Trwy'r Twll Clo yn y Prefab
, 28 Mai 2015
Ar gyfer fy dehongliad o’r digwyddiad "Trwy Dwll Bach y Clo" penderfynais i ddefnyddio gweithgaredd ymarferol rhyngweithiol. Ar ôl treulio llawer o amser yn ddiweddar yn dysgu i gynhyrchu rygiau rhacs i'w defnyddio yn yr adeiladau hanesyddol yma yn Sain Ffagan, meddyliais y byddai hyn yn gyfle gwych i gymysgu arddangosiad o'r dechneg gyda alluogi ein ymwelwyr i ddod i roi cynnig arni hefyd.
Gyda'r syniad o ailddefnyddio ac ailgylchu defnydd i greu rygiau newydd mewn golwg, penderfynais byddai’r Prefab (a adeiladwyd fel ymateb i brinder tai ar ôl yr Ail Ryfel Byd ac sydd wedi ei ddodrefnu fel yr oedd yn ystod y 1950au cynnar) yn gefndir delfrydol i arddangos ethos o "wneud y tro a thrwsio" a oedd wedi cario ymlaen am beth amser ar ôl y Rhyfel. Er mwyn delio â phrinder a ddigwyddodd yn ystod y Rhyfel, cyflwynodd y Weinyddiaeth Fwyd system o ddogni. Yn ogystal â dogni bwyd, yr oedd dillad, sebon, tanwydd a phapur yn cael eu heffeithio. Nid tan y 1950au cynnar ddaeth y rhan fwyaf o nwyddau 'oddi ar y dogni'. Yr oedd dillad wedi cael ei ddogni o 1941 i 1949. Nid oedd mewnforio dillad o’r Cyfandir yn opsiwn, ac yr oedd ffatrïoedd byddai fel arfer yn cynhyrchu dillad erbyn hyn yn cael galwadau milwrol i ddelio â. Yr oedd pob person yn derbyn llyfr dogni – cafodd eitemau eu brynnu gydag arian a thocynnau o'r llyfr. Wnaeth dogni dillad ddechrau symudiad o "wneud y tro a thrwsio", er mwyn gwneud y gorau o'r holl ddillad a defnydd oedd gan unigolion. Cafodd llyfryn i annog menywod i fod yn greadigol a dyfeisgar gyda eu dillad ei gynhyrchu, a dechreuodd cylchgronau a phapurau newydd cynnwys gymeriad o'r enw “Miss Sew a Sew” i hyrwyddo'r neges.
Sefydlais fy mwrdd tu allan i'r Prefab gyda'r holl gyfarpar yr oeddwn ei angen – sachau hesian, pegiau doli wedi eu ffeilio yn bwyntiau (a elwir yn “bodger”) a digon o ddarnau o defnydd. Fe wnaeth arddangosfa o bosteri cyfnod y Rhyfel a cherddoriaeth o'r adeg helpu i ddenu ymwelwyr, ac yn creu awyrgylch braf. Wnes i parhau i weithio ar fy ryg, gan ddefnyddio’r peg i wehyddu stribedi o ddefnydd trwy fylchau yn y sach, gan adeiladu lan patrwm. Wnes i paratoi ddarnau bach o sach er mwyn i ymwelwyr oedd yn galw heibio cael tro arnynt. Yr oeddwn yn falch i gyfarfod ag amrywiaeth eang o bobl trwy’r dydd - plant a oedd am gael cynnig ymarferol ar wneud rhywbeth, rhieni a oedd yn chwilio am weithgareddau sy'n seiliedig ar grefft y gallent ei wneud gyda'u plant yn y cartref, ac ymwelwyr sy'n cofio gwneud rygiau rhacs eu hunain, neu eu rhieni neu neiniau a theidiau. Roeddwn yn gallu cynnig awgrymiadau a chyngor i'r rhai a oedd am roi cynnig ar gwneud ryg adref. Yr oedd llawer ohonynt eisoes wedi cael yr eitemau sydd eu hangen i wneud ryg, ond yn ansicr sut i fynd o'i chwmpas hi. Yr oedd yr ymwelwyr hŷn yn gallu rhoi rhagor o wybodaeth i mi am y dechnegau yr oeddent wedi defnyddio pan oeddent yn creu rygiau, a hefyd trosglwyddo storïau a hanesion diddorol i mi. Yr oeddent yn wir fwynhau hel atgofion am y peth, ac yn siarad am y cyfnod yn gyffredinol. Roedd yn hyfryd clywed eu straeon drwy gydol fy amser yn y Prefab.
