Lawr ar lan y môr... Dafydd Newton-Evans, 13 Awst 2026 Fe welwch chi fwy na merch fach ddel! Mae digon i’w ddarganfod a’i ddysgu am y bywyd gwyllt anhygoel sydd gennym o amgylch arfordiroedd Cymru.Mae ein biolegwyr morol, y gwyddonwyr yn yr amgueddfa sy’n astudio bywyd môr, wedi gosod her i chi weld a allwch chi ddod o hyd i 16 o wrthrychau ar lan y môr. Ydych chi awydd rhoi cynnig arni?Ceisiwch ddod o hyd i’r holl wrthrychau yma a thynnu lluniau ohonyn nhw. Efallai y bydd rhai yn fwy cyfarwydd i chi, ond mae rhai yn llai amlwg. Mae ein gwyddonwyr wedi rhannu canlyniadau eu hymweliad diwethaf â’r traeth i roi help llaw i chi [Atebion Bingo]. Maen nhw hefyd wedi paratoi taflenni nodi y gallwch chi eu hargraffu a mynd â nhw gyda chi er mwyn nodi pan fyddwch chi’n gweld y gwrthrychau: https://museum.wales/media/52515/10TS-Trysoraur-Traethlin.pdfhttps://museum.wales/media/51670/08TS-Sylwi-ar-Wymon-yng-Nghymru-cochion-a-gwyrddion.pdfhttps://museum.wales/media/52513/09TS-Cregyn-mor-Cyffredin.pdfhttps://museum.wales/media/51686/03TS-Ydw-i-wedi-darganfod-ffosil.pdfhttps://museum.wales/media/51671/07TS-Sylwi-ar-Wymon-yng-Nghymru-gwymon-brown.pdfMae ambell un yn fwy anodd nag eraill i’w gweld, felly mae gan ein biolegwyr morol awgrymiadau defnyddiol i chi;Gwymon corniogEr bod enw ac edrychiad y gwymon corniog yn awgrymu mai gwymon ydyw, anifail mwsogl bryosoaidd yw e mewn gwirionedd! Cytref o unigolion bychan bach o’r enw sõoidau ydyn nhw, y mae’n bosib y byddwch chi’n gallu eu gweld drwy ddefnyddio chwyddwydr. Gallwch ddod o hyd i ddarnau wedi eu golchi i’r lan ar ymyl y traeth.Clustog FairMath o blanhigyn yw Clustog Fair. Mae’n tyfu ar y lan mewn twmpathau bach sy’n edrych fel clustogau.Gŵydd fôrGallwch ddod o hyd i wyddau môr wedi’u glynu wrth greigiau ar y traeth. Efallai eu bod nhw’n edrych fel cregyn, ond oeddech chi’n gwybod eu bod nhw’n perthyn i grancod a chimychiaid! Yn hytrach na defnyddio’u traed i gerdded, maen nhw’n eu defnyddio i gasglu bwyd o’r dŵr. Mae’r rhan fwyaf o’r gwyddau môr rydych chi’n eu gweld yn eithaf bach, ond mae gennym ni wyddau môr mawr yng nghasgliadau Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Fe ddaethon nhw oddi ar cefn y Morfil Cefngrwm sydd ar ddangos ac maen nhw’n llawer mwy, bron mor fawr â’ch dwrn!Seren fôrMae sawl math (rhywogaeth) gwahanol o sêr môr y gallech chi eu gweld ar y traeth, ond yr un mwyaf cyffredin yw’r Seren Fôr Gyffredin, sydd â lliw coch/oren. Fodd bynnag, efallai y byddwch chi’n dod ar draws seren bigog, seren dywod neu hyd yn oed seren frau, sydd â choesau cain iawn. Mae hyd yn oed rhai sêr môr bach iawn o’r enw sêr clustog, y gallech chi eu gweld yn sownd ar greigiau. Maen nhw’n anodd i’w canfod gan nad ydyn nhw’n fawr iawn. Tro nesaf y gwelwch chi seren fôr, cyfrwch faint o goesau sydd ganddyn nhw. Llyngyr y traethMae’n siŵr ein bod ni i gyd yn gyfarwydd â’r sgwigls bach o dywod a welwch chi ar