@DyddiadurKate – y rhyfel yn nesau at y Sarnau
18 Mawrth 2015
,Wrth ddarllen cofnodion diweddar @DyddiadurKate, mae’n hawdd anghofio am gysgod y rhyfel ar fywydau trigolion y Sarnau. Heblaw am un nodyn byr am orymdaith y milwyr drwy Feirionnydd ac ambell gyfeiriad at gasglu arian er budd y Belgiaid, dyw Kate ddim yn ymhelaethu rhyw lawer am y rhyfel yn ei dyddiadur.
Mae’n rhaid cofio nad oedd effaith y rhyfel ar y ffrynt cartref mor amlwg yn ystod misoedd cynnar y brwydro. Wrth gwrs, dyma’r cyfnod cyn gorfodaeth filwrol a chyn i ddinistr y cyfandir ddylanwadu ar bob cymuned a theulu mewn rhyw fodd. Ar ddechrau 1915, nid oedd prinder llafur ar ffermydd Cymru, nac ychwaith gofid am gynhyrchiant bwyd – roedd bywyd bob dydd yn mynd yn ei flaen fel arfer.
Ond er hyn, erbyn diwedd Mawrth 1915 rydym yn gweld yn nyddiadur Kate ambell awgrym fod y rhyfel yn nesau at adref. Ar 18 Mawrth, mae’n nodi’r canlynol:
18 Mawrth – Myfi yn mynd ir seiat. Seiat ymadawol a R. Daniel Jones
Mae enw Robert Daniel Jones yn ymddangos droeon yn y dyddiadur rhwng Ionawr a Mawrth 1915. Roedd ymhlith cylch cymdeithasol Kate a’i theulu ac yn ymwelydd cyson â Tyhen. Hyd y gwela i, roedd yn byw yn y Derwgoed ac yn gweithio fel gwas ffarm efallai?
22 Chwefror – Berwi pen mochyn, a thoddi lard. Myfi yn mynd ir Hendre. Tomi a Richard yma min nos. Robert Daniel Jones yn ymadael or Caerau ir Derwgoed yn wael.
Yng nghefn ei dyddiadur, roedd Kate yn cadw cofnod o gyfeiriadau ffrindiau oddi cartref. Ymhlith yr enwau, mae tri cyfeiriad ar gyfer Robert Daniel Jones – pob un yn gysylltiedig â 7fed Bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig. Wrth bori dogfennau milwrol y Rhyfel Mawr ar-lein, mae’n dod yn amlwg pam fod seiat ymadawol iddo ar 18 Mawrth 1915 – pum niwrnod yn ddiweddarach ymrestrodd â’r fyddin. Gallwch weld ei gerdyn medalau
.
Ffurfiwyd 7fed Bataliwn y Ffiwsilwyr Cymreig yn y Drenewydd ym Medi 1914. Bataliwn Meirionnydd a Maldwyn oedd hon â grewyd i wasanaethu gartref, yn hytrach na thramor. Ar 22 Ebrill 1915, symudodd y bataliwn i Northampton – ffaith sy’n cael ei ategu yng nghefn dyddiadur Kate:
Pte R. Daniel Jones
3679 2/7th Batt RWF Co. D
c/o Mrs Callon
78 Adams Avenue
Northampton
Prin iawn yw’r sôn am Robert Daniel yn y dyddiadur wedi Mawrth 1915. O’r cerdyn medalau sydd i’w ganfod yn y National Archives yn Kew, rydym yn gwybod iddo oroesi’r rhyfel. Cafodd ei ryddhau o’r fyddin ar 22 Ebrill 1916 oherwydd gwaeledd. Mae natur ei salwch yn ddirgelwch, ond mae un cyfeiriad yng nghefn y dyddiadur yn ei leoli yn ysbyty filwrol Cherryhinton, ger Caergrawnt:
Pte R. D. Jones 3679
2/7 Battalion RWF D Coy
Transport Section
Cherryhinton Military Hospital
War 6. C.
Cambridge
Roedd Robert Daniel ymhlith y cyntaf o gyfoedion Kate i ymuno â’r fyddin. Cadwch lygad ar y blog dros y misoedd nesaf i glywed mwy am hanes y lleill.
Os oes rhagor o fanylion gennych am Robert Daniel Jones, neu unrhyw berson neu leoliad sy’n cael eu crybwyll yn y dyddiadur, ebostiwch neu gadewch neges isod. Diolch yn fawr!