Pencampwyr Bylbiau’r Gwanwyn i Ysgolion

Penny Dacey, 19 Ebrill 2021

Dechreuodd ymchwiliad Bylbiau’r Gwanwyn i Ysgolion yn 2005 ac mae wedi bod yn cyflwyno disgyblion CA2 i wyddoniaeth, newid hinsawdd a’r amgylchfyd naturiol ers 16 mlynedd. Gwelwyd sawl her yn ystod project 2020-21 a fu’n ysbrydoliaeth i ni gyd weithio mewn ffyrdd newydd a dyfeisgar.

Mae ysgolion ar draws y DU wedi dangos penderfyniad a gallu amryddawn wrth fynd i’r afael â heriau a achoswyd gan y pandemig a’r cyfyngiadau a ddaeth yn ei sgil. Rydym yn ddiolchgar i’r holl ysgolion a barhaodd i gasglu a rhannu data tywydd. Fe wnaethant hyn yn aml drwy ofyn i ddisgyblion sy’n byw gerllaw’r ysgol i fynd â’r offer tywydd gartref. Roedd y disgyblion hyn yn gyfrifol am gofnodi ac uwchlwytho’r data ar ran eu hysgolion yn ystod y cyfnod clo.

Byddwn ni’n cwrdd â rhai o Wyddonwyr Gwych Bylbiau’r Gwanwyn i Ysgolion drwy gofnodion Blog. Ein Pencampwr cyntaf yw Riley, sydd wedi bod yn cofnodi darlleniadau tywydd ar gyfer Ysgol Gynradd Stanford in the Vale.

C. Sut flwyddyn wyt ti wedi ei chael yn y cyfnod clo?
A. Dwi wedi cael blwyddyn gymysg, dwi wedi bod yn falch i fynd nôl i’r ysgol achos doeddwn i ddim wir yn hoffi dysgu o gartref. Roeddwn i’n hapus i weld fy ffrindiau i gyd!!  

C. Pam wyt ti’n meddwl fod y project yn bwysig?
A. Dwi’n credu fod y project yn bwysig iawn. Yn ogystal â helpu gyda sgiliau mathemateg, mae hefyd yn mynd â chi mas i’r ardd i gael hwyl.

C. Sut wnest ti helpu i gynnal y project?
A. Eleni dwi wedi bod yn helpu gyda’r project drwy wneud y mesuriadau tywydd o gartref. Dwi’n credu bod hi’n bwysig i gadw’r project i fynd hyd yn oed yn ystod y cyfnod clo!

C. Beth wyt ti’n ei fwynhau am wneud mesuriadau?
A. Dwi’n mwynhau gweld y gwahaniaethau yn y tywydd bob dydd, dwi’n hoffi sut ti’n gallu cael diwrnodau amrywiol iawn o ran tymheredd a glawiad. Mae pob diwrnod yn wahanol!

C. Beth wyt ti wedi sylwi am dy fesuriadau tywydd a blodau eleni?
A. Dwi wedi sylwi eleni fod gyda ni rai dyddiau poeth iawn gyda rhai tymhereddau yn cyrraedd hyd at 25 gradd ym mis Mawrth!!  

C. Beth wyt ti’n edrych ymlaen ato fwyaf wedi’r cyfnod clo?
A. Y peth dwi’n edrych mlaen ato fwyaf yw gweld teulu a ffrindiau eto!! Mae’n teimlo fel gymaint o amser ers i fi ei gweld nhw!!

Diolch Riley.

Diolch i chi am eich holl waith caled Gyfeillion y Gwanwyn,

Athro’r Ardd

 

Casglu hanesion LGBTQ+ yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Mark Etheridge, 14 Ebrill 2021

Mae Casgliad LGBTQ+ Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru yn cynnwys gwrthrychau, dogfennau, ffotograffau a hanesion llafar sy'n ymdrin â meysydd fel digwyddiadau Pride a gweithredaeth, ynghyd ag eitemau sy'n cynrychioli bywydau bob dydd pobl LGBTQ+.

