Ein hanes byw, amryliw
7 Chwefror 2011
,Mae tro ar fyd wedi bod ers i mi ysgrifennu atoch o Eglwys Teilo Sant y tro diwethaf. Mae pethe wedi bod yn mynd yn eu blaen yn dawel bach yno, ac mae ymwelwyr o dros y byd yn grwn yn parhau i ddod i ymweld â'r tlws lliwgar yng nghoedwig Sain Ffagan.
Amser, felly, i roi hysbys bach ichi am beth sydd gennym ni ar y gweill ar gyfer 2011! Mae rhaglen flwyddyn gron gennym sy'n ymchwilio hanes 1500-1700 mewn ffordd unigryw a hwylus. Bydd arddangosfeydd byw, gwethgareddau a pherfformiadau yn dod â chyfnod y Tuduriaid, Stiwartiaid a'r Rhyfel Cartref yn fyw fel erioed o'r blaen.
Mi gyfeiriaf chi, felly, i dudalen ddigwyddiadau'r amgueddfa, lle cewch ragor o wybodaeth am ein digwyddiadau. Bydd pob digwyddiad yn rhad ac am ddim, a bydd rhan helaeth ohonynt yn rhan o'n prosiect Creu Hanes.
'Dyn ni wedi bod yn brysur yn gweithio ar arddangosfa arbennig i gyd-fynd â'r thema Creu Hanes. Bydd adeiladau hanesyddol y safle'n troi'n gefndir lliwgar ac addas i hanes byw o'r cyfnod 1500-1700. Bydd rhai o berfformwyr ac ymchwilwyr gorau'r DU yn ymuno â ni i roi bywyd a phersonoliaeth i'r hen lawysgrifau hanesyddol.
Fe rannaf restr llawn o'r digwyddiadau â chi maes o law. Yn y cyfamser, dyma flas o beth fydd yn digwydd. Mae'r llun ar ben y dudalen yn dangos y Tudor Group, fydd yn byw yn nhŷ-hir Hendre'r Ywydd, ac yn dathlu'r Pasg o amgylch Eglwys Teilos Sant. Oddi tanynt, mae llun o fois Brwydr Towton a'u cyfaill, fydd yn cymryd rhan mewn gŵyl ddrewllyd, waedlyd ac afiach i blant o'r enw Anrhefn! Ar hyd y flwyddyn, bydd sioe ffasiwn Duduraidd, coginio Canoloesol, cosbau oes y Tuduriaid, a llawer mwy, i'w gweld ar y safle. Mi wnai gloi drwy ddweud bod rhywbeth arbennig iawn am ddigwydd yma yn Sain Ffagan dros yr haf - rhywbeth at ddant pob un sy'n licio brwydrau a chwffio trwy hanes! Cadwch lygad ar y blog a mi wnai roi gwybod ichi yn y dyfodol agos.