Ionawr 30, 2007
30 Ionawr 2007
, Cofnod fach diwedd-y-dydd sydd gen i ar eich cyfer heddiw. Mae diwrnod Teilo Sant (ar Chwefror 9) yn prysur agosau a 'dwi'n ceisio trefnu oedfa ar gyfer cynulleidfa o Bontarddulais, sef safle gwreiddiol yr Eglwys. Mae'n fusnes cymhleth - yn enwedig â'r adeilad yn dal i edrych fel safle adeiladu ar hyn o bryd!
Fe gawsom ni newyddion da heddiw, fodd bynnag: mae ein cloch newydd wedi cyrraedd o Loughborough, a bydd dwy ffenestr yn ei lle erbyn diwedd yr wythnos (yr rheiny o Institiwt Wydr Abertawe). Siawns y medrai berswadio'r adeiladwyr i wneud dipyn o dwtio tra fyddwn nhw'n eu gosod! Bydd penwythnos y 9-11 o Chwefror yn gyfle i bobl ymweld â thu fewn yr Eglwys, a dysgu 'chydig am fywyd yng Nghymru yn yr oes Duduraidd: fe fyddwn ni'n barod amdanoch chi, 'dwi'n si?r. Rhaid trefnu gweithgareddau fel hyn fisoedd o flaen llaw, a 'dwi wedi gaddo cynnal gweithgareddau paentio yn ystod mis Ebrill. Fy ngwaith cartref i heno, felly, fydd dyfeisio ryseitiau paent naturiol. Dwi wedi bod yn arbrofi (yn aflwyddiannus) gydag wyau, lard, sbigoglys ac olew olewydd. Llawer yn rhy ddrewllyd. Bîtrwt, sbeisys a chlai amdani heno, felly...