Dogni Dodrefn yn ystod yr Ail Ryfel Byd Sioned Williams, 5 Mai 2020 Tudalen o gatalog dodrefn utility, 1947 Byddai troi llaw at drwsio, pwytho neu ailgylchu pethau wedi bod yn ail-natur i’r rheini fu’n byw yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Gan fod deunyddiau crai fel pren yn brin, doedd prynu o’r newydd ddim yn opsiwn i’r rhan fwyaf. Roedd yr ychydig ddodrefn newydd a gynhyrchwyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd yn rhan o gynllun dogni’r llywodraeth. Ym 1941, aeth y Bwrdd Masnach ati i gynllunio casgliad o ddodrefn o wneuthuriad syml a rhad sef dodrefn utility. Ym 1942, cyhoeddodd Cadeirydd y Bwrdd Masnach, Syr Hugh Dalton, eu nod: To secure the production of furniture of sound construction, in simple but agreeable designs and at reasonable prices. Cyhoeddwyd y catalog cyntaf o ddodrefn utility ym 1943 gyda chasgliad o tua thrideg darn gwahanol. Dyluniwyd y dodrefn gan aelodau o'r pwyllgor ymgynghorol o dan arweiniad y dylunydd dodrefn adnabyddus, Gordon Russell. Roedd y darnau yn syml ac yn fodern, gydag ôl dylanwad y mudiad celfyddyd a chrefft (arts and crafts). Ni chynhyrchwyd dodrefn nad oedd yn cydymffurfio â safonau utility a rhoddwyd y bathodyn utility, ‘CC41’ (Controlled Commodity 1941), ar bob darn fel arwydd o safon. Gellid archebu’r dodrefn o’r catalog neu eu prynu o siopau lleol a thalwyd amdanynt gyda thalebau. Byddai gan bob dodrefnyn ei werth mewn unedau, er enghraifft byddai’r gadair bentan yn werth 6 uned a’r seidbord yn werth 8 uned. Nid pawb oedd yn gymwys am y talebau dodrefn - roedd angen sicrhau trwydded cyn derbyn y talebau gwerth 30 uned. Rhoddwyd blaenoriaeth i’r rheini a oedd wedi colli eu cartrefi adeg y rhyfel o ganlyniad i'r bomiau ac i gyplau priod ifanc yn symud i gartrefi newydd, fel y prefabs. Mae sawl darn utility wedi eu harddangos yn y Prefab yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Adeiladwyd y prefabs i ateb y gofyn am gartrefi newydd wedi’r rhyfel, pan roedd nwyddau yn parhau i gael eu dogni. Cynlluniwyd y tai yn ofalus i gynnwys digon o gypyrddau storio ym mhob ystafell fel na fyddai angen prynu llawer o ddodrefn. Ym 1945, ni ddaeth diwedd i ddogni gyda diwedd y rhyfel a pharhaodd y cynllun trwy’r blynyddoedd o gynildeb hyd nes 1952.
Blancedi Cymreig - Harddwch, Cynhesrwydd, ac Atgof o Adref Mark Lucas, 5 Mai 2020 Mae Amgueddfa Wlân Cymru yn Nrefach Felindre yn gartref i gasgliad cynhwysfawr o offer a pheiriannau sy'n ymwneud â hanes prosesu cnu gwlân yn frethyn. Mae yno hefyd gasgliad tecstilau gwastad cenedlaethol a'r casgliad gorau o flancedi gwlân Cymreig gyda lleolbwynt wedi'i dogfennu sy'n dyddio'n ôl i'r 1850au. Mae'r rhain yn amrywio o flancedi tapestri brethyn dwbl mawr sydd bellach yn gasgladwy iawn, i flancedi iwtiliti sengl, gwyn o'r Ail Ryfel Byd. Yn y blog hwn, mae Mark Lucas, Curadur Casgliad y Diwydiant Gwlân ar gyfer Amgueddfa Cymru, yn rhannu ei wybodaeth am dreftadaeth blancedi Cymreig a rhai enghreifftiau gwych o'r casgliad pwysig hwn. Yn draddodiadol roedd blancedi Cymreig yn rhan o ddrôr waelod priodferched. Roedd pâr o flancedi Cymreig hefyd yn anrheg briodas gyffredin. Byddent yn teithio pellteroedd mawr gyda’u perchnogion yn ystod y Chwyldro Diwydiannol, wrth iddynt chwilio am waith. Felly, mae blancedi Cymru wedi ffeindio’u ffordd ledled y byd, gan ychwanegu ychydig o esthetig cartrefol i ystafell yn ystod y dydd, cynhesrwydd yn y