Mapio Hendre'r Ywydd
22 Rhagfyr 2011
,Gair bach clou i sôn am y map dwi wedi ei greu, i geisio mapio tirlun Llangynhafal a thu hwnt, yn y 1500au.
Fe welwch arno adeiladau sy'n debygol o fod wedi bod yn sefyll yn y cyfnod hwnnw. Anghyflawn yw'r map ond mi fydd yn esblygu, gobeithio. I'w greu, dwi wedi cyfuno data cyhoeddus Coflein, Ordnance Survey, Archif Sain Ffagan, google a Phrosiect Dendrocronoleg Gogledd Cymru*.
Dwi'n gobeithio ychwanegu mwy o wybodaeth am ddyddiadau'r adeiladau, lluniau ohonynt ac ati, fel mae'r gwaith yn mynd yn ei flaen. Gallwch ddefnyddio'r zoom i deithio ymhellach o filltir sgwar y tŷ:
View Llangynhafal 1510 in a larger map
* Dendrocronoleg=term ffansi am ddyddio boncyff.