: Amgueddfeydd, Arddangosfeydd a Digwyddiadau

Ysbrydoliaeth o Natur

Stephen Williams, 4 Awst 2020

Mae llawer o brosesau diwydiannol wedi'u hysbrydoli gan natur, a gellid eu hystyried yn estyniad mecanyddol o broses law draddodiadol a oedd yn defnyddio pethau o fyd natur. Mae'r Gigiwr yn enghraifft wych o hyn. Dyma ychydig am y peiriant hynod hwn sy'n gymysgedd o'r naturiol a'r dynol.

Gigwr

Yn draddodiadol, byddai pobl yn defnyddio teilai neu 'lysiau'r cribwr' i gribo arwyneb y brethyn gwlân gwlyb gyda phennau pigog llysiau’r cribwr er mwyn ei wneud yn feddal ac yn fflwffiog. Yr enw ar hyn yw ‘codi’r geden’.

Dyfeisiwyd y peiriant hwn i gyflymu’r broses a’i gwneud yn fwy effeithiol. Mae’r gigwr yn cynnwys 3000 o lysiau’r cribwr pigog mewn ffrâm haearn ac fe’i gyrrir gan drydan.

Roedd y brethyn yn symud dros lysiau’r cribwr, gan roi gorffeniad mwy gwastad a fflwffiog iddo.

Y Gigiwr a theilau yn Amgueddfa Wlân Cymru

Mae’r gigwr yn gymysgedd diddorol o’r naturiol a'r diwydiannol. Roedd yn cyfuno prosesau a wnaed â llaw yn y gorffennol â pheirianneg fanwl – sef dyfodol y diwydiant tecstilau.

Byddai ‘Dyn Llysiau’r Cribwr’ yn teithio o un felin i’r llall i adnewyddu llysiau’r cribwr yn y gigwyr. Roedd y gwaith hwn yn gofyn am grin dipyn o fedr gan fod rhaid trefnu pennau llysiau’r cribwr yn ofalus er mwyn sicrhau bod y brethyn yn cael ei orffen yn wastad. Roedd y rhan fwyaf o lysiau’r cribwr yn dod o erddi arbenigol yng Ngwlad yr Haf.

Datgloi ~ Unlock: Ailagor Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Gyda'ch Geiriau Chi

Angharad Wynne, 28 Gorffennaf 2020

Byddwn yn dathlu ailagor Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ar ôl mwy na phedwar mis mewn barddoniaeth, gyda dwy gerdd newydd am fywyd yn ystod y cyfnod clo. Yr wythnos hon, rydym yn lansio ymgyrch i'ch cael chi i gyfrannu geiriau ac ymadroddion ar gyfer yr hyn a fydd yn etifeddiaeth farddonol o’r amseroedd digynsail hyn i'r ddinas.

Edrychwn ymlaen at ddatgloi ei drysau a'ch croesawu chi yn ol i'r amgueddfa ar yr 28ain o Awst, er ar sail mynediad gyda thocyn (am ddim) wedi ei archebu oflaen llaw, er mwyn rheoli niferoedd a chynnal mesurau pellter cymdeithasol. 

Mae 2020 yn ben-blwydd yr Amgueddfa yn 15 oed. Agorodd y drysau yn gyntaf ym mis Hydref 2005, i eiriau cerdd gan Fardd Cenedlaethol Cymru ar y pryd, Gwyneth Lewis. Felly, ar gyfer datgloi'r drysau ym mis Awst, ein bwriad yw plethu geiriau, rhythmau a rhigymau unwaith eto, y tro hwn gyda'ch cymorth chi!