Digwyddiadau Pride

Bob blwyddyn fel arfer, mae yna amryw o ddigwyddiadau Pride bychain, a mwy o faint, yn cael eu cynnal ledled Cymru. Mae'r digwyddiadau hyn fel arfer yn cynnwys gorymdaith, cerddoriaeth a digwyddiadau eraill sy'n dathlu’r gymuned LGBTQ a’i gwneud yn weledol, gyda phobl o bob cwr o Gymru yn dod ynghyd i gymryd rhan. Dros y flwyddyn ddiwethaf, rwyf wedi canolbwyntio ar gasglu yn y maes hwn gan fod digwyddiadau Pride ledled Cymru wedi tyfu’n ddiweddar. Ymhlith y rhain roedd Pride Llanilltud Fawr (digwyddiad Pride cyntaf Bro Morgannwg) a gynhaliwyd ar 1 Medi 2018; Digwyddiad Pride BAME cyntaf Cymru, a gynhaliwyd ar 19 Awst 2019; a digwyddiad Pride cyntaf y Barri, a gynhaliwyd ar 21 Medi 2019.

Taflen ar gyfer digwyddiad Pride Llanilltud Fawr

Taflen ar gyfer digwyddiad Pride Llanilltud Fawr, sef digwyddiad Pride cyntaf Bro Morgannwg, a gynhaliwyd ar 1 Medi 2018.
© Amgueddfa Cymru - National Museum Wales

Roedd digwyddiadau Pride yn ystod 2020 yn wahanol iawn oherwydd COVID-19. Cafodd rhai eu canslo, tra bod llawer o rai eraill wedi’u cynnal fel digwyddiadau Pride rhithwir. Roedd y rhain yn cynnwys Abberation Pride ar gyfer cymuned LGBTQ canolbarth Cymru, a gynhaliwyd ar 18 Gorffennaf; digwyddiad Pride rhithwir Cymru gyfan a gynhaliwyd ar 24 a 25 Gorffennaf (lle cyfrannodd grwpiau cymunedol ac unigolion o bob cwr o Gymru); a cynhaliodd Glitter Cymru ddigwyddiad Pride rhithwir ar 22 Awst. Yn lle’r digwyddiad Pride mwyaf yng Nghymru, sef Pride Cymru – sydd fel arfer yn cael ei gynnal yng Nghaerdydd dros benwythnos Gŵyl y Banc ar ddiwedd mis Awst – cynhaliwyd Wythnos Fawr Rithwir rhwng 24 a 30 Awst, lle roedd cyfranogiad yr Amgueddfa yn cynnwys Taith Rithwir Queer o’r casgliadau Celf a Hanes, ac Archaeoleg.

Taflen ar gyfer yr hyn a fyddai wedi bod yn ddigwyddiad Pride cyntaf Powys

Taflen ar gyfer yr hyn a fyddai wedi bod yn ddigwyddiad Pride cyntaf Powys. Roedd y digwyddiad wedi’i drefnu ar gyfer 27 Mehefin 2020 ond cafodd ei ganslo oherwydd y pandemig.
© Amgueddfa Cymru - National Museum Wales

Golygai’r symud i gynnal digwyddiadau Pride rhithwir yn 2020 ein bod ni wedi gorfod addasu ein dulliau casglu. Gan mai prin oedd y gwrthrychau ffisegol oedd ar gael i’w casglu, gorfu i ni newid i ddigidol, gan gasglu rhai o’r fideos a’r deunydd marchnata digidol ar gyfer y casgliad cenedlaethol. Gweithiais gydag LGBTQymru o’r dechrau’n deg i wneud yn siŵr bod y rhaglen gyflawn o ddigwyddiad cyntaf Pride Rhithwir Cymru Gyfan yn cael ei gasglu, ac erbyn hyn mae wedi’i chadw yn yr archif yn Sain Ffagan fel cofnod parhaol. Mae’r digwyddiadau Pride rhithwir hyn yn dangos sut y gwnaeth cymuned LGBTQ Cymru ymateb ac addasu i’r argyfwng COVID-19.

Taflen ddigidol ar gyfer digwyddiad Pride rhithwir Glitter Cymru

Taflen ddigidol ar gyfer digwyddiad Pride rhithwir Glitter Cymru.
© Amgueddfa Cymru - National Museum Wales

Protestiadau a'r Gwrthdystiadau

Mae cydraddoldeb mewn meysydd fel priodas rhwng cyplau o’r un rhyw yn rhywbeth y brwydrodd y gymuned LGBTQ a’u cyfeillion yn gryf amdano. Golygai hynny unigolion a grwpiau yn dod ynghyd i brotestio dros hawliau cyfartal, mynd i’r afael â gwahaniaethu, a chyflawni amcanion eraill oedd ganddynt yn gyffredin. Mae gan Sain Ffagan rai gwrthrychau pwysig sy'n cynrychioli rhai o'r protestiadau a'r gwrthdystiadau hyn. Un enghraifft yw'r faner hon, a wnaed tua’r flwyddyn 2000 ac a gariwyd yn yr orymdaith yn Gay Pride yn Llundain gan y Rhwydwaith Lesbiaid Hŷn (Cymru). Sefydlwyd y grŵp hwn ym 1993 i roi cyfleoedd i lesbiaid hŷn oedd yn gwrthwynebu gwahaniaethu, ac roedd yn cael ei redeg gan wirfoddolwyr gyda'r nod o annog balchder a hyder yn ei aelodau.

