Bwrw eira a dyfnder eira

Penny Dacey, 16 Ionawr 2015

Shwmae Gyfeillion y Gwanwyn, 

Diolch am anfon cofnodion yr wythnos ddiwethaf. Mae hi’n bendant yn dechrau oeri, ac mae rhai ohonoch chi wedi gweld eira hyd yn oed! Dyma pam dwi am esbonio sut mae meteorolegwyr (gwyddonwyr tywydd) yn mesur eira. 

Mae mesur faint o law sy’n disgyn yn hawdd o’i gymharu â mesur faint o eira sy’n disgyn. Fydd eira ddim yn bihafio! Bydd yn aml yn cael ei chwythu gan y gwynt ac yn lluwchio, sy’n golygu bod yr eira’n ddwfn mewn mannau ond yn llawer llai dafliad carreg i ffwrdd. Oherwydd bod yr eira’n disgyn yn anghyson, bydd y mesuriadau o’r llefydd yma’n anghywir! Dyna pam mae’n rhaid mesur mewn mannau gwastad, agored ymhell o ble fydd eira’n lluwchio. Bydd eira hefyd yn chwarae gemau gyda’r Meteorolegwyr sy’n ceisio ei fesur – bydd yn toddi’n ddŵr, cyn rhewi fel iâ. Felly dyw’r eira sy’n cael ei fesur ddim bob tro yn cyfateb i faint o eira sydd wedi disgyn. Mae eira newydd yn disgyn ar ben hen eira hefyd, ac mae’n anodd dweud faint o eira sydd wedi disgyn o un diwrnod i’r llall. 

Mae’n rhaid i’r meteorolegwyr gofio holl driciau’r eira a meddwl am ffyrdd i ddarganfod faint o eira sydd wedi disgyn. Byddan nhw’n edrych ar gwymp eira (faint o eira sy’n disgyn mewn diwrnod) a dyfnder eira (cyfanswm dyfnder yr eira, hen a newydd). Un ffordd o fesur cwymp eira yw gyda ffon bren. Bydd y meteorolegwr yn gosod y pren mewn lleoliad agored lle na fydd eira’n lluwchio ac yn mesur yr eira bob chwech awr. Drwy glirio’r eira o’r pren ar ôl ei fesur, dim ond eira’r diwrnod hwnnw fydd yn cael ei fesur, a gall y gwyddonydd ddweud faint o eira sydd wedi cwympo ar y diwrnod hwnnw. 

Gallwn ni hefyd fesur eira wedi toddi ar ffurf dŵr. Gallwch chi felly ddefnyddio’ch mesurydd glaw i fesur cwymp eira. Os taw dim ond ychydig o eira sy’n cwympo, bydd yn toddi yn y mesurydd beth bynnag, ond os yw hi’n bwrw’n drwm, ewch â’r mesurydd i mewn ac aros iddo doddi’n ddŵr. Gallwch chi wedyn fesur y dŵr fel rydych chi wedi’i wneud bob wythnos, a’i gofnodi fel glawiad yn eich cofnodion tywydd. 

Os oes eira ar lawr a bod digon o amser i arbrofi, beth am fynd ati i fesur dyfnder yr eira? Y cyfan sydd ei angen arnoch chi yw pren mesur (neu pren eira os ydych chi am siarad fel gwyddonydd gwych!). Gwthiwch y pren i’r eira tan ei fod yn cyffwrdd y ddaear a chofnodi pa mor ddwfn yw’r ddaear fesul milimedr. Rhaid i chi fesur o arwyneb gwastad (fel mainc) mewn lle agored lle nad yw’r eira’n lluwchio. Rhaid i chi gofnodi o leiaf tri mesuriad i gyfrifo dyfnder cyfartalog yr eira lleol. Cyfrifwch y cyfartaledd drwy adio’r cofnodion gwahanol a’u rhannu gyda’r nifer o gofnodion. Os ydw i’n cofnodi tri dyfnder o 7cm, 9cm a 6cm, rhaid i fi adio pob rhif (7 + 9 + 6 = 22) cyn rhannu gyda 3 (22 / 3 = 7.33). Dyfnder cyfartalog yr eira felly yw 7.33cm. 

Mae gorsafoedd tywydd fel y Swyddfa Dywydd (MET Office) wedi troi at dechnoleg i ddyfeisio dulliau newydd o fesur dyfnder eira. Edrychwch ar y llun o un o orsafoedd eira’r Swyddfa Dywydd. Mae nhw’n defnyddio synwyryddion laser i fesur dyfnder yr eira ar yr arwyneb gwastad. Gall meteorolegwyr gasglu data o bob cwr o’r wlad wrth wasgu botwm – llawer haws a mwy dibynadwy nag anfon pobl allan i’r oerfel gyda phren eira! Mae pob un o orsafoedd eira’r Swyddfa Dywydd i’w gweld ar y map – oes un yn agos atoch chi? 