draeth tywodlyd. Yr enw ar y rhain yw ‘tywod llyngyr’ neu ‘casts’ yn Saesneg, sef “baw” y llyngyr. Maen nhw’n cael eu gadael ar ôl ar ôl i lyngyr y traeth, math o fwydyn gwrychog morol, fwyta llawer o dywod. Fodd bynnag, mae yna wahanol fathau o lyngyr y traeth i’w cael ar hyd arfordir y de, a gallwch chi wahaniaethu rhyngddynt ar sail siâp y tywod llyngyr maen nhw’n ei greu! Mae llyngyr y traeth yn gadael baw blêr iawn ar ei ôl, tra bod y llyngyr du yn gadael baw mewn pentwr taclus iawn.Llyngyr diliauYdych chi wedi gweld y siâp rhyfedd yma sy’n debyg i ddiliau mêl yn gorchuddio creigiau ger traeth tywodlyd? Wel, llyngyr diliau sy’n gyfrifol am eu creu. Mae pob agoriad yn gartref i un llyngyr ac maen nhw’n adeiladu’r strwythurau tebyg i rîff yma gyda’i gilydd. Mae’n bwysig iawn ein bod ni’n ceisio gofalu am y riffiau a pheidio â sathru arnyn nhw wrth i ni gerdded dros y creigiau. Cofiwch os fyddwch chi’n mynd i’r traeth, byddwch yn ddiogel (Diogelwch Traeth yr RNLI – Pum Awgrym Gorau i Gadw’n Ddiogel wrth y Môr) a dilynwch y cod glan y môr (Cod Glan y Môr PDF (yn Saesneg)), Parch | Moroedd Gwyllt Cymru
Helios ac Eclips Rhannol yr Haul Heather Jackson, 31 Gorffennaf 2026 Nos Fercher 12 Awst 2026, bydd modd i bobl yng Nghymru weld eclips rhannol yr haul. Mae hyn yn golygu y bydd tua 90% o’r Haul wedi’i orchuddio gan y Lleuad. Dyma fydd yr eclips agosaf i eclips cyflawn yr haul yng ngwledydd Prydain ers 1999, a bydd rhaid i chi aros tan 2090 i weld eclips llawn nesaf yr haul yng Nghymru!Ar yr un pryd, bydd ymwelwyr Amgueddfa Cymru yn cael cyfle i archwilio Helios, sef gosodwaith goleuedig ysblennydd gan yr artist Luke Jerram. Bydd modd i ymwelwyr brofi’r Haul mewn eclips rhannol ac archwilio dehongliad artistig agos. Bydd Amgueddfa Caerdydd yn agor yn hwyr ar 12 Awst i ddathlu’r eclips. I’ch helpu i’w weld yn ddiogel, byddwn ni wrthi drwy’r dydd yn creu syllwyr eclips o focsys grawnfwyd yng Nghanolfan Darganfod Clore. Beth am ddod â bocs grawnfwyd gyda chi i’w droi’n declyn gwyddonol? Mae tocynnau i’r digwyddiad hwn am ddim, a gallwch eu harchebu yma: Hwyrnos yr Amgueddfa: Eclips yr Haul | Amgueddfa CymruBeth yw eclips yr haul?Mae eclips yr haul yn digwydd pan fydd y Ddaear, y Lleuad a’r Haul mewn rhes â’i gilydd. Mae’r Lleuad yn mynd heibio i flaen yr Haul ac yn atal ei olau, gan daflu cysgod bach ar y Ddaear. Gan fod y cysgod yn eithaf bach o gymharu â maint y Ddaear, dim ond rhai gwledydd sy’n gweld yr eclips. Llinell drwchus (sy’n goch ar y map o’r byd) yw’r ‘llwybr cyfanrwydd’ lle mae gwylwyr yng nghysgod llwyr y Lleuad. Bydd y bobl hyn yn gweld eclips cyflawn. Ar 12 Awst, bydd y llwybr cyfanrwydd yn mynd dros yr Ynys Las, Gwlad yr Iâ, a Sbaen. Bydd pobl yng ngwledydd Prydain, Ffrainc, Gwlad Belg, y Swistir a gogledd yr Eidal yn gweld eclips rhannol, lle mae rhan o'r Haul (90%) wedi'i orchuddio gan y Lleuad.Yn achos Cymru, dyma fydd yr eclips agosaf i eclips