Hip Hop: Stori Cymru
9 Gorffennaf 2025
,Mae dau gwestiwn wedi bod ar flaen fy meddwl wrth guradu Hip Hop: Stori Cymru ar gyfer Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Yn gyntaf, 'beth yw Hip Hop?' ac yn ail, 'beth yw amgueddfa?'. Byddech chi'n meddwl bod y ddau'n gymharol hawdd i’w hateb, ond dwi dal ddim wedi taro'r hoelen ar ei phen. Mae chwilio'n barhaus am ryw fath o ateb wedi bod yn sail i'r project.
Fe ddylai'r cwestiwn cyntaf ddod yn haws i mi. Rydw i wedi dilyn Hip Hop ers dechrau'r 80au ac mae'n rhan bwysig o fy hunaniaeth. Ar wahanol adegau, dwi wedi bod yn rapiwr, DJ, hyrwyddwr, blogiwr a rheolwr artistiaid, ond yn bennaf oll, dwi wedi bod yn ffan o'r holl agweddau ar ddiwylliant Hip Hop. Hip Hop yw fy nghefndir, nid amgueddfeydd. Ond, mae'r gyfrifoldeb o greu arddangosfa fel hyn wedi bod yn hollbwysig i fi. I wneud cyfiawnder â hynny, roedd yn rhaid i fi gamu i ffwrdd o fy mherthynas fy hun â Hip Hop er mwyn gwneud yn siŵr fy mod yn cynrychioli trawsdoriad o'r wlad. Roedd yn rhaid i fi ymchwilio i'r nifer fawr o ffyrdd y mae Hip Hop wedi dod yn rhan o ddiwylliant Cymru ac mewn llawer o achosion hunaniaeth Gymreig. Roeddwn i eisiau archwilio a dathlu'r effaith mae Hip Hop wedi'i gael ar Gymru ers iddo gyrraedd, ddechrau'r 80au.
Er i Hip Hop ddechrau yn y 1970au, tua diwedd 1982 y dechreuodd y diwylliant afael yma. Roedd yn hawdd ffurfio hunaniaeth gyfunol bryd hynny gan mai dim ond 4 sianel deledu a hyn a hyn o ddeunydd print oedd ar gael. Ond, mae Hip Hop wedi newid mewn cymaint o ffyrdd ers dyfodiad y we a globaleiddio, felly dyw e ddim yn hawdd rhoi eich bys ar beth yw Hip Hop bellach.
Mae'n sgwrs hir, a dwi'n siŵr na fydda i'n llwyddo i’w datrys yma, ond roedd yn bwysig i fi glywed meddyliau a phrofiadau cymaint o bobl â phosibl. Er mwyn gwneud yn siŵr bod yr arddangosfa yn un triw, roedd yn rhaid i ni gynnwys lleisiau pobl sy'n hŷn ac yn iau na fi, yn ogystal â fy nghyfoedion. Fe deithiais i hyd a lled Cymru a siarad â llawer o bobl roeddwn i'n eu 'nabod a llawer nad oeddwn i'n eu 'nabod – yng Nghasnewydd, Caerdydd, Port Talbot, Pen-y-bont ar Ogwr, Abertawe, Caerfyrddin, Caernarfon, Aberystwyth, Bangor, Conwy, Bae Colwyn, Wrecsam a llawer o drefi a phentrefi llai eraill ar hyd y daith. Recordiwyd dros 70 o gyfweliadau, a bydd llawer ohonynt yn cael eu cynnwys yn archif hanes llafar yr Amgueddfa. Fodd bynnag, fe wnes i gwrdd â channoedd mwy ar hyd y ffordd – mae'r project hwn wedi bod yn ymdrech ar y cyd enfawr. Rhaid i fi hefyd ddiolch yn arbennig i Luke Bailey a gasglodd nifer o gyfweliadau pwysig ar ffurf podcast a oedd yn gyfraniad amhrisiadwy at y gwaith ymchwil.
Bues i'n tyrchu trwy nifer o archifau hefyd yn chwilio am straeon a gwybodaeth. Papurau newydd, llyfrgelloedd a'r BBC yn arbennig. Roeddwn i'n gwybod am nifer o fideos ac erthyglau ond roedden nhw'n amhosib i'w ffeindio. Treuliais oriau'n pori trwy wefannau ac erthyglau ar y we, a dwi'n ddiolchgar i Dr Kieran Nolan, sylfaenydd irishhiphop.com am ddod o hyd i rai o dudalennau archif fy hen wefan, welshhiphop.com o'r flwyddyn 2000. Ffeindiais i rai lluniau anhygoel, ond roedd blynyddoedd o'u rhannu ar y we wedi effeithio ar eu hansawdd. Bues i'n hela sgwarnog sawl tro, wrth i fi geisio cael fy nwylo ar y fersiynau gwreiddiol, ond roeddwn i'n darganfod mwy o leisiau a mwy o straeon. Ac yn anochel, arweiniodd hyn at ganfod rhagor o luniau a rhagor o wrthrychau i ni eu rhannu â chi. Bues i'n ceisio cysylltu â rhai pobl am flynyddoedd ar y cyfryngau cymdeithasol cyn i ni siarad wyneb yn wyneb. Roedd yn cymryd amser i ni feithrin perthynas ac ymddiriedaeth fel bo nhw'n hapus i ddatgloi eu hatgofion â rhoi benthyg rhai o'r gwrthrychau roedden nhw'n eu trysori fwyaf i ni. Dwi'n dal i deimlo pwysau'r cyfrifoldeb mawr yma dros bopeth sydd yn yr arddangosfa.
