Trysor Cudd
23 Mehefin 2011
,Bore da! Galw heibio'n sydyn ydw i - mae cymaint i'w wneud y bore 'ma na alla i aros yn hir: cynnau'r arogldarth, paratoi'r groes, cwpan a'r ddysgl, a chamu mewn i'm gwisg 1520aidd. Mae hynny'n ddigon o drafferth - fe godais i'n gynnar i blethu fy ngwallt i steil Tuduraidd heddiw hefyd! Dangosodd un o'r Tudor Group imi sut i wneud pan fuon nhw'n aros yma adeg y Pasg. Fe wnaeth hi i'r holl beth edrych yn hawdd iawn - dwi ddim cweit yn plethu'n rhwydd eto, on dyfal barhau sydd raid, am ein bod ar fin cynnal digwyddiad am ffasiwn Tuduraidd fis nesa.
Yn y cyfamser, rwy'n paratoi ffilm o Duduriaid ddaeth i'n gweld ni y llynedd, i'w roi yn Oriel 1 yn yr arddangosfa Creu Hanes: 1500-1700. Mae rhai o'm hoff wrthrychau Tuduraidd i'w gweld yno, gan gynnwys ffigur o Grist: gwrthrych prin iawn sy'n olrhain hanes crefyddol Cymru. Wedi'i gerfio cyn y Diwygiad, mae'n wrthrych cain ac anarferol - cafodd ei ddarganfod wedi'i guddio tu fewn i wal yn yr 1850au.
Ni wyddom lawer am sut y cyrhaeddodd y cerflun ei gartref yn y wal, ond bydd Penny Hill, Cadwraethwraig a Hanesydd, yn dod i siarad am ei hanes cudd ar ddydd Sadwrn. Gobeithio y gallwch ymuno â ni ar ddydd Sadwrn yn Oriel 1, am 2 o'r gloch, ar gyfer sgwrs fydd yn mynd ymhellach na'r plwyf lle'r canfuwyd y gerflun. Mae Penny yn arbenigwraig mewn pigmentau a phaentiadau hanesyddol, yn bennaf, ac felly fe fydd yn dod â lliw yn ôl i hanes y Groes o Gemaes.
Bydd y sgwrs yn Saesneg: galwch am ragor o wybodaeth ar 029 20 57 3424, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Gobeithio y gwela i chi yno.