Holiadur Casglu Covid – yr ymateb hyd yma

Elen Phillips, 22 Mehefin 2020

Mae mis wedi mynd heibio ers i ni lawnsio ein holiadur Casglu Covid digidol. Os gofiwch chi, nod yr ymgyrch hon yw casglu profiadau unigolion a chymunedau ar draws Cymru am fywyd yn ystod y pandemig presennol.  

Hyd yn hyn, rydym wedi derbyn dros 800 o gyfraniadau cynhwysfawr, gyda’r niferoedd yn cynyddu bob dydd. Mae’r holiadur yn rhoi cyfle i bobl fyfyrio ar eu profiadau diweddar, i fynegi eu teimladau a’u hemosiynau, yn ogystal â’u dyheadau a’u pryderon am y dyfodol. Mae’r ymatebion sydd wedi dod i law yn du hwnt o bwerus – straeon am golled a dioddefaint, pryder ac unigrwydd, ochr yn ochr â thystiolaeth am ddyfeisgarwch a charedigrwydd teulu a chymdogion. Dyma flas o rai o’r cyfraniadau hyd yma.

Mae nifer o fy ffrindiau lleol a minnau wedi teimlo'n euog am gael cystal amser yn y pandemig – heb golli anwyliaid eto, heb golli swyddi… Mi fydd felly yn ddyletswydd ar y rhai ohonom sydd wedi cadw neu atgyfnerthu ein iechyd meddwl i chwarae rhan gweithgar yn cefnogi y rhai llai ffodus pan awn yn ôl at rywbeth tebycach i'r hen arferion. Bydded hynny trwy helpu 1-1 neu trwy weithredu'n wleidyddol neu rhywbeth arall.

Sali, Gwynedd

Methu ymweld â fy mam yng nghyfraith 96 oed yn yr ysbyty a ninnau'n gwybod gymaint oedd ei hiraeth am ei theulu. Welon ni ddim mohoni am fis cyn ei marwolaeth. Gorfod mynd â dillad a sebon iddi yn yr ysbyty ond ddim yn cael mynd ymhellach na desg y dderbynfa a hithau ond ychydig lathenni i ffwrdd. Eistedd yn y ty dros benwythnos y Pasg yn aros i'r ysbyty ffonio i gyhoeddi ei marwolaeth ar ôl iddyn nhw ddweud bod y diwedd o fewn ychydig oriau, ac nad oedd modd i ni ei gweld.

Sylfia, Pontypridd

Mae'r emosiynau yn newid o ddiwrnod i ddiwrnod. Diolch byth bod gen i deulu i gael cwtsho. Meddwl am rai sydd methu cael cwtsh wrth eu teuluoedd.

Rhian, Abertawe

Dwi di siarad mwy yn y clo hwn nag erioed. Gynt rhyw 'Sut ma hi heddiw?' ac ymlaen oedd hi. Rwan da ni'n aros a chael sgwrs iawn a diddorol o un ochr y lon i'r llall… Mae arferion yn treiddio i'r meddwl. Heddiw mi geis fy hun yn dal dair metr o'r wraig, ac yna sylweddoli, 'be ti'n neud?' Mae pob am dro di bod yn igam ogam, ond y sgwrsio di bod yn fwy ar draws ffordd, o bafin i bafin.

Di-enw, Llanrug

Mae fy nheimladau'n dod fel tonnau. Gallai fod yn ddiolchgar, derbyn y sefyllfa a trio gweld positif yn y sefyllfa ar y mwyaf ond reit ddagreuol dros bethau bach adeg eraill.

Leri, Caerdydd

Yn bositif, y gwanwyn godidog na'th helpu cymaint. Y gwasanaeth hollol wych greodd siop y pentre i'r gymuned. Mynd ati i goginio cacennau a phlanu hadau, ac agor gwely llysie – fel pawb arall mae'n debyg! Pethau gwych fel COR-ONA ar Facebook a gweld y fath dalent greadigol yn dod at ei gilydd yng Nghymru i godi calon a diddanu.

Cathryn, Cilgerran

Diolch o galon i bawb sydd wedi cyfrannu eu profiadau hyd yn hyn. Drwy ymateb a chymryd rhan, rydych yn ein helpu i greu archif anhygoel fydd yn galluogi cenedlaethau’r dyfodol i ddeall sut brofiad oedd byw drwy COVID-19 yng Nghymru.

