: Ymgysylltu â'r Gymuned

Lloches, ein hanes ni

Beth Thomas, Cyd-Ymchwilydd, 23 Mehefin 2020

Pan ddechreuodd Sain Ffagan gynllunio’r project hwn gyda staff y Brifysgol, doedd dim sôn am Covid-19. A dyma ni nawr ynghanol ‘Y Meudwyo Mawr’, yn gofidio am ein hiechyd, ein bywoliaeth a’n dyfodol. Mor rhwydd y gall bywyd droi wyneb i waered! Ac fe ŵyr ffoaduriaid hynny’n well na neb. Digon hawdd meddwl nad yw’r hyn sy’n digwydd mewn gwlad bell yn ddim i wneud â ni yng Nghymru. Gwers Covid-19 yw ein bod ni, yn ein milltir sgwâr, yn rhan annatod o fyd sy’n fwy. 

Credaf yn gryf iawn mai hanfod amgueddfa fel Sain Ffagan yw’r egwyddor fod hanes pawb yn bwysig. Mae pob un ohonom yn cyfrif, beth bynnag fo’n cefndir. Mae hawl gan bawb i lais, i fywyd rhydd a diogel, a chael parch gan eraill. Nid dweud stori’r bobl fawr yw pwrpas yr amgueddfa, ond cofnodi a deall cyfraniad pawb i’n hanes. Mae Cymru yn ystyried ei hun yn wlad groesawgar, barod ei chymwynas. Mae’r hunan-ddelwedd honno’n rhan o’n hunaniaeth fel cenedl. Ond pa mor wir yw hynny? Beth gallwn ni ddysgu am ein hunain a’n lle yn y byd trwy wrando ar dystiolaeth y ffoaduriaid sydd wedi ceisio am loches yn ein plith? Ac i ba raddau ydyn ni’n deall, mewn gwirionedd, cymhellion ac ofnau’r ffoaduriaid hynny? Sut mae esmwytho eu ffordd tuag at deimlo eu bod yn perthyn?

Mae’r bartneriaeth rhwng y Brifysgol a’r Amgueddfa yn ein galluogi i gyflawni sawl peth. Gwaith y Brifysgol yw gwneud yr ymchwil dadansoddol manwl fydd yn dylanwadu, gobeithio, ar benderfyniadau a pholisiau gwleidyddol. Cyfrifoldeb yr Amgueddfa yw diogelu tystiolaeth lafar y ffoaduriaid ar gyfer yr oesoedd a ddêl, ond hefyd creu cyfleoedd iddynt gyflwyno eu profiadau a’u gobeithion i eraill. ‘Lloches ein hanes ni’ yw Sain Ffagan, ond mae rhoi lloches hefyd yn rhan o’n hanes ni ac yn haeddu sylw.

Gwyliwch allan felly am ddigwyddiadau yn Sain Ffagan sy’n ymwneud â phrosiect Ffoaduriaid Cymru. Yn y byd ansicr sydd ohoni, anodd yw rhagweld pa fath o ddigwyddiadau fyddan nhw. Rhaid i ni gyd bellach fod yn barod i ddelio gydag ansicrwydd. Mae ffoaduriaid wedi bod trwy brofiadau na fydd y rhan fwyaf ohonom yn wynebu byth. Mae gennym lawer i’w ddysgu ganddynt.

Holiadur Casglu Covid – yr ymateb hyd yma

Elen Phillips, 22 Mehefin 2020

Mae mis wedi mynd heibio ers i ni lawnsio ein holiadur Casglu Covid digidol. Os gofiwch chi, nod yr ymgyrch hon yw casglu profiadau unigolion a chymunedau ar draws Cymru am fywyd yn ystod y pandemig presennol.  

Hyd yn hyn, rydym wedi derbyn dros 800 o gyfraniadau cynhwysfawr, gyda’r niferoedd yn cynyddu bob dydd. Mae’r holiadur yn rhoi cyfle i bobl fyfyrio ar eu profiadau diweddar, i fynegi eu teimladau a’u hemosiynau, yn ogystal â’u dyheadau a’u pryderon am y dyfodol. Mae’r ymatebion sydd wedi dod i law yn du hwnt o bwerus – straeon am golled a dioddefaint, pryder ac unigrwydd, ochr yn ochr â thystiolaeth am ddyfeisgarwch a charedigrwydd teulu a chymdogion. Dyma flas o rai o’r cyfraniadau hyd yma.

