: Amgueddfeydd, Arddangosfeydd a Digwyddiadau

Sgwrs Fyr am Fron Haul i Ddysgwyr

Lowri Ifor, 28 Ebrill 2020

'Dach chi'n dysgu Cymraeg? Dyma sgwrs fer yn cyflwyno hanes tai Fron Haul. Mae'r sgwrs yn addas i ddysgwyr lefel Uwch.

 

Gwaith Garddio Hanfodol yn Parhau yn Ystod y Cyfyngiadau Symud

Juliet Hodgkiss, 27 Ebrill 2020

Efallai fod pawb yn gaeth i’w cartrefi, ond mae natur yn ffynnu, a’r planhigion angen sylw. Wrth i erddi ar draws Cymru gael mwy o sylw nag erioed, mae gwaith tîm Uned Gerddi Hanesyddol Amgueddfa Cymru yn parhau, gystal â sy’n bosibl. Dyma Juliet Hodgkiss, sy’n gofalu am erddi hyfryd Sain Ffagan, i ddweud mwy:

I gadw pellter diogel yn ystod y pandemig, mae pob aelod o’r tîm yn gweithio un diwrnod yr wythnos i wneud gwaith garddio hanfodol. Gan mai dim ond un garddwr sydd yn y gwaith ar unrhyw adeg, gallwn ynysu’n llwyr, gan ddiogelu’r tîm a phawb arall. Un o’r swyddi pwysicaf yw plannu a gofalu am ein casgliad o datws treftadaeth. Rhoddwyd y tatws hyn i’r Amgueddfa dros ugain mlynedd yn ôl gan y Scottish Agricultural Science Agency. Fel gwrthrych byw, rhaid tyfu’r tatws hyn bob blwyddyn er mwyn cynhyrchu hadau ar gyfer y flwyddyn wedyn. Mae ein casgliad yn cynnwys y Lumper, y daten oedd yn tyfu yn Iwerddon adeg y newyn mawr. Mae’r Lumper yn tyfu yng ngerddi Nantwallter a Rhyd-y-car. Rydym hefyd yn tyfu Yam, Myatt’s Ashleaf, Skerry Blue a Fortyfold, pob un yn deillio o’r 18fed a’r 19eg ganrif.

Y gaeaf hwn buom yn plannu llawer o goed newydd yn y Gerddi, yn lle’r rhai a gollwyd, er budd ymwelwyr a bywyd gwyllt. Ychwanegwyd pedair merwydden newydd i’r Ardd Ferwydd; sawl rhywogaeth o ddraenen wen, criafol a phren melyn i’r terasau; tair cerddinen wen, coeden katsura, masarnen ‘snakebark’, a merysbren wen ger y pyllau; coed afalau surion ym Mherllan y Castell; ac amrywiaeth o rywogaethau brodorol ar gyfer coedlannu yn y dyfodol. Mae’r gwanwyn yn gynnes a sych eleni, felly mae angen dyfrio’r holl goed hyn i’w cadw’n fyw. Mae llawer ohonynt wedi’u plannu yn bell o dap dŵr, felly mae tipyn o waith cario caniau dyfrio.

Rydym hefyd yn cadw planhigion y tai gwydr a’r meithrinfeydd yn fyw. Mae llawer o’r planhigion hyn yn brin neu’n unigryw i Sain Ffagan. Maen nhw’n cynnwys dau o ddisgynyddion ein ffawydden rhedynddail ac eginblanhigion o binwydden a gollwyd mewn storm ychydig flynyddoedd yn ôl. Mae angen dyfrio’r rhain bob dydd adeg yma’r flwyddyn. Yn y gwanwyn byddwn yn ailbannu’r gwelyau a’r borderi, ac yn llenwi bylchau’r planhigion fu farw dros y gaeaf. Doedd dim amser i blannu’r holl blanhigion a archebwyd yn y misoedd cyn i ni gau, felly’r nod yw ceisio’n gorau i’w cadw’n fyw a phlannu cynifer â phosibl tra’r ydyn ni’n gweithio efo llai o staff.