 

Straeon Covid: “Dw i ddim yn wir yn dyheu am fynd yn ôl i fywyd fel yr oedd yn union”

Richard, Penrhiwnewydd, 22 Mehefin 2020

Cyfraniad Richard i broject Casglu Covid: Cymru 2020.

Symudais i yma ym mis Ionawr 2020, felly mae hi wedi bod yn anoddach fod i nabod fy nghymydogion, ond dw i'n synnu faint o sgyrsiau dw i wedi eu cael gyda nhw wrth weithio yn yr ardd neu roi'r bins allan! Ar wahân i'r ffaith fy mod i ddim wedi gweld fy ffrindiau wyneb yn wyneb, yn gyffredinol dw i'n meddwl fy mod wedi bod mewn cysylltiad â nhw yn amlach os rhywbeth drwy gyfryngau digidol.

Dw i'n dal i weithio, felly ar wahân i fod gartref dyw patrwm yr wythnos ddim wedi newid yn fawr iawn. Codi, cawod, ymarferion, brecwast, logio ymlaen, gweithio, cinio, gweithio, logio i ffwrdd. Mynd am dro. Swper. Hamdden. Gwely.

Y prif beth yw'r lleoliad – gweithio gartef. Mae'r gwaith mwy neu lai yr un peth, ond mwy o waith yn cysylltiedig â Covid-19 sy'n golygu gweithio'n hwyr neu dros y penwythnos weithiau.

Dw i'n prynu llawer mwy ar lein gan gynnwys bwyd gan siopau lleol sy'n dosbarthu. Ac o ran mynd i siopa mewn archfarchnad, er enghraifft, dw i'n mynd yn llai aml, ar y dechrau unwaith yr wythnos, efallai rhyw ddwywaith nawr, ac yn mynd i siop cigydd lleol ryw unwaith yr wythnos.

Dw i'n trio cadw pellter yn gyffredinol, golchi dwylo, gwisgo masg i fynd i siopa. Trio cadw'n iach yn gyffredinol drwy fynd am dro (ar droed neu ar feic). Dw i wedi cael pyliau o deimlo'n emosiynol, yn enwedig ar y dechrau. Ddim yn gallu edrych ar y newyddion ar y dechrau. Y pethau lleiaf yn fy ypsetio. Teimlo'n ofnus. Ond adegau eraill yn teimlo'n hapus fy mod yn byw yn rhywle mor hardd a bod bywyd yn braf. Teimlo'n well nawr nag oeddwn ar y dechrau.

Dw i'n meddwl bod y cyfnod dan glo wedi rhoi cyfle i wneud pob math o bethau newydd. Dw i ddim yn wir yn dyheu am fynd yn ôl i fywyd fel yr oedd yn union. Dw i'n colli gallu teithio a mynd mas am bryd o fwyd.

Tai Fron Haul – Darlunio Hanes

Lleucu, 21 Mehefin 2020

Mae Lleucu Gwenllian yn artist llawrydd o Ffestiniog – cafodd ei chomisiynu i greu cyfres o ddarluniau i gofnodi penblwydd 21ain tai Fron Haul yn yr Amgueddfa Lechi. Dyma ychydig o eiriau ganddi’n disgrifio’r broses a’r profiad. Gallwch weld mwy o waith Lleucu ar ei chyfrif instagram @lleucu_illustration.

Ar ddechrau mis Gorffennaf mi ges i'r pleser o weithio efo criw yr Amgueddfa Lechi i greu darluniau o dai Fron Haul, i ddathlu 21 mlynedd wedi symud y tai o Danygrisiau, ger Blaenau Ffestiniog, i'r amgueddfa yn Llanberis.

Fy hoff ran o unrhyw brosiect darlunio ydi'r cyfle i ymchwilio a dysgu mwy am destun y darlun - roedd y prosiect yma yn benodol o agos at fy nghalon, gan mai o fro Ffestiniog y daeth y tai. Dwi 'chydig bach yn embarassed i gyfadda’ nad oeddwn i'n gwybod rhyw lawer am hanes tai Fron Haul cyn y prosiect yma, gan mai dim ond un oed oeddwn i pan y cafodd y tai eu symud. Doedd y twll gwag ger y safle bws yn Nhanygrisiau heb fy nharo fel dim mwy na rhan annatod o'r pentre.

Fel rhan o'r ymchwil mi fues i draw i'r safle gwpl o weithiau, a sefyll ar y bont sy'n croesi'r rheilffordd yn edrych i lawr ar lle oedd y tai, yn dychmygu sut fywyd oedd gan y bobl oedd yn arfer byw yno. Mae na rhywbeth od am weld cornel o'ch bro mewn golau hollol newydd.