Baner y Rhwydwaith Lesbiaid Hŷn (Cymru) a wnaed tua 2000

Baner y Rhwydwaith Lesbiaid Hŷn (Cymru) a wnaed tua 2000.
© Amgueddfa Cymru - National Museum Wales

Glitter Cymru

Sefydlwyd Glitter Cymru yn 2016 fel grŵp cymdeithasol a chymorth ar gyfer pobl LGBTQ o leiafrifoedd ethnig sy'n byw yng Nghymru. Cafodd eu baner gyntaf ei gwneud yn 2018 a’i chario ar orymdeithiau Pride i amlygu gwelededd pobl LGBTQ o leiafrifoedd ethnig yng Nghymru. Fe'i defnyddiwyd hefyd yn nigwyddiad Pride BAME cyntaf Cymru a gynhaliwyd ar 10 Awst 2019 yng Nghanolfan Gymunedol Cathays, Caerdydd, yn ogystal â chael ei gosod ar y drws yn ystod cyfarfodydd Glitter.

Baner Glitter Cymru a gafodd ei gwneud yn 2018

Baner Glitter Cymru a gafodd ei gwneud yn 2018.
© Amgueddfa Cymru - National Museum Wales

Adran 28

Cafodd Adran 28 o’r Ddeddf Llywodraeth Leol ei gwneud yn ddeddf gwlad ym mis Mai 1988, i wahardd hyrwyddo cyfunrywioldeb gan awdurdodau lleol, a gwahardd ysgolion rhag addysgu bod ‘cyfunrywioldeb yn dderbyniol fel perthynas deuluol ffug.’ Dyma oedd geiriau’r Prif Weinidog, Margaret Thatcher, ar y pryd: "Children who need to be taught to respect traditional moral values are being taught that they have an inalienable right to be gay”. Yr hyn wnaeth arwain yn rhannol at y gyfraith oedd cwynion am y llyfr 'Jenny Lives with Eric and Martin', sef llyfr plant gan yr awdur Susanne Bösche a gyhoeddwyd gyntaf yn Saesneg ym 1983 gan Gay Men's Press. Nod yr awdur oedd rhoi gwybodaeth i blant am wahanol fathau o berthnasoedd teuluol, ond pan ddaethpwyd o hyd iddo mewn llyfrgell gyhoeddus ym 1986 cafodd lawer o sylw gan rai o gyfryngau'r DU.

Mae’r llyfr hwn o 1988 yn gwneud hwyl am ben y stŵr a achoswyd gan y llyfr gwreiddiol

Mae’r llyfr hwn o 1988 yn gwneud hwyl am ben y stŵr a achoswyd gan y llyfr gwreiddiol. O gasgliad o ddeunydd gweithredydd lesbiaidd a roddwyd gan Sheryl Checuti o Gaerdydd.
© Amgueddfa Cymru - National Museum Wales

Achosodd Adran 28 nifer fawr o brotestiadau gan ymgyrchwyr oedd yn dadlau bod y Ddeddf yn gwahaniaethu yn erbyn pobl gyfunrhywiol a'i bod yn anoddefgar ac yn anghyfiawn. Diddymwyd y gyfraith yn y pen draw yn 2000 yn yr Alban, ac yn 2003 yng ngweddill y DU. Yng Nghymru, bu nifer o brotestiadau ledled y wlad. Ar un orymdaith brotest yn Aberystwyth roedd aelodau o CYLCH (Cymdeithas Lesbiaid a Hoywon Cymraeg eu Hiaith).