nos a chysylltiad pwysig i adref. Blancedi Lled Cul Blanced Lled Cul - dau hyd cul wedi'u pwytho gyda'i gilydd. Blancedi lled cul oedd y cynharaf, wedi'u gwehyddu ar wŷdd sengl. Fe'u gwnaed o ddau led gul wedi'u gwnïo gyda’i gilydd â llaw i ffurfio blanced fwy. Blancedi gwŷdd sengl o'r math hwn oedd yn gyffredin cyn troad yr ugeinfed ganrif pan ddatblygwyd gwŷdd dwbl a oedd yn galluogi gwehyddu lled ehangach o ffabrig. Fodd bynnag, ni throsodd llawer o'r melinau llai i’r gwŷdd dwbl, ac o ganlyniad, roedd blancedi lled cul yn parhau i gael eu cynhyrchu mewn symiau sylweddol yn ystod y 1920au, 30au a hyd yn oed yn ddiweddarach. Blancedi Plad Blanced Plad Roedd patrymau plad yn boblogaidd yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, fel arfer yn cynnwys lliwiau cryf yn erbyn cefndir hufen naturiol. Roedd cyflwyno llifynnau synthetig ar ddiwedd y 19eg ganrif yn caniatáu i wehyddion gymysgu mwy o edafedd lliw i'r dyluniadau, gyda rhai cyfuniadau lliw yn gynnil, eraill yn drawiadol. Parhaodd llawer o felinau llai i ddefnyddio llifynnau naturiol ymhell i'r 20fed ganrif. Gwnaed y llifynnau naturiol o fadr a cochineal ar gyfer coch, glaslys ac indigo ar gyfer glas, ac aeron a chen amrywiol ar gyfer arlliwiau eraill. Mae gan yr Amgueddfa Wlân Genedlaethol ei gardd llifyn naturiol ei hun ac mae'n cynnal cyrsiau a sgyrsiau trwy gydol y flwyddyn ar liwio naturiol. Blancedi Tapestri Blanced Tapsistri Cymru Tapestri Cymru yw'r term sy'n cael ei rhoi i flancedi gwehyddu brethyn dwbl, gan gynhyrchu patrwm ar y ddwy ochr sy'n gildroadwy ac sydd erbyn hyn, yn eicon i ddiwydiant gwlân Cymru. Mae enghreifftiau o flancedi tapestri Cymru wedi goroesi o'r ddeunawfed ganrif ac mae llyfr patrwm o 1775 gan William Jones o Holt yn Sir Ddinbych, yn dangos llawer o wahanol enghreifftiau o batrymau tapestri. Blancedi wnaed gyntaf o frethyn dwbl, ond arweiniodd ei lwyddiant fel cynnyrch ar werth i dwristiaid yn y 1960au, at ei ddefnyddio i wneud dillad, matiau bwrdd, matiau diod, nodau tudalen, pyrsiau, bagiau llaw a chas sbectol. Oherwydd gwydnwch y gwehyddu brethyn dwbl, mae'r deunydd hefyd wedi'i ddefnyddio ar gyfer rygiau cildroadwy a charpedu. Blancedi Melgell Blanced Melgell Mae blancedi melgell yn gymysgedd o liwiau llachar a meddal. Fel y mae'r enw'n awgrymu mae'r wyneb wedi'i wehyddu i gynhyrchu effaith waffl sgwâr dwfn gan roi ymddangosiad melgell i'r flanced. Mae'r math hwn o wehyddu yn cynhyrchu blanced sy'n gynnes ac yn ysgafn.Gyda'r sylw presennol a rhoir i flancedi Cymreig fel eitem addurniadol yn y cartref, mae yna lawer o ddiddordeb mewn hen flancedi, eu patrymau, a’u dyluniadau. Mae blancedi hynafol wedi dod yn boblogaidd iawn gyda dylunwyr cartref ac maent i'w gweld yn helaeth mewn cylchgronau décor cartref. Fe'u defnyddir fel tafliadau a gorchuddion gwelyau mewn cartrefi modern, gyda llawer o ddylunwyr tecstilau blaenllaw yn ogystal â myfyrwyr yn ymchwilio i hen batrymau er mwyn cael ysbrydoliaeth ar gyfer eu dyluniadau newydd. Blanced Caernarfon Daw llawer o’r enghreifftiau gwych yng nghasgliad blancedi’r Amgueddfa o felinau ledled Cymru a roddodd y gorau i’w cynhyrchu ers talwm. Uchafbwynt yw'r casgliad o Flancedi Caernarfon. Cynhyrchwyd y rhain ar wyddiau Jacquard mewn ystod o liwiau. Dim ond ychydig o felinau a ddefnyddiodd wyddiau Jacquard, a all wneud dyluniadau a lluniau cymhleth. Mae blancedi Caernarfon yn dangos dau lun, un gyda Chastell Caernarfon gyda'r geiriau CYMRU FU a llun o Brifysgol Aberystwyth gyda'r geiriau CYMRU FYDD. Credir i'r blancedi hyn gael eu gwneud gyntaf yn y 1860au, a'u cynhyrchu diwethaf ar gyfer arwisgiad y Tywysog Siarl ym 1969. Mae rhodd ddiweddar i'r Amgueddfa yn enghraifft gynharach o'r flanced sy'n cynnwys dwy ddelwedd o gastell Caernarfon. Wedi'i wehyddu â llaw, mae'n cynnwys gwall sillafu – gyda Chaernarfon yn ffurf Saesneg yr enw: Carnarvon.
