Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru yn adlewyrchu ar ddyfodol diwylliant yng Nghymru wrth adael Mari Gordon, 19 Gorffennaf 2010 MH.flv Bu Michael Houlihan, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru, sydd ar fin gadael i ddechrau swydd newydd yn Seland Newydd, yn adlewyrchu ar ei amser fel pennaeth y corff drwy ddarlithio yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar nos Fercher 14 Gorffennaf 2010.Wedi saith mlynedd yn y rôl allweddol hon, bydd Mr Houlihan yn gadael yn yr wythnosau nesaf i ymgymryd â'r swydd fel Prif Weithredwr Amgueddfa Seland Newydd Te Papa Tongarewa. Cyhoeddodd Amgueddfa Cymru'n gynharach yr wythnos hon bod David Anderson, Cyfarwyddwr Addysg a Dehongli Amgueddfa Victoria and Albert, wedi ei apwyntio fel ei olynydd.I ddarllen y ddarlith gyfan, cliciwch yma. Mari Gordon Pennaeth Cyhoeddi Cysylltwch â Mari Gordon Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.