Mae Athro’r Ardd Angen Eich Help!

Thomas Lloyd, 9 Chwefror 2021

Blwyddyn Newydd Dda Cyfeillion y Gwanwyn!  Mae Chwefror arnom ni’n barod sy’n golygu bydd gwanwyn yma cyn i ni wybod.  Efallai bod rhai ohonoch wedi sylwi bod eich bylbiau yn egino – os felly rydych chi’n bell ar eich ffordd i flodau hardd.  Peidiwch â phoeni os na welwch egin eto, gall rhai bylbiau gymryd ychydig yn hirach cyn eu bo nhw’n barod i egino, yn enwedig os yw’r tywydd yn oer.

Rydyn ni gyd yn gwybod bydd y gwanwyn yma ychydig yn wahanol i flynyddoedd eraill.  Rwy’n siŵr bydd nifer ohonoch chi’n colli eich dosbarth a’ch iard os ydych yn dysgu oddi adref.  Efallai bod ambell un ohonoch yn poeni am eich Bylbiau Bychan yn ôl yn yr ysgol heb unrhyw un i edrych ar eu hol – peidiwch â phoeni, bydd eich bylbiau yn ddiogel ac yn sownd, yn enwedig os ydynt wedi eu plannu tu allan.

Er nad ydyn ni gyd yn yr ysgol ar hyn o bryd mae Athro’r Ardd dal angen eich help i gasglu data’r tywydd a bois bach mae cryn dipyn o ddata i’w casglu!  Mae’n holl bwysig ein bod ni’n cadw cofnod o’r glawiad a’r tymheredd wrth i’n bylbiau tyfu gan fydd hyn yn helpu ni deall a dehongli ein canlyniadau’n well yn y gwanwyn.  Rydw i wedi meddwl am ambell ffordd y gallwch chi gadw eich Baby Bulbs yn hapus a helpu Professor Plant parhau i gasglu data’r tywydd a blodeuo.  Byddaf wrth fy modd os allwch fy helpu trwy wneud un o’r canlynol os yn bosib:

 

Syniadau Athro's Ardd ar gyfer parhau i gasglu data oddi adref:

  • Gall Bulb Buddies/rhieni gasglu’r potiau yn ddiogel a monitro eu tyfiant oddi adref?
  • Gall Bulb Buddy sy’n byw yn agos at yr ysgol casglu’r offer monitro tywydd a chymryd cyfnodau oddi adref?
  • A fydd athro sy’n dal i fynychu’r ysgol fod yn hapus i gasglu data tywydd a blodeuo gydag unrhyw Bulb Buddies sydd hefyd dal i fynychu ysgol?  Gall y data gael ei lanlwytho i’r wefan neu ei gasglu i’r dosbarth gwreiddiol ei lanlwytho unwaith i bawb ddychwelyd.
  • Oes unrhywun arall sydd â mynediad i’r ysgol byddai’n fodlon cadw llygad ar y planhigion?

 

Beth arall gall Bulb Buddies eu gwneud oddi adref?

  • Mae’n holl bwysig casglu data tywydd am ein bylbiau – efalli gallwch gadw dyddiadur tywydd ar gyfer Athro’r Ardd
  • Bydd gan wefan gwylio tywydd swyddfa’r MET data tymheredd a glawiad dyddiol ar gyfer eich ardal, efallai gallwch gofnodi'r rhain yn ddyddiol?
  • Dylai Bulb Buddies a rhieni sy’n dysgu oddi adref cadw llygad ar wefan Bylbiau’r Gwanwyn am adnoddau dysgu a gweithgareddau i geisio yn y tŷBeth am rannu eich gwaith caled ar Drydar?  Fy nolen yw @Professor_Plant

 

Diolch o galon unwaith eto am eich help Cyfeillion, rydych chi gyd yn gwneud gwaith arbennig gyda’r ymchwiliad yma a gallaf byth gwneud hwn heboch chi gyd! Hoffwn hefyd dweud diolch i’r athrawon a’r rhieni yn ogystal – rydyn ni gyd yn ddiolchgar iawn am eich cymorth wrth oresgyn trafferthion y tymor.

Garddio hapus i chi gyd!

Athro’r Ardd.