Diwrnod VE: Medalau Dewrder, Gwasanaeth ac Aberth Alastair Willis, 5 Mai 2020 Mae Diwrnod VE yn coffáu buddugoliaeth y Cynghreiriaid dros yr Almaen Natsïaidd. Mae’r Cenhedloedd Unedig hefyd yn cadw Mai 8-9 fel ‘cyfnod o gymodi, a chofio’r rhai a gollodd eu bwydau yn yr Ail Ryfel Byd’.Ar 8 Mai 1945, death y rhyfel yn Ewrop i ben. Wedi bron i chwe mlynedd o ymladd gwaedlyd, roedd y Natsïaid wedi’u trechu. Erbyn diwedd yr Ail Ryfel Byd – oedd i bara am bedwar mis arall yn y Cefnfor Tawel – roedd dros 60 miliwn o filwyr a phobl gyffredin wedi colli eu bywydau, a dros 15,000 o’r rhain yn Gymry. Mae casgliad Amgueddfa Cymru o fedalau’r Ail Ryfel Byd yn dyst i ddewrder ac aberth rhyfeddol milwyr a phobl gyffredin Cymru rhwng 1939 a 1945. Yn y erthygl hwn byddwn ni’n cyflwyno hanesion rhai medalau o’r rhyfel a’r bobl wnaeth eu hennill.Gallai milwyr Prydain ennill wyth seren ymgyrch (ychwanegwyd nawfed yn 2012) a dwy fedal wasanaeth. Dyfarnwyd medalau dewrder hefyd am weithredoedd a gwasanaeth rhagorol gan aelodau’r lluoedd neu’r cyhoedd.Is-Swyddog William John James (Royal Navy), CaerdyddGwasanaethodd yr Is-Swyddog William John James ar yr HMS Galatea, criwser ysgafn oedd yn gwasanaethu’r Llynges Frenhinol yng Nghefnfor yr Iwerydd a Môr y Canoldir nes cael ei tharo gan dorpedo a’i suddo gan long danfor yr Almaen yn Rhagfyr 1941. Lladdwyd William a dros 460 o’r criw, gyda prin 100 yn goroesi. Dyfarnwyd ei fedalau wedi iddo farw a’u cyflwyno i’r teulu ynghyd â llythr cydymdeimlad gan y Morlys. Medalau W.J. James (o’r chwith i’r dde): Medal Gwasanaeth Cyffredinol y Llynges gyda clasb Palesteina 1936-1939, Seren 1939-1945, Seren yr Iwerydd, Seren Affrica, a’r Fedal Ryfel. Llythr cydymdeimlad medalau W.J. James. Y Parchedig Ivor Lloyd Phillips (y Fyddin), KilgettyDyfarnwyd y medalau yma i’r Parchedig Ivor Lloyd Phillips, caplan yn y fyddin a wasanaethodd gyda Chatrawd Maes 102 (Iwmyn Penfro) y Magnelwyr Brenhinol yn Tiwnisia a’r Eidal. Medalau’r Parch. I.Ll. Phillips (o’r chwith i’r dde): y Groes Filwrol, Seren 1939-1945, Seren Affrica gyda chlasb y Fyddin 1af, Seren yr Eidal, y Fedal Amddiffyn a’r Fedal Ryfel gyda deilen dderw efydd yn dynodi i Ivor gael ei ‘Enwi mewn Adroddiadau’. Dyfarnwyd y Groes Filwrol i Ivor Phillips, y fedal ail uchaf o dan Groes Fictoria ar y pryd. Mae’r gymeradwyaeth gyda’r fedal yn datgan iddo ‘Gyflawni ei ddyletswyddau mewn modd cwbl anhunanol a diwyd... mae ei waith wedi bod yn ddiarbed ac mae meddwl mawr ohono gan ddynion o bob rheng… Heb adael i daflegrau’r gelyn darfu ar ei waith, mae’n dangos difaterwch am ei ddiogelwch personol yn wastad. Bydd yn prysuro at y clwyfedig bob amser ac mae ei bresenoldeb a’i waith gyda nhw... wedi bod beunydd yn ysbrydoliaeth fawr i eraill’.Daeth yn Archddeacon Casnewydd yn ddiweddarach. Y Parch. Phillips. Bathodyn Caplan y Fyddin y Parch. Phillips. Rhoddodd y Parch. Phillips ei fedalau i Amgueddfa Cymru ym 1991.Sarjant Glyn Griffiths (yr Awyrlu Brenhinol), Llandudno