Blodau Bendigedig Thomas Lloyd, 25 Mawrth 2021 Shwmae Cyfeillion y Gwanwyn!Mae nifer ohonoch wedi yn sôn yn ddiweddar bod eich Bylbiau Bychan wedi blodeuo sy’n wych! Mae amser yn dod i ben i lanlwytho eich data blodeuo i’r wefan Bylbiau’r Gwanwyn i Ysgolion os nad ydych wedi yn barod. Y dyddiad cau yw dydd Gwener Ebrill 2ail, sydd hefyd yn Ddydd Gwener y Groglith felly gallwch fwynhau picen y Grog ar ôl lanlwytho’ch data! Sicrhewch fod eich data blodeuo wedi ei lanlwytho erbyn y dyddiad yma i sicrhau fod pob Cyfaill y Gwanwyn yn derbyn eu tystysgrif Gwyddonwyr Gwych!Wyddoch chi fedrwch adael sylwad wrth lanlwytho eich data blodeuo a thywydd? Di wrth fy mod yn clywed am eich profiadau gofalu am eich Bylbiau Bychan felly plîs cadwch y sylwadau'n dod trwy’r wefan Bylbiau’r Gwanwyn i Ysgolion neu ar Drydar. Dyma ambell o’ch sylwadau o’r wythnosau diwethaf: “Ar ddiwrnodau heulog mae’r blodau crcoys yn agor fel sêr” – Dosbarth 2, Coastlands Primary. “Braf yw gweld sut mae’r blodyn yn cau wedi tywydd oer ac agor wrth i’r haul ddod allan!” – Amy, Stanford in the Vale Primary. Arsylwadau arbennig Cyfeillion! Mae rhai blodau yn fregus a byddant yn cau i amddiffyn eu hun rhag y tywydd oer a all eu niweidio. Wrth i dymereddau codi maent yn “agor fel sêr!”Mae Ysgol Henllys yn sicr wedi cael canlyniadau cennin Pedr cymysg: “Roedd fy un i yn dal iawn” - Aneurin “Roedd fy un i yn denau” - Emily “Roedd fy un i yn dda iawn nes bo’r gwynt yn ei dorri” - Oliver O diar, mae’n flin gen i glywed hynny Oliver! Yn sicr fe gawsom ni gyd gwyntoedd cryf yn ddiweddar sydd yn gallu fod yn beryglus i gennin Pedr tal. Llwyddoch chi gyd dyfu blodau ac nid chi sydd ar fai. “Agorodd fy mwlb i heddiw ond mae rhywbeth wedi bwyta’r petalau. Mae nifer o’n bylbiau wedi eu dwgyd gan wiwerod yn ystod yr hydref a gwelsom ni rhai ohonynt yn gwneud ar ein camera nos!” – Alexandra, Livingston Village Primary School Nid dyma’r tro cyntaf i mi glywed am ladron blewog yn dwyn bylbiau ac yn anffodus nid dyma’r unig sylwad o’r Cyfeillion yma yn sôn am hyn. Anghofiwn weithiau fod bylbiau a phlanhigion hefyd yn fwyd i greaduriaid eraill. Yr unig les yw eich bod wedi sicrhau pryd o fwyd i anifeiliaid llwglyd! Ni allaf gredu eich bod wedi ei ddal ar gamera – oes gennych lun allwch rannu? “Mae’n debyg fod ein bylbiau yn y ddaear wedi agor yn gyntaf ym mis Chwefror a rydant yn fwy o lawer na’r rhai wedi eu plannu ym mhotiau. Rydyn ni gyd wrth ein boddau yn gwneud y prosiect yma a rhaid rhoi canmoliaeth arbennig i Riley (cyn-ddisgybl yr ysgol) am helpu Mrs. Finney gyda’r arsylwadau tywydd a glawiad yn ystod lockdown” - Mrs. Finney, Stanford in the Vale Primary School. Arsylwad diddorol iawn - mae gan fylbiau sy’n tyfu yn y ddaear mwy o fwynau a gwagle i dyfu na bylbiau sy’n tyfu ym mhotiau felly rydant yn aml yn blodeuo’n gynt ac yn tyfu’n dalach os ydynt wedi eu cysgodi rhag y gwynt. Rydw i wrth fy modd clywed eich bod chi gyd wedi mwynhau gweithio ar y prosiect eleni ag am ymdrech wych gan Riley! Darllenaf eich