Ffasâd y Vulcan

Dafydd Wiliam, 16 Ebrill 2020

Cofrestrwyd tafarn y Vulcan fel ‘ale house’ am y tro cyntaf ym 1853. Erbyn iddi gael ei datgymalu gan yr Amgueddfa yn 2012 gwelwyd sawl cyfnod o addasiadau. Roedd gwaith addasu 1901 ac 1914 mor sylweddol fel bod rhaid ceisio am ganiatâd cynllunio drwy Gyngor y Sir. Heddiw, mae’r cynlluniau yn Archifdy Morgannwg.

Mae’r cais cynllunio o 1914 yn cynnwys dau ddarlun (does dim darlun o’r ffasâd ar y cais o 1901) – labelwyd un darlun yn At present, a labelwyd y llall yn Proposed. Does dim esboniad ysgrifenedig wedi goroesi i gyd-fynd â’r darluniau. Serch hynny, wrth edrych yn fanwl mae modd bwrw mwy o olau ar y newidiadau arfaethedig. Y gwahaniaeth mwyaf amlwg yw’r cynnydd ar y llawr cyntaf o ddwy ffenest i bedair, a chodi pileri newydd o frics coch naill ochr. Gwaredwyd y parapet oedd o flaen y to – sydd i’w weld fel cyfres o linellau llorweddol uwchben y ffenestri, ac fe addaswyd y simneiau a gosodwyd to newydd o lechi. Bu un newid arall, sydd ddim yn amlwg yn y darlun, a hwn oedd y newid mwyaf yn hanes y Vulcan – cynyddwyd uchder yr adeilad yn sylweddol. Mae’r darlun gwreiddiol yn dangos y dafarn yn rhannu to gyda’i gymdogion, lle mae’r darlun arfaethedig yn dangos adeilad cryn dipyn yn dalach na’r cymdogion.

Doedd dim bwriad i newid strwythur y ffasâd llawr gwaelod – dau ddrws, a dwy ffenest wedi eu rhannu yn ddwy a ffenestri linter (fanlights) uwch eu pen. Ond, wrth edrych yn fanwl mae modd gweld bod nifer o wahaniaethau allweddol, a digon i awgrymu fod y ddau ffasâd yn rhai gwahanol. Yn y darlun gwreiddiol mae dau banel hirsgwar o dan bob ffenest, ond yn y darlun arfaethedig dim ond un sydd. Mae’r nifer o baneli drws yn wahanol hefyd. Yn y darlun gwreiddiol, naill ochr i’r ffenestri mae’r pileri yn rhai rhychiog ac yn gorffen cyn cyrraedd y ffris. Dyw’r pileri ddim yn rhychiog yn y darlun arfaethedig ac maent yn cario ymlaen mewn i’r ffris nes cyrraedd y cornis uwch ei ben. Mae’r darlun arfaethedig hefyd yn dangos tri ffenest linter uwch ben pob gwydr ffenest, lle mae saith yn y darlun gwreiddiol. Dyw’r terfyniad addurniadol ddim i’w weld yn y darlun arfaethedig chwaith. Dim ond yn y darlun arfaethedig mae’r gwahaniaeth mwyaf oll i’w weld, sef yr arysgrif newydd THE VULCAN HOTEL, WINES & SPIRITS ac ALES & STOUTS.  

Er nad yw’n glir yn y cynlluniau, rydym yn sicr fod y darlun gwreiddiol yn dangos ffasâd llawr gwaelod o bren – tebyg iawn i flaen siop Fictoraidd draddodiadol, a newidiwyd hwn yn 1914 am un tebyg o deils gwydrog a arhosodd yn eu lle nes tynnu’r adeilad yn 2012.  

