Cerddoriaeth Duduraidd yn Eglwys Teilo Sant
17 Tachwedd 2010
,Post clou i roi gwybod ichi fod ein hail-berfformiad (re-enactment yn ôl geiriadur Bruce!) o wasanaeth Cristnogol Tuduraidd ar-lein.
Arweinwyd y prosiect gan Ganolfan Ymchwil i Gerddoriaeth Gynnar yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Bangor, a Phrifysgol Exeter. Roedd yn gyfle i weld os allwn ni heddiw geisio dilyn ôl troed addolwyr yng Nghymru, dros 500 mlynedd yn ôl. Roedd gennym gymaint o ddiddordeb yn y cwestiynau a'r problemau a godwyd ag yr oedd gennym mewn profi theorïau ynglŷn â sut oedd Cristnogion yn addoli yng Ngymru yn oes y Tuduriaid. 'Dyn ni'n gobeithio y byddwch chi'n ei fwynhau:
Gallwch gael mwy o wybodaeth am y prosiect yma.