Hafan y Blog

@DyddiadurKate – Ffliw ffyrnig 1915

Elen Phillips, 20 Chwefror 2015

I nifer fawr o bobl, bydd gaeaf 2014-5 yn cael ei gofio fel gaeaf y lempsip max strength. Mae bron pawb dw i’n ’nabod wedi bod yn diodde’ eleni – anwyd trwm, cur pen a pheswch sy’n anodd i’w waredu. O ddarllen cofnodion diweddar @DyddiadurKate, mae’n ymddangos mai sefyllfa go debyg oedd yma yng Nghymru canrif yn ôl. Yn Chwefror 1915, roedd nifer o deulu a chymdogion Kate yn y Sarnau a Chefnddwysarn, gan gynnwys ei thad Ellis, yn ‘clwyfo o’r influenza.’ Dyma ddetholiad o’r cofnodion:

5 Chwefror - Diwrnod braf iawn. Myfi yn dod adref. Mr E. H. Evans yn darlithio yng nghyfarfod Cymdeithas Ddirwestol. Tywydd mawr iawn min nos. Ellis yn cwyno "influenza".

8 Chwefror - Tomi yn mynd a hwch dew ir Bala. Myfi yn mynd iw phwyso. Tomi yn dod a llwyth o galch adref. Myfi yn dechreu clwyfo or influenza. Ellis ychydig yn well. Codi i nol "orange" yn y nos.

9 Chwefror - Ellis heb fod gystal. Richard yma yn "bailiff". Minnau yn reid ddrwg. Wedi cysgu.

19 Chwefror - Halltu yn y boreu. Johnny Llawr Cwm yn galw yma. Richard yma yn helpu malu gwellt. Mammam yn dod yma ar ol tê. Jane Pantymarch a finnau yn mynd ir Byrgoed min nos. Mrs Williams Derwgoed yn cwyno yn bur arw (influenza).

Er gwaetha’ sgil effeithiau’r haint, mae’n amlwg nad oedd Kate a’i chyfoedion yn swatio yn eu gwaeledd. Mewn cymuned amaethyddol fel hon, roedd bywyd bob dydd yn mynd yn ei flaen fel arfer, ffliw neu beidio. Ond mae’n amlwg o ddarllen papurau newydd y cyfnod bod ffliw 1915 yn anarferol o ffyrnig. Dyma nodyn a gyhoeddwyd yn Y Cymro ar 17 Chwefror 1915:

Salwch –  Fu erioed y fath salwch a sy’n ymdoi Penllyn yn awr. Y mae yn ffeindio cryd ymhob ty. Influenza, dyna’r enw medda nhw.

Mae ffigyrau marwolaeth y cyfnod yn ategu tôn brawychol Y Cymro. Roedd y nifer a fu farw o’r ffliw ym Mhrydain yn 1915 bron ddwywaith gymaint â’r flwyddyn flaenorol:

1914 – 5,964

1915 – 10,484

1916 – 8,791

1917 – 7,289*

Wrth gwrs, roedd gwaeth i ddod gyda’r pandemig yn 1918-9. Bu farw 112,329 o bobl ym Mhrydain o’r ffliw yn 1918 a 40 miliwn yn rhyngwladol – mwy na’r cyfanswm cyfan a fu farw ar faes y gad yn ystod y Rhyfel Mawr.

Mae’r casgliadau yma yn Sain Ffagan yn cynnwys nifer o wrthrychau ac archifau sy’n gysylltiedig â meddyginiaeth ac ymadfer. Gallwch weld rhai ohonynt ar dudalen Trydar @SF_Ystafelloedd (Mared McAleavey – Prif Guradur Ystafelloedd Hanesyddol). Un o fy hoff ddarganfyddiadau diweddar yw’r llyfryn a welir 

a oedd yn eiddo i Phryswith Matthews – merch saer olwynion pentre Sain Ffagan. Mae’r llyfryn yn llawn ryseitiau, gan gynnwys prydau bwyd addas i gleifion. Bu Phryswith mewn darlith ar ‘invalid cookery’ ar 6 Ionawr 1914 – mae’i nodiadau o’r ddarlith honno yn y llyfryn. Yn ystod y Rhyfel Mawr, roedd hi’n gweithio fel nyrs VAD yn Ysbyty’r Groes Goch ar dir Castell Sain Ffagan. Gallwch weld rhagor o wrthrychau a lluniau sy’n gysylltiedig â stori'r ysbyty ar ein gwefan.

 *Ystadegau: The Lancet, rhifyn 2, Chwefror 2002, tt. 111-3.

 

 

 

Elen Phillips

Prif Guradur Hanes Cyfoes a Chymunedol
Gweld Proffil
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.