Mae Trawsnewid yma! Oska von Ruhland, 10 Mawrth 2022 Mae’r arddangosfa rad ac am ddim i’w gweld yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe, rhwng 12 Mawrth a 17 Gorffennaf 2022.Mae Trawsnewid yn datgelu ac yn dathlu hanes queer Cymru a newid cymdeithasol. Daw'r gwrthrychau yn yr arddangosfa o gasgliad LHDTQ+ Amgueddfa Cymru yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, a'u cyflwyno gyda naratif newydd sbon ochr yn ochr â gweithiau celf queer Cymreig. Gall ymwelwyr gamu i'n gorffennol – gorffennol sy'n aml yn cael ei anghofio – a gweld sut mae'r frwydr dros newid cymdeithasol yn parhau hyd heddiw. Gyda gwrthrychau queer hanesyddol, o ddiwedd y 1700au hyd y pandemig presennol, mae amrywiaeth eang o gymunedau, hunaniaethau a mudiadau yn cael eu cynrychioli yn yr arddangosfa.Dewiswyd y gwrthrychau sy'n cael llwyfan yn yr arddangosfa gan gyfranogwyr project Trawsnewid. Pobl ifanc yw'r rhain sy'n cynnal ac yn mynychu gweithdai sy'n trafod hanes a diwylliant pobl LHDTQ+ Cymru, ac maen nhw wedi cydweithio i ddatblygu thema'r arddangosfa, sy'n canolbwyntio'n bennaf ar gelf a chreu queer. Dros sawl wythnos mae'r bobl ifanc wedi mynd drwy'r casgliad a dewis y darnau sy'n sefyll allan fel conglfeini pwysig hanes queer Cymru.Yn rhan o'r arddangosfa mae casgliad o weithiau newydd gan rai o'r gwirfoddolwyr. Mae pob gwaith wedi'i ysbrydoli gan agwedd ar hanes queer Cymru, boed yn eitem o'r casgliadau LHDTQ+ neu'n gymuned o'u cwmpas. Drwy gyfuno myrdd o gyfryngau artistig mae nhw'n taflu goleuni heddiw ar yr hanes anghofiedig hwn.Bydd cyfle hefyd yn yr arddangosfa i weld Cabaret Queer – cyfres o ffilmiau byr gan gyfranogwyr Trawsnewid yn trafod eu profiadau, eu cysylltiad â Chymru, a'u hunaniaeth queer. Mae'r Cabaret i gyd i'w weld ar YouTube, ond yn yr arddangosfa gallwch chi ei fwynhau wrth ymgolli yn yr hanes a'r diwylliant sydd wedi'i gasglu a'i guradu gan bawb ym mhroject Trawsnewid a'r casgliad LHDTQ+.
Dathliadau Pen-blwydd: 15 mlynedd gyntaf Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Stephanos Mastoris, 14 Hydref 2020 I ni’r staff yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, mae'n anodd credu bod 15 mlynedd wedi mynd heibio ers i ni groesawu ein hymwelwyr cyntaf ar 17 Hydref 2005. Er bod pobl ar eu ffordd i fod yn oedolion yn 15 mlwydd oed, rydym ni i gyd yn yr Amgueddfa yn teimlo'n ifanc, yn ffres a mentrus.Rwy'n credu fod yna sawl rheswm dros hyn. Yn gyntaf oll, mae gennym ni ymwelwyr o amrywiaeth eang o gefndiroedd, ac mae eu cymhelliant dros ymweld yn amrywiol iawn. O'r 250,000 o ymweliadau i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, mae cyfran dda o bobl yn dod o’r tu hwnt i dde-orllewin Cymru, ac yn ymweld â ni am y tro cyntaf. Maent wedi'u denu gan yr arddangosfeydd arloesol sy'n adrodd hanes dynol diwydiannu Cymru dros y dair ganrif ddiwethaf, gyda gwrthrychau allweddol o gasgliadau Amgueddfa Cymru a Dinas Abertawe wedi'u hesbonio drwy ddadansoddiad rhyngweithiol. Ac