holl sylwadau hyfryd ynglŷn â’r tywydd a garddio a diolch o galon am helpu Mrs. Finney gyda’r gwaith dros lockdown, rwyt yn Gyfaill y Gwanwyn anhygoel!Mae’r flwyddyn yma wedi bod yn anodd i bawb ond rydych chi gyd wedi gwneud gwaith anhygoel ac mae gweld gymaint o flodau hardd yn dystiolaeth o’ch holl waith caled. Diolch o galon unwaith eto Cyfeillion y Gwanwyn, athrawon a rhieni! Gobeithiwn agor ymgeision am Fylbiau’r Gwanwyn 2021 – 22 yn dilyn gwyliau’r Pasg, felly os ydych wedi mwynhau bod yn Gyfeillion eleni gewch chi gyfle gofalu am ragor o Fylbiau Bychan tymor nesaf!Garddio Hapus!Athro’r Ardd.
Gwanwyn yn Gwenu Thomas Lloyd, 3 Mawrth 2021 Helo unwaith eto Cyfeillion y Gwanwyn! Mae llwyth o dywydd amrywiol i gofnodi yn ddiweddar – gwelsom ni iâ ac eira i heulwen hardd a phob dim arall rhyngddynt! Efallai eich bod yn tybio am effaith yr holl dywydd gwahanol yma ar eich Bylbiau Bychan – peidiwch â phoeni cyfeillion, mae eich Bylbiau Bychan yn hapus i ymlacio ym mhob math o dywydd. Gallant wrthsefyll glaw, rhwystro’r rhew a goroesi’r gwres yn hawdd!Yn sôn am dywydd, hoffaf ddweud diolch i’r holl Gyfeillion y Gwanwyn a’u hathrawon am barhau i lanlwytho eu data tywydd lle’n bosib. Plîs peidiwch â phryderi os ni allwch lanlwytho data ar hyn o bryd – deallwn wrth gwrs fod amodau pawb yn unigryw sy’n hollol ffein!Mae nifer o Gyfeilion y Gwanwyn wedi gweld blodau ar eu crocysau a’u cennin Pedr sydd yn wych! Rhaid bod hwn yn deimlad arbennig i weld effaith eich gwaith caled. Rydw i wastad y mwynhau clywed sôn am Fylbiau Bychan sydd wedi tyfu i mewn i flodau hardd felly cofiwch gadw cofnod o’r dyddiad pryd sylwch chi’r blodyn gyntaf a rhowch wybod i mi trwy gofnodi’r dyddiad ar wefan Bylbiau’r Gwanwyn. Mae pob Cyfaill y Gwanwyn yn edrych ar ôl Bylb Bychan eu hun, felly mewn dosbarth o 25 er enghraifft, bydd 25 dyddiad i lanlwytho i’r wefan. Athrawon – os sylwch nifer o flodau wrth i chi ddychwelyd i’r dosbarth, gallwch ddefnyddio’r dyddiad dychwelyd fel y dyddiad blodeuo, jyst cofiwch adael sylwad ar y wefan i fy atgoffa!Peidiwch â phoeni os nad ydy’ch Bylbiau Bych wedi blodeuo eto, mae’n bosib bod y tywydd oer diweddar wedi eu harafu ychydig. Dwi’n siŵr welwch chi flodau dros yr wythnosau nesaf wrth i’r tywydd cynhesu!Wrth gwrs mae nifer o Gyfeillion y Gwanwyn dal i fod i ffwrdd o’r ysgol a’u Bylbiau Bychan. Peidiwch â phryderi os nad ydych wedi gweld eich Bylbiau Bychan am sbel, bydden nhw’n hollol iawn yn yr ysgol! Gobeithio bydd Cyfeillion y Gwanwyn yn ôl yn y dosbarth yn fuan, ond wrth i ni aros am hynny rydw i wedi paratoi pecyn gweithgareddau hwylus i geisio oddi adref! Mae’r gweithgareddau yn ymwneud a’r tywydd a garddio a byddant yn help mawr os ydych yn colli eich Bylbiau Bychan. Beth am roi cynnig arnynt a rhannu eich gwaith caled ar Drydar? Fy nolen yw @Professor_Plant a chofiwch ddefnyddio’r hashnod #CyfeillionYGwanwyn!Diolch o galon i bawb am eich gwaith caled ac ymroddiad Cyfeillion, athrawon a rhieni. Rydych i gyd yn sêr!Garddio Hapus!Athro’r Ardd.