 

Arddangosfa Rithwir a Sgyrsiau Olion nawr ar gael ar-lein

Lowri Ifor, 9 Chwefror 2021

Mae’r byd wedi gweld newid mawr yn y flwyddyn ddiwethaf, ac mae’r bygythiad i’r blaned a achosir gan newid hinsawdd yn cynyddu. Mae’r argyfwng hinsawdd yn effeithio ar bawb, boed hen neu ifanc, ond gallwn wneud penderfyniadau fel unigolion a fel cymdeithas i frwydro’n erbyn newid hinsawdd cyn ei bod hi’n rhy hwyr.

Ddiwedd Ionawr, lansiwyd gŵyl ddigidol newydd Olion – cyfres o sgyrsiau a digwyddiadau am newid hinsawdd a chynaliadwyedd. Fel rhan o’r ŵyl, rhoddwyd galwad agored i artistiaid ifanc Cymru i gyfrannu at arddangosfa rithwir gyda gwaith ar thema protest, cynaliadwyedd neu newid hinsawdd. Mae’r arddangosfa hon bellach ar gael i’w gweld arlein yma: artsteps | Arddangosfa Rithwir Olion - Footprints Virtual Exhibition

Cliciwch ar y gweithiau i ddysgu mwy am yr artistiaid a beth â’u hysbrydolodd, yna ewch i http://doo.vote/footprintsexhibition i bleidleisio am eich ffefryn. Chwefror 28 yw’r dyddiad cau a bydd gwobr i’r artist â’r mwyaf o bleidleisiau.

Mae holl sgyrsiau byw yr wŷl bellach ar gael ar sianel Youtube Amgueddfa Cymru. Dyma beth sydd ar gael:

Cartrefi Cynaliadwy Ddoe Heddiw ac Yfory – 20 mlynedd ers agor ‘Y Tŷ Ar Gyfer y Dyfodol’

Yn 2001, agorwyd y ‘Tŷ ar Gyfer y Dyfodol’ yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan. Roedd yr adeilad arloesol yma’n ffrwyth llafur cydweithio rhwng yr amgueddfa a phenseiri Jestico + Whiles i adeiladu cartref cynaliadwy oedd yn darogan safon tai yng Nghymru erbyn 2050. Mae ugain mlynedd bellach wedi pasio, felly ymunwch a’n panel am drafodaeth ynglyn a pherthnasedd y ‘Tŷ ar Gyfer y Dyfodol’ erbyn heddiw, sut yr ysbrydolwyd y cywaith gan adeiladau hanesyddol Sain Ffagan, a datblygiadau cyffrous ym maes cartrefi ac ynni cynaliadwy at y dyfodol.

Panel

Talulah Thomas (Cadeirydd) – Cynhyrchydd Amgueddfa Cymru

Dafydd Wiliam – Prif Guradur Adeiladau Hanesyddol

Elinor Gray-Williams – Pensaer, PEGWArchitects

Grant Peisley – DEG Cymru

Meilyr Tomos – Y Dref Werdd

Mae’r sgwrs hon drwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae fersiwn gyda’r cyfieithu ar y pryd hefyd ar gael.

Cymraeg: Olion-Footprints 2021: Cartrefi Cynaliadwy Ddoe, Heddiw ac Yfory CYMRAEG - YouTube

Cyfieithu ar y pryd: Olion-Footprints 2021: Sustainable Homes Past Present and Future WITH ENGLISH TRANSLATION - YouTube

Ffarwelio â Ffasiwn Brys

Dim ond y diwydiant olew sy’n creu mwy o lygredd yn y byd na’r diwydiant ffasiwn, ac mae cynhyrchu ffasiwn yn gyfrifol am 20% o holl lygredd dŵr diwydiannol pob blwyddyn. Yn y DU, rydym yn prynu mwy o ddillad pob blwyddyn na unrhyw wlad arall yn Ewrop, ac mae tua 300,000 tunnell o hen ddillad yn cael eu llosgi neu eu rhoi mewn tomenni sbwriel pob blwyddyn. Mae’n amlwg fod gennym ni broblem gyda ffasiwn brys, ond sut allwn ni symud ymlaen?

