: Gwirfoddoli

Fy mhrofiad: Gwirfoddoli Gofal Casgliadau ar draws yr Amgueddfa

Anna Watson - Gwirfoddolwr Gofal Casgliadau , 30 Medi 2025

Fy enw i yw Anna Watson ac rydw i wedi bod yn gwirfoddoli gydag Amgueddfa Cymru ers mis Tachwedd 2024. Rwy'n gwirfoddoli bob wythnos fel cynorthwy-ydd gofal casgliadau yn yr adran gadwraeth. Rydw i wedi mwynhau'r profiad yn aruthrol gan fod pob wythnos yn wahanol, felly rydw i bob amser yn dysgu rhywbeth newydd ac yn datblygu fy sgiliau. Dechreuais y rôl wirfoddoli hon ar ôl gorffen fy ngradd meistr mewn Gofal Casgliadau gyda Phrifysgol Caerdydd ac mae'r cyfle hwn wedi bod yn wych er mwyn rhoi'r sgiliau a gefais o'r cwrs hwnnw ar waith. Hyd yn hyn, rydw i wedi helpu gyda chynnal a chadw arddangosfeydd yn yr orielau celf a'r adran hanes natur; cynnal a chadw microhinsawdd yn yr adran archaeoleg; archwiliadau o'r casgliadau entomoleg ac wedi helpu i lanhau ac adleoli'r storfa hylif (fel y gwelwch yn y llun)! Mae'r cyfle i weithio mewn sawl adran a chwrdd â chymaint o wahanol guraduron, cadwraethwyr a thechnegwyr sydd i gyd yn arbenigwyr yn eu meysydd wedi bod yn amhrisiadwy. Bob wythnos rwy'n gyffrous i weld beth fyddwn ni'n ei wneud nesaf.

Archwilio Cynhanes: Fy Mhrofiad yn Gwirfoddoli gydag Offer Carreg yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Rebecca Mahon - Gwirfoddolwr Offer Cerrig Cynhanesyddol, 10 Medi 2025

Rhwng mis Hydref 2024 a mis Mai 2025, ro’n i’n ddigon ffodus i gael gwirfoddoli yng nghasgliadau archaeolegol Amgueddfa Cymru. Bob dydd Iau, roeddwn i a fy nghyd-wirfoddolwyr yn cael trin, adnabod a chatalogio casgliad enfawr o offer carreg cynhanesyddol a gasglwyd gan Henry Stopes ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. 

Yn ystod ein sesiynau wythnosol, roedden ni’n cael ein hannog gan ein goruchwyliwr, y Prif Guradur Elizabeth Walker, i geisio deall a darganfod sut roedd cymunedau ledled y byd yn arfer defnyddio’r offer yma. Gan ddechrau drwy ddod i adnabod yr offer, buon ni’n dysgu sut i gategoreiddio yn ôl sut byddai’r offeryn yn cael ei ddefnyddio yn seiliedig ar y marciau oedd arnyn nhw. 

Yna bydden ni’n rhifo ac yn categoreiddio'r offer gan ddefnyddio system Stopes fel y gellid eu mewnbynnu i'r gronfa ddata ar-lein.

Roedd ein gwaith fel gwirfoddolwyr yn golygu y gallai Amgueddfa Cymru gwblhau ei gwaith o gyfri’r eitemau sydd yn ei chasgliad gan Stopes, a ddaeth i law’r amgueddfa ym 1912, gan ganiatáu i'r casgliad cyfan fod ar gael i'r cyhoedd. Fel myfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd, roedd gwirfoddoli yn Amgueddfa Cymru yn caniatáu i fi ennill profiad sy'n berthnasol i fy ngradd a gweithio gydag arteffactau yn amrywio o bennau saethau fflint i emwaith wedi'i wneud o asgwrn! 

Rwy'n teimlo'n ffodus fy mod wedi cael cyfle i brofi sut mae’r sefydliad anhygoel yma’n gweithio a chwrdd â'r gweithwyr proffesiynol a'r gwirfoddolwyr ymroddedig sy'n gweithio ynddo. Mae bod yn wirfoddolwr wedi bod yn brofiad gwerthfawr iawn!

Dathlu Gwirfoddolwyr!

Ffion Davies, 5 Gorffennaf 2025

Mae Amgueddfa Cymru yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau cymdeithasol a dathlu i gydnabod a dathlu ein gwirfoddolwyr drwy gydol y flwyddyn. Bob haf rydym yn trefnu digwyddiadau dathliadau yng Nghaerdydd, Abertawe, Drefach Felindre, a Gogledd Cymru i ddathlu Wythnos y Gwirfoddolwyr. Mae Wythnos y Gwirfoddolwyr yn ddathliad yn y DU o bopeth sy'n ymwneud â gwirfoddolwyr ac mae'n digwydd bob blwyddyn rhwng 1-7 Mehefin.

