Ymchwilio ein Coedwigoedd
26 Medi 2007
,Helo bawb! Dw’i wedi penderfynu dechrau blog i sôn am brosiect diweddara (ac yn fy marn i, prosiect gorau) Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru. Mae’r amgueddfa wedi apwyntio fi i fod yn ‘ddehonglydd coedwigoedd’ a dwi’n bwriadu dehongli’r goedwig i’r eithaf.
I ddechrau, ychydig amdana’ i. Fy enw i yw Gareth Bonello ac rwy’n 26 mlwydd oed. Dwi’n dod yn wreiddiol o Gaerdydd ond serch hynny datblygais ddiddordeb mawr mewn byd natur ac fe es i Brifysgol Bryste i astudio S?oleg. Ar ôl graddio yn 2002 roeddwn i’n gweithio i’r BTO (British Trust for Ornithology) yn cyfri niferoedd yr adar oedd yn bridio yng ngogledd-orllewin Lloegr. Dychwelais i Gaerdydd yn 2003 lle gweithiais fel dehonglydd hanes natur i Amgueddfa Cymru ym Mharc Cathays am dair blynedd a hanner.
Dechreuais y swydd newydd yn Sain Ffagan ym mis Mai 2007. Mae hefyd gennyf ddiddordeb mewn ffotograffiaeth a ffilm a dw’i ar fin cwpla MA mewn Ffilm o brifysgol Casnewydd. Os oes byth gennyf unrhyw amser sbâr dwi’n hoff iawn o chware’r gitâr, bwyta a chysgu!
Y Prosiect
Digon amdana’ i, beth am y prosiect? Wel, mae ganddi dair prif ran:
- Addysg
- Llwybr Natur
- Y We
Yn gyntaf, mae’r prosiect yn un addysgiadol sy’n anelu at ddysgu pobl am natur y goedwig, cynaladwyedd a llawer mwy. Yn ystod y tymor ysgol mi fyddaf yn rhedeg gweithgareddau ar gyfer ysgolion yn y goedwig yma yn Sain Ffagan. Mi fydd y gweithgareddau yn cynnwys sesiynau ar adnabod trychfilod, bioleg y coed, ymarfer corff a chelf. Yn ystod y gwyliau ysgol mi fyddaf yn rhedeg gweithgareddau am goedwigoedd ar gyfer teuluoedd.
Yn ail, maer’ prosiect mynd i osod llwybr natur newydd yn Sain Ffagan. Mi fydd y llwybr yn rhedeg trwy'r goedwig ffawydd tu ôl i’r Pentref Celtaidd, lle fydd mynedfa newydd yn ei lle. Ar hyd y llwybr fydd paneli gyda gwybodaeth am natur y goedwig ffawydd ac am y defnydd mae pobl wedi ’neud o goedwigoedd trwy gydol eu hanes. Dwi’n gobeithio defnyddio cerflunydd llif-gadwyn i wneud cerfluniau diddorol o amgylch y goedwig ac mae Ian Daniel, dehonglydd newydd y Pentref Celtaidd yn mynd i wneud cerfluniau o ffigyrau o chwedlau'r Celtiaid.
Yn olaf, mi fydd y prosiect yn mynd ar y we. Mae arbenigwyr camerâu natur Eco-Watch (sy’n gwneud BBC Springwatch) mynd i fy helpu i roi camerâu mewn bocsys nythu adar, ar fwrdd bwydo adar ac o dan y d?r erbyn y gwanwyn. Yn ogystal â hyn mi fyddaf yn ffilmio ac yn cymryd lluniau o amgylch y maes ac yn eu rhoi nhw i fyny ar y we fel y byddwch chi’n gallu dilyn digwyddiadau trwy gydol y flwyddyn.
Mae’r bywyd gwyllt yma’n ddiddorol iawn gyda Ystulmod yn y Sguboriau, Madfallod d?r yn y pyllau a channoedd o amrywion o bryfed ac adar – mae gen i lot o waith i wneud! Mi fydd y wefan hefyd yn cynnwys gemau addysgiadol ac adnoddau ar gyfer athrawon yn ogystal â linciau i’r blog yma ac i wefannau eraill am fywyd y coedwigoedd.
Dw’i mynd i sgwennu’r blog yma unwaith y mis, ond wna’i ychwanegu darnau diddorol wrth iddyn nhw ddigwydd. Yn y cyfamser ewch draw i’r gwefannau isod i ddarganfod mwy am goedwigoedd a’r anifeiliaid sy’n byw ynddynt:
BBC Autumnwatch
BBC Springwatch
The Woodland Trust
Nature Detectives
RSPB
Dyma casgliad o luniau dw'i wedi cymryd yn ddiweddar:
Mae Prosiect Ymchwilio Ein Coedwigoedd yn rhedeg gyda cymorth Legal & General ac Cyngor Caerdydd trwy Cardiff Council Communities Landfill Trust;
sylw - (3)
http://www.woodlands.co.uk/blog/
best of luck,
Angus