Bu’n panel yn trafod y prif faterion sy’n ymwneud a ffasiwn brys, y camau y gallwn eu cymryd fel unigolion, a hefyd sut i sicrhau fod cwmnïau mawr yn gweithredu. Beth ydy ‘greenwashing’? Beth mae cwmnïau ffasiwn yng Nghymru yn ei wneud i fod yn fwy cynaliadwy? Sut y gallwn dorri’r cylch o brynu’n newydd trwy’r amser a gwneud y mwyaf o’r dillad sydd gennym yn barod? Gwyliwch y drafodaeth i ddysgu mwy!

Panel

Izzy Mcleod (Cadeirydd) – Cynhyrchydd Amgueddfa Cymru, blog themuccycloud.com

Imogen Ferda-Riley – perchennog cwmni dillad cynaliadwy Clecs Cymru

Elen Mai – blog cynaliadwyedd welshwanderer.com

Ophelia Dos Santos – dylunydd tecstiliau

Mae’r sgwrs hon drwy gyfrwng y Saesneg: Olion-Footprints 2021: Ffarwelio â Ffasiwn Brys Farewell to Fast Fashion - YouTube

Caru Bwyd Casau Gwastraff: Symud at Ddyfodol Bwyd Cynaliadwy

Mae cartrefi’r DU yn gwastraffu 4.5 miliwn tunnell o fwyd bwytadwy pob blwyddyn, ac os petai gwastraff bwyd y byd yn wlad, hi fyddai’r allyrrydd trydydd mwyaf o nwyon tŷ gwydr ar ôl China a’r Unol Daleithiau. Mae nifer o brosiectau a mentrau’n cydweithio i greu dyfodol bwyd cynaliadwy, ac mae lleihau gwastraff bwyd yn gam gyntaf bwysig yn y broses.

Bu ein panel yn trafod pam fod lleihau gwastraff bwyd yn bwysig a beth allwn ni wneud am hyn, pwysigrwydd bwyta a choginio’n dymhorol a’r economi fwyd leol, a materion ehangach am gynaliadwyedd bwyd ar draws a thu hwnt i Gymru. Gwyliwch i ddysgu mwy ac am gamau ymarferol o bethau bach all bawb wneud i helpu!

Panel

Pearl Costello (cadeirydd) – ymgynghorydd cynaliadwyedd

Margaret Ogunbanwo – sefydlydd cwmni bwyd Maggie’s African Twist, awdur

Dan Hunt – perchennog siop gynaliadwy Siop y Glorian

Becca Clark – Green Squirrel

Mae’r sgwrs hon drwy gyfrwng y Saesneg ac ar gael yma: Olion-Footprints 2021: Caru Bwyd Casau Gwastraff Love Food Hate Waste - YouTube

CYSTADLEUAETH! Creuwch a Traddodwch stori wedi eu Hysbrydoli gan y Ffrog Briodas hon.

Angharad Wynne, 1 Chwefror 2021

Mae'n Wythnos Genedlaethol Storïo !! Er mwyn ei ddathlu, rydyn ni'n eich gwahodd i greu a dweud stori wrthym .... am y ffrog briodas hon!

Byddwn yn adrodd mwy o hanes y ffrog yma ar ddiwedd y gystadleuaeth, gan nad ydym am gyfyngu ar eich creadigrwydd na dylanwadu ar eich syniadau, ond efallai y byddai gennych ddiddordeb gwybod ei bod wedi'i gwneud o frethyn cain, wedi'i brynu ym 1974, pan oedd ein hamgueddfa yn dal i fod yn felin wlân weithredol o'r enw Melin Cambrian.

Bydd yr enillydd yn derbyn Carthen Cymraeg wlân ddwbl, a wnaed ar ein safle amgueddfa gan Melin Teifi. Mae nifer o ddewisiadau lliw ar gael.

Bydd y gwehydd stori orau yn ennill blanced Gymraeg ddwbl hardd, draddodiadol, a wnaed gan Melin Teifi ar ein safle amgueddfa. Yn draddodiadol, rhoddwyd y blancedi hyn fel anrheg briodas, ac maent yn parhau i gael eu gwerthfawrogi a'u casglu ledled y byd.

