Chwarelwyr – Quarrymen Carwyn Rhys Jones, 14 Ebrill 2020 Fel cymaint o ddigwyddiadau yn ystod yr amseroedd anhygoel hyn, cwtogwyd ein harddangosfa Chwarelwyr mis diwethaf pan gaeodd Amgueddfa'r Glannau ei drysau. Roeddem am ddod o hyd i ffordd i barhau i'w rannu gyda chi, felly dyma ychydig o gefndir i'r arddangosfa gan Carwyn Rhys Jones, a'i datblygodd. Ynddo mae'n siarad am yr ysbrydoliaeth a sut y cafodd ei siapio gan straeon ac atgofion pump o chwarelwyr. Rydyn ni wedi ychwanegu delweddau o'r arddangosfa ac yn gobeithio y byddwch chi'n mwynhau'r profiad.Dechreuais y prosiect hwn fel datblygiad o waith yr oeddwn wedi ei wneud yn y brifysgol am dirwedd chwareli. Roedd y prosiect yn cynnwys rhai chwareli yng Ngogledd Cymru, gan gynnwys Mynydd Parys, Dorothea, Penrhyn, Alexandra ac Oakeley. Canolbwyntiodd hwn ar sut roedd y tir wedi newid oherwydd y diwydiant a sut y ffurfiodd tirwedd newydd o amgylch y chwareli. Y cam naturiol nesaf oedd edrych ar bobl y chwareli. Yn anffodus, ychydig o chwarelwyr sydd bellach, felly roedd yn amserol i gipio a chofnodi'r hanes a'r dreftadaeth bwysig hon.Gyrrwyd y prosiect hwn gan syniadau’r chwarelwyr, felly roedd hi ond yn briodol i enwi’r arddangosfa yn ‘Chwarelwyr’. Mae'r arddangosfa wedi'i ffurfio o ddwy ran: rhaglen ddogfen fer a ffotograffiaeth i gyd-fynd â hi. Trefor oedd y chwarelwr cyntaf i mi gyfweld. Roedd yn adnabyddus yn lleol fel Robin Band oherwydd bod y rhan fwyaf o'i deulu mewn bandiau. Bu'n gweithio yn chwarel lechu Trefor am rai blynyddoedd, a rhannodd atgofion gwych am yr amseroedd da, drwg a doniol yno.Y nesaf oedd Dic Llanberis, a oedd, fel yr awgryma ei enw, wedi ei leoli yn Llanberis. Roedd gan Dic brofiad blynyddoedd a chymaint o wybodaeth am hanes Chwarel y Dinorwig. Defnyddiais yr un broses ar gyfer pob un o'r pum Chwarelwr: eu cyfweld, yna ffilmio ac yn olaf, tynnu lluniau ohonynt. Gweithiodd Dic yn y chwarel hyd yn oed ar ôl iddo gau i lawr ym 1969, er mwyn helpu i glirio'r llechi oedd yn weddill.Wedyn, tro Andrew JonJo a Carwyn oedd hi. Roedd y ddau wedi gweithio yn chwarel y Penrhyn ym Methesda ar gyrion Bangor. Fe wnes i gyfweld a’r ddau ohonynt yn yr Amgueddfa Lechi yn Llanberis lle maen nhw bellach yn gweithio. Andrew yw'r olaf o chwe chenhedlaeth o chwarelwyr yn ei deulu a oedd i gyd wedi gweithio mewn dwy chwarel: Dinorwic a Phenrhyn. Fel y gallech ddychmygu, siaradodd yn deimladwy am y ffordd y ganwyd i mewn i'r diwydiant. Daw Carwyn o deulu chwarela mawr hefyd, roedd rhai ohonynt wedi gweithio yn yr Ysbyty’r Chwarelwyr yn Llanberis. Gellir dod o hyd i nifer o lofnodion ei hynafiaid yn llyfrau'r Amgueddfa’r Ysbyty Chwarel, yn cofnodi gweithdrefnau llawfeddygol.Yn olaf, cwrddais â John Pen Bryn, a leolir yn Nhalysarn, ychydig y tu allan i Gaernarfon. Roedd y chwarel hon mor fawr fel ei bod yn cynnwys pentref cyfan, a John wedi ei godi yno. Mae bellach yn berchen y chwarel ac wedi byw yn Nhalysarn ar hyd ei oes. Dangosodd fi o gwmpas y chwarel a lle'r oedd y pentref yn arfer bod – anodd dychmygu nawr ei fod unwaith yn lle prysur gyda thair siop, tu fewn iddi. Roedd John yn llawn straeon ac yn gwybod popeth oedd wedi digwydd yn ei chwarel dros y blynyddoedd.Yn anffodus, mae Robin Band a Dic Llanberis ill dau wedi eu claddu ers cwblhau'r arddangosfa, ac felly mae'r ffilm sy'n cyd-fynd â hi yn gorffen gyda delweddau ohonynt. Roedden nhw, fel finnau yn falch tu hwnt ein bod wedi llwyddo i gipio rhai o'u straeon a dogfennu'r dreftadaeth a'r hanes pwysig hwn mewn pryd. Rwy'n ddiolchgar iawn i bawb a gymerodd ran yn y gwaith o greu’r arddangosfa. Gobeithio y byddwch yn ei fwynhau.
