Hafan y Blog

Datblygiadau yn y Goedwig!

Hywel Couch, 3 Tachwedd 2010

Dyma fy blog cynta ers cael fy apwyntio fel Hwylusydd Archwilio Natur yma yn Amgueddfa Sain Ffagan. Prif pwrpas y swydd yw hybu ymwelwyr i’r Sain Ffagan i gymryd sylw ar y wledd o bywyd nature sy’n byw o fewn yr amgueddfa. 

Fel rhan o’r prosiect, mae ‘na wedi bod rhai datblygiadau yn y goedwig yn Sain Ffagan, ger llwybr y goedwig. Ger un o’r paneli gwybodaeth rydym newydd ychwanegu troellwr caneuon adar! Wrth dewis yr aderyn rydych am glywed a troi’r braich ar y troellwr, mae’n bosib i wrando ar 8 aderyn sy’n byw yn ein goedwig. Mae’n ffordd wych o ddysgu caneuon yr adar wahanol!

Rydym hefyd wedi adeiladu cuddfan adar yn y goedwig. Mae’r cuddfan yn lle ffantastic i ymlacio tra’n gwylio adar yn bwydo ar ein gorsaf bwydo. Mor belled rydym wedi nodi o leiaf 9 aderyn wahanol yn ymweld, o’r titw tomos las i cnocell y coed. Wrth gwrs, gan bo ni yn y goedwig, mae digon o wiwerod yn dod i ymweld hefyd! 

Mi ddylai’r cuddfan bod ar agor i’r cyhoedd yn fuan, gobeithio erbyn diwedd y mis! Mae hi wir yn lle delfrydol i ymweld â thermos o de ac i ymlacio. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio ar paneli gwybodaeth i’r cuddfan, gobeithio bydd rhain yn barod erbyn y gwanwyn.

Os oes gennych unrhyw awgrymiadau am ddefnydd y cuddfan neu hyd yn oed awgrym am enw, plis rhowch wybod i mi trwy sylwadu. Cadwch lygad ar y blog ‘ma am wybodaeth ar ddigwyddiadau a weithgareddau nature sydd i’w ddod!

Mae’r prosiect wedi’u ariannu gan Biffaward trwy’r Cronfa Cymunedau Tirlenwi a Legal and General.

Hywel Couch

Uwch Swyddog Addysg, Cyfranogiad a Dehongli
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.