er ein bod yn rhan o deulu o amgueddfeydd cenedlaethol Cymru, mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn amgueddfa leol iawn hefyd, gyda mwyafrif ein hymwelwyr yn dychwelyd yn rheolaidd i weld yr arddangosfeydd dros dro niferus y byddwn yn eu creu a’u cynnal bob blwyddyn, neu i fynychu'r 300 o ddigwyddiadau a gweithgareddau am ddim sy'n rhan mor bwysig o'n rhaglen flynyddol.Yn ail, mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn warws enfawr o ddeunyddiau a chyfleoedd i ddysgu ac ysbrydoli. Fel ag y mae delweddau'n adrodd straeon, mae arteffactau hanesyddol yn bwyntiau ar hyd eich taith, yn hytrach na chyrchfannau sefydlog ar gyfer dealltwriaeth, teimladau a chreadigrwydd. Mae rhaglenni addysg yr Amgueddfa i bobl o bob oedran bob amser ag elfen amlddisgyblaethol gyda llawer o straeon dynol a hwyl. Rydym bob tro’n barod i roi cynnig ar unrhyw beth unwaith, cyn belled ei fod yn gyfreithiol ac yn ddiogel!Yn drydydd, mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn chwarae rôl bwysig ym mywyd diwylliannol ac economaidd ehangach Abertawe a'r cylch. Mae nifer o sefydliadau a chymunedau yn defnyddio'r Amgueddfa ar gyfer cyfarfodydd, fel lle i rannu eu gwaith â'r cyhoedd, neu fel lle i ddathlu. Gallwch hefyd logi'r Amgueddfa ar gyfer priodasau, cyfarfodydd preifat a chorfforaethol, ac adloniant. Mae’r lleoliad canolog, y bensaernïaeth brydferth ac arddangosfeydd difyr yn helpu i wneud y digwyddiadau hyn yn arbennig iawn.Yn bedwerydd, mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau wedi ymrwymo erioed i gynyddu pwrpas cymdeithasol ein treftadaeth. Rydym wedi gweithio'n gyson i ddefnyddio ein casgliadau a'n cyfleusterau i gryfhau hunaniaeth cymunedau, croesawu pobl newydd i Abertawe, a helpu pobl sydd dan anfantais i ddeall eu potensial drwy gaffael sgiliau a meithrin uchelgais a hunan-barch.Ac yn olaf, mae gan yr Amgueddfa dîm anhygoel o staff. Ein bwriad yw penodi 'pobl pobl’, sy'n mwynhau croesawu ein hymwelwyr, sy'n barod eu cymwynas ac yn wybodus, ac yn gallu gweithio'n arbennig o dda fel tîm deinamig. Yn ogystal â bod yn wych wrth eu gwaith 'swyddogol', mae gan lawer ohonynt sgiliau eraill hefyd, ac rydym wedi manteisio ar y sgiliau hyn yn ein digwyddiadau a'n rhaglenni addysg.Felly, beth sydd i ddod yn y dyfodol? Er gwaethaf yr anawsterau cyfredol yn ystod pandemig COVID-19, rydym yn siŵr y bydd y 15 mlynedd nesaf mor gyffrous a gwerthfawr â'r 15 mlynedd diwethaf. Bydd ail-ddatblygu canol y ddinas ac yn arbennig yr arena newydd gerllaw yn cynnig cyfleoedd gwych i ymgysylltu â gwahanol gynulleidfaoedd. Bydd y byd digidol ar-lein ymestynnol yn cynnig llawer o ffyrdd newydd i ddathlu diwydiant ac arloesi Cymru heddiw ac yfory i gynulleidfa byd-eang. Mae'n debyg y bydd profiadau'r 8 mis diwethaf yn gwneud i ni werthfawrogi'r profiad o bethau 'go iawn' mewn llefydd megis Amgueddfa Genedlaethol y Glannau sy'n lleoliad perffaith i bobl gyfarfod, ymgysylltu â'i gilydd, dysgu a mwynhau.