Roedd dathliadau haf eleni yn unigryw!


Fe wnaethon ni gynnal ein parti stryd cyntaf erioed y tu allan i'n dau adeilad eiconig, Neuadd y Gweithwyr Oakdale a Thafarn y Vulcan, yn Sain Ffagan. Daeth dros 60 o wirfoddolwyr ledled Caerdydd i gael pizza fegan gyda sides a pheint dewisol yn y Vulcan. Cafodd Nia Williams, Cyfarwyddwr Profiad, Dysgu ac Ymgysylltu, y siawns i ddweud diolch i bob gwirfoddolwr yn unigol yn ystod y digwyddiad. Fe wnaethon ni hefyd gynnal ein cwis enwog, a oedd eleni'n ymddangos yn addas iawn yn y Vulcan. Enillodd Gwirfoddolwyr y Clwb Crefftau gwis eleni!

Yng Ngogledd Cymru, mae Amgueddfa Lechi Genedlaethol ar gau ar gyfer ailddatblygu, felly wnaeth gwirfoddolwyr ymweld ag Amgueddfa ar y Lôn, gweld chwarelwyr Castell Penrhyn yn perfformio eu harddangosiadau hollti llechi. Wnaeth y gwirfoddolwyr mwynhau'r siawns i gael cip o gwmpas ystafelloedd hanesyddol yng nghastell, yn dysgu am y linc rhwng y castell a’r diwydiant llechi.

Cafodd gwirfoddolwyr yn GRAFT, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, sesiwn gwneud mosaig gydag artist i greu gwaith celf gyda'r awgrym 'beth mae'r ardd GRAFT yn ei olygu i mi'. Dilynwyd hyn gan pizza a seremoni wobrwyo yn dathlu'r chwynwr gorau, y dewin dŵr, ac ati. Gorffennwyd y sesiwn gyda sesiwn drymio gan One Heart Drummers.

Yn lle ein cinio a'n gweithgaredd crefft arferol, cafodd gwirfoddolwyr yn Amgueddfa Wlân Genedlaethol ddiwrnod allan i ymweld â Depo Didoli Gwlân Prydain a'r amgueddfa leol. Fe ddywedon ni unigryw!

Dyma’n ffordd i ddweud Diolch i’n gwirfoddolwyr arbennig a wnaeth rodd dros 34,880 o oriau blwyddyn ddiwethaf!

“Volunteers are a highly valued part of our family here at Amgueddfa Cymru. Volunteers enrich and add value to the way we inspire learning and enjoyment for everyone through the national collection of Wales. They enable a much wider, and more diverse range of voices, experiences and perspectives to contribute to the delivery of that core purpose than we could ever achieve solely through the staff body.  I started my culture and heritage career with a volunteering placement many years ago. Volunteering changed my life, and it’s wonderful to see the wide range of ways in which volunteering changes lives in Amgueddfa Cymru.” Jane Richardson, Chief Executive, Amgueddfa Cymru.

Eisiau Cymryd Rhan? Cymryd Rhan / Amgueddfa Cymru
 

Lleisiau’r Amgueddfa: Siôn Davies-Rollinson – Cydlynydd Ymgysylltu a Gwirfoddoli

Siôn Davies-Rollinson, 18 Mehefin 2025

Mae person yn sefyll wrth adeilad â ffrâm bren a tho serth; mae cadeiriau a byrddau melyn wedi’u trefnu ar y patio y tu allan.

Siôn Davies-Rollinson, Cydlynydd Ymgysylltu a Gwirfoddoli

Helo Siôn, dywed ychydig am dy hun a dy rôl gydag Amgueddfa Cymru.

Siôn ydw i; fe ymunais ag Amgueddfa Cymru yn 2012 fel rhan o’r tîm Blaen Tŷ yn Sain Ffagan. Ers tair blynedd, dwi wedi bod yn Gydlynydd Gwirfoddoli ac Ymgysylltu yn Sain Ffagan. Yn y swydd yma dwi’n cefnogi gwirfoddolwyr a grwpiau cymunedol i weithio gyda’r Amgueddfa ar draws ystod eang o rolau. Un o’r pethau gorau am fy swydd yw dod i nabod ein gwirfoddolwyr amrywiol, a dod i ddeall pam eu bod wedi dewis gwirfoddoli gydag Amgueddfa Cymru.