Un o'r pethau wnaeth neidio allan ata'i oedd y creiriau bach yn y tai yn yr amgueddfa. Roedd 'na rywbeth amdanyn nhw yn dal fy nychymyg, a roeddwn i'n ffeindio fy hun yn dychmygu trigolion y tai yn dewis yr addurniadau, yn tynnu'r llwch oddi arnyn nhw, yn eu trefnu ac ail-drefnu, ac yn y blaen. Roeddwn i'n eu gweld nhw'n debyg i ambell i beth o dai fy neiniau a nheidiau i - roedd y ci bach serameg yn benodol yn fy atoffa o gŵn sydd gan Nain ar ei dresal, a'r hen gloc yn debyg ofnadwy i gloc fy hen daid.

Wrth drafod y prosiect mi ddywedodd Cadi fod rhai o'r creiriau yma - yn benodol y dolis Rwsiaidd a'r cwpannau ŵy 'Gaudy Welsh' - yn tueddu i ddiflannu bob tymor, gan fod ambell i ymwelydd yn cymryd ffansi atynt hefyd. Mae'n siwr fod pawb yn cael eu hudo gan y cipolwg mae nhw'n rhoi i ni o ffordd arall o fyw.

Roedd y gwaith ei hun yn dipyn o sialens - ddim yn unig gan fod y tai eu hunain yn reit wahanol i'r hyn dwi'n arfer ddarlunio, ond hefyd gan fy mod i'n teimlo dyled i fy mro i wneud y gwaith gore y gallwn i. Dwi'n ymwybodol fod gan Blaenau enw drwg weithiau (sy'n anheg, yn fy marn i) ond mae'r fro yn un dlws ofnadwy, a mi oeddwn i eisiau dangos hynny.

Diolch o galon i'r Amgueddfa Lechi am y cyfle yma, ac yn benodol i Lowri, Julie a Cadi.

Mae prosiectau wedi'u harwain gan bobl ifanc ar draws yr amgueddfa yn ran o gynllun Dwylo ar Dreftadaeth, a arianir gan Grant Tynnu'r Llwch Cronfa Treftadaeth y Loteri. Diolch yn fawr i'r Gronfa ac i holl chwaraewyr y Loteri Genedlaethol - dan ni'n croesi'n bysedd i chi!

Logo Cronfa Dreftadaeth

Tu ôl i’r llenni - gwaith glanhau

21 Mehefin 2020

Dychmygwch y gwaith glanhau sydd angen ei wneud pan fo 140,000 o bobl yn croesi rhiniog eich drws ffrynt bob blwyddyn. Dyma’r dasg sydd yn wynebu criw glanhau Amgueddfa Lechi Cymru wrth iddynt ofalu am Fron Haul.

Mae glanhau mewn amgueddfa yn wahanol i lanhau eich cartref. Yn y cartref rydym yn glanhau er mwyn sicrhau fod pethau yn edrych ar eu gorau. Rydym am i bethau edrych yn lân a sgleiniog, a hynny gan ddefnyddio technegau hwylus a chyflym. Mewn amgueddfa rydym wrth gwrs am i bopeth edrych ar eu gorau, ond yn ychwanegol mae amgueddfa yn glanhau er mwyn sicrhau dyfodol hir dymor y creiriau, sef gwaith cadwraeth ataliol.

Gyda cymaint o bobl yn ymweld, ynghyd â natur llychlyd y safle, mae angen glanhau yn ddwys – rhywbeth tebyg i ‘spring clean’ – bedair gwaith y flwyddyn. Mae hyn yn golygu cau bob tŷ yn ei dro, am wythnos gyfan, fel bod modd canolbwyntio ar y gwaith heb unrhyw ymwelwyr yn dod i fewn i’r tŷ. Rydym yn gweithio mewn dull systematig, gan weithio o un ystafell i’r llall yn eu tro. Mae tynnu lluniau cyn cychwyn y gwaith yn bwysig er mwyn sicrhau fod popeth yn mynd yn ôl i’w le unwaith mae’r gwaith wedi ei gwblhau.

Wrth lanhau rhaid bod yn ofalus iawn i beidio gwneud niwed, felly rydym yn defnyddio offer a thechnegau arbennig ar gyfer creiriau penodol.