Chwarelwyr – Quarrymen

Carwyn Rhys Jones, 14 Ebrill 2020

Fel cymaint o ddigwyddiadau yn ystod yr amseroedd anhygoel hyn, cwtogwyd ein harddangosfa Chwarelwyr  mis diwethaf pan gaeodd Amgueddfa'r Glannau ei drysau. Roeddem am ddod o hyd i ffordd i barhau i'w rannu gyda chi, felly dyma ychydig o gefndir i'r arddangosfa gan Carwyn Rhys Jones, a'i datblygodd. Ynddo mae'n siarad am yr ysbrydoliaeth a sut y cafodd ei siapio gan straeon ac atgofion pump o chwarelwyr. Rydyn ni wedi ychwanegu delweddau o'r arddangosfa ac yn gobeithio y byddwch chi'n mwynhau'r profiad.

Dechreuais y prosiect hwn fel datblygiad o waith yr oeddwn wedi ei wneud yn y brifysgol am dirwedd chwareli. Roedd y prosiect yn cynnwys rhai chwareli yng Ngogledd Cymru, gan gynnwys Mynydd Parys, Dorothea, Penrhyn, Alexandra ac Oakeley. Canolbwyntiodd hwn ar sut roedd y tir wedi newid oherwydd y diwydiant a sut y ffurfiodd tirwedd newydd o amgylch y chwareli. Y cam naturiol nesaf oedd edrych ar bobl y chwareli. Yn anffodus, ychydig o chwarelwyr sydd bellach, felly roedd yn amserol i gipio a chofnodi'r hanes a'r dreftadaeth bwysig hon.

Gyrrwyd y prosiect hwn gan syniadau’r chwarelwyr, felly roedd hi ond yn briodol i enwi’r arddangosfa yn ‘Chwarelwyr’. Mae'r arddangosfa wedi'i ffurfio o ddwy ran: rhaglen ddogfen fer a ffotograffiaeth i gyd-fynd â hi. Trefor oedd y chwarelwr cyntaf i mi gyfweld. Roedd yn adnabyddus yn lleol fel Robin Band oherwydd bod y rhan fwyaf o'i deulu mewn bandiau. Bu'n gweithio yn chwarel lechu Trefor am rai blynyddoedd, a rhannodd atgofion gwych am yr amseroedd da, drwg a doniol yno.

Y nesaf oedd Dic Llanberis, a oedd, fel yr awgryma ei enw, wedi ei leoli yn Llanberis. Roedd gan Dic brofiad blynyddoedd a chymaint o wybodaeth am hanes Chwarel y Dinorwig. Defnyddiais yr un broses ar gyfer pob un o'r pum Chwarelwr: eu cyfweld, yna ffilmio ac yn olaf, tynnu lluniau ohonynt. Gweithiodd Dic yn y chwarel hyd yn oed ar ôl iddo gau i lawr ym 1969, er mwyn helpu i glirio'r llechi oedd yn weddill.

Wedyn, tro Andrew JonJo a Carwyn oedd hi. Roedd y ddau wedi gweithio yn chwarel y Penrhyn ym Methesda ar gyrion Bangor. Fe wnes i gyfweld a’r ddau ohonynt yn yr Amgueddfa Lechi yn Llanberis lle maen nhw bellach yn gweithio. Andrew yw'r olaf o chwe chenhedlaeth o chwarelwyr yn ei deulu a oedd i gyd wedi gweithio mewn dwy chwarel: Dinorwic a Phenrhyn. Fel y gallech ddychmygu, siaradodd yn deimladwy am y ffordd y ganwyd i mewn i'r diwydiant. Daw Carwyn o deulu chwarela mawr hefyd, roedd rhai ohonynt wedi gweithio yn yr Ysbyty’r Chwarelwyr yn Llanberis. Gellir dod o hyd i nifer o lofnodion ei hynafiaid yn llyfrau'r Amgueddfa’r Ysbyty Chwarel, yn cofnodi gweithdrefnau llawfeddygol.