Llun o Synhwyrydd Dyfnder Eira y Swyddfa Dywydd.

(Wefan y Swyddfa Dywydd)

Map o leoliadau Synwyryddion Dyfnder Eira y Swyddfa Dywydd – oes un yn agos atoch chi?

(Delwedd o wefan y Swyddfa Dywydd)

Os yw hi wedi bwrw eira, cofiwch fesur y cwymp gyda’r mesurydd glaw neu’r dyfnder gyda phren eira a nodi’r canlyniadau fel ‘Sylwadau’ wrth uwchlwytho eich cofnodion wythnosol. Bydd yn ddiddorol cymharu dyfnder yr eira â chwymp yr eira yn y mesurydd glaw! 

Daliwch ati Gyfeillion y Gwanwyn, 

Athro’r Ardd

cyfri defaid

Bernice Parker, 15 Ionawr 2015


Rhwng y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd ddaeth ein genod ni mewn o’r caeau er mwyn cael eu sganio

Diadell Sain Ffagan


A dyma’r canlyniadau…

canlyniadau scanio ar gyfer defaid Sain Ffagan


Mae gennym 3 frid o ddefaid yn Sain Ffagan ac maen nhw i gyd ar y rhestr o fridiau prin

Dafad Hill Radnor

Hill Radnor

Hwrdd Llanwenog

Llanwenog

grwp oddefaid cymysg ar bore rhewllyd

defaid yn Sain Ffagan


a Mynydd Duon Cymreig.


Bydd ein babis yn dechrau cyrraedd Mis Mawrth,
felly cadwch lygaid ar y wefan am fwy o fanylion yn agosach at yr amser.

@DyddiadurKate - pwy 'di pwy?

Elen Phillips, 13 Ionawr 2015

Diolch yn fawr i’r 166 ohonoch sy’n dilyn @DyddiadurKate. Mae’r ymateb wedi bod yn gret hyd yn hyn, er gwaetha’r faith mai dechre reit undonog sydd i’r dyddiadur – un cyfarfod gweddi ar ôl y llall! Diolch arbennig i un dilynwr sydd wedi cysylltu i ddweud ei fod yn perthyn i Kate Rowlands. Fel ddedodd @erddin, dim bob dydd mae rhywun yn croesawu ei hen nain i fyd y trydar.

Hanes llafar

’Da ni’n edrych ’mlaen i glywed mwy am hanes Kate gan aelodau’r teulu cyn bo hir. Ond yn y cyfamser, mae’n hen bryd i ni rannu mwy o fanylion amdani, a rhai o’r enwau sy’n cael eu crybwyll yn y dyddiadur. Yn ffodus iawn, yma yn Sain Ffagan mae gennym dapiau sain o Kate Rowlands yn trafod arferion ei milltir sgwar – coginio, golchi dillad ac ati. Nôl yn 1969, aeth Lynn Davies o'r Amgueddfa i'w chyfweld er mwyn cofnodi tafodiaith ei hardal. Yna, yn 1970 aeth Minwel Tibbott i’w recordio fel rhan o’i gwaith maes arloesol ar fywyd cartref yng Nghymru. Ar ddechre’r cyfweliad cyntaf, mae Kate yn rhoi ychydig o’i chefndir teuluol, ac o fan hyn ’da ni wedi llwyddo i ddarganfod mwy am ei bywyd a phwy ’di pwy yn y dyddiadur.

Cefndir Kate

Ganed Kate yn y Brymbo, ger Wrecsam, yn 1892. Roedd ei mam (Alice Jane) yn wreiddiol o’r Hendre, Cefnddwysarn. Bu farw ei thad –  gweithiwr yn y diwydiant dur – pan roedd hi’n naw mis oed. Wedi hynny, dychwelodd ei mam weddw at ei theulu yng Nghefnddwysarn. Mae’n amlwg i rieni ei mam ddylanwadu’n fawr arni. Mewn un cyfweliad mae’n dweud mai “y nhw oedd y canllawie gathon ni gychwyn arnyn nhw.”

Tair blynedd yn ddiweddarach, mae’i mam yn ailbriodi ag Ellis Roberts Ellis. Hyd y gwn i, dyma’r Ellis sy’n cael ei grybwyll yn y dyddiadur. Tua 1887, pan roedd Kate yn bum mlwydd oed, symudodd y teulu bach i ffermio i ardal Llantisilio, ger Llangollen. Dychwelodd y tri i’r Sarnau tua chwe mlynedd yn ddiweddarach – i fferm Tyhen. Dyma leoliad y dyddiadur.

