Archwilio Gwely'r Môr ar y cei!
, 1 Rhagfyr 2007
Aeth swyddogion addysg Archwilio Gwely'r Môr (Lara Murphy) a phroject Mineral Wealth – Seabed Health y Gymdeithas Fywydeg Morol a'r Acwariwm Morol Cenedlaethol yn Plymouth (Lauren Taylor) i ymweld â Chei Burnley yn Southampton i gael cip ar long garthu a gweld agregau'n cael eu dadlwytho ar y cei. Roedd hi'n ddiddorol iawn cael mynd ar fwrdd y llong a gweld â'n llygaid ein hunain sut mae agregau morol yn cael eu cludo i'r tir.
Diolch o galon i Mark Russell o BMAPA, Rob Langdon o Hanson a phawb ar long garthu'r City of London am ymweliad diddorol dros ben.