cyflawn ers 27 mlynedd!Eclipsau hanesyddol yng NghymruMae eclipsau haul cyflawn yn brin iawn yng Nghymru, ond mae yna gofnodion ohonyn nhw. Fis Mehefin 1927 oedd y diwethaf, ond roedd y tywydd yn wael gyda chymylau tywyll a glaw trwm. Yn achos eclips 1836, roedd pethau’n well yng Nghymru. Ymddangosodd yr adroddiad barddonol canlynol yn y Seren Ogleddol wedi hynny. Byddai trigolion gwreiddiol bythynnod Rhyd-y-car a Ffermdy Cilewent yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru wedi gweld yr eclips hwn yn yr un modd â’r awdur hwn.DIFFYG AR YR HAULCymerodd y peth anarferol hwn le, Sabbath y 15 o Fai, yn union yn yr amser. Mewn rhai mannau yn y dywysogaeth, dywedir bod y brain yn mynd i'w coedwigoedd, yr adar yn mynd i'w nythod, a'r ystlum yn dangos ei hun; yr ieir yn chwilio am eu clwydau. Yr oedd natur wedi llawn prydferthwch, felpetai wedi ei daro â syndod a rhyfeddod; yr awyr yn oer a thywyll, fel pe bai rhywbeth annormal yn dod i'r ddaear; ac wedi i'r gwanwyn godi, dyma natur yn codi o farwolaeth i fyw, yr ystlumod yn dianc i'w tyllau, a'r adarbach yn canu'n hapus i'w Creawdwr, a phob peth yn edrych mor brydferth a dymunol a cynharach. SOLAR ECLIPSEThis unusual event took place on Sabbath, 15th May, exactly at that time. In some parts of the county, it is said that the crows went to their woods, the birds went to their nests, and the bats appeared; the hens went to roost. Nature that was full of beauty, appeared as if struck with wonder and amazement; the air was cold and dark, as if something abnormal was coming to the earth; and after the sun reappeared, nature arose from death to life, the bats escaped to their holes, and the little birds sang happily to their Creator, and everything looked as beautiful and pleasant as before.Beth fydd yn digwydd ar 12 Awst 2026? 6.17pm (Caerdydd): Yn gyntaf bydd y Lleuad yn gorchuddio rhan o ddisg yr Haul. Bydd y Lleuad yn symud yn araf o flaen yr Haul tan y bydd tua 90% o’r Haul wedi’i gorchuddio. 7.12pm (Caerdydd): Uchafbwynt yr eclips, pan fydd digon o’r haul wedi’i orchuddio i wneud gwahaniaeth amlwg yn y tymheredd a lefel y golau. Fydd yr awyr ddim yn troi’n dywyll mewn gwirionedd. Ar ôl yr uchafbwynt, bydd y Lleuad yn symud yn araf oddi ar ddisg yr Haul tan mai dim ond darn bach fydd ar ôl.8.06pm (Caerdydd): diwedd yr eclips.Gan y bydd hyn yn digwydd wrth i’r Haul fachlud, bydd yr Haul a’r Lleuad yn mynd yn is ac yn is ar y gorwel wrth i’r eclips barhau. Y ffordd orau o weld yr eclips fydd o fan uchel â golygfa glir o’r gorwel gorllewinol. Bydd rhaid i ni groesi bysedd am awyr ddi-gwmwl!Bydd eich golygfa hefyd yn dibynnu ar ble yng Nghymru ydych chi – Sir Benfro fydd â’r golygfeydd gorau. Yno bydd 94% o’r Haul wedi’i orchuddio gan y Lleuad. Os ydych chi’n bwriadu gweld yr eclips ar 12 Awst, beth am ymweld â Helios i gael golwg agos o’r Haul ymlaen llaw i weld sut olwg sydd ar yr Haul yn agos? Llun