SUT I GYSTADLU:

Mae'r grefft o adrodd straeon yn un hynafol yma yng Nghymru. Cafodd ei ymarfer gan Gyfarwyddion yn llysoedd ein brenhinoedd ac arglwyddi yn ogystal ag wrth dan yr efail ac ar aelwydydd ledled y Genedl. I anrhydeddu'r traddodiad hwn, ar gyfer wythnos adrodd straeon, rydyn ni'n gofyn i chi DDWEUD stori, yn hytrach nag ysgrifennu un i lawr. Mae croeso i chi ymgeisio trwy'r Gymraeg neu'r Saesneg. Felly,

1. Breuddwydiwch, dychmygwch a meddyliwch trwy stori fer, wreiddiol, a ysbrydolwyd gan y ffrog briodas hon o'n casgliad. Efallai y bydd hi'n ddefnyddiol i chi nodi ychydig o bwyntiau i strwythuro’r stori.

2. Ymarferwch DWEUD y stori, ac amserwch eich hun i sicrhau ei bod DAN 2 FINUD O HYD. Ni fyddwn yn derbyn straeon sy'n mynd dros amser.

3. Pan fyddwch chi'n teimlo'n hyderus, ffilmiwch eich hun yn adrodd y stori mewn llai na 2 funud. Nid oes angen iddo fod yn ffansi, bydd ffilm ar gamera ffôn yn hollol dderbyniol. Fel arall, allech chi recordio'ch hun yn siarad y stori (dim mwy na 2 funud o hyd) ac anfon y recordiad sain atom. Fodd bynnag, peidiwch â DARLLEN stori I ni. Mae gwahaniaeth mawr rhwng traddodi stori ar lafar a'i darllen. 

4. Pan fydd gennych recordiad ffilm / sain rydych chi'n hapus ag ef, anfonwch e dros e-bost atom gan ddefnyddio’r cyfeiriad yma: stori@amgueddfacymru.ac.uk

Yn draddodiadol, rhoddid y blancedi yma'n anrhegion priodas, ac maent yn parhau i gael eu gwerthfawrogi a'u casglu ledled y byd.

DYDDIAD CAU’R GYSTADLEUAETH: DYDD MERCHER 10 CHWEFROR am 15:00. Am delerau ac amodau cystadlu, gwelwch isod

Byddwn yn rhannu'r 5 stori orau trwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol ar Ddydd San Ffolant, ac yn cyhoeddi'r enillydd y prynhawn hwnnw.

 

 
 

CYNGOR AM RECORDIO EICH STORI YN DEFNYDDIO FFÔN SYMUDOL / TABLET / GLINIADUR / CYFRIFIADUR BEN-DESG

Goleuo

- Defnyddiwch olau naturiol: y tu allan neu wrth ymyl y ffenestr gyda'r golau ar eich wyneb.

- Ceisiwch osgoi cael golau’r tu cefn i chi, megis ffenestr, lampau, teledu ayyb.

 

Fframio a Lleoli

- Ffilmiwch gan ddefnyddio fformat  tirwedd, yn hytrach na portred.

- Cadwch eich ffôn mor llonydd ag y gallwch trwy ddefnyddio tripod neu ei orffwys ar wyneb cyson. Cisiwch osgoi ffilmio â llaw.

 

Cofnodi ar Gliniadur neu Gyfrifiadur Ben-desg

- Cychwynwch Zoom, Tims, Skype, FaceTime ac ati gan sicrhau eich bod chi'n gallu gweld eich hun, yna dechreuwch QuickTime Player.

 

Defnyddio nodwedd cipio sgrin gyda QuickTime Player

- O fewn y rhaglen: File, “New Screen Recording”, pwyswch botwm recordio coch i ddechrau recordio.

- Pwyswch y botwm stopio i ddiweddu'r recordiad.

- Safiwch y ffeil: Ffeil, “Export As”, 1080p, teitl y fideo, dewis lleoliad y ffeil, “Save”.

 