Glyn Griffiths (dde) ac aelodau eraill ei sgwadron ar awyren Hurricane. Ganwyd Glyn Griffiths yn Llandudno ym 1918, a daeth yn Sarjant ac yn beilot awyren Hawker Hurricane fel aelod o Sgwadron 17 yn ystod y Battle of Britain rhwng Gorffennaf a Hydref 1940. Lloriodd o leiaf chwech awyren Almaenig ac o bosib hyd at 15. Dyfarnwyd y Fedal Hedfan Neilltuol iddo am ei weithredoedd. Wedi’r Battle of Britain aeth yn hyfforddwr gan hedfan yn ddiweddarach gyda Sgwadron 4. Wrth ddychwelyd o gyrch dros Ffrainc bu mewn damwain ag awyren arall uwchlaw’r maes awyr a gorfod neidio o’r awyren. Dioddefodd losgiadau gwael gan roi terfyn ar ei wasanaeth yn y rhyfel. Medalau Sarjant Griffiths (o’r chwith i’r dde): y Fedal Hedfan Neilltuol, Seren 1939-1945 gyda chlasb Battle of Britain, Seren yr Iwerydd, y Fedal Amddiffyn, y Fedal Ryfel, Croix de Guerre (Gwlad Belg), Urdd Leopold II (Gwlad Belg). Sarjant William Herbert Evans (yr Awyrlu Brenhinol), CaerdyddRoedd Sarjant Evans yn llywiwr bomwyr Halifax yn Sgwadron 78. Cafodd ei ladd ar 31 Awst 1943 pan saethwyd ei awyren yn ystod cyrch gan 600 o awyrennau ar ddinasoedd Mönchengladbach a Rheydt yn yr Almaen. Dyfarnwyd ei fedalau wedi ei farw. Medalau Sarjant Evans (o’r chwith i’r dde): y Fedal Ryfel, Seren Criw Awyr Ewrop, Seren 1939-1945. Rhoddwyd medalau Sarjant Evans i Amgueddfa Cymru gan ei deulu.Benjamin Lewis Aylott (Heddlu), PontarddulaisGanwyd Benjamin Aylott yn Llundain, a gwasanaethoedd gyda’r Llynges Brydeinig yn y Rhyfel Byd Cyntaf cyn symud i Bontarddulais. Pan dorrodd yr Ail Ryfel Byd fe ymunodd â Heddlu Morgannwg fel Cwnstabl Rhyfel Wrth-Gefn. Dyfarnwyd Medal Dewrder Gwasanaethau Heddlu a Thân y Brenin iddo am arestio enciliwr arfog o’r fyddin ar 27 Rhagfyr 1943. Medal Dewrder Gwasanaethau Heddlu a Thân y Brenin B.L. Aylott. B.L. Aylott a’i deulu wedi derbyn ei fedal gan y Brenin Siôr VI ym Mhalas Buckingham. Rhoddwyd ei fedalau i Amgueddfa Cymru gan ei fab Terry Aylott yn 2011.Thomas William Keenan (aelod o’r cyhoedd), CaerdyddAr noson 2-3 Ionawr 1941 ymosododd dros 100 o awyrennau’r Almaen ar Gaerdydd. Roedd Thomas Keenan yn wyliwr mewn storfa danwydd a ddefnyddiodd ei het i symud bom llosgi oedd wedi glanio ar danc yn dal 300,000 galwyn o betrol. Llosgodd ei ddwylo’n wael, ond fe arbedodd y tanc petrol. Dyfarnwyd Medal Siôr iddo am ei ddewrder. Yn y casgliad hefyd mae dwy fedal a dderbyniodd wedi gwasanaethau gyda’r Corfflu Gynnau Peiriant yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Medalau T.W. Keenan (o’r chwith i’r dde): Medal Siôr, Medalau Rhyfel a Buddugoliaeth Prydain (WW1), y Fedal Amddiffyn, 1939-1945. Medalau T.W. Keenan (cefn). Gordon Love Bastian (y Llynges Fasnach), Y BarriEynon Hawkins (y Llynges Frenhinol), LlanharanDyfarnwyd y Medalau Albert yma i G.L. Bastian ac E. Hawkins am achub bywydau ar y môr.Ganwyd Gordon Bastian yn y Barri, ac roedd yn Ail Swyddog Peiriannyddol ar yr S.S. Empire Bowman, gafodd ei tharo gan dorpedo ar 31 Mawrth 1943. Derbyniodd Fedal Albert am ‘ddewrder, cryfder a phwyll aruthrol’ wrth arbed dau ddyn rhag boddi yn howld danio’r llong.Roedd Eynon Hawkins, Morwr Abl gyda’r Llynges Frenhinol yn gwasanaethu fel gyniwr ar long fasnach arfog gafodd ei tharo gan dorpedo a’i llosgi ar 10 Ionawr 1943. Yn ôl y London Gazette (29 Mehefin 1943) ‘...llwyddodd Hawkins gyda phwyll a dewrder o’r mwyaf i drefnu criw a ddihangodd yn y dŵr nes iddynt gael eu hachub gan un o longau Ei Fawrhydi. Ddwy waith fe nofiodd i helpu eraill oedd mewn trafferthion, gan losgi ei wyneb ei hun wrth eu tynnu i ddiogelwch.’ Medalau Albert G.L. Bastian ac E. Hawkins. Medalau Albert G.L. Bastian ac E. Hawkins. Rhoddwyd y ddwy fedal i Amgueddfa Cymru gan y ddau dderbyniwr.Elizabeth Harriet Edwards (aelod o’r cyhoedd), CaerdyddDyfarnodd Cymdeithas y Groes Goch Brydeinig y fedal isod i Hettie Edwards am hyfedredd Cymorth Cyntaf. Hettie Edwards oedd Llyfrgellydd Amgueddfa Cymru rhwng 1931 a 1970. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd roedd yn gwirfoddoli fel nyrs gyda Chymdeithas y Groes Coch Brydeinig.Darllenwch mwy am Hetty Edwards:Rhan UnRhan DauRhan Tri Medal Hyfedredd Cymorth Cyntaf y Groes Goch E.H. Edwards.
Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop 5 Mai 2020 Mae Diwrnod VE yn coffáu y Cynghreiriaid yn derbyn ildiad yr Almaen Natsïaidd yn yr Ail Ryfel Byd ym 1945.Mae 8-9 Mai hefyd yn cael ei nodi gan y Cenhedloedd Unedig fel Cyfnod o Gofio a Chymodi i’r Rhai a Gollodd eu Bywydau yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Wedi’r rhyfel sefydlwyd y Cenhedloedd Unedig gyda’r nod o gynnal a diogelu heddwch byd-eang ac i amddiffyn iawnderau dynol.Yma gallwch ddysgu mwy am Gymru yn ystod yr Ail Ryfel Byd drwy wrthrychau o’r casgliad. Darllenwch am y straeon tu ôl i fedalau unigolion yn y gwasanaethau milwrol a’r rheiny a wasanaethodd adref ac am yr aberth ar y Ffrynt Gartref o ganlyniad i ddogni a barhaodd flynyddoedd wedi Diwrnod VE. Medalau Sarjant Evans (o’r chwith i’r dde): y Fedal Ryfel, Seren Criw Awyr Ewrop, Seren 1939-1945. Mae casgliad Amgueddfa Cymru o fedalau’r Ail Ryfel Byd yn dyst i ddewrder ac aberth rhyfeddol milwyr a phobl gyffredin Cymru rhwng 1939 a 1945.Darllen Mwy Yn dilyn cyflwyno dogni ar fwyd ym 1940, daeth dogni dillad i rym ym Mehefin 1941. Y prif nod oedd lleihau’r galw am ddeunyddiau crai ac ailgyfeirio llafur at waith rhyfel.Darllen Mwy Cadeiriau utility yn ystafell fyw y Prefab, Amgueddfa Werin Cymru Ym 1941, aeth y Bwrdd Masnach ati i gynllunio casgliad o ddodrefn o wneuthuriad syml a rhad sef dodrefn utility.Darllen Mwy Dinistriwyd miloedd o gartrefi Prydeinig gan fomiau yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Nid oedd modd eu hailgodi oherwydd prinder adeiladwyr a deunyddiau.Darllen Mwy Mae rhai wedi cymharu’r sefyllfa rydym ynddi ar hyn o bryd gyda cyfnod yr Ail Ryfel Byd – ciwio i fynd i fewn i siopa, y silffoedd gweigion a’r dogni yn ein harchfarchnadoedd.Darllen Mwy
Matricsau Seliau Rhianydd Biebrach, 1 Mai 2020 Sut lofnod sydd gennych chi? Ai sgribl annealladwy, gwaith celf cywrain, neu ddim ond fersiwn frysiog o’ch enw? Mae llofnod pawb yn unigryw ac yn bersonol iddyn nhw. Mae’n perthyn i chi ac i neb arall. Pan fyddwch yn llofnodi rhywbeth, mae’n dangos eich bod yn ei gymeradwyo ac yn cytuno iddo ac mae’n rhaid cael llofnod cyn y gellir gweithredu ar bethau fel contractau, gweithredoedd eiddo, sieciau a thystysgrifau. Ond beth os na allwch ysgrifennu gan eich bod yn byw mewn oes pryd mai dim ond ychydig o bobl sy’n gallu darllen ac ysgrifennu? Beth os ydych mewn swydd bwysig – fel esgob neu abad – lle bo’r grym yn perthyn i’r swydd yn hytrach nag i chi’n bersonol? Beth yw sêl? Am gannoedd o flynyddoedd yn y gorffennol, yn lle llofnod, roedd pobl yn defnyddio seliau – dyfeisiau personol ac arnynt lun fel rheol, a rhyw fath o arysgrif neu