Hafan y Blog

Haul yr Hydref yn ildio i oerfel y Gaeaf

Gareth Bonello, 15 Tachwedd 2007

 

Mae’r hydref ar ei anterth ers rhai wythnosau bellach, ac mae’r tywydd mwyn wedi arwain at olygfeydd godidog yma yn Sain Ffagan. Roedd dyddiau’r Hydref yn heulog a chlir a bu’r gwyntoedd yn fwyn. Canlyniad hyn oedd lliwiau oren, coch, melyn a brown hynod wrth i’r dail droi eu lliw heb ddisgyn oddi ar y coed. Gan ei bod hi’n ganol Tachwedd bellach rydym wedi cael rhai diwrnodau gwyntog ac ambell ddiwrnod glawog ac mae’r canghennau’n troi’n noeth wrth i bentyrrau o ddail sych gasglu ar hyd y llwybrau a’r ffyrdd. Mae’r tymheredd wedi gostwng yn sylweddol hefyd dros yr wythnos ddiwethaf, gyda’r nosweithiau oer yn golygu bod barrug ar y dail yn aml erbyn y bore.

Prin fod unrhyw fwyd ar ôl ar lawer o’r coed a’r perthi a fwriodd eu ffrwyth yn gynharach yn y mis ar ôl i’r adar llwglyd wledda arnynt. Mae digonedd o hadau a chnau ar y coed ar hyn o bryd, yn enwedig y cnau’r ffawydd sy’n dechrau disgyn – gwledd go iawn i’r gwiwerod. Gwelais sawl Coch dan Adain dros yr wythnosau diwethaf sydd wedi hedfan i’r de o Wledydd Llychlyn i borthi ar aeron toreithiog y Ddraenen Wen a’r Ywen.

Cefais wythnos brysur iawn yn ystod gwyliau hanner tymor yr ysgol. Bues i’n cynnal gweithdai’n seiliedig ar gynlluniau BBC Autumnwatch ac Nature Detectives ac fe wnes i siarad â dros 1,100 o ymwelwyr fy hun! Cafwyd gweithgareddau fel llwybr adnabod dail a her adnabod yr hydref yn ogystal â lliwio ar gyfer y plant bach. Mae’n werth cael golwg ar wefan Autumnwatch gan fod llawer o adnoddau a gwybodaeth am ddim arni a fydd yn eich cadw’n brysur am flynyddoedd!

Mae’r gwaith ar lwybr y goedwig yn mynd rhagddo ac mae’r cynlluniau ar gyfer y paneli’n dod yn eu blaenau. Mae rhai o’r syniadau ar gyfer paneli gweithgarwch yn wych a byddant yn galluogi pobl i ryngweithio â’u hamgylchedd ac i edrych o’r newydd ar y coetir. Gyda chymorth gwirfoddolwyr o Legal & General dechreuwyd ar y gwaith o glirio’r a chreu llwybr yr wythnos ddiwethaf. Diolch yn fawr i griw Legal & General am eu gwaith caled gwych!

Mae Elin Roberts, dehonglydd y Tŷ Gwyrdd a minnau wedi dechrau prynu bwyd adar gan gwmni Wiggly Wrigglers a buon ni’n bwydo’r adar y tu allan i’r Tŷ Gwyrdd. Edrychwch ar rai o’r lluniau isod:

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.