Baner a ddefnyddiwyd gan CYLCH i brotestio yn erbyn Adran 28 mewn gorymdaith yn Aberystwyth

Baner a ddefnyddiwyd gan CYLCH i brotestio yn erbyn Adran 28 mewn gorymdaith yn Aberystwyth.
© Amgueddfa Cymru - National Museum Wales

Bathodyn a wisgwyd yn ystod yr ymgyrch yn erbyn Adran 28

Bathodyn a wisgwyd yn ystod yr ymgyrch yn erbyn Adran 28.
© Amgueddfa Cymru - National Museum Wales

Mae ymgyrchoedd dros hawliau cyfartal yn bendant yn dal i fynd rhagddynt. Yn y gorffennol, roedd cyfyngiadau a osodwyd gan y Pwyllgor Diogelwch Gwaed, Meinweoedd ac Organau (SABTO, sef pwyllgor ymgynghorol y DU ar y mater hwn) yn atal dynion hoyw a deurywiol rhag rhoi gwaed. Ar ôl blynyddoedd lawer o ymgyrchu, cafwyd newyddion da ar 14 Rhagfyr 2020, pan gyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai'r gwaharddiad, a rhai cyfyngiadau yn cael eu codi – cam mawr tuag at gydraddoldeb llawn yn y maes hwn.

Poster ar gyfer ymgyrch gan Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr yn erbyn gwahaniaethu wrth roi gwaed

Poster ar gyfer ymgyrch gan Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr yn erbyn gwahaniaethu wrth roi gwaed.
© Amgueddfa Cymru - National Museum Wales

Oni bai bod gwrthrychau a'u straeon cysylltiedig yn cael eu cadw ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, ni fydd lleoedd fel Sain Ffagan yn gallu adrodd hanes llawn y gymuned LGBTQ yng Nghymru. Cysylltwch â mi os oes gennych chi unrhyw wrthrychau yr hoffech eu rhoi i helpu i adeiladu'r casgliad LGBTQ+ cenedlaethol yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan.

Yn olaf, fe allwch chi chwilio am wrthrychau o'r casgliad yn Sain Ffagan a’u gweld ar gatalog Casgliadau Ar-lein yr Amgueddfa

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn wreiddiol ar wefan y Senedd fel rhan o Fis Hanes LGBT+ 2021. Mae’n trafod rhai o’r gwrthrychau yng nghasgliad Sain Ffagan a gasglwyd o ddigwyddiadau Pride amrywiol, a deunydd ymgyrchu a wnaed ac a gafodd ei wisgo i brotestio yn erbyn Adran 28.

Blodau Bendigedig

Thomas Lloyd, 25 Mawrth 2021

Shwmae Cyfeillion y Gwanwyn!

Mae nifer ohonoch wedi yn sôn yn ddiweddar bod eich Bylbiau Bychan wedi blodeuo sy’n wych!  Mae amser yn dod i ben i lanlwytho eich data blodeuo i’r wefan Bylbiau’r Gwanwyn i Ysgolion os nad ydych wedi yn barod.  Y dyddiad cau yw dydd Gwener Ebrill 2ail, sydd hefyd yn Ddydd Gwener y Groglith felly gallwch fwynhau picen y Grog ar ôl lanlwytho’ch data!  Sicrhewch fod eich data blodeuo wedi ei lanlwytho erbyn y dyddiad yma i sicrhau fod pob Cyfaill y Gwanwyn yn derbyn eu tystysgrif Gwyddonwyr Gwych!

Wyddoch chi fedrwch adael sylwad wrth lanlwytho eich data blodeuo a thywydd?  Di wrth fy mod yn clywed am eich profiadau gofalu am eich Bylbiau Bychan felly plîs cadwch y sylwadau'n dod trwy’r wefan Bylbiau’r Gwanwyn i Ysgolion neu ar Drydar.  Dyma ambell o’ch sylwadau o’r wythnosau diwethaf:

  • “Ar ddiwrnodau heulog mae’r blodau crcoys yn agor fel sêr” – Dosbarth 2, Coastlands Primary.
  • “Braf yw gweld sut mae’r blodyn yn cau wedi tywydd oer ac agor wrth i’r haul ddod allan!” – Amy, Stanford in the Vale Primary.

Arsylwadau arbennig Cyfeillion! Mae rhai blodau yn fregus a byddant yn cau i amddiffyn eu hun rhag y tywydd oer a all eu niweidio.  Wrth i dymereddau codi maent yn “agor fel sêr!”

Mae Ysgol Henllys yn sicr wedi cael canlyniadau cennin Pedr cymysg:

  • “Roedd fy un i yn dal iawn” - Aneurin
  • “Roedd fy un i yn denau” - Emily
  • “Roedd fy un i yn dda iawn nes bo’r gwynt yn ei dorri” - Oliver

O diar, mae’n flin gen i glywed hynny Oliver! Yn sicr fe gawsom ni gyd gwyntoedd cryf yn ddiweddar sydd yn gallu fod yn beryglus i gennin Pedr tal.  Llwyddoch chi gyd dyfu blodau ac nid chi sydd ar fai.