Telerau ac Amodau
· Yr Hyrwyddwr yw: Amgueddfa Genedlaethol Cymru / the National Museum of Wales (Rhif Elusen: 525774) sydd â’i swyddfeydd cofrestredig ym Mharc Cathays, Caerdydd, CF10 3NP.
· Ni chaiff gweithwyr Amgueddfa Genedlaethol Cymru na aelodau'r teulu, neu unrhyw un arall sydd ynghlwm â'r gystadleuaeth mewn unrhyw fodd, gystadlu.
· Nid oes tâl mynediad i'r gystadleuaeth ac nid oes yn rhaid gwneud unrhyw bryniad i gystadlu.
· Ni fydd unrhyw ymgais sy’n rhoi ymgeisydd, staff neu unrhyw berson arall mewn perygl yn gymwys ar gyfer y gystadleuaeth.
· Nid yw’r Hyrwyddwr yn gyfrifol am unrhyw anaf neu niwed corfforol i ymgeiswyr neu unrhyw berson arall wrth gymryd rhan yn y gystadleuaeth hon.
· Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw sicrhau eu bod yn cymryd y camau angenrheidiol i sicrhau eu diogelwch eu hunain, ac unrhyw berson arall presennol, tra’u bod yn cymryd rhan yn y gystadleuaeth.
· Dyddiad cau’r gystadleuaeth fydd Mercher, 10 Chwefror am 15.00. Wedi’r dyddiad hwn ni chaiff ceisiadau pellach eu derbyn.
· Ni dderbynnir cyfrifoldeb am unrhyw geisiadau nas derbynnir, am unrhyw reswm. Nid yw prawf anfon yn brawf fod y cais wedi'i dderbyn.
· Ceidw’r Hyrwyddwr yr hawl i ddileu neu newid y gystadleuaeth a’r telerau a’r amodau hyn heb rybudd yn achos unrhyw ddigwyddiad y tu hwnt i reolaeth yr Hyrwyddwr. Bydd yr Hyrwyddwr yn hysbysu’r ymgeiswyr cyn gynted â phosibl o unrhyw newid i’r gystadleuaeth.
· Nid yw’r Hyrwyddwr yn gyfrifol am fanylion anghywir am wobrau a ddarperir i ymgeisydd gan unrhyw drydydd parti sydd ynghlwm â’r gystadleuaeth.
· Ni chaiff gwobrau ariannol eu cynnig yn lle’r gwobrau a nodir. Ni ellir trosglwyddo’r gwobrau. Cynigir y gwobrau yn unol â’u hargaeledd a cheidw’r Hyrwyddwr yr hawl i gyfnewid unrhyw wobr am wobr gyfwerth heb rybudd.
· Caiff yr enillwyr eu dewis gan gynrychiolydd yr Hyrwyddwr.
· Caiff yr enillwyr eu hysbysu drwy ebost, Facebook neu Twitter erbyn 15 Chwefror. Os na ellir cysylltu â’r enillwyr, neu os na fyddant yn hawlio eu gwobr o fewn 72 awr o gael eu hysbysu, cedwir yr hawl i dynnu’r wobr yn ôl a’i dyfarnu i enillydd arall.
· Bydd yr Hyrwyddwr yn hysbysu’r enillydd pryd a ble y gellir casglu’r wobr – neu lle i’w bostio
· Bydd penderfyniadau’r Hyrwyddwr, ym mhob achos yn ymwneud â’r gystadleuaeth, yn derfynol ac ni atebir unrhyw ohebiaeth.
· Caiff y gystadleuaeth a’r telerau ac amodau hyn eu rheoli dan gyfraith y DU a bydd unrhyw anghydfod yn atebol i awdurdod llysoedd y DU yn unig.
· Wrth ymgeisio, mae pob ymgeisydd yn rhyddhau Facebook, Twitter a Instagram o unrhyw a phob atebolrwydd sy'n ymwneud â'r gystadleuaeth hon.
· Bydd pob ymgeisydd yn cytuno y gall Amgueddfa Genedlaethol Cymru arddangos a rhannu’r cais a gyflwynwyd, ar eu gwefan a’u cyfrifon cyfryngau cymdeithasol, gan gydnabod eu henw os yw’r wybodaeth ar gael. Erys hawlfraint ddeallusol y gweithiau ym meddiant yr ymgeisydd
· Mae’r enillwyr yn cytuno i yrru neges o gydnabyddiaeth ar Facebook, Instagram neu Twitter, gan enwi @amgueddfacymru yn eu neges.
· Mae’r enillydd yn cytuno y gellir defnyddio ei enw, llun, a’r gwaith a gyflwynwyd mewn unrhyw ddeunydd cyhoeddusrwydd.
· Caiff unrhyw ddata personol yn ymwneud â’r enillydd neu unrhyw ymgeiswyr eraill ei ddefnyddio’n unol â chyfraith ddiogelu data gyfredol y DU yn unig ac ni chaiff ei ddatgelu i drydydd parti heb ganiatâd ymlaen llaw gan yr ymgeisydd.
· Bydd ymgeisio yn y gystadleuaeth yn gyfystyr â derbyn y telerau ac amodau hyn.
· Nid yw’r gystadleuaeth hon wedi ei noddi, ei chymeradwyo na’i gweinyddu, nac ychwaith yn gysylltiedig â Facebook neu unrhyw Rwydwaith Gymdeithasol arall. Rydych yn darparu eich gwybodaeth bersonol i Amgueddfa Cymru yn hytrach nag unrhyw barti arall. Caiff y wybodaeth a ddarperir ei defnyddio yn unol â’r Ddeddf Diogelu Data.