cyfansawdd o eclipse rhannol yr haul o Ganolfan Ofod Johnson NASA yn Houston, 21 Awst 2017. NASA Image and Video Library. Sut i weld eclips yr haul Ddylech chi fyth edrych yn uniongyrchol ar yr Haul, hyd yn oed yn ystod yr eclips. Gall gwneud hynny niweidio’ch llygaid yn ddifrifol. Byddwn ni’n creu syllwyr eclips drwy gydol y dydd ar 12 Awst, felly beth am ddod i greu un eich hun?Gallwch wylio eclips rhannol yr haul yn ddiogel ar 12 Awst drwy ddefnyddio: 1. Sbectol eclips – Gall sbectol arbennig ar gyfer yr eclips atal pelydrau niweidiol yr haul a’ch galluogi i edrych ar yr haul yn ddiogel. Nid yw sbectol haul arferol yn ddiogel i’w defnyddio! Gwnewch yn siŵr bod gan eich sbectol eclips ardystiad diogelwch ‘ISO 12312-2' wedi’i argraffu arnyn nhw. Peidiwch ag ailddefnyddio hen sbectol eclips: efallai na fyddan nhw’n ddiogel. Gallai hyd yn oed crafiad microsgopig yn y lens niweidio’ch golwg Sbectol eclips, CC BY-SA 3.0 <https://creativecommons.org/licenses/by-sa/3.0>, via Wikimedia Commons 2. Telesgop yr haul – Gwiriwch gyda’ch cymdeithas seryddol leol i weld a ydyn nhw’n cynnal digwyddiad gwylio’r eclips ar 12 Awst. Efallai y bydd ganddyn nhw delesgopau â hidlwyr haul arbennig arnyn nhw, sy’n ddiogel i’w defnyddio i wylio’r Haul. Ddylech chi fyth ddefnyddio telesgopau na binocwlars arferol i edrych ar yr Haul. 3. Creu taflunydd twll pin – Mae sawl ffordd y gallwch greu ‘taflunydd twll pin’, a fydd yn eich galluogi i weld yr eclips drwy daflunio golau’r Haul, a’r tamaid sy’n cael ei gymryd ohono, ar arwyneb arall. Rhowch gynnig ar hwn: Creu eich camera twll pin eich hun | The Schools' Observatory. Gallwch hyd yn oed ddefnyddio twndis cegin i daflunio delwedd o’r eclips yn ddiogel ar y ddaear! Archebwch eich tocynnau am ddim yma - Hwyrnos yr Amgueddfa: Eclips yr Haul
SBRAGIO - galwad am weithwyr creadigol llawrydd! 31 Gorffennaf 2026 Ydych chi’n gerddor, artist, peiriannydd sain neu’n gweithio mewn maes creadigol? Rydym yn chwilio am weithwyr llawrydd i arwain ar broject cerddorol cyffrous fydd yn rhan o ailddatblygiad Amgueddfa Lechi Cymru. Bydd ailddatblygiad yr amgueddfa yn gwarchod, gwella a dehongli safle arbennig yr Amgueddfa Lechi, ac yn creu canolfan Treftadaeth y Byd UNESCO gan gefnogi sgiliau traddodiadol, dysgu a lles a rydym wedi ymrwymo i greu gofodau newydd a gwahanol ble mae pobl yn gweld eu hunain yn profi ymdeimlad o berthyn. Meddai Chloe Ward - Rheolwr Ymgysylltu y Project: "Bydd Project SBRAGIO yn gweithio gyda chymunedau a lleisiau lleol i greu gofodau a phrofiadau ysbrydoledig sy’n cynnig persbectif unigryw ar hanes y cymunedau chwarela a luniodd yr ardal hon o Gymru. Bydd yn dod â phobl ynghyd i weithio gyda sŵn a cherddoriaeth mewn ffordd sy’n adlewyrchu hanes, tirwedd a straeon byw’r gymuned leol. Bydd cyfle i gydweithio, arbrofi a chreu gwaith newydd fydd yn helpu ailddweud stori yr Amgueddfa Lechi drwy weithio gyda grwpiau targed o’r