  • “Agorodd fy mwlb i heddiw ond mae rhywbeth wedi bwyta’r petalau.  Mae nifer o’n bylbiau wedi eu dwgyd gan wiwerod yn ystod yr hydref a gwelsom ni rhai ohonynt yn gwneud ar ein camera nos!” – Alexandra, Livingston Village Primary School

Nid dyma’r tro cyntaf i mi glywed am ladron blewog yn dwyn bylbiau ac yn anffodus nid dyma’r unig sylwad o’r Cyfeillion yma yn sôn am hyn.  Anghofiwn weithiau fod bylbiau a phlanhigion hefyd yn fwyd i greaduriaid eraill.  Yr unig les yw eich bod wedi sicrhau pryd o fwyd i anifeiliaid llwglyd!  Ni allaf gredu eich bod wedi ei ddal ar gamera – oes gennych lun allwch rannu?

  • “Mae’n debyg fod ein bylbiau yn y ddaear wedi agor yn gyntaf ym mis Chwefror a rydant yn fwy o lawer na’r rhai wedi eu plannu ym mhotiau.  Rydyn ni gyd wrth ein boddau yn gwneud y prosiect yma a rhaid rhoi canmoliaeth arbennig i Riley (cyn-ddisgybl yr ysgol) am helpu Mrs. Finney gyda’r arsylwadau tywydd a glawiad yn ystod lockdown” - Mrs. Finney, Stanford in the Vale Primary School.

Arsylwad diddorol iawn - mae gan fylbiau sy’n tyfu yn y ddaear mwy o fwynau a gwagle i dyfu na bylbiau sy’n tyfu ym mhotiau felly rydant yn aml yn blodeuo’n gynt ac yn tyfu’n dalach os ydynt wedi eu cysgodi rhag y gwynt.  Rydw i wrth fy modd clywed eich bod chi gyd wedi mwynhau gweithio ar y prosiect eleni ag am ymdrech wych gan Riley!  Darllenaf eich holl sylwadau hyfryd ynglŷn â’r tywydd a garddio a diolch o galon am helpu Mrs. Finney gyda’r gwaith dros lockdown, rwyt yn Gyfaill y Gwanwyn anhygoel!

Mae’r flwyddyn yma wedi bod yn anodd i bawb ond rydych chi gyd wedi gwneud gwaith anhygoel ac mae gweld gymaint o flodau hardd yn dystiolaeth o’ch holl waith caled.  Diolch o galon unwaith eto Cyfeillion y Gwanwyn, athrawon a rhieni!  Gobeithiwn agor ymgeision am Fylbiau’r Gwanwyn 2021 – 22 yn dilyn gwyliau’r Pasg, felly os ydych wedi mwynhau bod yn Gyfeillion eleni gewch chi gyfle gofalu am ragor o Fylbiau Bychan tymor nesaf!

Garddio Hapus!

Athro’r Ardd.

Darn o'r blaned goch

Andrew Haycock - Curadur Gwyddorau Naturiol Mwynoleg a Phetroleg, 18 Mawrth 2021

Y penwythnos hwn bydd ein Curaduron yn agor drysau ar-lein i'n casgliadau meteoryn a chreigiau gofod hynod ddiddorol. Ymunwch â nhw ddydd Sadwrn a dydd Sul am teithiau rhad ac am ddim y tu ôl i'r llenni, wedi'u ffrydio ar wefan Amgueddfa Cymru, fel rhan o'n Penwythnos Serydda Syfrdanol. Yna ddydd Sul, bydd seryddwyr arbenigol yn ymuno â’n curaduron i ateb eich cwestiynau mewn digwyddiad byw. Am fanylion pellach ac i archebu lle, gwelwch:

Serydda Syfrdanol

.

Dyma Andrew Haycock, Curadur Mwynoleg a Gwyddorau Petroleg Naturiol yn cynnig blas o’r penwythnos ac yn rhannu’r cefndir ar un o'n trysorau gofod, craig o'r blaned Mawrth.

Mae 77 meteoryn yng nghasgliad Amgueddfa Cymru, a ddarganfuwyd mewn ardaloedd ledled y Byd. Mae rhai o'r rhain yn cael eu harddangos yn barhaol yn ein Oriel Esblygiad Cymru. Maent yn cynnwys gwibfaen haearn 260kg, a ddisgynnodd yn Namibia, Affrica; a thafell o feteoryn caregog a ddisgynnodd yn Beddgelert ym 1949. Mae'r gwibfaen hwn yn un o ddim ond dau feteoryn o Gymru.

