Lansiad Prosiect Archwilio Natur yn Sain Ffagan
23 Mawrth 2011
,Ar ddydd Sadwrn, Ebrill 2, byddwn yn lansio ein project Archwilio Natur yma yn Sain Ffagan. Mi fydd y lansiad am 11am yn Oriel 1, ac yn dilyn y lansiad byddwn yn cynnal nifer o weithgareddau natur trwy’r dydd.
Bydd cyfle i ymweld â’n cuddfan natur newydd, ble bydd aelod o staff ar gael i’ch helpu i adnabod y gwahanol adar sy’n ymweld â ni. Hefyd, bydd cyfle i ddarganfod sut i ddenu gwahanol adar i’ch gardd chi, er mwyn eu gwylio o’ch cartref.
Mi fydd gweithgareddau hefyd yn cael eu cynnal yn ardal y Tanerdy. Mae’r Tanerdy’n gartref i amrywiaeth fawr o anifeiliaid, o’r fadfall dd?r gribog i’r ystlum pedol lleiaf prin. Dewch draw i ddarganfod mwy am y creaduriaid diddorol hyn. Byddwn hefyd yn pori’r pyllau d?r a hela bwystfilod bach, dewch i ddarganfod mwy gyda ni!
Fel rhan o’r project Archwilio Natur rydyn ni wedi cynhyrchu dwy ffilm natur gafodd eu ffilmio yma yn yr amgueddfa. Mae’r ffilm gyntaf yn dangos yr holl amrywiaeth o fyd natur rydym yn lwcus i’w chael yma, ac mae’r ail ffilm yn canolbwyntio ar yr ystlum pedol lleiaf. Mwynhewch!