Mae Athro’r Ardd Angen Eich Help! Thomas Lloyd, 9 Chwefror 2021 Blwyddyn Newydd Dda Cyfeillion y Gwanwyn! Mae Chwefror arnom ni’n barod sy’n golygu bydd gwanwyn yma cyn i ni wybod. Efallai bod rhai ohonoch wedi sylwi bod eich bylbiau yn egino – os felly rydych chi’n bell ar eich ffordd i flodau hardd. Peidiwch â phoeni os na welwch egin eto, gall rhai bylbiau gymryd ychydig yn hirach cyn eu bo nhw’n barod i egino, yn enwedig os yw’r tywydd yn oer.Rydyn ni gyd yn gwybod bydd y gwanwyn yma ychydig yn wahanol i flynyddoedd eraill. Rwy’n siŵr bydd nifer ohonoch chi’n colli eich dosbarth a’ch iard os ydych yn dysgu oddi adref. Efallai bod ambell un ohonoch yn poeni am eich Bylbiau Bychan yn ôl yn yr ysgol heb unrhyw un i edrych ar eu hol – peidiwch â phoeni, bydd eich bylbiau yn ddiogel ac yn sownd, yn enwedig os ydynt wedi eu plannu tu allan.Er nad ydyn ni gyd yn yr ysgol ar hyn o bryd mae Athro’r Ardd dal angen eich help i gasglu data’r tywydd a bois bach mae cryn dipyn o ddata i’w casglu! Mae’n holl bwysig ein bod ni’n cadw cofnod o’r glawiad a’r tymheredd wrth i’n bylbiau tyfu gan fydd hyn yn helpu ni deall a dehongli ein canlyniadau’n well yn y gwanwyn. Rydw i wedi meddwl am ambell ffordd y gallwch chi gadw eich Baby Bulbs yn hapus a helpu Professor Plant parhau i gasglu data’r tywydd a blodeuo. Byddaf wrth fy modd os allwch fy helpu trwy wneud un o’r canlynol os yn bosib: Syniadau Athro's Ardd ar gyfer parhau i gasglu data oddi adref: Gall Bulb Buddies/rhieni gasglu’r potiau yn ddiogel a monitro eu tyfiant oddi adref? Gall Bulb Buddy sy’n byw yn agos at yr ysgol casglu’r offer monitro tywydd a chymryd cyfnodau oddi adref? A fydd athro sy’n dal i fynychu’r ysgol fod yn hapus i gasglu data tywydd a blodeuo gydag unrhyw Bulb Buddies sydd hefyd dal i fynychu ysgol? Gall y data gael ei lanlwytho i’r wefan neu ei gasglu i’r dosbarth gwreiddiol ei lanlwytho unwaith i bawb ddychwelyd. Oes unrhywun arall sydd â mynediad i’r ysgol byddai’n fodlon cadw llygad ar y planhigion? Beth arall gall Bulb Buddies eu gwneud oddi adref? Mae’n holl bwysig casglu data tywydd am ein bylbiau – efalli gallwch gadw dyddiadur tywydd ar gyfer Athro’r Ardd Bydd gan wefan gwylio tywydd swyddfa’r MET data tymheredd a glawiad dyddiol ar gyfer eich ardal, efallai gallwch gofnodi'r rhain yn ddyddiol? Dylai Bulb Buddies a rhieni sy’n dysgu oddi adref cadw llygad ar wefan Bylbiau’r Gwanwyn am adnoddau dysgu a gweithgareddau i geisio yn y tŷBeth am rannu eich gwaith caled ar Drydar? Fy nolen yw @Professor_Plant Diolch o galon unwaith eto am eich help Cyfeillion, rydych chi gyd yn gwneud gwaith arbennig gyda’r ymchwiliad yma a gallaf byth gwneud hwn heboch chi gyd! Hoffwn hefyd dweud diolch i’r athrawon a’r rhieni yn ogystal – rydyn ni gyd yn ddiolchgar iawn am eich cymorth wrth oresgyn trafferthion y tymor.Garddio hapus i chi gyd!Athro’r Ardd.