Stori SS Arandora Star yn eich dosbarth: Hydref 2020 Leisa Williams, 11 Medi 2020 Yma yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ein nod yw i groesawu a rhoi profiad byw, unigryw o Gymru, ei phobl a’r diwydiannau sydd wedi siapio ein gwlad a’n cymdeithas i ddisgyblion ysgol. Rydyn ni yn yr Amgueddfa wedi bod yn rhan o bartneriaeth arloesol am 15 mlynedd a mwy gyda Theatr na nÓg, Amgueddfa Abertawe a Technocamps. Mae’n bartneriaeth unigryw i Gymru, os nad Prydain. Mae’n cyfuno theatr byw gyda chasgliadau lleol a chenedlaethol ac arbenigedd Technocamps mewn cyfres o weithdai cyffrous.Eleni, fe ddaw Theatr na nÓg â stori bwysig yr Arandora Star, a suddodd 80 mlynedd yn ôl, yn fyw i ddisgyblion ar draws Cymru drwy ddrama radio gyffrous. Bydd y ddrama eleni yn canolbwyntio ar Lina, merch ifanc sy'n byw yn Abertawe sy'n wynebu dyfodol ansicr ar ôl i'r Eidal ymuno â'r Rhyfel yn 1940. Mae ei thad yn cael ei gymryd o'u caffi bach yn Abertawe ac yn cael ei gludo ar yr Arandora Star. Collodd 805 o bobl eu bywydau, gan gynnwys Cymry o dras Eidalaidd, oedd ar eu ffordd i wersylloedd yng Nghanada.Fe fydd hi’n flwyddyn go wahanol eleni yn sgil Covid-19 i ni ac i’r disgyblion. Fel arfer ar yr adeg yma o’r flwyddyn, fe fydden ni’n brysur yn gorffen paratoi gweithdai ‘hands-on’ cyffrous, yn barod i groesawu miloedd o blant ysgol drwy ddrysau'r Amgueddfa ond eleni mae pethau’n wahanol iawn i bob un ohonom. Gyda Covid-19 a'r cyfnod clo a ddilynodd daeth yn amlwg na fydden ni’n gallu dilyn yr un drefn - rhaid oedd bod yn fwy creadigol! Felly, gyda ein tîm bach, wnaethon ni fynd ati i greu gweithdy digidol, gyda ffilmiau byrion ac adnodd athrawon i gyd-fynd â’r ddrama radio ar The Arandora Star, gan ganolbwyntio ar stori technoleg ac arloesedd yn ystod yr Ail Ryfel Byd.Felly yng ngweithdai digidol yr Amgueddfa byddwn yn cyflwyno cymeriad Capten Edward Morgan o’r Llynges Frenhinol. Bydd yn tywys dysgwyr trwy manylion y suddo a chyflwyno dyfeisiau a thechnoleg y cyfnod. Mae yna becyn ar gyfer athrawon gyda cyfres o wersi ag awgrymiadau er mwyn gwneud gwaith estynedig sy’n cyd-fynd â Chwricwlwm i Gymru 2022.Fe fydd y cynnwys i gyd ar gael drwy app gwych Theatr Na nÓg.
Datgloi ~ Unlock: Ailagor Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Gyda'ch Geiriau Chi Angharad Wynne, 28 Gorffennaf 2020 Byddwn yn dathlu ailagor Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ar ôl mwy na phedwar mis mewn barddoniaeth, gyda dwy gerdd newydd am fywyd yn ystod y cyfnod clo. Yr wythnos hon, rydym yn lansio ymgyrch i'ch cael chi i gyfrannu geiriau ac ymadroddion ar gyfer yr hyn a fydd yn etifeddiaeth farddonol o’r amseroedd digynsail hyn i'r ddinas.Edrychwn ymlaen at ddatgloi ei drysau a'ch croesawu chi yn ol i'r amgueddfa ar yr 28ain o Awst, er ar sail mynediad gyda thocyn (am ddim) wedi ei archebu oflaen llaw, er mwyn rheoli niferoedd a chynnal mesurau pellter cymdeithasol. Mae 2020 yn ben-blwydd yr Amgueddfa yn 15 oed. Agorodd y drysau yn gyntaf ym mis Hydref 2005, i eiriau cerdd gan Fardd Cenedlaethol Cymru ar y pryd, Gwyneth Lewis. Felly, ar gyfer datgloi'r drysau ym mis Awst, ein bwriad yw plethu geiriau, rhythmau a rhigymau unwaith eto, y tro hwn gyda'ch cymorth chi!Bydd Datgloi ~ Unlock yn ddathliad barddonol o ddatgloi'r