Mae nifer o fy ffrindiau lleol a minnau wedi teimlo'n euog am gael cystal amser yn y pandemig – heb golli anwyliaid eto, heb golli swyddi… Mi fydd felly yn ddyletswydd ar y rhai ohonom sydd wedi cadw neu atgyfnerthu ein iechyd meddwl i chwarae rhan gweithgar yn cefnogi y rhai llai ffodus pan awn yn ôl at rywbeth tebycach i'r hen arferion. Bydded hynny trwy helpu 1-1 neu trwy weithredu'n wleidyddol neu rhywbeth arall.

Sali, Gwynedd

Methu ymweld â fy mam yng nghyfraith 96 oed yn yr ysbyty a ninnau'n gwybod gymaint oedd ei hiraeth am ei theulu. Welon ni ddim mohoni am fis cyn ei marwolaeth. Gorfod mynd â dillad a sebon iddi yn yr ysbyty ond ddim yn cael mynd ymhellach na desg y dderbynfa a hithau ond ychydig lathenni i ffwrdd. Eistedd yn y ty dros benwythnos y Pasg yn aros i'r ysbyty ffonio i gyhoeddi ei marwolaeth ar ôl iddyn nhw ddweud bod y diwedd o fewn ychydig oriau, ac nad oedd modd i ni ei gweld.

Sylfia, Pontypridd

Mae'r emosiynau yn newid o ddiwrnod i ddiwrnod. Diolch byth bod gen i deulu i gael cwtsho. Meddwl am rai sydd methu cael cwtsh wrth eu teuluoedd.

Rhian, Abertawe

Dwi di siarad mwy yn y clo hwn nag erioed. Gynt rhyw 'Sut ma hi heddiw?' ac ymlaen oedd hi. Rwan da ni'n aros a chael sgwrs iawn a diddorol o un ochr y lon i'r llall… Mae arferion yn treiddio i'r meddwl. Heddiw mi geis fy hun yn dal dair metr o'r wraig, ac yna sylweddoli, 'be ti'n neud?' Mae pob am dro di bod yn igam ogam, ond y sgwrsio di bod yn fwy ar draws ffordd, o bafin i bafin.

Di-enw, Llanrug

Mae fy nheimladau'n dod fel tonnau. Gallai fod yn ddiolchgar, derbyn y sefyllfa a trio gweld positif yn y sefyllfa ar y mwyaf ond reit ddagreuol dros bethau bach adeg eraill.

Leri, Caerdydd

Yn bositif, y gwanwyn godidog na'th helpu cymaint. Y gwasanaeth hollol wych greodd siop y pentre i'r gymuned. Mynd ati i goginio cacennau a phlanu hadau, ac agor gwely llysie – fel pawb arall mae'n debyg! Pethau gwych fel COR-ONA ar Facebook a gweld y fath dalent greadigol yn dod at ei gilydd yng Nghymru i godi calon a diddanu.

Cathryn, Cilgerran

Diolch o galon i bawb sydd wedi cyfrannu eu profiadau hyd yn hyn. Drwy ymateb a chymryd rhan, rydych yn ein helpu i greu archif anhygoel fydd yn galluogi cenedlaethau’r dyfodol i ddeall sut brofiad oedd byw drwy COVID-19 yng Nghymru.

 

Why Stories Matter

Chris Weedon, Co-investigator, 17 Mehefin 2020

If you ask the right questions and listen carefully, there is no one who does not have an interesting story to tell. I grew up on stories of my mother’s younger years and the home front in World War Two. Family friends would come every weekend to Saturday tea or Sunday lunch and conversation would often revolve around memories of nursing during the war, bringing alive everyday life in ways history books seldom do. 