Cacennau Blasus, Rhamantus yn barod ar gyfer Dydd Santes Dwynwen

Angharad Wynne, 20 Ionawr 2021

Mae'n Ddydd Santes Dwynwen ar 25 Ionawr, y diwrnod pan rydyn ni'n dathlu cariad yma yng Nghymru. Rhag ofn eich bod ar wahan oddi wrth anwylyd yn ystod y cyfnod clo hwn, rydyn ni'n rhannu’r rysáit hon yn gynnar er mwyn i chi gael cyfle i'w danfon yn y post. Beth bynnag rydych chi'n ei wneud, rydyn ni'n anfon cwtch mawr Covid- ddiogel atoch o'r amgueddfa.

Daw'r rysáit hyfryd hon wrth ein tîm arlwyo yn Amgueddfa Wlân Cymru yn Drefach Felindre.

 

Pice Bach Siap Calon

 

CYNHWYSION:

Blawd hunan-godi 1 lb

Menyn 8oz

Siwgr caster 6oz

2 wy

2 lond llaw o gyrens - neu llugaeron os ydych chi am ychwanegu tipyn o liw coch ar gyfer diwrnod Santes Dwynwen!

Menyn ychwanegol ar gyfer seimio

 

DULL:

1. Hidlwch y blawd mewn i fowlen ac ychwanegwch y menyn wedi'i ddeisio.

2. Rhwbiwch â'ch bysedd, neu mewn prosesydd bwyd, nes bod y gymysgedd yn debyg i friwsion bara.

3. Ychwanegwch y siwgr, y cyrens / llugaeron a'r wyau wedi'u curo a'u cymysgu'n dda i ffurfio pelen o does, gan ddefnyddio sblash o laeth os oes angen.

4. Rholiwch y toes allan ar fwrdd â blawd arno i drwch o tua 5mm / ½ modfedd.

5. Torrwch y toes gyda thorrwr siap calon 7.5–10cm / 3-4in.

6. Rhwbiwch lech neu radell haearn trwm â menyn, sychwch unrhyw ormodedd a'i roi ar yr hob nes ei fod yn cael ei gynhesu drwyddo.

7. Coginiwch y picie bach ychydig ar y tro am 2–3 munud ar bob ochr, neu nes eu bod yn frown euraidd.

8. Tynnwch o'r radell a taenwch siwgr mân trostynt tra’n gynnes.

Dyma nhw! Pice Bach blasus a rhamantus!

Mwynhewch!!

 

Arddangosfa Gobaith - Diweddariad y Flwyddyn Newydd!

Kate Evans, 6 Ionawr 2021

Lansiodd Arddangosfa Gobaith Amgueddfa Wlân Cymru ym mis Ebrill 2020, ar ddechrau’r cyfnod clo cenedlaethol. Nod y project yw creu sgwariau lliw enfys 8” neu 20cm gan ddefnyddio hoff dechneg y crefftwr – gweu, ffeltio, gwehyddu neu grosio. Bydd y sgwariau wedyn yn cael eu rhoi at ei gilydd gan wirfoddolwyr Amgueddfa Wlân Cymru gan greu carthen enfys enfawr a gaiff ei arddangos yn yr Amgueddfa ac yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe. Yn dilyn yr arddangosfa caiff carthenni llai eu creu o’r garthen enfawr a’u rhoi i elusennau amrywiol.

Hoffem ddweud diolch yn fawr i bawb sydd wedi cyfrannu at y project hyd yn hyn, mae’r ymateb wedi bod yn anhygoel ac rydym wedi derbyn dros 670 o sgwariau o bob cwr o’r wlad! Rydym yn ddiolchgar am bob sgwâr a dderbyniwn, ynghyd â’ch negeseuon caredig a dymuniadau gorau. Mae’n hyfryd clywed bod cynifer ohonoch wedi teimlo bod creu’r sgwariau hyn wedi helpu yn ystod y cyfnod digynsail a heriol hwn. Er nad oes modd i ni gyfarfod, rydym yn un mewn ysbryd, gobaith a chymuned.

