogwm ym 1934. Daeth cant a mwy o bobl i'r ynys hon ger arfordir Sir Benfro, gan gyrraedd a gadael mewn steil ar fwrdd dwy long ddistryw y Llynges Frenhinol, HMS Windsor a HMS Wolfhound, a hwyliodd o Ddinbych-y-pysgod i'r ynys.


Mae ffotograffau Morrey-Salmon yn cynnig cipolwg byw ar yr achlysur hanesyddol hwn, sydd nid yn unig yn dangos bwrlwm y gyngres ond hefyd rhai o’r wynebau cyfarwydd. Mae'r adarwr Cymreig Ronald Lockley, ffigwr allweddol yn hanes naturiol Sgogwm, yn ymddangos mewn sawl llun, yn ogystal â’r cyn-Frenin Ferdinand I o Fwlgaria, a oedd yn adarwr brwd ei hun.

 

Wrth i mi ddigideiddio archif ffotograffig Morrey-Salmon, dechreuodd enwau mwy cyfarwydd godi eu pen. Yn eu plith, cyfres o ddelweddau o sbesimenau blodau, wedi'u labelu 'Miss Vachell's’. Ar y dechrau, doedd yr enw ddim yn canu cloch, ond ar ôl mymryn o waith cloddio, sylweddolais mai sbesimenau llysieuol Eleanor Vachell oedden nhw, botanegydd nodedig o Gymru sydd, fel Morrey-Salmon, â chysylltiadau agos ag Amgueddfa Cymru.

Pleser o'r mwyaf oedd canfod y cysylltiadau hyn rhwng enwau mor ddylanwadol yn hanes naturiol Cymru. Y pethau bychain sy'n gwneud y broses ddigideiddio mor werth chweil, gan ei fod nid yn unig yn gwarchod y gorffennol, ond yn dod â'i straeon i'r golwg.

 

Gwarchod y gorffennol, ar gyfer y dyfodol

 

Mae digideiddio ffotograffau Harry Morrey-Salmon wedi bod yn fwy na thasg dechnegol yn unig, mae wedi bod yn gyfle i ailddarganfod straeon, cysylltiadau, ac unigolion rhyfeddol a luniodd hanes naturiol Cymru. O adaregwyr a botanegwyr i aelodau o deuluoedd brenhinol, mae pob delwedd yn cynnig cipolwg ar waddol cyfoethog a diddorol.

Diolch o galon i Gymdeithas Naturiaethwyr Caerdydd am eu cyfraniadau gwerthfawr a'u hymroddiad i'r project hwn. Mae eu gwaith caled a'u cefnogaeth wedi chwarae rhan allweddol wrth helpu i warchod a rhannu gwaddol Morrey-Salmon gyda chynulleidfa ehangach. Bu'n fraint helpu i wneud y casgliad hwn yn fwy hygyrch i'r cyhoedd, ac rwy'n gobeithio y bydd y ffotograffau hyn yn parhau i ennyn chwilfrydedd a gwerthfawrogiad am y byd naturiol, yn union fel y gwnaethant i'r rhai a'u cofnododd ar gamera am y tro cyntaf.

 

Mae'r ffotograffau wedi'u digideiddio ar gael trwy gasgliad ar-lein yr amgueddfa yma: Casgliadau Ar-lein | Amgueddfa Cymru

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.