arwyddair neilltuol i’r perchennog yn aml – i ddangos ei fod yn dyst i wahanol ddogfennau neu’n cytuno iddynt. Yn y byd Rhufeinig, sêl-fodrwyau ac ynddynt intaglio – gem a llun wedi’i ysgythru arni – oedd y rhan fwyaf o seliau. Yn nes ymlaen, yn y cyfnod canoloesol, roeddent yn tueddu i fod ar ffurf darnau metel fflat crwn neu hirgrwn, â chlustiau neu ddarnau siâp côn i afael ynddynt. Enghraifft o sêl ar ffurf disgen fflat. Sêl Llywelyn ap Gruffudd o’r drydedd ganrif ar ddeg, a ganfuwyd yn Abenbury, Wrecsam (WREX-D0D606). Sêl arian siâp côn oedd yn perthyn i fenyw anhysbys ddiwedd y bedwaredd ganrif ar ddeg. Fe’i canfuwyd yn Isatyn, Sir Drefaldwyn. (T2012.12). Erbyn hyn, mae yng nghasgliadau Amgueddfa Cymru. Roedd patrwm ac arysgrif neilltuol wedi’u hysgythru ar wyneb gwastad y ddwy ffurf er mwyn ffurfio dei, neu fatrics. Byddai'r matrics yn cael ei wasgu ar gwyr lliw gan greu sêl a fyddai, yn aml, yn cael ei gosod ar ddogfen â llinyn neu stribed o femrwn. Mae dolenni ar gefnau matricsau seliau canoloesol yn awgrymu eu bod yn cael eu cadw’n ddiogel neu eu cario ar linynnau neu gadwyni. Mae gan Amgueddfa Cymru ac amgueddfeydd lleol ledled y wlad lawer o enghreifftiau o fatricsau seliau yn eu casgliadau. Fodd bynnag, mae'r erthygl hon yn ystyried rhai o’r cannoedd a ddarganfuwyd gan aelodau’r cyhoedd a’u cofnodi yng nghronfa ddata’r Cynllun Henebion Cludadwy (PAS). Pobl â datgelyddion metel a ddarganfu'r rhan fwyaf ohonynt ac maent mewn casgliadau preifat erbyn hyn, ar wahân i nifer fechan a aeth i ddwylo amgueddfeydd trwy'r broses drysor. Yn y cyfnod canoloesol y câi seliau eu defnyddio fwyaf yng Nghymru, yn enwedig rhwng y 12fed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar ddeg. Gwyddom am lawer llai o enghreifftiau o gyfnod y Tuduriaid ac wedyn, er eu bod yn dal i gael eu defnyddio at rai dibenion tan heddiw. Sut maent yn edrych? Gwnaed llawer o fatricsau seliau o fetelau cyffredin fel plwm neu aloi plwm ac aloi copr fel efydd. Nid yw aelodau'r cyhoedd yn dod ar draws enghreifftiau wedi'u gwneud o arian mor aml ond mae llawer o'r rhai arian sydd yn cael eu darganfod yn mynd i gasgliadau amgueddfeydd ar ôl i grwner ddatgan eu bod yn drysor. Rhai crwn yw'r rhan fwyaf ond nid pob un. Yn aml, byddai gan fenywod a chlerigwyr fatricsau seliau siâp hirgrwn pigfain a gwyddom am enghreifftiau siâp tarian, siâp diemwnt a rhai chweochrog. Gan amlaf, gwelir rhyw fath o lun neu batrwm wedi'i ysgythru yng nghanol seliau canoloesol ac arysgrif o gwmpas yr ymyl yn datgelu pwy oedd perchennog y sêl - unigolyn neu sefydliad. Yn aml, dim ond llun oedd ar seliau diweddarach. Ble cânt eu darganfod? Mae matricsau seliau wedi’u darganfod ledled Cymru ond maent yn fwy cyffredin mewn rhai ardaloedd na’i gilydd. Ym Mro Morgannwg y darganfuwyd y nifer fwyaf, ac yna Sir Benfro, Sir Fynwy, Wrecsam a Sir y Fflint. Ar wahân i un enghraifft yr un o Bont-y-clun a Chaerffili, ni chofnodwyd bod yr un matrics seliau wedi'i ddarganfod yng Nghymoedd y De, nac yng Nghastell-nedd Port Talbot, Ceredigion na Gwynedd. Os edrychwch ar fap gwrthrychau Hel Trysor, fe welwch fod y patrwm hwn yn cyfateb yn eithaf agos i'r ardaloedd lle darganfuwyd eitemau archaeolegol eraill o lawer o wahanol fathau, o’r Oes Efydd gynnar i’r ddeunawfed ganrif. Pwy oedd yn eu defnyddio? Byddai angen sêl ar lawer o wahanol bobl, o'r brenin i dirfeddianwyr bach a masnachwyr – unrhyw un, mewn gwirionedd, oedd