Bydd Datgloi ~ Unlock yn ddathliad barddonol o ddatgloi'r drysau ac ailagor Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe ar ôl cyfnod cloi Covid. Hoffwn glywed wrthoch am ddau beth, mewn 280 llythyren, sef hyd neges drydar:

  • Disgrifiwch eich profiad o'r cyfnod cloi (ATEB MEWN 280 nod neu lai)
  • Pam ydych chi'n edrych ymlaen at ailagor Amgueddfa Genedlaethol y Glannau? (ATEB MEWN 280 nod neu lai) 

Gallwch ymateb trwy ein Tudalen Facebook: www.facebook.com/waterfrontmuseum

neu trwy drydar @the_waterfront gan ddefnyddio # DatgloiUnlock

neu ddanfon ebost at DatgloiUnlock@museumwales.ac.uk

Trwy'r prosiect yma, ein gobaith yw casglu blas o brofiad y ddinas ac ardaloedd cyfagos o’r cyfnod cloi, a deall beth fydd ailagor yr amgueddfa yn ei olygu i'r gymuned. Yna bydd y beirdd a gomisiynwyd, Aneirin Karadog a Natalie Ann Holborow yn cymryd eich geiriau a'u crefftio'n ddwy gerdd, un yn Gymraeg, a'r llall yn Saesneg. 

Wrth siarad am y prosiect, dywedodd Pennaeth Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Steph Mastoris: “Dros yr wythnosau nesaf, byddwn yn ymgysylltu â'n cynulleidfaoedd a'n dilynwyr lleol trwy gyfryngau cymdeithasol ac yn gofyn iddynt rannu ymadrodd neu ddau am y cyfnod cloi a'r hyn y maent yn edrych ymlaen fwyaf at ei weld / ei wneud pan fydd ein hamgueddfa'n ailagor. Yna bydd ein beirdd yn defnyddio'r geiriau a'r ymadroddion hyn fel sail ac ysbrydoliaeth i'w cerddi, fel eu bod yn adlewyrchu profiadau ein cymuned yn ystod y cyfnod digynsail hwn, ac yn dathlu datgloi ein hamgueddfa, sydd dros y 15 mlynedd diwethaf wedi canfod ei lle wrth galon cymuned y ddinas. ” 

Mae gan y beirdd a gomisiynwyd ar gyfer y prosiect hwn gysylltiadau cryf ag ardal Abertawe.

Aneirin Karadog a fydd yn barddoni yn y Gymraeg ar gyfer Datgloi ~ Unlock

Bardd, darlledwr, perfformiwr ac ieithydd yw Aneirin Karadog. Cafodd ei fagu yn Llanrwst cyn symud i Bontardawe yn yr 1980au.

Graddiodd o Goleg Newydd, Prifysgol Rhydychen, gyda gradd mewn Ffrangeg a Sbaeneg. Llydawes yw ei fam a Cymro yw ei dad; mae'n gallu siarad Cymraeg, Saesneg, Llydaweg, Ffrangeg a Sbaeneg yn rhugl. Mae Aneirin yn wyneb cyfarwydd ar S4C, ac yn Brifardd. Mae'n cyfansoddi barddoniaeth ar ystod o fetrau o rap syncopatig i gynghanedd, ac mae ei waith wedi'i gyhoeddi'n eang.

Natalie Ann Holborow a fydd yn ysgrifennu'r gerdd Gymraeg ar gyfer Datgloi~Unlock

Mae Natalie Ann Holborow yn falch o fod o’r un dref enedigol a Dylan Thomas.

Mae’n awdur sydd wedi ennill sawl gwobr. Rhestrwyd ei chasgliad cyntaf, 'And Suddenly You Find Yourself' (Parthian, 2017) fel un o 'Oreuon 2017' Adolygiad Celfyddydau Cymru ac fe'i lansiwyd yng Ngŵyl Lenyddol Ryngwladol Kolkata. Mae hi wedi cyrraedd rownd derfynol gwobr Gair Llefaru Rhyngwladol Cursed Murphy a bydd ei hail gasgliad, 'Small', yn cael ei gyhoeddi gan Parthian yn 2020.