Decades later when I was involved in an oral history project on Cardiff Docklands in World War Two, I heard very different stories of life during the war from people who grew up and lived in Tiger Bay. These stories remain important in retelling the history of Wales and the UK in a more inclusive way. They illuminate the positive contributions made by minorities, despite day-to-day and institutional racism. Similar issues came to the fore again in the UK last year with the Windrush scandal and they are currently being raised by Covid19.

Life stories are an engaging and accessible way of getting to know more about the many people in Wales today who have settled here after escaping war and violence in their home countries. Telling one’s story can be both difficult and life affirming. Listening to refugee stories cuts through the empathy fatigue and indifference produced by 24-hour news. Individual stories tell us how it feels to become a refugee, to lose one’s home and the life one has known, to have to deal with a traumatic past and an uncertain future. They throw light on the many obstacles to creating a new life in an unfamiliar environment. They also reveal the positive contributions that refugees make to Wales today and how we can help smooth the process of settling in, both via social policy and in everyday life. Our partnership with the National Museum means that these stories will become a permanent part of the history of contemporary Wales. 

Knowing more about the lives of others is enriching and important in shaping the sort of society in which we wish to live. My hopes for this project are that it will attract community support and help improve current and future refugee experience. It aims to give participants a sense of agency and ownership and to prove a positive experience for all involved. 

https://refugee.wales

Ffrind newydd i Amgueddfa'r Glannau

Ian Smith - Uwch Guradur Diwydiant Modern a Chyfoes, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, 4 Mehefin 2020

Yn 2016 cefais alwad ffôn gan Nichola Thomas. Roedd ganddi fab, Rhys, a fyddai wrth ei fodd yn gwirfoddoli yn yr amgueddfa. Roedd yn ddwy ar bymtheg ac yn y coleg yn rhan-amser ac yn awtistig.

Fe benderfynon ni gwrdd â Rhys a Nichola i ddarganfod beth oedd ei ddiddordebau a sut y gallai helpu yn yr amgueddfa.

Roedd Rhys yn eithaf swil ar y dechrau ac ni ddywedodd lawer, ond cymerodd bopeth i mewn. Fe wnaethon ni gytuno ar gynllun fyddai’n gofyn iddo ddod am ddwy awr bob dydd Mercher o unarddeg o'r gloch tan un. Byddai Rhys yn fy helpu ar y bwrdd ‘trin gwrthrych’ a byddem yn annog ymwelwyr i ddal gwrthrychau o’r 1950au, 60au a’r 70au a siarad am eu hatgofion neu ddim ond dysgu am y gwrthrychau. Pethau fel ‘Green Shield Stamps’, cwponau sigaréts, hen eitemau trydanol a hen offer.

Nawr, nid oedd gan y mwyafrif o staff yr amgueddfa fawr o ddealltwriaeth o awtistiaeth, os o gwbl. Mae gan un ddynes, Suzanne, fab awtistig a gallai egluro pethau fel sut i gyfathrebu’n effeithiol â Rhys. Roeddem i gyd yn teimlo y dylem fod yn fwy gwybodus, felly cynigiwyd hyfforddiant ‘ymwybyddiaeth awtistiaeth’ i’r holl staff. Rwy'n credu bod pawb wedi cofrestru. Agorodd yr hyfforddiant ein llygaid i fyd awtistiaeth. Un pwynt enfawr a ddaeth allan o’r hyfforddiant oedd bod gan lawer o sefydliadau le ‘ymlacio’. Mae hyn ar gyfer unrhyw un sy'n teimlo'n bryderus neu dan straen neu sydd angen dianc o'r prysurdeb am dipyn. Fe wnaethon ni benderfynu bod angen rhywbeth fel hyn arnom yn yr amgueddfa.

Rhys Thomas, gwirfoddolwr Amgueddfa Genedlaethol y Glannau cerbyd trydan o gasgliad yr amgueddfa.