ardaloedd llechi ac ardaloedd lleol yr amgueddfa, gyda ffocws ar gymunedau lleol, pobl o ardaloedd economaidd-gymdeithasol isel, cymunedau mwyafrif byd-eang, pobl hŷn gan gynnwys pobl yr effeithir arnynt gan ddementia, pobl ifanc."Bydd arweinyddion SBRAGIO yn gyfrifol am recriwtio a gweithio gyda’r cymunedau, datblygu syniadau creadigol sy’n ymateb i’r Amgueddfa a’i hanes ac arwain ar broses gydweithredol, gynhwysol a chyffrous a chreu allbwn o ddarnau cerddorol newydd ar y cyd gyda chymunedau targed lleol, fydd yn cael ei ddefnyddio i gyfoethogi dehongli newydd Amgueddfa Lechi Cymru. Bydd yr arweinyddion yn helpu cydlynu a chyfrannu at ddigwyddiad arbennig i ddathlu’r gwaith ar ddiwedd y project, er enghraifft cyngerdd neu ŵyl. Amserlen Bydd y project yn cychwyn mor fuan â phosib. Rydym yn gobeithio bydd y project creadigol hwn yn dod i ben tua diwedd 2026. Mi fydd hi’n bosib cyflwyno elfennau terfynol yn gynnar yn 2027, ond dim hwyrach na diwedd Mawrth 2027. CyllidebMae cyfanswm o 3 gronfa o £3,000 ar gael, ar gyfer 3 elfen wahanol. Dylai’r cyfanswm o £3,000 gynnwys holl ffioedd, teithio, chynhaliaeth ac unrhyw ddeunyddiau. Mae cyllideb ar wahân i dalu costau darpariaeth cyfieithu neu unrhyw gostau sy’n ymwneud â hygyrchedd. Mae Amgueddfa Cymru yn ad-dalu costau teithio ar gyfer gweithwyr llawrydd ar gyfradd o 25c y milltir. IaithMae'n hollbwysig i ni fod pobl yn gallu cymryd rhan yn y Gymraeg a'r Saesneg, ac felly’n bwysig bod unrhyw hwyluswyr neu waith cymunedol yn cael ei gynnal yn ddwyieithog. Byddwn yn ffafrio datganiadau o ddiddordeb gan unigolion sy'n siarad Cymraeg neu'r rhai sy'n dangos dealltwriaeth o hyn. Bydd angen i chi sicrhau eich bod yn gallu cydymffurfio â Safonau'r Gymraeg Amgueddfa Cymru sydd i'w gweld yma.HawlfraintAmgueddfa Cymru fydd yn berchen ar hawlfraint yr holl gynnyrch o'r project hwn.Mynegi diddordeb a cheisioRydym yn croesawu cynigion ysgrifenedig dim mwy na 2 dudalen A4, neu fideo byr/recordiad llais sydd o dan 5 munud. Rydym yn hapus i drafod ffyrdd eraill o wneud cais am y cyfle hwn. Bydd angen cynnwys y wybodaeth ganlynol: Profiad perthnasol o sut rydych chi wedi ymgysylltu'n greadigol â chymunedau.Gwybodaeth am eich maes ymarfer creadigol a'ch syniadau ar gyfer y prosiect - be fyddech chi'n bwriadu ei gyflawni ac efo pwy fyddech chi'n bwriadu gweithio.Amlinelliad o’ch costau chi, gan gynnwys eich ffi dyddiol. Mae mwy o wybodaeth ar gael yn y ddogfen ymaOs oes gennych ddiddordeb neu eisiau gwneud cais danfonwch eich mynegiant o ddiddordeb drwy e-bost at chloe.ward@amgueddfacymru.ac.uk - erbyn 11/09/2026. Byddwn yn adolygu ceisiadau yn barhaus ac yn cysylltu â phob ymgeisydd ddim hwyrach na wythnos ar ôl y dyddiad cau. Galwad am ddiddordeb Cronfa Gerddorol (PDF)
