Gardd Ysgol SS Philip and James Catalena Angele, 2 Mai 2013 Diolch i Ysgol SS Philip and James am y lluniau ardderchog hyn.Eich gardd yn edrych yn hyfryd!Diolch yn fawr,Athro’r Ardd
Perseus a'r Graiae: Archwilio'r Paentiad 2 Mai 2013 Perseus a’r Graiae Syr Edward Burne-Jones (1833-1898) 1877 Mae'r darn rhyfeddol hwn yn troedio'r ffin rhwng llun a cherflun, a dyma ganolbwynt un o weithiau traethiadol mwyaf uchelgeisiol Burne-Jones. Ym 1875 comisiynodd yr AS ceidwadol ifanc Arthur Balfour (1848-1930), ddaeth yn Brif Weinidog yn ddiweddarach, gylch o weithiau traethiadol ar gyfer parlwr ei gartref yn Llundain. Dewisodd Burne-Jones chwedl yr arwr Groegaidd Perseus, gan rannu'r stori'n gyfres o ddeg golygfa – chwech paentiad olew a phedwar panel cerfwedd isel. Y bwriad oedd arddangos y deg mewn fframwaith gymhleth o sgroliau acanthws yn uchel ar waliau'r parlwr. Oeraidd oedd yr ymateb i'r gwaith pan gafodd ei arddangos ym 1878 fodd bynnag a chafodd gweddill y gyfres ei anghofio, gan adael y panel hwn fel yr unig esiampl. Archwilio'r Paentiad Defnyddiwch y dolenni isod i symud o amgylch y paentiad ac i ddysgu mwy am chwedl Perseus a'r Graiae a hanes cynhyrchu'r gwaith. Perseus Llygad y Graiae Testun Lladin Wynebau a dwylo wedi'u paentio. Gild Geso Perseus Un o arwyr chwedlau Groeg oedd Perseus. Roedd yn hanner duw – mab y duw Zeus a Danaë, merch y brenin dynol Argos. Canolbwyntiodd Burne-Jones ar elfennau mwyaf cyfarwydd y chwedl – sut y chwiliodd yr arwr am y gorgon Medusa, gan ei lladd ac achub Andromeda brydferth. Llygad y Graiae Tair menyw fythol oedrannus oedd y Graiae, chwiorydd i'r gorgoniaid oedd yn rhannu un llygad ac un dant rhyngddynt. Gwelwn Perseus yn dal eu llygad rhwng ei fysedd. Wrth i'r menywod basio'r llygad o un i'r llall dyma Perseus yn ei dwyn, gan addo ei dychwelyd wedi iddyn nhw ddweud wrtho sut i ganfod Medusa. Testun Lladin Adroddir hanes Perseus yn y testun Lladin hir hwn. Cerfiwyd y llythrennau o fahogani cyn eu gorchuddio â geso a gild a'u pinio fesul un i'r panel derw. O edrych yn fanwl gallwn weld y llinellau sialc a dynnwyd yn wreiddiol fel canllaw i'r llythrennau. Defnyddiodd Burne-Jones ddetholiad o fersiwn farddonol o'r chwedl gan ei ffrind agos William Morris (Earthly Paradise, 1868-70). Wynebau a dwylo wedi'u paentio. Mae wynebau a dwylo'r ffigurau wedi cael eu paentio ag olew yn syth ar y panel derw a gallwn weld graen y coed drwy'r haen o baent. Gadawodd Burne-Jones weddill y panel heb ei baentio, gan greu cefndir moel i'r ddelwedd. Gild Geso Modelwyd cyrff, breichiau a dillad y ffigurau mewn geso cerfwedd isel. Gweithiodd Burne-Jones gyda'r arbenigwr geso Osmund Weeks i greu'r gwaith hynod hwn. Yn draddodiadol, glud croen cwningen a sialc gaiff ei ddefnyddio i greu geso. Byddi'n cael ei osod tra'n wlyb a'i gerfio'n ofalus wedi iddo sychu i greu ffurf a manylion eraill. Byddai'r geso yna'n cael ei baratoi cyn i'r dail aur ac arian gael eu gosod drwy ei baentio (coch dan y darnau aur a llwyd tywyll dan y darnau arian).