Rydym yn ddiolchgar i Lenyddiaeth Cymru am eu cymorth i sefydlu'r prosiect hwn. Dadorchuddir y cerddi yn agoriad Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, ar 28 Awst.

Ar hyn o bryd mae Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn casglu myfyrdodau ac atgofion am Covid 2020. Darganfyddwch fwy am ein prosiect Casglu Covid: Cymru 2020 yma: www.amgueddfa.cymru/casglu-covid/

1 - 4 Fron Haul

Mared McAleavey, 21 Gorffennaf 2020

Mae’n anodd gen i gredu fod 21 mlynedd wedi hedfan heibio ers agor Fron Haul yn Amgueddfa Lechi Cymru. Dyma oedd fy mhrosiect cyntaf yn yr Amgueddfa, ac fel un sy’n hanu o’r ardal, mae gen i atgofion melys iawn o’r cyfnod. Dyma ddarn nes i ysgrifennu ar y pryd er mwyn rhoi ychydig o gyd-destun i’r rhes.

Pam Fron Haul?

Yn wreiddiol wedi eu lleoli ar fin ffordd yn Nhanygrisiau, yng nghysgod y graig; dewiswyd y rhes gan eu bod yn nodweddiadol o’r tai teras a welir ar hyd a lled ardaloedd y chwareli. 

O ran ail-godi a dehongli’r tai hyn, penderfynwyd dilyn esiampl lwyddiannus a phoblogaidd rhes Rhyd-y-car. Ond yn hytrach na chyfyngu’r stori i Danygrisiau’n unig, mae’r tai yn darlunio gwahanol gyfnodau hanesyddol yn ogystal â’r amrywiol ardaloedd chwarelyddol.

‘Oes Aur’

Ceir y cofnod cyntaf o’r tai yng Nghyfrifiad 1861. Erbyn hyn roedd y diwydiant llechi ar ei ffordd i fod yn un o’r diwydiannau pwysicaf yng Nghymru a’r prif gyflogwr yng Ngwynedd. Wrth i’r galw am lechi gynyddu, symudodd llawer o ddynion o ardaloedd amaethyddol cyfagos i weithio yn y chwareli. Mewn amryw o achosion byddai’r chwarelwyr yn aros yr wythnos mewn barics gerllaw'r chwarel ac yn teithio nôl i’w cartrefi i fwrw’r Sul. Ond yn sgil adeiladu tai gerllaw'r chwareli, symudodd amryw o’r teuluoedd er mwyn ymuno â’r penteulu, gan ffurfio cymunedau newydd ac unigryw. Fel y gellir disgwyl, chwarelwyr oedd trigolion cyntaf Fron Haul, yn hanu o blwyfi tu hwnt i Ffestiniog.

Fodd bynnag, nid oedd digon o dai i gartrefu pawb, ac yn aml iawn cydrannai dau deulu’r un tŷ, neu cafwyd perthynas neu gyfaill yn lojio â’r teulu.  Tystia Cyfrifiad 1871 fod saith o bobl yn trigo yn un o dai Fron Haul. Yn ogystal â’r fam a’r tad, cafwyd merch 13 mlwydd oed, dau fab, chwech ac un mlwydd oed, morwyn 27 mlwydd oed a lojwr 29 mlwydd oed. O ystyried mai un ystafell wely oedd yn y tŷ yn wreiddiol, anodd yw amgyffred maint y gorboblogi. Yn ogystal â’r gorlenwi, roedd lleithder yn broblem, y dŵr yn amhur a’r system garthffosiaeth yn gyntefig.  Does ryfedd fod afiechydon megis typhoid a’r diciâu yn fwrn ar y gymdeithas.

