Hafan y Blog

Gweithgareddau am ddim: Hysbys Sain Ffagan!

Sara Huws, 11 Chwefror 2011

Mae cymaint yn digwydd yfory ar safle Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, fy mod am eu casglu at ei gilydd yma i chi! Mae mynediad i'r amgueddfa'n rhad ac am ddim, a dydyn ni ddim yn codi tâl am ein gweithgareddau: bydd raid i chi chwilota am newid i dalu am y parcio, fodd bynnag (£3.50). Yn well fyth, gallwch ddilyn y llwybr beic i Dyllgoed, ac yna dilyn y rheilffordd, neu ddal bws 320 yng ngorsaf Caerdydd Canolog, fydd yn dod â chi'n syth at y drws ffrynt.

Fel arfer, bydd crefftwyr yn gweithio ar y safle. Yfory, bydd y ddau 'Eraint (Geraint y Melinydd a Geraint y Clociswr) yn gweithio ar y safle, yn arddangos sgiliau traddodiadol. Gallwch brynnu bag o flawd y Felin Bompren i fynd adre gyda chi (dwi'n clywed ei fod yn neud torth cwrw-melyn flasus iawn). Mae'n Clocsiwr hefyd yn hapus i'ch mesur ar gyfer pâr o esgidiau traddodiadol - mae hydnoed yn eu cynnig mewn nifer o liwiau mwy modern, hefyd!

Cewch weld y tîm amaethyddol wrthi ar y safle, yn bwydo'r moch am 3.30 yn Ffermdy Llwyn yr Eos. Yn ogystal â hyn i gyd, mae gweithgareddau arbennig ar gyfer pob math o ddiddordebau gennym ni hefyd:

Dathlu Diwrnod Teilo (10-1, 2-3) yn Eglwys Teilo Sant. Fe fydda i yn storïo, yn defnyddio ein cerfiad arbennig o hanes bywyd Teilo. Gallwch weld y cerfiad o flaen llaw yma, os hoffech chi. Fe fydda i'n gwneud fy ngore i ateb eich cwestiynau am furluniau, yr adeilad, chwaraeon Tuduraidd, neu unrhywbeth arall sy'n eich diddori.

Short Stories, Poems and Songs(2-3) yn Oriel 1, gyda'r awdur Paul Burston. Rydym am nodi lawnsiad Mis Hanes Hoyw, Lesbaidd, Deurywiol (LBGT) a Thrawsrywiol am y tro cyntaf yma yn Amgueddfa Cymru I ddathlu, bydd perfformiadau, darlleniadau a sgwrsio i ymchwilio a dathlu bywyd pobl LBGT yng Nghymru heddiw, a'u hanes. Bydd Dresel y Gymuned hefyd yn arddangos gwrthrychau gan y grwp cymorth Gay Ammanford.

Felly, rhywbeth i blesio pawb, gobeithio. Diwrnod prysur arall ym mywyd Sain Ffagan - gobeithio y gwelwn ni chi yno!

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.