Adeiladu tŷ crwn - y to
11 Mehefin 2010
,Yn ystod y pythefnos diwethaf rydym wedi bod wrthi'n adeiladu'r to gwellt. Rydym wedi defnyddio saith mwdwl o gyrs ar gyfer y to, mae pob mwdwl yn cynnwys rhwng 80-100 o fwndeli. Fel y gallwch weld rydym wedi defnyddio tipyn o gyrs!
Cymrwch olwg ar y ffotograffau. Gallwch weld y bwndeli'n cael eu gosod rhwng y trawslathau gwiail o goed cyll cyn bod Dafydd yn mynd ati i dacluso'r to gwellt.
sylw - (1)