Y ‘Streic Fawr’

Er i’r chwarelwr dderbyn cyflog eithaf da am flynyddoedd lawer, doedd dim i’w hamddiffyn rhag colli eu swyddi neu dderbyn cwtogiadau cyflog mewn cyfnod o ddirwasgiad. Cafwyd streiciau a chloi allan yn y chwareli o dro i dro, yr amlycaf wrth reswm oedd ‘Streic Fawr’ y Penrhyn. Dyma’r anghydfod mwyaf hynod a hir hoedl yn hanes diwydiannol Prydain - y ‘Streic Fawr’ fel y’i gelwir yn aml, ac a fu ymestyn o Dachwedd 1900 hyd Tachwedd 1903.

Tasg anodd fu adlewyrchu’r tlodi a’r caledi wrth ddodrefnu tŷ streic, yn arbennig gan fod llygaid yr ymwelydd yn cael ei dynnu’n syth ar y dresel derw â’i llestri gleision a’r jygiau lustre; y trugareddau uwch y silff ben tân a’r lluniau ar y pared. Bydd yr ymwelydd craff yn sylwi ar y cerdyn printiedig â'r geiriau 'Nid oes Bradwr yn y tŷ hwn' yn ffenestr y tŷ.  Gosodwyd y rhain yn ffenestri'r streicwyr gan rannu'r gymuned yn ddwy garfan. Mae cragen glan-y-môr ar y silff ffenestr - arferai gwragedd a phlant y streicwyr weiddi a hwtian ar y ‘Bradwyr’, drwy chwythu drwy gregyn glan-y-môr. Roedd y cregyn hyn i'w clywed trwy'r ardal pan ddôi'r amser i'r 'Bradwyr' ddychwel yn ôl o'r chwarel. Yn ystafell wely’r rhieni gwelir fod tad y tŷ’n hel ei baciau a cheisio ei lwc yn Y Tymbl, sir Gaerfyrddin. Amcangyfrif fod rhwng 1,400 a 1,600 o chwarelwyr Dyffryn Ogwen wedi ymfudo i lofeydd de Cymru yn ystod y Streic Fawr er mwyn cynnal eu teuluoedd.

Diwedd Cyfnod

Methodd y Streic yn ei hamcan, ac fe ddadfeiliodd y diwydiant yn fuan wedi hyn. Bu cau chwarel mor ddylanwadol â’r Penrhyn am dair blynedd lwgu’r farchnad o’u cyflenwad llechi, a bu’r masnachwyr droi eu golygon tuag at farchnadoedd tramor am eu deunydd toi. Dechreuodd y chwareli gau o un i un ar droad y ganrif, a daeth y broses i’w lawn dwf rhwng 1969 a 1971 pan orffennwyd gweithio chwareli Dinorwig, Dorothea ac Oakeley, tair o’r cewri cynt.

Mewn llai na chanrif felly, bu’r diwydiant llechi ddatblygu, llwyddo, yna edwino ac mae Fron Haul wedi cael eu dodrefnu i adlewyrchu’r newid hyn.

Anturiaethau mewn Argraffwaith

Steph Mastoris - Pennaeth Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, 25 Mehefin 2020

Ar gyfer wythnos grefftau Amgueddfa Cymru, rydym wedi bod yn gofyn i'n timau rannu eu hangerdd am grefft. Yma, mae Pennaeth Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Steph Mastoris yn rhannu ychydig am ei angerdd am Argraffwaith.

Drwy gydol fy mywyd gwaith (ac ychydig cyn hynny), rwyf wedi bod wrth fy modd gyda chrefft argraffwaith – y broses flêr o daenu inc dros deip metel a phren a gwasgu darn o bapur ar yr arwyneb i greu argraffiad prydferth, glân. Er ei fod yn swnio’n weddol syml, mae proses hir o brofi a methu cyn i chi allu creu argraffiad cyson o’r teip wedi’i osod yn daclus dro ar ôl tro i greu taflen neu lyfr. Nid yw hynny’n swnio’n arbennig o ymlaciol chwaith, ond fel y mwyafrif o grefftau, mae’n hynod ddiddorol ac yn ffordd wych o roi saib i’ch meddwl o’ch swydd arferol.