Lloriau

Ar gyfer lloriau llechi a phren rydym yn defnyddio sugnwr llwch a brwsh. Rydym yn mopio lloriau llechi yn achlysurol gyda dŵr, ond gan beidio defnyddio cemegau modern. Mae’n bwysig osgoi coesau a gwaelod pob dodrefnyn rhag ofn i’r dŵr achosi niwed.

Dodrefn

Mae dodrefn mawr gydag wyneb llyfn, gwastad, yn cael eu glanhau gan ddefnyddio dwster ‘lint free’. Rydym yn defnyddio dwster o’r math yma gan nad oes unrhyw ronynnau ynddo a allai grafu wyneb y dodrefn. Mae dodrefn mwy cain gyda ‘mouldings’ yn cael eu glanhau gan ddefnyddio brwsh canllaw a sugnwr llwch. Rhaid defnyddio techneg ‘glanhau cysgodol’ sef dal y sugnwr llwch yn agos at y brwsh er mwyn sugno’r llwch yn syth o’r aer, ond gan gofio peidio cyffwrdd y crair gyda’r sugnwr. Gallai hyn achosi niwed drwy grafu’r crair.

Creiriau cerameg

Mae creiriau cerameg megis llestri angen ychydig mwy o sylw. Bedair gwaith y flwyddyn rydym yn eu glanhau gan ddefnyddio gwlân cotwm, ffyn cotwm, a mymryn lleiaf o ddŵr gyda hylif glanhau. Ni ddefnyddir Fairy Liquid neu rywbeth cyffelyb, ond hylif glanhau arbenigol, gan rolio’r gwlân cotwm yn ysgafn dros y cerameg.

Brasus a chopr

Efallai mai ‘Brasso’ ydi ffrind gorau sawl un ohonoch, ond dyma elyn pennaf brasys mewn amgueddfa. Cael gwared â baw a llwch ydi glanhau, tra bod polishio yn golygu cael gwared ag afliwiad (tarnish) a chreu arwyneb gloyw. Mae polishio yn golygu defnyddio sgraffinyddion (abrasives), felly bob tro mae rhywun yn polishio gwrthrych mae haenen o’r arwyneb gwreiddiol yn diflannu. Gall polishio cyson arwain yn y pendraw at golli marciau a manylion addurniadol ar grair.

Felly, mewn amgueddfa defnyddio brwsh ‘hogs hair’ a sugnwr llwch ydi’r dechneg i’w defnyddio, ond gellir rhoi ychydig o sglein drwy ddefnyddio clwt polishio arbennigol.

Plastig, fframiau, a llyfrau

Brwsh meddal sydd angen ei ddefnyddio ar gyfer y creiriau yma, sef ‘pony hair brush’. Unwaith eto gan ddefnyddio’r dechneg glanhau cysgodol. Gyda llyfrau rhaid glanhau'r cloriau a thudalennau cyntaf ac olaf y llyfrau - dipyn o waith!

Clociau

Unwaith y flwyddyn mae’r clociau yn mynd ar eu gwyliau i Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru am gyfnod o orffwys. Tra’u bod yno mae mecanwaith y clociau yn cael gofal arbennig gan gadwraethydd Amgueddfa Cymru.

Tecstilau

Mae’r broses o lanhau a golchi tecstiliau yn gallu bod yn niweidiol iawn. Pob tro mae tecstil megis cyrtens, lliain bwrdd, neu ddilledyn, yn cael ei olchi mae rywfaint o ddirywiad yn digwydd wrth i ffibrau rhydd gael eu golchi i ffwrdd. Er mwyn diogelu tecstilau rhaid ceisio osgoi eu golchi, felly’r gamp yw ceisio lleihau'r llwch ar yr wyneb. Y ffordd orau o lanhau tecstilau ydi drwy ddefnyddio sugnwr llwch. Rydym yn gosod darn o fwslin rhwng y tecstil a’r sugnwr llwch.

Creiriau haearn bwrw a thun

Ffefryn o’r garej neu’r gweithdy sydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer glanhau creiriau haearn bwrw a thuniau (megis tuniau pobi bara ), sef olew ‘3 in 1’. Dim ond rhwbio haenen denau fewn i’r crair gyda dwster ‘lint free’, a bydd yn edrych fel newydd.