Mae'r mwyafrif helaeth o feteorynnau yn y casgliad yn cael eu cadw mewn storfa sydd a hinsawdd wedi ei reoli i atal dadfeilio, ond fe'u defnyddir yn aml ar gyfer ein digwyddiadau arbennig ar thema’r Gofod a’n gweithgareddau addysgiadol. Mae gan bob sbesimen - waeth pa mor fach neu fawr, weledol syfrdanol neu ddibwys ei olwg - stori ddiddorol i'w hadrodd. Un sbesimen anhynod ei olwg yw meteoryn shergottite caregog a gasglwyd yn Libya ym 1998.

Shergotte yw’r meteoryn yma o’r blaned Mawrth (NMW 2010.17G.R.26). Er bod wyneb y blaned Mawrth yn edrych yn goch, llwyd yw’r creigiau sydd gennym, dim ond llwch wyneb y blaned sy'n rhoi’r lliw oren iddo.

Mae tua 95% o ddarganfyddiadau meteorynau yn cael eu graddio fel ‘caregog’, ac yn cynnwys mwynau sy’n gyffredin i’r Ddaear yn bennaf, ac mae’r mwyafrif o rhain (99.8%) tua 4,560 miliwn o flynyddoedd oed, ac yn tarddu o’r Llain Asteroid rhwng y blaned Mawrth a Iau. Mae hynny’n hen iawn, a gellid maddau i arsylwr achlysurol feddwl mai dim ond meteoryn caregog arall oedd y gwibfaen shergottite hwn, ond mewn gwirionedd mae'n eithaf arbennig, darn ydyw o'r blaned Mawrth.

O'r 65,000 neu fwy o feteorynnau, a gasglwyd, a archwiliwyd ac a enwyd, dim ond 292 sy'n cael eu hystyried i darddu o'r blaned Mawrth. Gellir eu dosbarthu fel tri math gwahanol o graig, pob un yn darddiad igneaidd (wedi'i ffurfio o fagma neu lafa). Maent yn llawer iau na'r gwibfeini o'r gwregys Asteroid, ac fe'u ffurfiwyd gan weithgaredd folcanig ar blaned Mawrth rhwng 165 a 1,340 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Dim ond un gwibfaenu hyn, a ddarganfuwyd ym Mryniau Allen yn Antarctica, y credir ei fod oddeutu 4,500 miliwn o flynyddoedd oed, ac o gramen gychwynnol Mawrth pan ffurfiwyd y blaned.

Mae’r planed Mawrth wedi bod yn y newyddion lawer yn ddiweddar (Chwefror 2021), gyda glaniad crwydrwr Perseverance NASA. Prif waith y crwydrwr yw chwilio am arwyddion o fywyd hynafol a chasglu samplau o graig a regolith (craig a phridd wedi malu) er mwyn eu dychwelyd i'r Ddaear o bosib.

Liawns y crwydrwr Perserverance i'r blaned Mawrth, 30 Gorffennaf 2020

Cyn glanio’r crwydrwr Perseverance, danfonwyd pedwar crwydryn arall yn llwyddiannus i’r blaned Mawrth gan anfon data gwerthfawr yn ôl at wyddonwyr ar y Ddaear; Sojourner (1997), Spirit and Opportunity (2004); a Curiosity (2012). Roedd y llong ofod gyntaf i lanio'n llwyddiannus ar y blaned yn rhan o genadaethau Viking 1 a Viking 2 (Cylchlwybrwr a Glaniwr) a gyrhaeddodd y blaned Mawrth ym 1976.

Felly, sut mae gwyddonwyr yn gwybod bod y gwibfeini hyn o'r blaned Mawrth? Trwy astudio cyfansoddiad meteorynnau tebyg i'r un hwn, a'i gymharu â data a anfonwyd yn ôl gan long ofod ar y blaned Mawrth. Canfuwyd bod gan y meteorynnau gyfansoddiadau elfennol ac isotopig tebyg iawn i rai creigiau o Fawrth. Mae'r grŵp Shergottite o feteorynnau o’r blaned Mawrth yn debyg iawn i greigiau basalt a geir ar y Ddaear, ond mae'r isotopau ocsigen yn wahanol i rai creigiau'r Ddaear.

