Hafan y Blog

Ganol Gaeaf Noethlwm

Gareth Bonello, 18 Ionawr 2008

Bu’n wlyb a gwyntog iawn gydol y mis diwethaf, a phrin iawn fu’r cyfnodau heulog a welwyd yn ystod tywydd diflas canol gaeaf. Tipyn o gamp yw gwylio bywyd gwyllt yn y tywydd hwn, pan fo’r rhan fwyaf o’r adar yn swatio rhag llach y gwyntoedd cryfion! Fodd bynnag, wrth fynd am dro yn ystod yr ysbeidiau heulog, sylwais fod yr adar yn ymddangos yn llawer mwy dof ac yn llai parod i hedfan i ffwrdd. Mae’n debyg mai’r rheswm am hyn yw eu bod yn ceisio cadw eu hegni gan nad oes ganddyn nhw fawr ddim wrth gefn. Un ai hynny neu maen nhw wedi hen arfer ag ymwelwyr bellach. Gallwn dyngu bod yna Robin Goch yn fy nilyn i ddoe…

Mae’r gwaith ar y project natur yn mynd o nerth i nerth a bydd ar ei anterth yng nghyffro’r gwanwyn. Mae’r testun ar gyfer y paneli gwybodaeth i’w rhoi ar y llwybr yn barod ac mae’r cynllun ar fin cael ei gwblhau. Bydd y camerâu bywyd gwyllt yma cyn bo hir (gorau po gyntaf!) ac mae gwefan newydd wych ar y gweill hefyd. Rwy’n brysur hefyd yn paratoi taflenni gwaith i deuluoedd a chynlluniau ac adnoddau gwersi i athrawon, felly mae bywyd yn brysur!

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.