Curadu yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru: Beth ddysgais i a pham mae’n bwysig Ammah Holder, 30 Gorffennaf 2026 Fel rhan o brosiect REACH Cymru, cawson ni’r pleser o gydweithio gydag ystod o bobl ar draws Cymru. Yn eu plith mae Ammah, Curadur Cymunedol REACH. Darllenwch i glywed beth mae Ammah wedi bod yn gweithio ar fel rhan o raglen REACH Cymru.Pan gefais fy newis gan Hywel Squires, Uwch Gydlynydd Ymgysylltu Amgueddfa Cymru, i fod yn Guradur Cymunedol ar gyfer prosiect REACH, ro’n i’n gwybod ei fod yn gyfle prin.Nid ar chwarae bach mae rhywun yn helpu i ddatblygu arddangosfa yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan, un o’r arddangosfeydd byw uchaf ei pharch yng ngwledydd Prydain. Mae hefyd yn brofiad sy’n aros gyda chi.Pam mae’r gwaith hwn yn bwysig i fiMae fy ngwaith fel curadur yn deillio o gred syml: mae gwrthrychau’n helpu pobl i ganfod cysylltiadau ar draws diwylliannau a chymunedau. Y gred honno sydd hefyd yn siapio rhywbeth dw i’n ei adeiladu yn nes at adre: Earthen Acres CIC; cwmni buddiant cymunedol yw hwn sy’n fy ngalluogi i weithio at agor amgueddfa natur yn y de. Mae popeth dw i’n ei ddysgu yma yn bwydo i’r weledigaeth honno.Yr hyn canolbwyntiais i arnoRoedd fy niddordebau curadurol yn golygu fy mod i’n dod yn ôl o hyd at bedwar maes:Gwrthrychau ag ystyrGall eitemau bob dydd adrodd straeon pwerus. Ro’n i am helpu i gyflwyno arteffactau mewn ffyrdd sy’n dangos sut roedden nhw’n cael eu defnyddio, eu gwerthfawrogi a’u trosglwyddo gan bobl go iawn.Crefft a dwyloMae sgiliau traddodiadol yn haeddu cydnabyddiaeth, yn ogystal â’r bobl sy’n eu cadw’n fyw. Ro’n i am i’r ymwelwyr werthfawrogi’r amser, y gofal a’r arbenigedd y tu ôl i’r gwrthrychau sy’n cael eu harddangos.Llais yr ymwelwyrMae amgueddfeydd yn gweithio orau pan fydd pobl yn teimlo’n rhan o’r sgwrs. Archwiliais ffyrdd i ymwelwyr rannu eu straeon, cyfrannu syniadau a rhoi adborth fel bod eu profiadau’n dod yn rhan o’r stori ehangach.Cofnod sy’n paraRoedd gen i ddiddordeb yn y modd gall lleisiau’r gymuned gael eu cofnodi a’u cadw, gan ddod yn rhan o waith parhaus yr amgueddfa yn hytrach nag ond bodoli am gyfnod arddangosfa.Y casgliad ei hunanWna i ddim difetha yr hyn sydd i ddod, ond roedd cael mynediad i’r storfeydd a chael golwg agos ar y gwrthrychau a ddewiswyd yn un o uchafbwyntiau fy mywyd gwaith diweddar.Cefais fy syfrdanu’n llwyr gan y casgliad telynau yn Sain Ffagan, a dim ond cipolwg bach oedd hyn o’r hyn sydd ar gael ar draws saith safle Amgueddfa Cymru a’u pum miliwn o wrthrychau.Mae ymchwilio hanesion gwrthrychau a gweld sut caiff gwybodaeth ei rhannu rhwng gwahanol dimau wedi bod yn hynod ddiddorol. Roedd pawb y gweithiais i gyda nhw yn hael gyda’u hamser, yn hapus i ateb cwestiynau, ac yn awyddus i fy nghysylltu â’r bobl gywir. Mae’n ddull o gydweithio rwy’n gobeithio mynd ag e gyda fi i fy sefydliad fy hunan.Hygyrchedd a chynaliadwyedd: newidiadau bach, effaith go iawnMae amgueddfeydd da yn parhau i wrando ar y bobl sy’n eu defnyddio. Awgrymais i nifer o newidiadau ymarferol, gan gynnwys lleihau