Hafan y Blog

Cleisie, a Lleisie Canol Oesol

Sara Huws, 25 Mehefin 2010

Mae'r wythnos hon wedi bod yn un brysur iawn yn Eglwys Teilo Sant, a 'dyn ni wedi cael amser gwych. Dyn ni ddim wedi gorffen eto, a bydd drama Y Gwr Cadarnyn cael ei pherfformio yn iard yr Eglwys yfory. Roedd y gwasanaeth Tuduraidd yn lwyddiant, a daeth pobol o bob pegwn o'r byd i gymryd rhan.

Gwnaethom dair 'fersiwn' o'r gwasanaeth, a ffilmiwyd rhan helaeth ohono. Cadwch lygad ar y blog 'ma - fe fydda i'n rhoi rhan o'r fideo yma i'w weld cyn gynted ag y bo'r modd.

Roedd ddoe yn ddiwrnod arbennig iawn, am i aelodau o'r cyhoedd gymryd rhan yn y gwasanaeth. Daeth rhai o'r ardal ble'r adeiladwyd yr Eglwys yn wreiddiol, ger Pontarddulais. Roedd eraill yn Gatholigion, oedd yn gyfarwydd â rhai rhannau o'r ddefod, ond wedi'u syfrdanu ar ba mor wefreiddiol oedd cymryd rhan, yn enwedig ym mhresenoldeb y murluniau.

Roeddwn i yn fy ngwisg Duduriadd, nid er mwyn creu sioe, ond i weld pa mor gyfforddus y byddai hi i gymryd rhan mewn gwasanaeth Tuduraidd yn y wisg berthnasol (h.y. un â chorset bren ynddi). Roedd o leia 20 munud o benglinio isel (hynny yw, penglinio ar lawr carreg, gyda'ch trwyn mor agos i'r llawr â sy'n bosibl. Ro'n i'n teimlo y byddwn yn ddeall y ddefod yn well petawn i'n cymryd rhan. Roedd yn sioc pan sylwais ei bod lawer yn haws yn y wisg Duduraidd nag yn fy nillad bob dydd. Mae Margery Kempe, dynes a oedd yn addoli yn y 15ed ganrif, yn sôn sut y gallwch greu clustog i benelinio arni gan rowlio blaen eich sgert i fyny. Roedd ychydig yn fwy cyfforddus, ond dwi dal wedi cleisio'n biws!

Yn fuan wedi i'r gwasanaeth ddod i ben, daeth llwyth o bensiynwyr o Dde-ddwyrain Llundain i mewn, a dechrau canu 'We'll keep a welcome in the hillside' yn ddi-rybudd. Roedd yr awyrgylch ddifrifol, dawel wedi'i thrawsnewid yn llwyr - profiad swreal iawn oedd profi'r ddau beth yn olynol. Fe dynnais ffilm fer - efallai y dylwn geisio creu mashupohonynt!

Roedd y gwasanaeth ei hun yn croesawu penydwyr yn ôl i'r Eglwys a'r gymuned. Gweithiodd y clerigwyr, yr academyddion, cantorion, anthropolegwyr a'r curaduron yn galed iawn ar y prosiect, a rwy'n gobeithio iddyn nhw gael boddhad o gymeryd rhan, ac eu bod wedi dysgu cymaint â fi! Byddaf yn cael seibiant bach i ddad-Dudurio (h.y. trip i Ynys y Barri), ac yna'n dechrau trafod y gwahanol bethau y byddwn ni'n gwneud gyda ffilm y gwasanaeth. Oes gennych chi gynnig - beth hoffech chi ei weld?

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.