Darparwyd tystiolaeth derfynol ar gyfer tarddiad o’r blaned Mawrth ym 1983, pan ddadansoddwyd swigod bach o nwy wedi'u amrwydo y tu mewn i ddarnau gwydrog o feteoryn shergottite o Antarctica. Roedd y nwyon yma’n cyd-fynd yn berffaith â llofnod awyrgylch Mawrth fel yr adroddwyd gan lanwyr Viking 1 a 2 NASA ym 1976.

Nid oes unrhyw ofodwyr wedi bod i'r blaned Mawrth, ac nid oes unrhyw ddeunydd o'r blaned Mawrth wedi'i anfon yn ôl i'r Ddaear hyd yn hyn. Felly sut gyrhaeddodd craig o'r blaned Mawrth i'r Ddaear? Yr unig fecanwaith hysbys i daflu craig o'r blaned Mawrth yw digwyddiad gwibfaen enfawr. Byddai'r hyn wedi taro’r blaned Mawrth gyda digon o rym i daflu malurion allan i'r Gofod, i ffwrdd o dynfa disgyrchiant y blaned, sy'n llawer llai nag effaith y Ddaear. Ar ryw adeg cafodd y gwibfeini eu gwyro o'u chwylgylch a'u tynnu i mewn i faes disgyrchiant y Ddaear. Yna syrthiodd peth o'r malurion hyn i'r Ddaear fel gwibfeini.

Mae'r crater 3-miliwn-mlwydd-oed Mojave, yn 58.5 km mewn diamedr. Hwn yw’r crater ieuengaf o'i faint ar y blaned, ac wedi'i nodi fel ffynhonnell bosibl i'r mwyafrif o feteorynnau o’r blaned Mawrth.

Yn wahanol i'r Lleuad, o ran y blaned Mawrth, nid oes gan wyddonwyr greigiau a gasglwyd gan ofodwr i'w hastudio. Ond mae ganddyn nhw'r peth gorau nesaf, a’r meteorynnau yma o’r blaned Mawrth ydyn nhw.

 

 

Seren Wib!

Jana Horak, 9 Mawrth 2021

Ydych chi wedi gweld lluniau o bêl tân y feteoryn a deithiodd trwy ein hatmosffer ar 28 Chwefror? Mae ein tîm wedi bod yn gweithio i helpu gwyddonwyr i ddod o hyd i’r man y glaniodd oflaen cartref ger Caerloyw! Er 2019, mae Amgueddfa Cymru wedi bod yn rhan o rwydwaith SCAMP (System of Asteroid and Meteorite Paths) y DU, rhan o Gynghrair Pêl Dân y DU sy'n canfod, yn olrhain ac yn helpu i ddod o hyd i gwympiadau meteor. Dyma Jana Horak, ein Pennaeth Mwynoleg a Phetroleg, yn esbonio sut, ac yn eich gwahodd i ymuno â hi a rhai o'i chydweithwyr curadurol ar gyfer taith ar-lein y tu ôl i'r llenni o'n casgliad meteoryn yn ystod ein penwythnos Serydda Syfrdanol ar 20-21 Mawrth.

Bob blwyddyn mae curaduron yn yr Amgueddfa yn archwilio nifer o samplau o feteorynnau posib y mae'r cyhoedd yn eu darganfod. Mae gwyddonwyr yn amcangyfrif bod tua 44,000 cilogram o graig yn cwympo o'r gofod ac yn glanio ar y Ddaear bob dydd, gall hyn swnio'n faint mawr, ond mae’n cyfateb i giwb dim ond 2.3 metr ar draws. Yn y DU yn unig, amcangyfrifir bod 10-20 meteoryn y flwyddyn yn cyrraedd y ddaear, er i’r un olaf i'w ddarganfod yn Swydd Caergrawnt syrthio yn 1991. Yng Nghymru, dim ond dau feteoryn sydd wedi'u casglu hyd yma, gan fod y ddau wedi cwympo'n agos (neu trwy!) drigfan ddynol, y ddau yng Ngogledd Cymru. Edrychwch ar ein tudalennau Mwnyddiaeth Cymru i gael mwy o wybodaeth.

Ond os na welwn feteoryn yn cwympo, sut ydyn ni'n gwybod ble i chwilio amdanyn nhw? Mewn rhanbarthau cras, fel Anialwch y Sahara, mae haen allanol dywyll gwibfaen yn cyferbynnu ag arwyneb anialwch caregog gwelw, gan wneud y gwibfaen yn gymharol hawdd i'w weld. Yng Nghymru, fodd bynnag, mae ein hinsawdd dymherus yn cynhyrchu gorchudd pridd a llystyfiant datblygedig, felly mae'n hawdd colli carreg sy'n cwympo.