drysau ac ailagor Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe ar ôl cyfnod cloi Covid. Hoffwn glywed wrthoch am ddau beth, mewn 280 llythyren, sef hyd neges drydar: Disgrifiwch eich profiad o'r cyfnod cloi (ATEB MEWN 280 nod neu lai) Pam ydych chi'n edrych ymlaen at ailagor Amgueddfa Genedlaethol y Glannau? (ATEB MEWN 280 nod neu lai) Gallwch ymateb trwy ein Tudalen Facebook: www.facebook.com/waterfrontmuseumneu trwy drydar @the_waterfront gan ddefnyddio # DatgloiUnlockneu ddanfon ebost at DatgloiUnlock@museumwales.ac.ukTrwy'r prosiect yma, ein gobaith yw casglu blas o brofiad y ddinas ac ardaloedd cyfagos o’r cyfnod cloi, a deall beth fydd ailagor yr amgueddfa yn ei olygu i'r gymuned. Yna bydd y beirdd a gomisiynwyd, Aneirin Karadog a Natalie Ann Holborow yn cymryd eich geiriau a'u crefftio'n ddwy gerdd, un yn Gymraeg, a'r llall yn Saesneg. Wrth siarad am y prosiect, dywedodd Pennaeth Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Steph Mastoris: “Dros yr wythnosau nesaf, byddwn yn ymgysylltu â'n cynulleidfaoedd a'n dilynwyr lleol trwy gyfryngau cymdeithasol ac yn gofyn iddynt rannu ymadrodd neu ddau am y cyfnod cloi a'r hyn y maent yn edrych ymlaen fwyaf at ei weld / ei wneud pan fydd ein hamgueddfa'n ailagor. Yna bydd ein beirdd yn defnyddio'r geiriau a'r ymadroddion hyn fel sail ac ysbrydoliaeth i'w cerddi, fel eu bod yn adlewyrchu profiadau ein cymuned yn ystod y cyfnod digynsail hwn, ac yn dathlu datgloi ein hamgueddfa, sydd dros y 15 mlynedd diwethaf wedi canfod ei lle wrth galon cymuned y ddinas. ” Mae gan y beirdd a gomisiynwyd ar gyfer y prosiect hwn gysylltiadau cryf ag ardal Abertawe. Aneirin Karadog a fydd yn barddoni yn y Gymraeg ar gyfer Datgloi ~ Unlock Bardd, darlledwr, perfformiwr ac ieithydd yw Aneirin Karadog. Cafodd ei fagu yn Llanrwst cyn symud i Bontardawe yn yr 1980au.Graddiodd o Goleg Newydd, Prifysgol Rhydychen, gyda gradd mewn Ffrangeg a Sbaeneg. Llydawes yw ei fam a Cymro yw ei dad; mae'n gallu siarad Cymraeg, Saesneg, Llydaweg, Ffrangeg a Sbaeneg yn rhugl. Mae Aneirin yn wyneb cyfarwydd ar S4C, ac yn Brifardd. Mae'n cyfansoddi barddoniaeth ar ystod o fetrau o rap syncopatig i gynghanedd, ac mae ei waith wedi'i gyhoeddi'n eang. Natalie Ann Holborow a fydd yn ysgrifennu'r gerdd Gymraeg ar gyfer Datgloi~Unlock Mae Natalie Ann Holborow yn falch o fod o’r un dref enedigol a Dylan Thomas.Mae’n awdur sydd wedi ennill sawl gwobr. Rhestrwyd ei chasgliad cyntaf, 'And Suddenly You Find Yourself' (Parthian, 2017) fel un o 'Oreuon 2017' Adolygiad Celfyddydau Cymru ac fe'i lansiwyd yng Ngŵyl Lenyddol Ryngwladol Kolkata. Mae hi wedi cyrraedd rownd derfynol gwobr Gair Llefaru Rhyngwladol Cursed Murphy a bydd ei hail gasgliad, 'Small', yn cael ei gyhoeddi gan Parthian yn 2020.Rydym yn ddiolchgar i Lenyddiaeth Cymru am eu cymorth i sefydlu'r prosiect hwn. Dadorchuddir y cerddi yn agoriad Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, ar 28 Awst.Ar hyn o bryd mae Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn casglu myfyrdodau ac atgofion am Covid 2020. Darganfyddwch fwy am ein prosiect Casglu Covid: Cymru 2020 yma: www.amgueddfa.cymru/casglu-covid/