Erbyn hyn roedd Rhys wir wedi dechrau mwynhau ei amser yn y ‘gwaith’. Sylwodd pawb ar weddnewidiad go iawn wrth iddo ddod yn fwy allblyg a llai swil a dechrau sgyrsiau gyda dieithriaid llwyr yn rheolaidd. Gofynnom i Rhys ein helpu gyda dyluniad yr Ystafell Ymlacio. Roedd e’n wych - gan wneud argymhellion pwysig a hefyd bod yn llefarydd ar ein rhan am yr hyn yr oeddem yn ceisio'i gyflawni. Gwnaeth hyd yn oed nifer o ymddangosiadau ar sioe radio Wynne Evans. Daeth Rhys yn gymaint o ffefryn ar y sioe nes iddo wahodd Wynne i ddod i agor ein Hystafell Ymlacio yn swyddogol.

Erbyn hyn, mae Rhys yn mynychu coleg llawn amser, felly dim ond yn ystod y gwyliau y gall wirfoddoli yn yr amgueddfa. Rydyn ni bob amser wrth ein bodd yn ei weld ac mae wir yn ychwanegu rhywbeth arbennig at ein tîm. Mae ein Hystafell Ymlacio yn llwyddiant ysgubol ac yn cael ei defnyddio’n ddyddiol.

 

 

Grŵp Pontio Cenedlaethau Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

Sharon Ford, 3 Mehefin 2020

Ym mis Gorffennaf, cynhaliwyd y Grŵp Pontio’r Cenedlaethau cyntaf yn Big Pit. Nod y grŵp oedd dod â’r hen a’r ifanc ynghyd, chwalu’r rhwystrau rhwng cenedlaethau a chefnogi aelodau’r gymuned sy’n byw gyda dementia neu’n ei brofi.

Bob mis, mae thema wahanol ac mae pobl o bob oed yn dod at ei gilydd i rannu profiadau ac atgofion, weithiau i ddysgu rhywbeth newydd, ymweld â rhywle newydd neu am baned a chlonc.

Mae gennym nifer o wirfoddolwyr hen ac ifanc, gan gynnwys rhai sy’n byw gyda dementia.

Dyma Gavin a Kim. Mae Gavin yn berson iau sydd â dementia, ac yn ddiweddar mae wedi ymuno â ni fel gwirfoddolwr gweithredol ar gyfer y grŵp. Mae wedi arwain gweithgareddau celf hefyd.

O’r sesiynau cynnar, rydym wedi sylwi ar gynnydd sylweddol yn hyder pobl, a mae’r parodrwydd i rannu sgiliau, syniadau a gwybodaeth wedi tyfu o wythnos i wythnos. Mae cyfeillgarwch wedi datblygu ar draws y cenedlaethau, gyda phobl yn trefnu cymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol tu hwnt i sesiynau’r grŵp.

Os hoffech chi ymuno â’r grŵp fel gwirfoddolwr, neu os hoffech ragor o wybodaeth am y grŵp, cysylltwch â: gwirfoddoli@amgueddfacymru.ac.uk

Mewn partneriaeth â Chyngor Tref Blaenafon, gyda chymorth Hwb Ieuenctid Blaenafon a Western Power Distribution.

Dyma ddyfyniadau ac adborth gan aelodau a’u teuluoedd:

“[Mae Mam] wedi bod yn dweud wrtha i am y clwb, a dwi’n cael y teimlad ei bod wedi mwynhau ei phrynhawn yn fawr… roedd hi’n falch iawn o’i darluniau o’r pwll… mae hi wedi darlunio mwy yn y diwrnodau diwetha nag ers blynyddoedd! Mae hi wir yn hoffi cwrdd â phobl mae hi’n eu ’nabod am glonc”.

Adborth gan ferch i aelod Grŵp Pontio Cenedlaethau Blaenafon. Cafodd yr aelod strôc yn ddiweddar sydd wedi effeithio ar ei golwg felly mae hi wedi colli peth o’i hannibyniaeth.

“Dwi wastad yn mwynhau dod i’r grŵp. Rydych chi wastad yn gwneud i ni deimlo’n arbennig, ac mae cael bod gyda’r plant yn hyfryd. Maen nhw’n rhoi cip gwahanol i chi ar y byd. Gallwch chi deimlo’n unig yn y cartref, hyd yn oed pan mae llawer o bobl o’ch cwmpas. Alla i ddim diolch digon i chi gyd”.

Aelod rheolaidd o Grŵp Pontio Cenedlaethau Blaenafon, sy’n byw mewn cartref gofal.