Yn ddiweddar dwi hefyd wedi dod yn Gydlynydd Gwirfoddoli ac Ymgysylltu yn Big Pit, er mwyn helpu i ddatblygu rhaglen wirfoddoli yno, sy’n gyffrous iawn!

Faint o wirfoddolwyr sydd yna ar draws y safleoedd, a beth maen nhw’n ei wneud?

Gwirfoddolwyr mewn siacedi coch gyda 'Gwirfoddoli Volunteering' yn cerdded tuag at adeilad 'Gweithdy' ymhlith gwyrddni.

Mae dros 850 o wirfoddolwyr ar draws Amgueddfa Cymru. Mae 8 o wahanol swyddi gwirfoddoli ar gael yn Sain Ffagan yn unig! Er enghraifft, mae gwirfoddolwyr yr ardd yn helpu i gynnal gerddi hanesyddol y Castell, a gwirfoddolwyr y project llyfrau yn casglu ac yn gwerthu llyfrau ail law i godi arian i’r Amgueddfa. Mae gwirfoddolwyr archwilio yn gofalu am y trolis yn yr orielau, gan roi cyfle i ymwelwyr drin a thrafod rhai o’r casgliadau. Efallai eich bod wedi gweld grwpiau mawr o wirfoddolwyr o’r gymuned yn helpu i baentio ffensys, torri gwrychoedd a gwyngalchu tai. Mae myfyrwyr o Goleg Caerdydd a’r Fro wedi bod yn ein helpu ers tair blynedd bellach.⁠ ⁠Mae’n wych gweld hyder y myfyrwyr yn datblygu trwy wirfoddoli, a rhoi cynnig ar bethau newydd.

Dau wirfoddolwr mewn siacedi coch gyda 'Gwirfoddoli Volunteering' yn trefnu llyfrau ar silffoedd gwyn.

Prosiect Llyfrau dan arweiniad gwirfoddolwyr yn Sain Ffagan

Rydyn ni wedi gweld hen hetiau glowyr o Big Pit yn cael eu defnyddio fel basgedi crog yn Sain Ffagan – roedden nhw’n wych. Oes projectau tebyg ar y gweill?

Roedd hetiau’r glowyr yn broject difyr, a’r gwirfoddolwyr wedi mwynhau cymryd rhan. Rhoddodd y blodau dipyn o liw i’n Hwb Gwirfoddoli. Rydyn ni wastad yn chwilio am ffyrdd newydd i hybu cynaliadwyedd, ac ailgylchu deunyddiau.

Yn ddiweddar bu gwirfoddolwyr yn plannu dros 2,000 o fylbiau eirlysiau a chlychau’r gog yn Sain Ffagan. Pan ddaw’r gwanwyn bydd yna lwybr o flodau hyfryd yn ymestyn o Lys Llywelyn i Fryn Eryr. Bydd hyn yn cefnogi gwenyn a pheillwyr eraill, sy’n dibynnu ar flodau cynnar i gael paill a neithdar ar adeg o’r flwyddyn pan fydd blodau’n brin. Cam bach, ond un pwysig iawn i fioamrywiaeth yr ardal.

Beth yw eich hoff broject hyd yn hyn?

Mae pedwar person yn gweithio mewn parcdir gyda ffensys pren wedi'u gwehyddu ger cytiau â thoiau gwellt, wedi’u hamgylchynu gan wyrddni.

Gardd wedi'i hysbrydoli gan y Celtiaid y tu allan i Fryn Eryr, Sain Ffagan

⁠Fy hoff broject i hyd yma yw gardd y gwirfoddolwyr yn Bryn Eryr, Sain Ffagan. Daethom â grŵp o wirfoddolwyr at ei gilydd i greu a chynnal gardd Geltaidd fel rhan o dai crwn Bryn Eryr. Mae pedwar gwely i’r ardd, yn tyfu cymysgedd o bys, ffa a phannas, gwahanol berlysiau, ac un gwely ar gyfer planhigion sy’n rhoi lliw. Rydyn ni wedi plannu hadau llin yn ddiweddar, ac yn edrych ymlaen at weld beth ddaw ohonyn nhw.

Dwi’n hoffi bod y project yn cael ei arwain gan wirfoddolwyr ar y cyfan, ac yn rhoi cyfle iddyn nhw wneud penderfyniadau ar sut i ddatblygu’r ardd. Rydyn ni’n gobeithio clirio ardal fach yn yr ardd i blannu coed afalau surion y flwyddyn nesaf.

Dau berson yn gweithio mewn gardd laswelltog gyda cytiau toi gwellt ac arch bren, wedi’u hamgylchynu gan goed ac awyr llachar.