Anturiaethau mewn Argraffwaith Steph Mastoris - Pennaeth Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, 25 Mehefin 2020 Ar gyfer wythnos grefftau Amgueddfa Cymru, rydym wedi bod yn gofyn i'n timau rannu eu hangerdd am grefft. Yma, mae Pennaeth Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Steph Mastoris yn rhannu ychydig am ei angerdd am Argraffwaith.Drwy gydol fy mywyd gwaith (ac ychydig cyn hynny), rwyf wedi bod wrth fy modd gyda chrefft argraffwaith – y broses flêr o daenu inc dros deip metel a phren a gwasgu darn o bapur ar yr arwyneb i greu argraffiad prydferth, glân. Er ei fod yn swnio’n weddol syml, mae proses hir o brofi a methu cyn i chi allu creu argraffiad cyson o’r teip wedi’i osod yn daclus dro ar ôl tro i greu taflen neu lyfr. Nid yw hynny’n swnio’n arbennig o ymlaciol chwaith, ond fel y mwyafrif o grefftau, mae’n hynod ddiddorol ac yn ffordd wych o roi saib i’ch meddwl o’ch swydd arferol.Y broblem fwyaf i unrhyw un sydd am roi cynnig ar argraffwaith yw bod angen cryn dipyn o gyfarpar hyd yn oed i ddechreuwyr. Cymerodd ryw ddeng mlynedd i fi i ddod o hyd i wasg argraffu fechan, a’r teip a’r manion i gyd i ddal y geiriau at ei gilydd er mwyn eu hargraffu. Ond criw cyfeillgar yw argraffwyr, sy’n hael eu cyngor a’u cymorth i bobl fel fi sydd heb eu trwytho yn y gelfyddyd inciog hon. Gwaith Steph Mastoris yn sioe On the Brink Fel llawer o argraffwyr amatur, dechreuais drwy wneud fy nghardiau Nadolig fy hun, neu argraffwaith ar gyfer achlysuron arbennig megis priodas neu fedydd, gan ddefnyddio hen deip pren hyfryd sy’n hawdd ei osod ac yn creu gwead cyfoethog iawn, yn arbennig wrth argraffu ar bapur llaith wedi’i wneud â llaw. Dechreuais argraffu’r rhain ar ‘wasg nipio’ swyddfa, a ddyluniwyd yn wreiddiol i gopïo llythyrau wedi’u hysgrifennu â llaw cyn dyfeisio’r llungopïwr. Yna fe gefais wasg proflenni o weithdy carchar, ac wedyn, yn y 1990au cynnar, roeddwn yn ddigon ffodus i gael gwasg argraffu haearn bwrw Albion brydferth. Cafodd y wasg hon ei gwneud yn yr 1860au hwyr i ddyluniad gwreiddiol o tua 1820, ac mae’n dal i argraffu’n berffaith hyd heddiw.Ychydig flynyddoedd ar ôl i mi symud i Abertawe yn 2004 i helpu sefydlu Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, roeddwn yn ddigon ffodus i ymuno â Stiwdios Elysium - cwmni cydweithredol deinamig dan arweiniad artistiaid yng nghanol y ddinas. Roedd y gofod ychwanegol hwn yn golygu y gallwn ddefnyddio teip metel go iawn yn fy ngwaith. Yn bwysicach oll, roedd cael lle i fynd ar wahân i fwrdd y gegin, oedd angen cael ei glirio ar gyfer prydau o fwyd, yn golygu gallwn gymryd fy amser i feddwl drwy fy ngwaith yn drylwyr a mynd tu hwnt i greu testunau hardd yn unig. Enghraifft o driptych wedi eu hargraffu gan Steph Mastoris mewn arddangosfa O ganlyniad i’r rhyddid newydd hwn a’r cyfle i siarad ag artistiaid eraill, rwyf wedi ennyn diddordeb mewn defnyddio argraffwaith i arbrofi â chywreindeb iaith, lle mae atalnodi, ffurf a gosodiad yn gallu newid neu greu amwysedd yn yr ystyr. Ar ei ffurf symlaf, gall estheteg a thonyddiaeth teip pren wedi’i argraffu â llaw gael ei addasu’n radical wrth ei wneud sawl cant gwaith yn fwy. Techneg fwy cynnil yw defnyddio triptychau teipograffeg bach i dynnu sylw’r darllenydd at natur tri dimensiwn iaith wrth i eiriau tebyg a’r gwahanol ddistawrwydd rhyngddyn nhw gael eu cyfosod mewn teip plaen, wedi’i argraffu â llaw.