ag angen unrhyw fath o ddogfennau busnes neu gyfreithiol. Roedd gan unigolion seliau personol, ond roedd cyrff fel corfforaethau trefi, cymdeithasau masnachol ac urddau crefyddol, eglwysi cadeiriol, abatai a mynachlogydd yn defnyddio seliau hefyd. Roedd gan lawer o bobl uchel eu statws factrics sêl o ansawdd da. Gallai fod wedi'i wneud o arian yn lle metel cyffredin, ac arno ddyfais a ddewiswyd yn ofalus wedi'i ysgythru gan grefftwr medrus. Byddai pobl lai cyfoethog yn aml yn prynu rhai 'oddi ar y silff', o blwm neu efydd, gyda phatrwm parod wedi’i dorri’n eithaf amrwd. Roedd yna seliau ar gyfer pob poced! Arysgrifau Sêl y Brawd Baldwin o’r drydedd ganrif ar ddeg (NMGW-E91B83) © Cynllun Henebion Cludadwy. Mae'r arysgrif (neu’r arwyddair) yn rhedeg o gwmpas ymyl allanol y matrics. Gan amlaf, mae'n dilyn fformiwla safonol sy'n cynnwys enw'r perchennog, fel ‘S. FRATRIS BALDVINI ’(Sêl y Brawd Baldwin), ar enghraifft a ddarganfuwyd ym Mhorthcawl yn 2008. Yma, mae’r gair Lladin 'Sigillum ’(sêl) wedi’i dalfyrru i'r llythyren 'S’. Roedd hyn yn gyffredin er mwyn cadw lle ar gyfer elfen bwysicach – yr enw ei hun. Roedd gan Abatai Margam a Chastell-nedd dir yn ardal Porthcawl, felly mae'n debygol bod Baldwin yn fynach yn un o'r abatai hyn. Yn aml, caiff yr enwau eu talfyrru a gall hyn eu gwneud yn anodd eu deall, yn enwedig os yw’r matrics wedi cyrydu neu wedi’i ddifrodi. Edrychwyd ar tua 150 o fatricsau ar gyfer yr erthygl hon ac roedd arysgrifau 59 ohonynt yn annarllenadwy neu ddim ond yn rhannol ddarllenadwy. Yn achlysurol, gwelir arysgrif ar ffurf arwyddair crefyddol neu seciwlar, yn lle enw. Darganfuwyd sêl â'r arwyddair crefyddol Lladin 'CREDE MICHI' (Cred ynof i) ym Mhen-marc, Bro Morgannwg yn 2011, ac fe gofnodwyd 'I CRACKE NUTS' ar sêl a ddarganfuwyd ym Mhen-hw, ger Casnewydd, yn 2014. Weithiau credir bod ystyr rywiol i'r arysgrif hon, felly er bod diben difrifol i seliau, gallent fod yn chwareus hefyd! Sêl o’r drydedd ganrif ar ddeg neu’r bedwaredd ar ddeg â’r arysgrif CREDE MICHI (Cred ynof i). Sêl o’r drydedd ganrif ar ddeg neu’r bedwaredd ar ddeg â’r arysgrif I CRACKE NUTS. Ar seliau a ddarganfuwyd yn Lloegr, gwelir arysgrifau mewn Saesneg, Ffrangeg Eingl-Normanaidd a Lladin – y tair brif iaith a ddefnyddid yno yn y Canol Oesoedd. Yng Nghymru, fodd bynnag, gellir ychwanegu Cymraeg at y rhestr ac mae’n fwy cyffredin o lawer na Saesneg na Ffrangeg. Ymddengys naill ai ar ffurf enwau personol, fel Ieuan neu Gwenllian, neu fel y gair ‘ap’ sy’n golygu ‘mab’ mewn enwau. Mae’r ffurf fenywaidd gyfatebol ‘ferch/verch’ mewn enwau yn brinnach o lawer. Sêl Madog ap Madog o’r drydedd ganrif ar ddeg neu’r bedwaredd ar ddeg (CPAT-0791F5). © Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd Powys. Sêl Wenllian Kaperot o’r drydedd ganrif ar ddeg neu’r bedwaredd ar ddeg. Sêl David de Carew o’r drydedd ganrif ar ddeg. Roedd rhai pobl ag enwau Cymraeg yn defnyddio’r gair Lladin ‘filius’ yn lle ‘ap’. Fel rheol, câi hwn ei fyrhau i ‘fil’ neu ‘f’, fel ar sêl MADOCI F MADOCI (Madog fab Madog), a ddarganfuwyd ger Wrecsam. Yn yr Oesoedd Canol, roedd iaith ac enwau yn un o’r ffyrdd a ddefnyddiai pobl i gyfleu eu hunaniaeth bersonol ac felly mae gwybodaeth fel hyn yn dystiolaeth werthfawr i haneswyr sy’n astudio’r gymdeithas yng Nghymru’r Oesoedd Canol. Daeth llawer o Eingl-Normaniaid i gyfaneddu rhai rhannau o Gymru ar ôl cyrchoedd i oresgyn y wlad o ddiwedd yr