Peregrines on the Clock Tower 2013 - April 30 Peter Howlett, 30 Ebrill 2013 Update 30 AprilGreat news, at least one chick has hatched over the weekend. The female spent 10 mintues or so tearing off little morsels for a chick this morning. I could just make out a little white head wobbling around. As I write this the female is back brooding the chick and the remaining eggs. Apologies for the quality of the photo, the only way I can get screen shots of any activity is to photograph the screen.
Gwobrau Gwyddonwyr Gwych 2013 Catalena Angele, 22 Ebrill 2013 Bydd Amgueddfa Cymru yn dyfarnu Tystysgrifau Gwyddonwyr Gwych i wyth deg pump o ysgolion ar draws y DU eleni, i gydnabod eu cyfraniad i Ymchwiliad Bylbiau’r Gwanwyn – Newid Hinsawdd.Llongyfarchiadau anferth i bob un o’r ysgolion! Mae rhestr o’r enillwyr isod, ydy’ch ysgol chi yno?Roedd mwy na dwywaith cymaint o ysgolion yn cymryd rhan yn yr ymchwiliad eleni, sy’n newyddion gwych. Mae’n hyfryd bod cymaint ohonoch chi’n helpu gyda’r ymchwiliad pwysig yma.Diolch i bob un o’r 4116 disgybl a helpodd eleni! Diolch am weithio mor galed yn plannu, arsylwi, mesur a chofnodi – rydych chi i gyd yn Wyddonwyr Gwych! Bydd pob un yn derbyn tystysgrif a phensel Gwyddonydd Gwych, ac fe fyddan nhw’n cyrraedd eich ysgol tua canol mis Mai.Diolch yn fawr i Edina Trust am eu nawdd ac am helpu i wireddu’r holl broject!Enillwyr 2013Diolch i’r tri enillydd wnaeth anfon y nifer fwyaf o ddata tywydd. Bydd pob un yn derbyn trip ysgol llawn hwyl i atyniad natur. SS Philip and James Primary School yn Lloegr Ysgol Gynradd Williamstown yng Nghymru Wormit Primary School yn yr Alban Ail safleBydd pob ysgol yn derbyn tocyn anrheg i brynu offer ar gyfer eich projectau garddio. Balcurvie Primary School yn yr Alban Ysgol Gynradd Sofrydd yng Nghymru Stanford in the Vale Primary School yn Lloegr Clod uchelBydd pob ysgol yn derbyn tystysgrifau, pensiliau, hadau blodau’r haul a hadau perlysiau. Balmerino Primary School Blaenycwm Primary School Britannia Community Primary School Coed-y-Lan Primary School Coppull Parish Primary School Dunbog Primary School Freuchie Primary School Glyncollen Primary School Henllys CIW Primary School Oakfield Primary School St Athan Primary School St Joseph's RC Primary School (Penarth) St Roberts Roman Cathlic Primary School Torbain Primary School Tynewater Primary School Westwood CP School Ysgol Gynradd Talybont Ysgol Nant y Coed Ysgol y Ffridd Cydnabyddiaeth arbennigBydd pob ysgol yn derbyn tystysgrifau, pensiliau a hadau blodau’r haul. Brynhyfryd Junior School Bwlchgwyn CP School Darran Park Primary Gladestry CIW School Greyfriars RC Primary School Hawthornden Primary School Kilmaron Special School Lakeside Primary School Llangan Primary School Magor Church in Wales Primary School Milford Haven Junior School Newburgh Primary School Newport Primary School Rhydypenau Primary School Rogiet Primary School St Mary's Catholic Primary School (Wales) St Mary's RC Primary School (England) Stepping Stones Short Stay School Thorneyholme RC Primary School Ysgol Bodafon Ysgol Bryn Garth Ysgol Clocaenog Ysgol Deganwy Ysgol Hiraddug Ysgol Porth y Felin Ysgolion i dderbyn tystysgrifauBydd pob ysgol yn derbyn Tystysgrifau Gwyddonwyr Gwych a phensiliau. Archbishop Hutton's Primary School Auchtertool Primary School Cadoxton Primary School Christchurch CP School Duloch Primary School Eyton Church in Wales Primary School Freckleton CE Primary School Fulwood and Cadley Primary School Harwell Primary School Holy Family RC Primary School Hywel Da Primary School Ladybank Primary School Ladygrove Park Primary School LasswadePrimary School Lever House Primary School Manor Primary School Medlar with Wesham CE Primary School Nether Kellet Primary School Northbourne CE Primary School Park Primary School RAF Benson Primary School Rishton Methodist Primary School Sherwood Primary School St John's Catholic Primary School St Nicholas Primary School Stepaside CP School Tor View Community Special School Weeton Primary School Windale Primary School Ysgol Capelulo Ysgol Gymunedol Dolwyddelan Ysgol Iau Hen Golwyn Ysgol Morfa Rhianedd Ysgol Pencae Da iawn, rydych chi wedi gwneud gwaith ANHYGOEL.Cystadleuaeth Darlunio Cennin Pedr 2013Llongyfarchiadau i'r disgyblion canlynol am creu darluniau botanegol ardderchog! 1st: Oliver – Stanford in the Vale Primary School 2nd: Sam – St Joseph's RC Primary School (Penarth) 3rd: Daniel (age 6) – Stanford in the Vale Primary School Goreuon y Gweddill Etward? (age 6) – Stanford in the Vale Primary School Finlay (age 7) – Stanford in the Vale Primary School Jemima – St Joseph's RC Primary School (Penarth) Joe – St Joseph's RC Primary School (Penarth) Joshua – St Joseph's RC Primary School (Penarth) Joshua (age 7) – Stanford in the Vale Primary School Larson (age 11) – Stanford in the Vale Primary School Leo – Stanford in the Vale Primary School Nathan – St Joseph's RC Primary School (Penarth) William (age 5) – Stanford in the Vale Primary School Diolch yn fawrAthro’r Ardd
Shirley Jones a Gwasg Red Hen John R. Kenyon, 18 Ebrill 2013 Shirley Jones, Nocturne for Wales (1987). Glofa Cwmparc, Cwm Rhondda. (c) Shirley Jones Shirley Jones, Llym Awel (1993). Cigfran yn pesgi ar y meirw wedi brwydr. (c) Shirley Jones Shirley Jones, A Thonnau Gwyllt y Môr / And the Wild Waves of the Sea(2011). Worm's Head, Penrhyn Gŵyr. (c) Shirley Jones Caiff 'llyfr artist' ei greu neu ei lunio gan artist unigol, a gwaith Shirley Jones yw rhai o'r esiamplau cyfoes gorau o Gymru. Fe'i ganwyd yng Ngwm Rhondda, ac wedi astudio llenyddiaeth Saesneg yng Nghaerdydd, dilynodd Shirley Jones gyrsiau creu printiau yn y 1970au cynnar cyn astudio printio ymhellach yng Ngholeg Celf Croydon ym 1975-76. Sefydlodd stiwdio ei hun a dechrau cynhyrchu llyfrau ym 1977, ac ym 1983 lansiodd yr argraffnod Gwasg Red Hen. Ym 1994 symudodd yn ôl i Gymru a sefydlu