Hafan y Blog

Y gwanwyn ar ei ffordd

Gareth Bonello, 20 Chwefror 2008

Mae’n ganol Chwefror ac mae’r tywydd gwlyb a gwyntog a barodd drwy gydol Ionawr wedi cilio i wneud lle i awyr cliriach. Mae’r diwrnodau wedi bod yn heulog a llachar, ond yn eithaf oer ar yr un pryd, ac mae’r nosweithiau clir yn gadael haenau o iâ ar wyneb llynnoedd a phyllau dŵr hyd y bore.

Mae nifer o’r arwyddion cynnar bod y gwanwyn ar ei ffordd i’w gweld ers rhai wythnosau bellach. Mae’r eirlysiau wedi ymddangos ers diwedd Ionawr, ac mae cynffonnau ŵyn bach wedi bod yn chwythu yn yr awel ers dechrau’r mis. Hefyd mae briallu a llygaid Ebrill wedi bod yn tyfu o amgylch y safle ers canol Chwefror. Mae dail gwyrdd ffres yn tyfu o’r llwyni drain gwynion ac mae’r cennin Pedr yn blodeuo hefyd. Rwyf hefyd wedi gweld nifer o gacwn tingoch ers dechrau’r mis, yn ogystal ag un fuwch goch gota unig yn eistedd ar frigyn.

Mae’r ffaith bod llynnoedd bach yn llawn amffibiaid fel brogaod a madfallod y dŵr yn arwydd da fod y gwanwyn wedi cyrraedd, oherwydd ei fod yn golygu bod dŵr yn cynhesu. Ffeindiais ambell fadfall y dŵr ym mhwll y tanerdy'r wythnos ddiwethaf, ond mae’n dal i fod yn rhy oer iddyn nhw, gan fod y dŵr yn tueddi i rewi dros nos. Cadwch eich llygaid yn agored rhag i chi weld brogaod yn silio tua dechrau Mawrth pan fydd y tywydd ychydig yn gynhesach. Gwrandewch hefyd am gân y siff-siaff yn hwyrach ym Mawrth. Fel arfer, nhw yw’r cyntaf o’r rhywogaethau ymfudol i gyrraedd o Affrica.

Roedd hi’n wyliau hanner tymor yr ysgolion yr wythnos diwethaf, ac fe gynhaliais weithdai yn seiliedig ar adnabod arwyddion y gwanwyn. Cymerodd dros 1200 o ymwelwyr ran mewn cwis dail, gan fynd allan i chwilio am flodau ac adar y gwanwyn ar hyd llwybrau’r gwanwyn. Gallwch lawrlwytho ‘llwybrau’r gwanwyn’ a chofnodi'r hyn a welwch ar gwefan Nature Detectives. Hefyd gallwch ymweld â’n gwefan newydd Archwilio Ein Coedwigoedd a fydd yn cael ei sefydlu dros yr wythnosau nesaf.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.