Tyhen, Sarnau

A hithe’n unig blentyn, gadawodd Kate yr ysgol yn 14 mlwydd oed i helpu ei rhieni wrth eu gwaith. Mae’n debyg mai fferm fach oedd Tyhen – rhy fach i gyflogi dynion:

“Mi gollodd nhad a mam eu iechyd i radde. Buodd hynny’n groes fawr i mi gael gyrru mlaen efo addysg ynde. Rhaid i mi fod adre ynde, ’da chi’n gweld… Dipyn o bopeth, jack of all trade ynde. O’n i’n gorfod helpu llawer iawn allan ynde, efo ceffyle a rwbeth felly ynde. Twmo’r popdy mawr i grasu bara, a chorddi fel bydde amser yno ynde, ryw ddwywaith yr wsos ynde.”

Ffermydd lleol

Penyffordd, Derwgoed, yr Hendre, Fedwarian – mae enwau’r ffermydd hyn yn cael eu crybwyll gan Kate bron yn ddyddiol. ’Da ni’n gwybod mai cartref ei mam oedd yr Hendre, ond byddwn ar drywydd y ffermydd eraill cyn hir.

Cyn gorffen, cadwch lygad am enw Bob Price, neu B.P, yn y dyddiadur.  Ar 11 Chwefror 1916, priododd Kate â Robert Price Rowlands yng Nghapel Cefnddwysarn. Felly roedd 1915 yn flwyddyn arwyddocaol i Kate. Roedd hi ar drothwy pennod newydd yn ei bywyd.

 

Bylbiau Bach yn tyfu!

Penny Dacey, 9 Ionawr 2015

Blwyddyn Newydd Dda Gyfeillion y Gwanwyn, gobeithio i chi fwynhau’r gwyliau. Sut hwyl sydd ar y cennin Pedr a’r Crocysau? Cyn y Nadolig, ysgrifennodd nifer o ysgolion ata i i ddweud bod y cennin Pedr a’r bylbiau dirgel yn dechrau gwthio drwy’r pridd. Beth yw hanes eich planhigion chi? Cofiwch, wrth anfon eich data, gallwch chi ddweud pa mor dal yw eich planhigion drwy ysgrifennu mwy yn yr adran ‘sylwadau’. Mae C o Ysgol Y Plas wedi gwneud hyn yn dda iawn, gan ddweud wrtha i bod “13 bylb wedi dechrau dangos yn y potiau a 3 yn yr ardd”. Mae’n gyffrous gweld y planhigion cyntaf yn ymddangos bob blwyddyn!
 
Blodeuodd cennin Pedr cyntaf y llynedd ar 10 Chwefror, ond y dyddiad blodeuo cyfartalog oedd 12 Mawrth. Gwyliwch yn ofalus, bydda nhw’n blodeuo toc! Cofiwch fesur taldra’r blodau ar y diwrnod byddan nhw’n agor. Byddwn ni wedyn yn casglu’r holl wybodaeth i roi dyddiad a thaldra cyfartalog. Bydd hyn yn ein helpu i weld patrymau, neu newidiadau dros y blynyddoedd. 

(Llun trwy garedigrwydd Doug Green’s Garden)

Cymalau tyfu cennin Pedr

(Llun trwy garedigrwydd Doug Green’s Garden)

Cofiwch, mae angen goleuni, cynhesrwydd a dŵr ar flodau i dyfu. Y llynedd roedd y tymheredd cyfartalog yn 6.0°, ac ers dechrau’r project yn 2006 dim ond dwy flynedd oedd yn gynhesach. 2013-2014 welodd y glawiad mwyaf o 187mm, ond dim ond 69 awr o heulwen a gawson ni, yr ail leiaf. Canlyniad hyn oedd i’r planhigion flodeuo yn gynharach na 2012-2013, oedd yn llawer oerach a gyda peth llai o law ac oriau heulwen. Sut dywydd ydych chi wedi ei weld? Ydych chi’n credu bydd y planhigion yn blodeuo yn gynt neu yn hwyrach na’r llynedd? 

Rwy’n edrych ymlaen i weld eich data chi yr wythnos hon! 

Rydych chi’n gwneud gwaith gwych Gyfeillion y Gwanwyn. 

Athro’r Ardd

Eich cwestiynau, fy atebion:

Ysgol Gynradd Morningside: Roedd hi’n wythnos oer a gwlyb ofnadwy yn Morningside yr wythnos hon! Roedd ychydig o eira ar lawr hefyd ac efallai bod peth wedi toddi yn y mesurydd dŵr.  Athro’r Ardd: Eira! Am hwyl! Rydych chi’n iawn i ddyfalu bod yr eira’n toddi yn y mesurydd. Mae’r tir yn oerach na phlastig y mesurydd, yn enwedig os oedd dŵr glaw yn y mesurydd wrth i’r eira syrthio. Gallwch chi ddefnyddio’r mesurydd i gofnodi faint o eira sy’n disgyn hefyd, a bydda i’n esbonio mwy am hyn yn y blog nesaf.