Gratiau a simdde

Ydi mae’r lle tân, neu’r ‘range’, angen sylw hefyd. A beth well na haenen dda o’r polish ‘black lead’! Defnyddir dau gadach neu glwt, un ar gyfer rhwbio’r polish fewn i’r ‘range’ a’r llall i greu rywfaint o sglein. Rhaid peidio anghofio am y simdde. Unwaith y flwyddyn rhaid glanhau pob simdde. Mae hyn wrth gwrs yn ofynnol ar gyfer diogelwch, ond hefyd mae llawer o bryfetach yn casglu mewn simdde, a fyddai yn gallu niweidio creiriau. Weithiau ceir nythod adar mewn simdde, ac mae’r rhain yn gartref perffaith ar gyfer pryfetach. Mae’r glanhau yn cael ei wneud gan berson lleol, gan ddefnyddio brwsh traddodiadol a sugnwr llwch enfawr.

Ar ddiwedd cyfnod glanhau mae’n bwysig iawn rhoi popeth nol yn y lleoliad gwreiddiol drwy ddefnyddio’r ffotograffau a dynnwyd ar ddechrau’r gwaith fel cyfeirnod.

Cenhedlaeth newydd yn dysgu am Fron Haul

Mirain Rhishart, 21 Mehefin 2020

Gwelodd Eryri oes aur y llechi.
Trawsnewid y werin o gaib i gŷn.
Yn nyffryn ‘Stradau, rhesi o feini,
Ymlusga’r rhimyn â‘r graig gyferbyn.
Enfawr fu’r chwyldro, ergyd fu’r chwalfa,
Dirywiad diwydiant, mwy na’i dyfiant.
Tawelwch. Y baracs fu’n segura.
Difrod gan ddwylo diarth, llechfeddiant.
Cyflawni lladrad absen fel llwynog,
Sleifio’n llechwraidd a dwyn o’r Gorlan.
A glaw fu’n llifo o’r llechwedd creigiog,
Trueni mai hyn fu tranc y drigfan.
Rhaid gwarchod ein treftadaeth, mae’n drysor,
Neu diflannu wna, fel llong heb angor.

Daw cyfnod du i darfu – gwêl golau.
Geiriau gobeithiol gŵr gwydn; Elfyn.
Parhau i drigo’r tai mae eneidiau.
Drws llonydd ddaw a cartref i’w derfyn.
Datgymalwyd hwy, cymerwyd sawl dydd
A’u gweddnewid nes nad oedd hoel o draul.
Er yr ail-gartrefwyd yr aelwydydd,
Disgleiriau edefyn ar dîr Fron Haul.
Wrth feddwl am y teuluoedd hynny,
Mae cysylltiad wrth gyffwrdd y meini.
A nghefn at y drws, edrychaf fyny
Ar olygfa gyfarwydd o lechi.
Er fod pellter i gyrraedd Llyn Padarn,
Mi wn y saif y pedwar yn gadarn.

 

Pan oeddwn i’n yr ysgol gynradd, dwi’n cofio mynd ar drip i’r Amgueddfa Lechi. Dwi’n cofio tywyswr yn mynd a ni o amgylch y safle a chael ymweld â rhes o dai’r chwarelwyr. Dwi’n cofio Mam neu Nain yn sôn o’r blaen fod hen dy Taid wedi cael ei symud i amgueddfa – roeddwn i wedi cymeryd mai yn Sain Ffagan oedd hynny. Dim ond y flwyddyn yma wnes i ddarganfod mod i wedi bod yn nhŷ Taid yn barod, ar y trip hwnnw i’r Amgueddfa Lechi.

Cysylltodd Gwenlli â mi o BROcast Ffestiniog, menter gymunedol newydd, i sôn fod yr Amgueddfa Lechi yn cynnal digwyddiad ar-lein ‘Fron Haul 21’, i ddathlu 21 o flynyddoedd ers symud y tai. Roeddwn i’n awyddus iawn i fod yn rhan o’r dathliad ond yn cael trafferth meddwl beth fuaswn i’n gallu gynnig i’r prosiect mewn cyfnod yng nghanol pandemig gan mai theatr yw fy maes!

Yn ystod sgwrs ffôn ganol Mehefin hefo Lowri, swyddog digwyddiadau yr Amgueddfa Lechi, daethom i benderfyniad y buaswn i’n ysgrifennu cerdd. Roedd gan Lowri gofnod o gerdd ysgrifennodd y Parchedig T. R Jones am Abel Lloyd (gynt o 1 Fron Haul)yn 1998, pan oedd y prosiect datgymalu wedi cychwyn. Roedd ysgrifennu cerdd yn sialens i mi gan nad oeddwn yn nabod y bobl fu’n byw yno fel y Parchedig ond roedd gen i wir awydd dysgu mwy am ddatblygiad Tanygrisiau fel pentref chwarelyddol.

