Dyddiadur Kate: Recriwtio yn y Rhyfel Byd Cyntaf
19 Ionawr 2015
,Ar y 19eg o Ionawr 1915 mae @dyddiadurKate yn sôn am ddynion yn ymuno â'r lluoedd arfog: ‘Ymdaith y milwyr trwy Station. Eu noson yn y Bala ymunodd 25 yng Nghorwen a 5 ym Mhenllyn’.
Mae’r cofnod hwn yn cael ei wirio gan erthygl bapur newydd. Ar yr 22ain o Ionawr mae’r ‘Cambrian News and Welsh Farmers Gazette’ yn sôn am ymdaith gan deithlen recriwtio o’r Corfflu Byddin Cymru, trwy’r Sir Feirionnydd a Sir Gaernarfon. Roedd band pib a drwm a band y ‘Royal Oakley’ yn arwain yr ymdaith ym Mlaenau Ffestiniog ar Ddydd Llun 18 Ionawr, a'r llwybr ar Ddydd Mawrth yn cynnwys Corwen a Bala. Mae’r erthygl yn sôn am y gobaith y byddai’r y milwyr yn dod yn gyfeillion gyda’r dynion o’r oedran milwrol, i’w hannog i ymuno â’r ‘lliwiau’ (enw arall ar y Corfflu). Gallwch ddarllen yr erthygl ar wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru (yn Saesneg).
Ar ôl y dechrau'r Rhyfel yn Awst 1914 roedd ymgyrch fawr i recriwtio mwy o ddynion i’r lluoedd arfog i gynyddu'r rhengoedd. Yn ogystal ag ymdaith recriwtio, agorwyd swyddfa recriwtio ac aeth posteri recriwtio i fyny dros Brydain. Yng Ngymru, cynhyrchodd y llywodraeth bosteri Cymraeg hefyd, i apelio at ddynion oedd yn siarad Cymraeg.
I ymuno gyda’r lluoedd arfog roedd rhaid pasio prawf meddygol. Os oedd y dynion yn iach, roedden nhw’n cael ‘Llyfr Bach’ gyda gwybodaeth fel cerdyn meddygol. Erbyn Rhagfyr 1914 roedd 62,0000 o Gymry wedi ymuno â’r lluoedd arfog ac erbyn Ionawr 1915 roedd 1,000,000 ddynion o Brydain wedi ymuno â’r lluoedd arfog. Y flwyddyn wedyn, yn 1916, dechreuodd y broses o gonsgripsiwn ym mis Mawrth.