Stori’r Llun… Katherine Voyle, Daearegydd Mwynglawdd Ian Smith (Curadur Amgueddfa y Glannau), 9 Ebrill 2020 Tynnais y llun hwn ym mis Mehefin 2011, dan y ddaear ym mhwll glo Aberpergwm ger Resolfen. Yn y llun mae tri o lowyr oedd yn dangos y gweithfeydd i mi. Y fenyw yn y canol, Katherine Voyle, oedd daearegydd y pwll. Ei gwaith hi oedd astudio’r wythïen lo a phenderfynu pa gyfeiriad i ddatblygu’r pwll er mwyn gallu cloddio mwy.Es draw i’r pwll glo i recordio cyfweliad fideo gyda Katherine am ei bywyd a sut y daeth i wneud y swydd hon. Rhan o fy ngwaith yw casglu hanesion pobl ‘go iawn’ er mwyn i genedlaethau’r dyfodol gael darlun cywir o fywyd yr oes hon. Gofynnais iddi a oedd yn deimlad rhyfedd bod yr unig fenyw ymysg 300 o ddynion. Dywedodd ei bod yn od i ddechrau ond ei bod wedi dod i arfer â’r peth yn ddigon buan. Roedd y dynion yn ei derbyn hi fel ‘un o’r bechgyn’ nawr, yn enwedig pan oedd hi’n gwisgo oferôls, ond roedden nhw’n cael sioc o’i gweld wedi newid yn ôl i’w ‘dillad swyddfa’!Mwynglawdd drifft yw Aberpergwm – hynny yw, mae’n torri i ochr dyffryn yn hytrach nag i lawr mewn siafft ddofn. Mewn gwirionedd, roedd y pwll glo’n gostwng yn serth wrth i ni gerdded dros filltir i’r ffas lo. Yno, roedd peiriant enfawr yn brysur yn torri, a’r sŵn yn fyddarol. Ar ôl fy nhaith ac ar ôl cynnal cyfweliad fe gerddon ni fyny’n ôl i’r heulwen. Er nad oeddwn wedi gwneud unrhyw waith corfforol, roedd fy nghoesau’n brifo ar ôl cerdded i mewn ac allan!Dywedodd Katherine, sydd o Abertawe, ei bod wedi gweithio ar lwyfannau olew ym Môr y Gogledd ac yn yr Iseldiroedd cyn dod i Aberpergwm. Yr amgylchedd a byd natur oedd ei phrif ddiléit, ac roedd yn gweithio ar greu llwybr natur ar y tir uwchben y pwll glo.DOLENNI I WYBODAETH BELLACHErthygl gan Ceri Thompson, Curiadur (Glo) am Katherine Voyle ar gyfer cylchgrawn Glo:https://museum.wales/media/24679/GLO-Magazine-2012-web.pdf
A place to chill out at the Waterfront Museum Ian Smith, 2 Ebrill 2020 Today is National Autusm Day, a chance to spread awareness and increase acceptance of Autism. Here at Amgueddfa Cymru National Museums of Wales, we believe passionately in making our museums and galleries accessible to everyone, and more than that to creating welcoming, comfortable spaces for all. To that end, a couple of years ago, with the support of autistic volunteers and family members, the National Waterfront Museum created a 'chill-out-room', and began offering 'quiet hours' each month. Here, Ian Smith Senior Curator of Modern & Contemporary Industry at the Waterfront Museum explains how this special space came about.“In October 2016 we had a staff training day in ‘Autism Awareness’. It opened our eyes to how they see the world and how we can support their needs. It showed us how even the simplest of environmental changes can affect a person with autism. Things like light and sound levels, the colour of walls and floors. In fact the general layout of a space which might be deliberately made stimulating and flashy might cause many autistic people to retreat within themselves.It was around this time that we welcomed a new volunteer at the museum. Rhys, 17, has autism. His mother contacted us and asked if he could volunteer with us to help his confidence when meeting people and in a real work environment. Rhys helps to run an object handling session, usually with another volunteer or a member of staff, and he has taken to it really well. We have all noticed that he’s become more outgoing and will now hold conversations with total strangers.With the growing awareness of autism the Museum decided to create an Autism Champion. Our staff member Suzanne, who has an autistic son, readily agreed to take up the challenge. She now attends meetings with our sister museums where issues and solutions around autism are discussed.During our training session we discovered that some organisations have created ‘chill-out’ rooms. These are for anyone who is feeling stressed or disturbed to go to and relax and gather themselves together. These rooms are especially useful for autistic people. We put a small group together to look at creating a safe, quiet space somewhere in the Waterfront Museum. After considering options, we decided that a little used first aid room on the ground floor offered the best place.Rhys came into his own. He offered us a number of suggestions on how we could change the space to make it autism friendly. These included making the light levels controllable and sound proofing the room so that gentle music or relaxing sounds could be played. Suzanne too came up with a number of ideas from her own experience of looking after her son. Additionally, a local special school, Pen-y-Bryn, with whom we had an established relationship also offered us their valuable expertise.The room we’ve created is a very soothing space and we find it gets regular use by people with a range of needs, and is clearly much appreciated as shown by the comments in the visitor’s book:“Fantastic resource! My daughter really needed this today – thank you!”“Lovely place to get away from the hustle and bustle for a little one.”“Lovely idea for people on the spectrum to come for quiet.”“Really helped my son to have some time out.”This has been a very big learning curve for most of us, but it has been made much easier by talking to people who have direct experience of autism. Their input as part of our team has been invaluable.”The Museum is of course, closed right now, but for those of you interested, the times for our 'quiet hours' are posted on our events pages each month. We look forward to welcoming you all back in the coming months.