llewyrch mewn rhai mannau, creu parthau mwy tawel, a darparu ardaloedd aros sy’n dal i gynnig cyfleoedd i ymgysylltu.Addasiadau cymharol fach yw’r rhain, ond gallant wneud gwahaniaeth go iawn i brofiadau ymwelwyr.Daeth cynaliadwyedd i’r amlwg mewn sawl sgwrs hefyd. Drwy ddysgu am y ffordd mae Sain Ffagan yn rheoli ei choetir ac yn defnyddio’r pren sy’n tyfu ar y safle, des i’n fwy cadarn fy marn y gall amgueddfeydd chwarae rhan bwysig yn dangos cyfrifoldeb amgylcheddol drwy weithredoedd bob dydd.Sut roedd y tîm yn gweithioRoedd tîm arddangosfa REACH yn dod â phobl sydd â gwahanol gefndiroedd, profiadau ac anghenion at ei gilydd. Gweithiodd Hywel yn galed i wneud yn siŵr y gallai pawb gyfrannu, gan ddefnyddio’r cyfleusterau sydd eisoes ar gael yn Sain Ffagan, gan gynnwys mannau tawel, ystafell golau isel, ystafell weddi, a hyblygrwydd yn y ffordd roedd pobl yn cymryd rhan.Helpodd y dull meddylgar hwn i greu amgylchedd lle roedd pobl yn teimlo’n gyfforddus i gyfrannu eu sgiliau a’u syniadau, a dw i’n credu bod yr arddangosfa’n gryfach oherwydd hynny.Edrych tua’r dyfodolMae’r profiad hwn wedi rhoi dealltwriaeth llawer cliriach i fi o sut mae amgueddfeydd yn gweithredu. Dw i wedi dysgu am ofalu am gasgliadau, ymgysylltu â’r gymuned, cynaliadwyedd a hygyrchedd, a sut mae’r meysydd gwahanol hyn yn cysylltu â’i gilydd.Ymunais i â’r prosiect fel curadur cymunedol, a dw i’n gadael gyda dealltwriaeth ddyfnach o’r bobl, y wybodaeth a’r gwaith sydd y tu ôl i bob arddangosfa.Os hoffech gymryd rhan fel gwirfoddolwr yn Amgueddfa Cymru, ewch i: Cymryd Rhan | Amgueddfa Cymru neu anfonwch e-bost i: gwirfoddoli@amgueddfacymru.ac.uk.Cadwch lygad am flogiau eraill sydd ar ddod, yn arddangos y gwaith anhygoel sydd wedi bod yn digwydd ar draws ein holl gymunedau sy'n cymryd rhan.Mae REACH Cymru yn bosibl diolch i gymorth Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Mae REACH Cymru yn bartneriaeth rhwng tri ar ddeg o sefydliadau ac yn cael ei arwain gan y Brifysgol Agored ac Amgueddfa Cymru. Mae’n cael ei ariannu gyda grant gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Dechreuodd y cyfnod presennol yn hydref 2024 ac mae disgwyl iddo barhau tan hydref 2026.
Pythefnos y Glowyr Ceri Thompson, 24 Gorffennaf 2026 "I remember Miner's Fortnight when I was just a lad, we'd go to Barry Island, the weather always bad."‘Ode to Barry Island’ gan Max BoyceYn draddodiadol, roedd wythnos olaf mis Gorffennaf ac wythnos gyntaf mis Awst yn cael eu hadnabod fel 'Pythefnos y Glowyr'. Rhwng y 1940au a'r 1970au byddai pawb yn teithio o'r meysydd glo i'r arfordir yn ystod y pythefnos hwn, yn enwedig trefi glan môr fel y Barri a Phorthcawl. Roedd y glowyr wedi ymladd i gael gwyliau o ddiwedd y 19eg ganrif. Rhwng 1888 a 1898, sicrhaodd arweinydd glowyr Cymru, William Abraham (Mabon oedd ei enw barddol) ddiwrnod o wyliau. Bwriad y gwyliau misol hyn o'r enw ‘Dydd Mabon’ oedd rhoi diwrnod i ffwrdd