Digwyddiad Arbennig Yfory: Y Deddfau Uno
21 Gorffennaf 2011
,Hoffwn i eich gwahodd i ddigwyddiad arbennig yfory, sy'n cynnig mynediad arbennig a thrafodaeth fywiog am un o ddogfennau cyfreithiol pwysicaf Cymru: y Deddfau Uno.
Mae rhan helaeth o'r ddogfen wedi dod atom yma yn Sain Ffagan, i'w harddangos yn arddangosfa 'Creu Hanes 1500-1700'. Dyma'r tro cyntaf i'r ddogfen adael Llundain ers 1536, a bydd raid iddi ddychwelyd yn go fuan. Rydym ni am gynnal ein fersiwn ni o 'drafodaeth frys', cyn i'r ddogfen ddiflannu'n ôl i'r archifau seneddol yn Llundain!
Bydd ffigyrau o fywyd cyfredol Cymru yn cwrdd i arwain y daith/drafodaeth, gan gynnwys:
- Suzy Davies
- AC Ceidwadol De-Orllewin Cymru, Gweinidog Gwrthblaid dros Iaith a Diwylliant Cymru
- Mark Drakeford
- AC Llafur, Gorllewin Caerdydd ac Athro mewn Polisi Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd
- Dafydd Ellis Thomas
- AS Plaid Cymru, Dwyfor-Meirionydd, a Chadeirydd Comisiwn y Cynulliad
- Vaughan Hughes
- Broadcaster and Commentator
- Nia Powell
- Darlithydd mewn Hanes Cymru, Prifysgol Bangor
- Baroness Jenny Randerson
- Aelod o Dŷ'r Arglwyddi dros Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru
- Eirug Salisbury
- Bardd a Sylwebydd
- Rev John Walters
- Ficer Eglwys Teilo Sant, Pontarddulais
Y bwriad yw i ymchwilio rôl y deddfau yn Nghymru heddiw, yn ogystal â'r dadleuon sy'n codi yn eu sgil. Mae croeso i chi fynychu'r diwrnod, fydd yn ymwlybro trwy rai o leoliadau mwyaf adnabyddus Amgueddfa Cymru, gan gynnwys Eglwys Teilo Sant, yma yn Sain Ffagan.
Bydd cerddoriaeth o'r cyfnod, lluniaeth ysgafn, mynediad arbennig, cyfieithu ar y pryd, a chyfle i ymchwilio'r ddogfen ei hun yn rhan o'r profiad, ac i gyd yn rhad ac am ddim
Dewch i gwrdd â ni ym mhrif fynedfa Amgueddfa Cymru, Caerdydd, yfory am 1.50pm. Bydd y drafodaeth agoriadol yn Theatr Reardon Smith am 2pm.
Yna, bydd cyfle i weld y Deddfau yn Sain Ffagan, yn ogystal â gwrthrychau unigryw o'r cyfnod yn ein arddangosfa 'Creu Hanes 1500-1700'. Bydd trafodaeth yn cael ei harwain yn Eglwys Teilo Sant, fydd yn edrych ar gyd-destun Ewropeaidd bywyd yng Nghymru dan deyrn Harri VIII.
I archebu lle, galwch Heledd Fychan ar (029) 20 57 3268.
Bydd yn rhaid i unigolion ddarparu trafnidiaeth eu hunain rhwng Caerdydd a Sain Ffagan. Mae bysiau 32 a 322 yn dod â chi at ein stepen ddrws, ac yn gadael o Stand D2 yng nghanol y ddinas.