Nadolig Llawen Gyfeillion y Gwanwyn Penny Dacey, 16 Rhagfyr 2020 Helo Cyfeillion y Gwanwyn,Diolch am eich gwaith caled yn cymryd cofnodion tywydd dros y wythnosau diwethaf. Byddwch yn cymryd darlleniad tywydd nesaf yr wythnos o’r 4-8 Ionawr. Wrth gofnodi eich darlleniadau i’r wefan, plîs nodwch ‘dim cofnod’ ar gyfer y dyddiau rydych i fwrdd o’r ysgol.Does dim rhaid cymryd eich potiau adra dros y gwyliau. Os yw’r potiau mewn lle saf, bydda nhw’n iawn. Mae'r pridd yn cadw’r bylbiau yn ddwfn yn erbyn y tywydd oer.Mae’r tywydd wedi bod yn eithaf cynnes am y gaeaf, a bydd o’n ddiddorol i weld yr effaith mae hyn yn cael ar ein bylbiau!Mwynhewch eich gwyliau Cyfeillion y Gwanwyn.Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda,Athro’r Ardd a Bwlb Bychan
What’s behind the doors?! Katie Mortimer-Jones, Lucy McCobb & Katherine Slade, 10 Rhagfyr 2020 Have you ever asked yourself the question “What’s behind the gallery doors of National Museum Cardiff”? Well, if you have then this blog might be for you. The specimens and objects you see in the galleries are just a fraction of those we have in the museum’s collections. So why do we have so many? Specimens in the galleries do suffer when exposed to light while on display, and occasionally from being touched by little sticky fingers! To help protect them, we regularly swap fragile objects on display with those in our stores. We also change objects round for the different exhibitions we produce. Objects behind the scenes are also used for a whole variety of different activities such as education and research. While we may not be able to put all of our specimens on display, we do like to share as many of them as we can via our social media channels. In the Natural Sciences Department, we do that via the @CardiffCurator Twitter account. Each week, we might share our worm highlights on #WormWednesday, some of our fantastic fossils on #FossilFriday and various other amazing specimens on other days of the week via various alliterations! Of course, the festive season is no different and each year we promote Christmassy objects via a #MuseumAdvent calendar. For 2020, our calendar has been inspired by the ‘Nature on your doorstep’ program which the museum has run throughout lockdown aimed at reconnecting people with nature. One of the main activities has been photo bingo, where we challenged people to find and photograph a number of objects. For winter bingo, we released a card at the end of November with 24 wintery things, such a robin, holly, frost and a sunset. Behind every door of our museum advent calendar, we included helpful tips and photographs from our collections, alongside live photos to help people find everything on the bingo sheet.We are nearly half way through the calendar, but if you would like to join in why not follow the #MuseumAdvent hashtag over on @CardiffCurator and see if you can call “House” before the 24th December.