Camera SCAMP ar Do’r Amgueddfa yng Nghaerdydd, sy'n cofnodi gweithgaredd peli tân. Fe recordiodd belen dân Caerloyw (28ain Chwefror 2021) ac mae wedi cyfrannu at helpu i ddod o hyd i samplau.

Pan fydd craig ofod yn teithio tuag at y Ddaear, wedi’i thynnu gan ddisgyrchiant y Ddaear, mae llewyrch y bêl dân neu’r ‘seren wib’ yn ein rhybuddio am y tresmaswr hwn. Os gallwn gofnodi cyfeiriad (neu lwybr) y bêl dân, efallai y byddwn yn gallu nodi lle mae'r meteoryn yn cwympo. Ers 2019, mae Amgueddfa Cymru wedi bod yn rhan o rwydwaith SCAMP (https://www.ukfall.org.uk/) sy'n gwneud yn union hynny. Mae camera arbennig ar do Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, yn cofnodi unrhyw belen dân sy'n pasio. O'r data hwn gellir pennu cyfradd a chyfeiriad teithio, a thrwy gyfuno gwybodaeth o gamerâu eraill y DU, gallant gyfrifo'r lleoliad lle mae'r gwibfaen yn taro'r ddaear.

Ers i’r camera gael ei osod, rydym wedi recordio sawl pelen dân, ond dim ond dau o rhain arweinoodd at gwymp meteoryn. Ystyriwyd bod y cyntaf, ger Salisbury ym mis Tachwedd 2020, yn rhy fach i geisio’i ddarganfod, ond bydd yr un mwy diweddar ger Caerloyw (28ain Chwefror 2021) yn brawf o'r system, gan yr amcangyfrifir ei fod yn cynnwys darn maint oren. Pe byddech chi'n dod ar draws meteoryn sydd wedi cwympo'n ddiweddar, mae'n well ei lapio mewn rhywfaint o ffoil alwminiwm glân neu ei roi mewn bag heb ei drafod. Mae'n bwysig iawn peidio â'i brofi â magnet oherwydd gallai hyn ddinistrio gwybodaeth werthfawr. Gallwch gysylltu â ni yma yn yr Amgueddfa i gadarnhau unrhyw beth a ddarganfyddwch.

Sampl o feteoryn Chelyabinsk a ddisgynnodd yn y Ffederasiwn Rwseg ym mis Chwefror 2013.

 

Felly sut allwch chi wybod os ydych wedi dod o hyd i feteoryn, heb ei weld yn syrthio? Er y gall gwead mewnol meteorynnau amrywio, y peth mwyaf nodweddiadol ohonynt yw cramen wedi’i doddi. Dyma'r haen allanol dywyll, ychydig filimetrau o drwch, a gynhyrchir trwy ffrithiant yn toddi‘r graig wrth iddi wyro trwy'r awyrgylch. Pan fydd hi'n boeth ac yn teithio'n gyflym, mae'r haen doddi yn cael ei dynnu i ffwrdd, gan leihau maint y graig, a llyfnhau ei amlinell. Wrth iddo arafu, oeri a stopio disgleirio mae'r haen doddi yn oeri ac yn solidoli, i gynhyrchu’r wyneb allanol tywyll a llyfn nodweddiadol, y gall cyfres o graciau bach ei groesi. Mae gan y gwibfaen Chelyabinsk a ddisgynnodd yng ngorllewin Siberia, ym mis Chwefror 2013, gramen doddi ffres a datblygedig iawn.

Y sbesimenau mwyaf cyffredin a welwn a allai gael eu drysu â meteorau yw; hematite, yn enwedig pan fod ganddo ffurf llyfn swmpus, modwlau marcasite o Sialc de Lloegr, a samplau o slag, cynnyrch o orffennol diwydiannol Cymru ’. Yn gyffredin mae gan Slag geudodau swigen nwy crwn ar yr wyneb, rhywbeth sy'n anghyffredin neu'n absennol o gramennau meteoryn.

Os credwch eich bod wedi dod o hyd i feteoryn, cysylltwch ag Adran y Gwyddorau Naturiol.

Serydda Syfrdanol 20 - 21 Mawrth 2021

Gwybodaeth lawn am ein penwythnos o Serydda Syfrdanol yma