Yn fuan wedyn cawsom gyfarfod zoom hefo staff yr amgueddfa – Lowri, Cadi a Julie. Ymunodd Lleucu hefyd a oedd wedi cael comisiwn i greu darlun o dai Fron Haul. Yn ystod y sgwrs yma cefais wybod gan Cadi fod Taid wedi bod yn byw yn rhif 3 FronHaul rhwng 1927 a 1933! Doedd neb yn byw yn y tai am gyfnodau hir iawn yn y cyfnod hwnnw oherwydd gan amlaf, cyplau newydd briodi oeddynt heb gychwyn magu plant.

Dysgais am fardd lleol i Danygrisiau hefyd, Elfyn. Rydw i wedi cyfeirio at linell yr ysgrifennodd o tra roedd yn wael ac yn gaeth i’w gartref, “Hyderaf y câf fel cynt, weld yr haul wedi’r helynt”. I mi, mae’r linell yng nghyd-destun fy ngherdd yn golygu hyn: er na fydd y diwydiant llechi yn debygol o fod mor llewyrchus ag yr oedd dros y ddwyganrif ddwytha, rydw i’n hyderus o’r potensial sydd gan Cymru i oresgyn rhwystrau a llwyddo fel gwlad fychan. Wedi’r cyfarfod mi dderbynnais sawl dogfen dros ebost yn llawn gwybodaeth, megis ymchwil am Danygrisiau pan godwyd y tai, rhestr cyfrifiad, blog gwaithglanhau y tai a thrawsysgrifau o gyfweliadau gyda trigolion.

Mae mesur soned yn gyfarwydd i mi ac mae’r iambic pentameter, sef rhythm curiad calon yn braf i’w glywed ar lafar. Wedi gorffen un soned, sylweddolais na allai hi sefyll ar ei phen ei hun a theimlais y dylai hi ddilyn soned arall gan ei bod hi’n obeithiol ei chynnwys. Mae naws y gyntaf yn dywyllachna’r ail gan fy mod i’n trafod y chwareli yn cau ac y distryw gafodd adeiladau gan yr hinsawdd, a gan bobl yn anffodus.

Yn y 70au, darganfuwyd fod llechi wedi cael eu dwyn oddi ar do Capel Gorlan yng Nghwmorthin. Ym 1997 cafodd canolfan dwristiaid Gloddfa Ganol ei chau pan gafodd y chwarel ei gwerthu. Yn rhan o’r atyniad yn Ngloddfa Ganol oedd bythynnod gwreiddiola gafwyd eu codi ar gyfer y chwarelwyr. Mae rhes 1-4 Tai Gloddfa yn edrych yn ddigalon iawn erbyn heddiw. Ar ddechrau’r flwyddyn, rhoddodd ferch leol lun ar y we ar dudalen grwp cymunedol Blaenau Ffestiniog. Bu hi am dro yng Nghwmorthin a sylwi ar griw o blantifanc wedi dod ar drip i’r ardal, yn sefyll ger Tai’r Llyn. Roedden nhw’n gwthio’r waliau drosodd. Rydw i’n deall ei bod hi’n amhosib amddiffyn popeth ond mae addysgu yn hynod o bwysig er mwyn deall a pharchu ein hanes, a hynny’n golygu addysgu plant Cymrua thu hwnt. Nid yw ein hanes diwydiannol yn llai nodweddiadol na’r cestyll a’r plasdai crand.

Balch iawn ydw i i gael bod yn rhan o’r dathliad. Rydw i a thrigolion Ffestiniog yn ddiolchgar iawn fod tai Fron Haul wedi cael eu harbed rhag cael eu dymchwel. Dyma lwyddiant ysgubol o ddiogelu a dogfennu elfen o hanes Cymru. Dywedodd Cadiy curadur fod dros filiwn o bobl wedi ymweld â Fron Haul ers 1999. Pob dymuniad da i’r amgueddfa wrth groesawu’r miliwn nesaf dros y rhiniog.

Mae prosiectau wedi'u harwain gan bobl ifanc ar draws yr amgueddfa yn ran o gynllun Dwylo ar Dreftadaeth, a arianir gan Grant Tynnu'r Llwch Cronfa Treftadaeth y Loteri. Diolch yn fawr i'r Gronfa ac i holl chwaraewyr y Loteri Genedlaethol - dan ni'n croesi'n bysedd i chi! 

Logo Cronfa Dreftadaeth