Y broblem fwyaf i unrhyw un sydd am roi cynnig ar argraffwaith yw bod angen cryn dipyn o gyfarpar hyd yn oed i ddechreuwyr. Cymerodd ryw ddeng mlynedd i fi i ddod o hyd i wasg argraffu fechan, a’r teip a’r manion i gyd i ddal y geiriau at ei gilydd er mwyn eu hargraffu. Ond criw cyfeillgar yw argraffwyr, sy’n hael eu cyngor a’u cymorth i bobl fel fi sydd heb eu trwytho yn y gelfyddyd inciog hon.

Gwaith Steph Mastoris yn sioe On the Brink 

Fel llawer o argraffwyr amatur, dechreuais drwy wneud fy nghardiau Nadolig fy hun, neu argraffwaith ar gyfer achlysuron arbennig megis priodas neu fedydd, gan ddefnyddio hen deip pren hyfryd sy’n hawdd ei osod ac yn creu gwead cyfoethog iawn, yn arbennig wrth argraffu ar bapur llaith wedi’i wneud â llaw. Dechreuais argraffu’r rhain ar ‘wasg nipio’ swyddfa, a ddyluniwyd yn wreiddiol i gopïo llythyrau wedi’u hysgrifennu â llaw cyn dyfeisio’r llungopïwr. Yna fe gefais wasg proflenni o weithdy carchar, ac wedyn, yn y 1990au cynnar, roeddwn yn ddigon ffodus i gael gwasg argraffu haearn bwrw Albion brydferth. Cafodd y wasg hon ei gwneud yn yr 1860au hwyr i ddyluniad gwreiddiol o tua 1820, ac mae’n dal i argraffu’n berffaith hyd heddiw.

Ychydig flynyddoedd ar ôl i mi symud i Abertawe yn 2004 i helpu sefydlu Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, roeddwn yn ddigon ffodus i ymuno â Stiwdios Elysium - cwmni cydweithredol deinamig dan arweiniad artistiaid yng nghanol y ddinas. Roedd y gofod ychwanegol hwn yn golygu y gallwn ddefnyddio teip metel go iawn yn fy ngwaith. Yn bwysicach oll, roedd cael lle i fynd ar wahân i fwrdd y gegin, oedd angen cael ei glirio ar gyfer prydau o fwyd, yn golygu gallwn gymryd fy amser i feddwl drwy fy ngwaith yn drylwyr a mynd tu hwnt i greu testunau hardd yn unig.

Enghraifft o driptych wedi eu hargraffu gan Steph Mastoris mewn arddangosfa

 


 
O ganlyniad i’r rhyddid newydd hwn a’r cyfle i siarad ag artistiaid eraill, rwyf wedi ennyn diddordeb mewn defnyddio argraffwaith i arbrofi â chywreindeb iaith, lle mae atalnodi, ffurf a gosodiad yn gallu newid neu greu amwysedd yn yr ystyr. Ar ei ffurf symlaf, gall estheteg a thonyddiaeth teip pren wedi’i argraffu â llaw gael ei addasu’n radical wrth ei wneud sawl cant gwaith yn fwy. Techneg fwy cynnil yw defnyddio triptychau teipograffeg bach i dynnu sylw’r darllenydd at natur tri dimensiwn iaith wrth i eiriau tebyg a’r gwahanol ddistawrwydd rhyngddyn nhw gael eu cyfosod mewn teip plaen, wedi’i argraffu â llaw.

 

 

Tai Fron Haul – Darlunio Hanes

Lleucu, 21 Mehefin 2020

Mae Lleucu Gwenllian yn artist llawrydd o Ffestiniog – cafodd ei chomisiynu i greu cyfres o ddarluniau i gofnodi penblwydd 21ain tai Fron Haul yn yr Amgueddfa Lechi. Dyma ychydig o eiriau ganddi’n disgrifio’r broses a’r profiad. Gallwch weld mwy o waith Lleucu ar ei chyfrif instagram @lleucu_illustration.