Gardd Bryn Eryr, Sain Ffagan

Sut all pobl wirfoddoli gydag Amgueddfa Cymru?

Mae llawer o ffyrdd i wirfoddoli gydag Amgueddfa Cymru. Y ffordd hawsaf i ddod o hyd i gyfleoedd gwirfoddoli yw ar ein gwefan. Rydyn ni’n hysbysebu ein holl rolau gwirfoddoli ar-lein; gweler fan hyn.

Gall pobl hefyd gofrestru ar ein rhestr e-bost i glywed am gyfleoedd newydd. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, gallwch gysylltu â’r tîm gwirfoddoli ar: gwirfoddoli@amgueddfacymru.ac.uk.

A’r un cwestiwn ydyn ni’n ofyn i bawb – beth yw eich hoff ddarn yn y casgliadau?

Llwybr cul gyda phalmant yn rhedeg heibio rhes o dai i’r dde, gyda gerddi’r tai ar ochr chwith y llwybr a choed i’w gweld yn y pellter.

Rhyd y Car, Sain Ffagan

Cwestiwn anodd! ⁠Dwi wedi treulio llawer o amser yn gweithio yn adeiladau hanesyddol Sain Ffagan, ac mae gan bob un ei stori a’i awyrgylch unigryw. Os oes rhaid dewis un – tai teras Rhyd-y-car. Dwi’n hoff iawn o’r ffaith fod y tai yn llinell amser sy’n dangos newidiadau’r blynyddoedd yn yr ystafelloedd a’r gerddi. Ac mae ymwelwyr wrth eu bodd yn teithio trwy amser wrth ymweld â’r tai. Mae teimlad y tai a’r gerddi yn newid gyda’r tymhorau hefyd, felly mae wastad rhywbeth newydd i sylwi arno.

Magu hyder, un mat rhacs ar y tro!

Chloe Ward, 13 Mehefin 2025

Ym mis Mehefin 2023 cychwynnodd Amgueddfa Lechi Cymru rôl wirfoddoli crefftau er mwyn creu 6 mat rhacs ar gyfer ein rhaglen addysg. Wnaethon ni recriwtio 6 o wirfoddolwyr, ac oedd Isabel de Silva yn rhan o’r grŵp. Dechreuodd wirfoddoli tra'r oedd hi'n gorffen ei gradd meistr ym Mhrifysgol Bangor, a’i rheswm dros wirfoddoli oedd er mwyn ennill profiad ar gyfer swydd neu yrfa. 

Gwirfoddolwyr yn creu matiau rhacs.

Yn o gystal a chreu matiau rhacs, bu rhaid i Isabel a’r gwirfoddolwyr ymgysylltu ag ymwelwyr yn Nhŷ’r Prif Beiriannydd er mwyn egluro sut oedd creu matiau rhacs a thrafod hanes y draddodiad. Pan ddechreuodd Isabel wirfoddoli, roedd hi’n eithaf swil ac yn ddihyder. I weithio ar hyn ymhellach, gwirfoddolodd Isabel i'n helpu ni adeg y Nadolig gyda gweithdai gwneud torchau rhacs hefyd – roedd yn amgylchedd prysur a bywiog! Tyfodd ei hyder wrth iddi siarad â mwy a mwy o ymwelwyr a delio â'r llu o gwestiynau am y matiau rhacs gan ymwelwyr brwdfrydig. 

Gwirfoddolwr yn creu addurniadau nadolig traddodiadol.

“Nath gwirfoddoli hefo'r Amgueddfa Llechi helpu fi i godi fy hyder, gwella fy sgiliau cyfathrebu a dysgu sgil ymarferol newydd.” - Isabel de Silva

Ar ôl iddi raddio a chwblhau ei gradd meistr ac ers magu hyder a datblygu sgiliau gwaith, mae Isabel bellach wedi cael swydd gyda Gwasanaeth Llyfrgelloedd Gwynedd a gyda Storiel, amgueddfa ac oriel Gwynedd. Mi orffennodd Isabel mat rhacs bendigedig ar ei phen ei hun erbyn Gorffennaf 2024… cymerodd blwyddyn o wirfoddoli unwaith yr wythnos! 

"Drwy fy ngwirfoddoli nes i ddysgu gymaint amdan hanes yr ardal leol, ac effaith y chwarel ar fywydau pobol Gogledd Cymru heddiw. Nath y wybodaeth hynny ysbrydoli fi i neud fy rhan mewn cadw a rhannu hanes Cymru, a dwi wedi cael y cyfle i neud hynny drwy fy swydd yn Storiel." - Isabel de Silva