Mae’r Wefan yn Newid
11 Rhagfyr 2014
,Os ydych chi wedi bod yn pori’n tudalennau Ymweld ac Addysg yn ddiweddar, mae’n siwr ichi ddod ar draws tudalennau sy’n edrych yn wahanol. O’r 9ed o Ragfyr 2014 ymlaen, rydym am dreialu rhannau o wefan Amgueddfa Cymru ar ei newydd wedd.
Mae angen eich adborth chi arnom ni, i wneud yn siwr ein bod ni’n creu’r tudalennau gorau posibl. Os na weithiodd rhywbeth yn ystod eich ymweliad; os oedd unrhywbeth yn anodd i’w ddefnyddio; unrhyw ran o’r tudalennau’n eich drysu neu wybodaeth yn anodd i’w ganfod; neu os oes unrhyw beth yr hoffech chi ein gweld ni’n ei ddiwygio: rhowch wybod i ni. Wrth gwrs, os oes unrhyw beth ‘rydych chi’n ei hoffi am y tudalennau newydd, mi fyddwn yn falch iawn o glywed gennych hefyd!
Pam diweddaru’r wefan?
Wrth i ni archwilio’r hen wefan, mi ddaethom ni o hyd i sawl ardal yr oeddem ni eisiau eu caboli a’u diweddaru.
Un o’n prif amcanion yw ein bod ni’n cyflenwi’r wybodaeth berthnasol i chi, yn gyflym ac yn ddi-ffws. Rydym ni am wneud hyn trwy wella cynnwys y wefan, symleiddio’r profiad gwe-lywio, a thwtio rywfaint ar y tudalennau.
Ein bwriad yw bod pori’r tudalennau newydd yn brofiad cyfoes, ffresh - a bod y wefan yn gweithio’n dda beth bynnag fo’r dechnoleg - ffôn symudol, llechen, rhaglen darllen sgrîn, neu gyfrifiadur desg. Mae ymweld â saith safle ein hamgueddfeydd yn brofiadau unigryw ac felly gobeithio ein bod ni’n adlewyrchu rhywfaint o hynny ar ein gwefan hefyd.
Dim ond rhai ffyrdd o wella’n gwefan yw’r rhain. Fe fyddwn ni’n gwneud rhagor o waith ar y safle yn yr wythnosau a misoedd sydd i ddod.
O’n blaen yn 2015
Yn ystod hanner cyntaf 2015 mi fyddwn yn diweddaru a chaboli rhagor o ardaloedd y wefan. Bydd tudalennau newydd am ein Casgliadau, ein gwaith curadurol a’n gwasanaethau llogi yn ymddangos, yn ogystal â’r blog a siop ar-lein.
Mi fyddwn ni’n sicrhau fod pob ardal o’r wefan gystal ag y gallith fod, trwy wrando ar, a dysgu gan, ddefnyddwyr ein gwefan.
Bydd eich adborth a’ch mewnbwn chi, felly, yn rhan allweddol o wella’r safle. Dim ond y dechrau yw hyn.
Diweddariad 1 - 16 Ionawr 2015
Diolch yn fawr i bawb a anfonodd adborth atom ni dros yr wythnosau diwetha. Mae’r rhestr o fygs a drwsiwyd yn rhy hirfaith i’w bostio yma, ond dyma restr o’r prif bethau ‘dyn ni wedi eu newid:
Digwyddiadau:
- Rydym wedi ychwanegu golwg calendr at ein tudalennau digwyddiadau - nawr, mae modd chwilio digwyddiadau yn ôl dyddiad.
- Ychwanegu opsiwn golwg ‘holl safleoedd’, sy’n dangos digwyddiadau ein holl amgueddfeydd ar un dudalen.
- Newid rhagosodiad y tudalennau digwyddiadau, fel eu bod yn ymddangos fel rhestr yn gyntaf.
- Mae dewisiadau golwg a dyddiad nawr yn ‘ludiog’, felly fyddan nhw ddim yn ail-osod wrth i chi bori digwyddiadau.
Blog - Dyma’r blog ar ei newydd wedd. Gobeithio y byddwch chi’n ei hoffi e!
Chwilio’r Wefan - Rydym ni wedi trwsio nifer o linciau oedd wedi torri. Rydym ni wedi gwella sut y mae canlyniadau chwilio yn ymddangos ar ffôn symudol.Diweddaru Cronfeydd Data Casgliadau - Cronfeydd Data Paleontoleg, Mwnyddiaeth Cymru, Molygsiaid, Fertebratiaid ac Infetibrata Môr oll wedi’u hail-gynllunio a’u diweddaru