Ar ddechrau mis Gorffennaf mi ges i'r pleser o weithio efo criw yr Amgueddfa Lechi i greu darluniau o dai Fron Haul, i ddathlu 21 mlynedd wedi symud y tai o Danygrisiau, ger Blaenau Ffestiniog, i'r amgueddfa yn Llanberis.

Fy hoff ran o unrhyw brosiect darlunio ydi'r cyfle i ymchwilio a dysgu mwy am destun y darlun - roedd y prosiect yma yn benodol o agos at fy nghalon, gan mai o fro Ffestiniog y daeth y tai. Dwi 'chydig bach yn embarassed i gyfadda’ nad oeddwn i'n gwybod rhyw lawer am hanes tai Fron Haul cyn y prosiect yma, gan mai dim ond un oed oeddwn i pan y cafodd y tai eu symud. Doedd y twll gwag ger y safle bws yn Nhanygrisiau heb fy nharo fel dim mwy na rhan annatod o'r pentre.

Fel rhan o'r ymchwil mi fues i draw i'r safle gwpl o weithiau, a sefyll ar y bont sy'n croesi'r rheilffordd yn edrych i lawr ar lle oedd y tai, yn dychmygu sut fywyd oedd gan y bobl oedd yn arfer byw yno. Mae na rhywbeth od am weld cornel o'ch bro mewn golau hollol newydd.

Un o'r pethau wnaeth neidio allan ata'i oedd y creiriau bach yn y tai yn yr amgueddfa. Roedd 'na rywbeth amdanyn nhw yn dal fy nychymyg, a roeddwn i'n ffeindio fy hun yn dychmygu trigolion y tai yn dewis yr addurniadau, yn tynnu'r llwch oddi arnyn nhw, yn eu trefnu ac ail-drefnu, ac yn y blaen. Roeddwn i'n eu gweld nhw'n debyg i ambell i beth o dai fy neiniau a nheidiau i - roedd y ci bach serameg yn benodol yn fy atoffa o gŵn sydd gan Nain ar ei dresal, a'r hen gloc yn debyg ofnadwy i gloc fy hen daid.

Wrth drafod y prosiect mi ddywedodd Cadi fod rhai o'r creiriau yma - yn benodol y dolis Rwsiaidd a'r cwpannau ŵy 'Gaudy Welsh' - yn tueddu i ddiflannu bob tymor, gan fod ambell i ymwelydd yn cymryd ffansi atynt hefyd. Mae'n siwr fod pawb yn cael eu hudo gan y cipolwg mae nhw'n rhoi i ni o ffordd arall o fyw.

Roedd y gwaith ei hun yn dipyn o sialens - ddim yn unig gan fod y tai eu hunain yn reit wahanol i'r hyn dwi'n arfer ddarlunio, ond hefyd gan fy mod i'n teimlo dyled i fy mro i wneud y gwaith gore y gallwn i. Dwi'n ymwybodol fod gan Blaenau enw drwg weithiau (sy'n anheg, yn fy marn i) ond mae'r fro yn un dlws ofnadwy, a mi oeddwn i eisiau dangos hynny.

Diolch o galon i'r Amgueddfa Lechi am y cyfle yma, ac yn benodol i Lowri, Julie a Cadi.

Mae prosiectau wedi'u harwain gan bobl ifanc ar draws yr amgueddfa yn ran o gynllun Dwylo ar Dreftadaeth, a arianir gan Grant Tynnu'r Llwch Cronfa Treftadaeth y Loteri. Diolch yn fawr i'r Gronfa ac i holl chwaraewyr y Loteri Genedlaethol - dan ni'n croesi'n bysedd i chi!