Ysgol Gynradd Newport: Ar ddydd Iau 2 Rhagfyr dyma ni’n symud y thermomedr oherwydd doedden ni ddim yn gweld digon o amrywiaeth yn y tymheredd roedd e’n ei gofnodi yn y lleoliad hwnnw. Roedd e’n fan eithaf cysgodol. Ar ôl symud y thermomedr dyma ni’n cofnodi tymheredd tipyn is, oedd yn profi ein syniad. Athro’r Ardd: Da iawn am sylwi ar hyn Ysgol Gynradd Newport. Mae’n syndod faint o wahaniaeth mae lleoliad yn ei wneud i’r mesuriadau. Yn ddelfrydol, dylech chi osod y thermomedr mewn ardal agored, gysgodol, i’r gogledd o’r Ysgol ac yn ddigon pell o’r adeilad. Gall heulwen, cysgod rhag y gwynt ac adlewyrchiad gwres o adeiladau ac arwynebau gwahanol achosi cofnodion uwch, anghywir.

Ysgol Gynradd Glyncollen: Diolch am y thermomedr newydd. Rydyn ni’n credu bod un o’r bylbiau yn dechrau tyfu oherwydd bod y tywydd wedi bod yn eithaf mwyn. Byddwn ni’n ei wylio’n ofalus. Yw hyn wedi digwydd mewn unrhyw ysgol arall? Athro’r Ardd: Helo Ysgol Gynradd Glyncollen, rwy’n falch bod y thermomedr newydd wedi cyrraedd yn ddiogel a da iawn am sylwi ar sut mae’r tymheredd yn effeithio ar y planhigion. Rydw i wedi edrych drwy eich cofnodion tywydd a gweld taw dim ond yn ystod wythnosau 49 a 50 y disgynnodd y tymheredd yn eich ardal chi. Bydd y glaw yn fuan wedi plannu, a’r tymheredd mwyn yn bendant wedi helpu’r Bylbiau Bach i dyfu! Mae rhai ysgolion eraill wedi gweld egin cyntaf hefyd, gan gynnwys The Blessed Sacrament Catholic Primary School a Silverdale St. John's CE School.

Bickerstaffe CE Primary School: Rydyn ni wedi sylwi bod rhai cennin Pedr a blannwyd flynyddoedd yn ôl wedi tyfu dail newydd hyd at 150mm. Mae nhw mewn man eithaf cysgodol yn agos i adeiladau’r ysgol, fe dynnwn ni lun a’i anfon atoch chi os gofiwn ni. Mae’r plant yn gofyn os yw’r rhain yn fylbiau gwahanol neu wedi dod o wlad wahanol? Athro’r Ardd: Helo Bickerstaffe CE Primary School. Mae’n wych clywed bod eich planhigion yn dechrau tyfu. Mwy na thebyg taw rhywogaeth wahanol yw eich cennin Pedr chi. Mae sawl math gwahanol ac mae sôn am rai yn blodeuo ym mis Tachwedd hyd yn oed! Anfonwch lun o’r blodau ata i ar ôl iddyn nhw flodeuo ac fe wna i fy ngorau i’w hadnabod i chi.

Ysgol Gynradd Glencoats: Mae Ysgol Gynradd Glencoats yn mwynhau gofalu am ei bylbiau. Bydd yn rhoi lliw hyfryd i’n gardd ecolegol. Diolch am ein dewis i fod yn rhan o’r project. Athro’r Ardd: Diolch am gymryd rhan yn y project Ysgol Gynradd Glencoats. Cofiwch anfon llun o’r ardd ecolegol ar ôl i’r planhigion i gyd flodeuo!

Amser Dechre Prynu...

Sara Maidment, 8 Ionawr 2015

Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at fynychu’r sioeau prynu anrhegion yn Birmingham a Llundain yn yr wythnosau nesaf. Mae’n teimlo’n rhyfedd paratoi i osod archeb addurniadau Nadolig 2015 tra byddwn ni yno!

Yn Sioeau’r Gwanwyn bydd ein cyflenwyr yn lansio eu cynnyrch newydd ac mae’n gyfle gwych i gael golwg gynnar ar ffasiwn y tymor. Byddwn ni’n chwilio bob tro am gwmnïau Cymreig, gan alw yn eu stondinau a chanfod cwmnïau y gallwn ni weithio gyda nhw i ddatblygu cynnyrch arbennig ar gyfer Amgueddfa Cymru.

Dyma ni’n darganfod cwmni newydd gwych y llynedd. Dyma ragflas o gyfres newydd fydd ar gael yn ein siopau yn y gwanwyn. Rydyn ni’n dwlu ar y denim ac yn meddwl taw pinc llachar yw’r partner perffaith.

Cofiwch edrych yn y siopau a’r siop ar-lein am gynnyrch newydd.