Yn olaf, cwrddais â John Pen Bryn, a leolir yn Nhalysarn, ychydig y tu allan i Gaernarfon. Roedd y chwarel hon mor fawr fel ei bod yn cynnwys pentref cyfan, a John wedi ei godi yno. Mae bellach yn berchen y chwarel ac wedi byw yn Nhalysarn ar hyd ei oes. Dangosodd fi o gwmpas y chwarel a lle'r oedd y pentref yn arfer bod – anodd dychmygu nawr ei fod unwaith yn lle prysur gyda thair siop, tu fewn iddi. Roedd John yn llawn straeon ac yn gwybod popeth oedd wedi digwydd yn ei chwarel dros y blynyddoedd.

Yn anffodus, mae Robin Band a Dic Llanberis ill dau wedi eu claddu ers cwblhau'r arddangosfa, ac felly mae'r ffilm sy'n cyd-fynd â hi yn gorffen gyda delweddau ohonynt. Roedden nhw, fel finnau yn falch tu hwnt ein bod wedi llwyddo i gipio rhai o'u straeon a dogfennu'r dreftadaeth a'r hanes pwysig hwn mewn pryd. Rwy'n ddiolchgar iawn i bawb a gymerodd ran yn y gwaith o greu’r arddangosfa. Gobeithio y byddwch yn ei fwynhau. 

Stori’r Llun… Katherine Voyle, Daearegydd Mwynglawdd

Ian Smith (Curadur Amgueddfa y Glannau), 9 Ebrill 2020

Tynnais y llun hwn ym mis Mehefin 2011, dan y ddaear ym mhwll glo Aberpergwm ger Resolfen. Yn y llun mae tri o lowyr oedd yn dangos y gweithfeydd i mi. Y fenyw yn y canol, Katherine Voyle, oedd daearegydd y pwll. Ei gwaith hi oedd astudio’r wythïen lo a phenderfynu pa gyfeiriad i ddatblygu’r pwll er mwyn gallu cloddio mwy.

Es draw i’r pwll glo i recordio cyfweliad fideo gyda Katherine am ei bywyd a sut y daeth i wneud y swydd hon. Rhan o fy ngwaith yw casglu hanesion pobl ‘go iawn’ er mwyn i genedlaethau’r dyfodol gael darlun cywir o fywyd yr oes hon. Gofynnais iddi a oedd yn deimlad rhyfedd bod yr unig fenyw ymysg 300 o ddynion. Dywedodd ei bod yn od i ddechrau ond ei bod wedi dod i arfer â’r peth yn ddigon buan. Roedd y dynion yn ei derbyn hi fel ‘un o’r bechgyn’ nawr, yn enwedig pan oedd hi’n gwisgo oferôls, ond roedden nhw’n cael sioc o’i gweld wedi newid yn ôl i’w ‘dillad swyddfa’!

Mwynglawdd drifft yw Aberpergwm – hynny yw, mae’n torri i ochr dyffryn yn hytrach nag i lawr mewn siafft ddofn. Mewn gwirionedd, roedd y pwll glo’n gostwng yn serth wrth i ni gerdded dros filltir i’r ffas lo. Yno, roedd peiriant enfawr yn brysur yn torri, a’r sŵn yn fyddarol. Ar ôl fy nhaith ac ar ôl cynnal cyfweliad fe gerddon ni fyny’n ôl i’r heulwen. Er nad oeddwn wedi gwneud unrhyw waith corfforol, roedd fy nghoesau’n brifo ar ôl cerdded i mewn ac allan!

Dywedodd Katherine, sydd o Abertawe, ei bod wedi gweithio ar lwyfannau olew ym Môr y Gogledd ac yn yr Iseldiroedd cyn dod i Aberpergwm. Yr amgylchedd a byd natur oedd ei phrif ddiléit, ac roedd yn gweithio ar greu llwybr natur ar y tir uwchben y pwll glo.

DOLENNI I WYBODAETH BELLACH

Erthygl gan Ceri Thompson, Curiadur (Glo) am Katherine Voyle ar gyfer cylchgrawn Glo:

https://museum.wales/media/24679/GLO-Magazine-2012-web.pdf