Aeres Ingram yw ein cyfrannwr mwyaf toreithiog ar hyn o bryd, mae hi wedi gwau 70 sgwâr ar gyfer y flanced! Wrth siarad am y prosiect, meddai:

"roedd gwau’r sgwariau ar gyfer y flanced enfys wedi fy helpu'n fawr yn ystod y cyfnod clo ac fe roddodd ymdeimlad o berthyn a chyflawniad i mi, gan wybod fy mod yn ymwneud â rhywbeth pwysig a hefyd helpu rhai mewn angen. Edrychaf ymlaen at weld y darnau wedi’u gwnïo gyda’i gilydd a’r flanced orffenedig."

Cafodd Arddangosfa Gobaith ei chynnwys yn Wythnos Addysg Oedolion a rhyddhawyd dau fideo o’r Grefftwraig Non Mitchell yn dangos sut i greu sgwâr wedi’i ffeltio a’i wehyddu. Os hoffech greu sgwar, gymrwch olwg ar rhain:


  

Rhannodd elusen Crisis (de Cymru), sy’n cefnogi pobl ddigartref, wybodaeth am Arddangosfa Gobaith ar eu tudalennau Facebook a chreu pecynnau yn cynnwys gwlân a chyfarwyddiadau i’w hanfon at ddefnyddwyr y gwasanaeth i’w helpu i gymryd rhan.

Lluniwyd y sgwariau hynod gain mewn lliwiau, arddulliau, pwythau, a chynlluniau amrywiol. Dyma hanes rhai o’r sgwariau a’u crefftwyr...

Sgwâr o liwiau'r enfys wedi'i wau ar gyfer y flanced obaith

Crewyd y sgwâr hwn gan ein Gwirfoddolwr Gardd Susan Martin. Mae Susan wedi troellli edafedd ei hun a’i liwio’n naturiol. Mae’r lliwiau enfys yn dod o gymysgu glaslys, llysiau lliw a’r gwreiddrudd gwyllt â gwyn i greu effaith ysgafnach a brethynnog, gellir dod o hyd i’r holl blanhigion hyn yng Ngardd Lliwurau Amgueddfa Wlân Cymru. Derbyniodd Gardd Lliwurau Naturiol yr Amgueddfa Wobr Gymunedol y Faner Werdd sy’n newyddion arbennig! Mae rhagor o wybodaeth am yr Ardd Liwurau ar ein gwefan.

Sgwâr wedi'i weu a logo Amgueddfa Genedlaethol y Glannau arno ar gyfer ein blanced obaith.

Lluniwyd y sgwâr hwn gan y Gwirfoddolwr Crefft Cristina gan ddefnyddio’r edafedd cyntaf a wnaed gan y Cynorthwyydd Amgueddfa, Stephen Williams, a’r crefftwyr dan hyfforddiant Richard Collins a James Whittall wrth iddynt ddysgu i droelli. Cyfrannodd ymwelwyr yn ogystal at greu’r edafedd, gan gynnwys menyw oedd heb droelli ers ugain mlynedd, plentyn tra byddar, â mam i aelod o staff.

Sgwâr wedi'i weu a logo Amgueddfa Genedlaethol y Glannau arno ar gyfer ein blanced obaith.

Crëwyd y sgwâr hyfryd hwn gyda logo’r Amgueddfa gan Gynorthwyydd Oriel Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Ruth Melton.

Rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu’r Gwirfoddolwyr Crefft yn ôl i’r Amgueddfa y flwyddyn yma a dechrau ar y gwaith o greu’r garthen. Cadwch lygad barcud ar ein gwefan a’n tudalennau cyfryngau cymdeithasol i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

Diolch i The Ashley Family Foundation a  Sefydliad Cymunedol Cymru am gefnogaeth gyda’r prosiect.

Y dyddiad cau ar hyn o bryd ar gyfer cyfraniadau yw 31/03/2021. Cliciwch yma am wybodaeth ar sut i gymryd rhan.

Diolch unwaith eto am eich holl gefnogaeth.