@DyddiadurKate - Corddi Menyn
13 Mawrth 2015
,Fel amryw ohonoch dwi’n siwr, dwi wrth fy modd yn darllen @DyddiadurKate ac wedi dotio sut gall brawddeg fer neu gwpl o eiriau ddadlennu cymaint am fywyd a diwylliant teulu a chymuned.
A finna’n gyfrifol am y casgliadau bywyd cartref, ei chyfeiriadau at y gwaith dyddiol o gadw ty a dyletswyddau’r fferm sy’n fy niddori fwyaf. Dwi’n mwynhau’r cyfle i drydar lluniau ar fy nghyfrif @SF_Ystafelloedd er mwyn rhoi cyd-destun gweledol i’w chofnodion syml, megis:
“golchi yn y boreu”
“berwi pen mochyn”
“pobi bara ceirch y boreu”
Ddoe bu Kate yn “corddi”, a gan fod gennym dâp cyfan yn ein harchif sain o atgofion Kate am gorddi a gwneud menyn ar fferm Tyhen, dyma sbardun i mi ymhelaethu a dyfynnu peth o’r cyfweliad.
Roedd y llaethdy, neu’r "dairy” chwedl Kate yn “oer, oer” gyda “meinciau cerrig fel ryw silffoedd cerrig.” Byddai’r llaeth yn cael ei hidlo i mewn i bot llaeth, gyda “slentsen” yn gaead iddo. Llechen gron oedd hon, wedi ei phrynu yn Chwarel Ffestiniog, i arbed “llwch a gwybed” rhag heintio’r cynnwys. Byddai’r llaeth yn sefyll yn y pot “am ryw dri d’wrnod … a’i droi o bob dydd ‘n te. Oedd hynny’n bwysig i chi ga’l y lliw yn y menyn yr un peth ‘n te.” Yn aml iawn byddai’n cymryd mwy o amser i dwchu’r llaeth yn y gaeaf a byddai’n rhaid “dod a fo ar y pentan wrth y tân i gadw’r gwres i fyny.”
Nid corddi â llaw fyddai’r teulu, “oedde ni’n Tyhen yn corddi efo ceffyl … y gwerthyd [sef y echel haearn o’r pwer ceffyl, y tu allan i’r adeilad] yn dod trw’r wal i’r sgubor ac wedyn o’dd o’n rhedeg ar bwlis wedyn i fewn i’r dairy.” Byddai un person yn gofalu nad oed y ceffyl yn symud yn rhy gyflym, a’r llall yn cadw llygaid ar y fuddai. “O raid ni stopio ryw ddwy waith ne dair yn dechre wedi roi ryw ddau dro ‘n te i ollwng y gwynt o’r fudde ne fyse’n byrstio … Fydde ne wydr bach i chi wel’ be’ fydde fo ar torri’n fenyn … Mynd reit ara deg wedyn am blwc ie ‘dyn fydden hel yn fenyn i gyd yn top ychi … Pan ddoi’r gwydyr yn glir, dene chi ‘di darfod ‘n te.”