stiwdio yn Llanhamlach, Ger Aberhonddu. Ei gwaith ei hun bron yn gyfangwbl yw'r llyfrau y bydd Shirley Jones yn eu cynhyrchu. Mae'r testun yn aml yn cynnwys cerddi ac atgofion personol neu gyfieithiadau o Gymraeg a Hen Saesneg hyd yn oed, a'r cyfan wedi'i brintio ar bapur wedi'i wneud â llaw neu fowld. Mae'r llyfrau wedi'u rhwymo, a rhai wedi'u cadw mewn bocsys unigryw, pob un wedi'i greu gan rwymwyr profiadol. Bychan mewn nifer oedd ei hargraffiadau cyntaf. Er enghraifft, roedd ei gwaith cyntaf fel myfyrwraig, Words and Prints (1975), yn argraffiad chwe chopi yn unig. Cynhyrchodd ddeuddeg copi o'i hail lyfr, Windows (1977), a phum copi ar hugain o'i thrydydd llyfr, The Same Sun (1978). Cynhyrchodd ddeugain copi o Greek Dance (1980), ac mae'r rhan fwyaf o'i gweithiau diweddar wedi ymddangos mewn niferoedd rhwng pump ar hugain a hanner cant. Prif atyniad ei llyfrau yw ei darluniau, boed yn acwatint, ysgythriadau neu mezzotint. Mae galw mawr wedi bod erioed am lyfrau Gwasg Red Hen yn Unol Daleithiau'r America, gyda dros drigain o sefydliadau yno yn meddu ar gopïau o'i gwaith a thri ar ddeg yn meddu ar ddeg neu fwy o gopïau. Yn y Deyrnas Unedig mae unarddeg o sefydliadau yn casglu ei gwaith, gan gynnwys Amgueddfa ac Oriel Gelf Brycheiniog, ac mae deg neu fwy o deitlau ym meddiant y Llyfrgell Brydeinig, Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Cymru. Gwelir copïau hefyd mewn llyfrgelloedd a phrifysgolion yn Awstralia, Canada, yr Almaen, Iwerddon, yr Iseldiroedd a De Affrica. Daeth Gwasg Red Hen i sylw Llyfrgell Amgueddfa Cymru ym 1999, pan y prynwyd Nocturne for Wales (1987), Llym Awel (1993), Falls the Shadow (1995) ac Etched in Autumn (1997). Mae'r llyfrgell wedi caffael pob un o'i gweithiau a gyhoeddwyd er hynny yn ogystal â dau o'i llyfrau cynharach: Five Flowers for my Father (1990) a Two Moons (1991). Enw'r gwaith diweddaraf ganddi yw A Thonnau Gwyllt y Môr / And the Wild Waves of the Sea (2011), a chynhyrchwyd deg ar hugain o gopïau. Cyfrol o gerddi yw hi, gyda thraethawd rhagarweiniol a thri acwatint a dau mezzotint o arfordir ac ynysoedd Cymru yn ategu'r farddoniaeth. Ymhlith y teitlau eraill mae Etched Out (2003), sy'n adrodd hanes trigolion mynydd Epynt a gafodd eu symud o'u cartrefi yn ystod yr Ail Ryfel Byd, er mwyn i'r fyddin ddefnyddio'r tir. Ar ddalen ymestynnol mae gwaith mezzotint yn cofnodi enwau hanner cant o ffermydd, ynghyd â rhai ffigurau sydd wedi'u seilio ar ddelweddau yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Gwnaed rhai o'r dalennau yn arbennig ar gyfer y llyfr gan ddefnyddio pridd coch Epynt. Gwelir un o ddelweddau mwyaf trawiadol Shirley Jones yn y gyfrol Two Moons, a dyma'r mezzotint gaiff ei defnyddio, fel un o naw, ar glawr y llyfr a gyhoeddir i ddathlu pen-blwydd Gwasg Red Hen yn ddeg ar hugain: Shirley Jones and the Red Hen Press: a Bibliography, casglwyd gan Ronald D. Patkus, Vassar College, University of Vermont (2013).