Dechreuais i dynnu themâu allan o'r cyfweliadau a'r sgyrsiau. Y mwyaf cyffredin oedd cymuned a chystadleuaeth. Nid oedd y themâu hynny'n rhan o brofiad pawb, ond roedden nhw'n ddigon cyffredin fel eu bod yn dechrau troi'n naratif ar gyfer yr arddangosfa. Mae camsyniad cyffredin wedi bod mai creu cofnod o hanes Hip Hop yng Nghymru ydyn ni. Efallai bod hyn yn digwydd am fod pobl yn gweld amgueddfeydd fel lle i rannu hanes, ac mai’n bosibl mae dyna ran o'u swyddogaeth. Doedd nifer o bobl ddim eisiau cymryd rhan am yr union reswm yna ar y cychwyn, am nad oedden nhw'n barod i gael eu gwthio i'r gorffennol. Yn sicr, nid dyna bwrpas yr arddangosfa hon, ac nid dyna sut dwi'n gweld amgueddfeydd chwaith. I fi, mae amgueddfeydd yn ein helpu i archwilio ein hunaniaeth, yn enwedig ein cenedligrwydd. Yn Oes Fictoria ac Edward, mae'n debyg bod hyn yn fwy penodedig, ond nawr mae'n sgwrs sy'n esblygu bob dydd a dwi mor falch bod Hip Hop yn rhan o'r sgwrs yna o'r diwedd.
Ond, wedi dweud hynny, dim ond crafu'r wyneb ydyn ni wedi gallu ei wneud. Byddai angen adeilad cyfan a mwy er mwyn creu hanes cyflawn o Hip Hop yng Nghymru. Fe glywais i bodcast gan Neil deGrasse Tyson oedd yn disgrifio nod amgueddfa fel ‘ysbrydoli pobl i ddysgu mwy’ a dwi'n gobeithio ein bod ni wedi llwyddo i wneud hyn i chi. Byddwn ni'n dal i roi mwy o wybodaeth a chyd-destun yn y blog yma dros y misoedd nesaf.
Roeddwn i'n meddwl bo fi'n gwybod am Hip Hop yng Nghymru pan ddechreuais i'r project yma ond dwi wedi dysgu cymaint ar hyd y ffordd. Mae ein hanes Hip Hop ni mor gyfoethog, ac mae dylanwad y diwylliant i'w weld ym mhob man os edrychwch chi'n ddigon agos. Dwi'n gwybod fod pobl yn nerfus am y ffordd y bydd Hip Hop yn cael ei gynrychioli. Wir i chi, does neb yn fwy nerfus na fi am gael hynna'n gywir. Dwi mor ddiolchgar am y tîm anhygoel sydd wedi tynnu popeth at ei gilydd – fydden i byth wedi dyfalu bod cymaint o waith yn mynd i mewn i arddangosfa mewn amgueddfa cyn cychwyn ar hon.
Roedden ni eisiau gwneud yn siŵr bod yr arddangosfa mor hygyrch â phosibl i gynifer o bobl â phosibl, ac roedd rhaid iddo fod yn hanesyddol ac yn academaidd gywir hefyd. Roedd hyn yn golygu treulio oriau o fy amser fy hun yn gwneud fy ngwaith cartref ar Hip Hop a dadbacio'r chwedlau niferus sy'n sail iddo. Llyfrau, papurau academaidd, cyfweliadau, rhaglenni dogfen, erthyglau. Mae'n anodd craffu ar rywbeth rydych chi'n ei garu cymaint ond ymchwil gefndirol oedd hwn i raddau helaeth. Yng Nghymru rydyn ni wedi addasu a cherfio ein pennod ein hunain yn hanes Hip Hop. Rydyn ni'n adleisio'r llinynnau ehangach yn y stori – brwydro, derbyn, hunanfynegiant, cystadleuaeth iach a throsglwyddo'r fflam i'r cenedlaethau ddaw ar ein hôl. Mae yna lawer o straeon sy'n werth eu hadrodd, ac rydym wedi tynnu sylw at rai i greu Hip Hop: Stori Cymru. Rydyn ni wir yn gobeithio y byddwch yn galw i weld yr arddangosfa ac yn gadael wedi'ch ysbrydoli, fel yr oedden ninnau wrth weithio arni.