o'r gwaith caled i'r glowyr. Ar y dydd hwn, roedd Eisteddfodau mawr yn cael eu cynnal mewn lleoedd fel Blaenafon, Rhisga a'r Rhondda. Bu’n rhaid stopio'r gwyliau hyn yn dilyn y streic a'r cloi allan chwerw yn 1898 pan orfododd y perchnogion y dynion i weithio ar y dydd hwnnw. Yn dilyn y rhwystr hwn, bu’n rhaid i lowyr gymryd absenoldeb di-dâl. Mewn gwirionedd, yn 1924, nododd Adroddiad gan y Llywodraeth ‘nad oes unrhyw daliad i’w wneud am wyliau cyhoeddus nac fel arall yn y diwydiant glo mewn unrhyw achos ac eithrio swyddogion a staff clerigol'.Yn y 1920au a'r 1930au, roedd yn arferol i deuluoedd glowyr wersylla mewn mannau fel y twyni tywod ger Porthcawl. Roedden nhw'n defnyddio pebyll mawr a oedd gynt o'r fyddin ac yn cludo dodrefn o'u tai ar gyfer holl wyliau'r ysgol. Roedd y gwŷr yn gweithio yn ystod yr wythnos ac yn teithio i lawr at eu teuluoedd ar y penwythnosau.Ym 1938 fe wnaeth y Llywodraeth basio Deddf Gwyliau â Thâl a oedd yn rhoi hawl statudol i weithwyr cyflogedig gael gwyliau â thâl. Erbyn y 1940au, roedd gan lowyr hawl i bythefnos o wyliau â thâl. Byddai hyn yn digwydd yn ystod wythnos olaf mis Gorffennaf ac wythnos gyntaf mis Awst a byddai pyllau glo a ffatrïoedd yn atal cynhyrchu am bythefnos, fodd bynnag byddai llawer o ddynion yn gwirfoddoli ar gyfer gwaith diogelwch a chynnal a chadw hanfodol ac yn derbyn tâl ychwanegol am eu haberth.Y ddwy brif dref lan môr yn ne Cymru oedd y Barri a Phorthcawl, yn ogystal â Thraeth Aberafan a Dinbych-y-pysgod, er bod Dinbych-y-pysgod yn cael ei ystyried yn fwy 'dosbarth canol'. Yng ngogledd Cymru, byddai glowyr yn heidio i leoedd fel Prestatyn. Byddai teuluoedd yn heidio i feddiannu pob carafán a gwesty yn y trefi glan môr hyn – roedd Porthcawl yn cael ei adnabod fel ‘Bae Haia Byt!’ oherwydd nifer y glowyr yna ar wyliau. Yn y lleoedd hyn roedd ffair, bwth bocsio, traeth ac, yn y Barri, roedd Butlins, y gwersyll gwyliau enwog. Yn ogystal â thraethau a gweithgareddau, roedd y lleoedd hyn wedi'u cysylltu â threfi a phentrefi'r meysydd glo gan yr un rhwydwaith rheilffyrdd a oedd fel arfer yn cludo glo i lawr i'r dociau.Erbyn y 1970au roedd cymaint o weithwyr ffatri â glowyr ar y traethau ac yn ddiweddarach daeth y gwyliau i gael eu hadnabod fel ‘Factory Fortnight’. Erbyn diwedd y 1970au, roedd llawer o deuluoedd, strydoedd cyfan yn aml, wedi cyfnewid y trefi glan môr yng Nghymru am rai yn Sbaen, er y byddai pobl yn dal i fynd i Borthcawl a'r Barri am y dydd neu am y gwyliau traeth traddodiadol.Er fy mod wedi stopio mynd i Borthcawl am bythefnos erbyn y 1970au, roedd y pythefnos â thâl yn dal yn ddefnyddiol i fi. Fel gyda llawer o rai eraill, byddai priodasau'n cael eu trefnu ar gyfer diwedd mis Gorffennaf fel y gallai'r cwpl hapus fwynhau mis mêl pythefnos o hyd.Ceri ThompsonCuradur Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru Lluniau © David Hurn / Magnum Photos / Amgueddfa Cymru - Museum Wales