unfed ganrif ar ddeg hyd ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg. Weithiau, mae seliau'n dystiolaeth o gyfnewidiadau diwylliannol rhwng y Cymry brodorol a’r mewnfudwyr. Roedd gan Wenpelian (Wenllian) Kaperot, y daethpwyd o hyd i'w sêl yn Eglwys Fair y Mynydd (Bro Morgannwg) yn 2005, enw cyntaf Cymraeg â chyfenw Saesneg. Ai Cymraes a oedd yn briod â Sais oedd hi, neu a oedd hi'n dod o deulu o ymsefydlwyr a oedd wedi mabwysiadu enwau brodorol ac wedi dechrau meddwl amdanynt eu hunain fel Cymry? Yn aml, dywed y llyfrau hanes wrthym fod y Cymry brodorol wedi cael eu trin fel dinasyddion eilradd ar ôl y goresgyniadau Eingl-Normanaidd, ond mae tystiolaeth y seliau hyn yn dangos i ni ei bod yn rhaid bod nifer sylweddol yn ddigon cyfoethog i brynu a gwerthu tir a chynnal busnesau cyfreithiol o wahanol fathau. Yn aml, er ein bod yn gallu darllen enwau perchnogion y seliau, mae’n dal yn anodd eu cysylltu ag unigolyn sy'n ymddangos mewn rhan arall o'r cofnod hanesyddol. Weithiau, fodd bynnag, down ar draws seliau y gellir eu cysylltu â theuluoedd y gwyddom amdanynt. Roedd teulu Caeriw yn dirfeddianwyr pwysig yn Sir Benfro trwy gydol y cyfnod canoloesol, a darganfuwyd sêl un ohonyn nhw - DAVID DE CARREV (David de Carew) - yn Carew Cheriton yn 2009. Mae siâp hirgrwn pigfain y sêl hon a'r ddelweddaeth grefyddol arni yn awgrymu efallai bod David yn fab iau, nad oedd yn etifedd, ac a aeth i'r eglwys. Fel teulu Caeriw, roedd y teulu Turberville yn arglwyddi grymus Eingl-Normanaidd, a ddaeth i fyw yng Nghastell Coety, ger y man lle mae Pen-y-bont ar Ogwr erbyn hyn. Darganfuwyd sêl Reginald de Turberville (REGINALDI DE TURBERVILL) yn Saint-y-brid gerllaw yn 2010. Roedd teulu de Reigny yn gymdogion agos i’r de Turbervilles ac fe ddarganfuwyd sêl RICAR’ DE REIGNI (Richard de Reigny) ger Trelales, Pen-y-bont, yn 2018. Sêl Reginald de Turberville o’r drydedd ganrif ar ddeg neu’r bedwaredd ar ddeg Turberville (PUBLIC – 6C42D0). © Cynllun yr Henebion Cludadwy Sêl Richard de Reigny o’r drydedd ganrif ar ddeg neu’r bedwaredd ar ddeg. Patrymau Motiff canolog y sêl yw’r nodwedd amlycaf, a gall amrywio o ddyluniad syml, amrwd i un cymhleth, soffistigedig. Y motiff mwyaf cyffredin ar seliau o Gymru a gofnodwyd gyda PAS yw amrywiad ar seren â sawl pigyn, a elwir weithiau’n flodyn hefyd. Mae sêl blwm IEWANI APIERWE (Ieuan ap Iorwerth mae’n fwy na thebyg), a ddarganfuwyd yn Maerun, Casnewydd, yn 2017, a sêl WILLIEI FIL ROBERTII (William fab Robert), o’r un cyfnod – sef y drydedd ganrif ar ddeg neu’r bedwaredd ar ddeg, a ddarganfuwyd ym Merthyr Dyfan, ger y Barri, yn 2013, yn enghreifftiau nodweddiadol o’r ffurf hon. Sêl Ieuan ap Iorwerth (o’r drydedd ganrif ar ddeg neu’r bedwaredd ar ddeg) Sêl William ap Robert o’r drydedd ganrif ar ddeg neu’r bedwaredd ar ddeg (NMGW-8C9517) Weithiau, mae patrymau canol seliau mor debyg i’w gilydd fel ei bod yn debygol iawn eu bod yn dod o’r un ffynhonnell neu fod y patrwm yn un cyffredin iawn, a llawer ohonynt wedi’u cynhyrchu. Cymharwch, er enghraifft sêl RICARDI MADENVEI (Richard Madenvey) o’r ddeuddegfed ganrif neu’r drydedd ar ddeg, a ganfuwyd yn 2015, ag enghraifft o sêl wedi torri a ddarganfuwyd y flwyddyn ganlynol. Mae arnynt lun o flodyn, sydd bron yn union yr un fath, â chwe phetal lydan a chylch yn y canol. Mae’n edrych yn debyg iawn i genhinen Bedr. Mae’n ddiddorol nodi eu bod wedi’u darganfod o fewn saith milltir i’w gilydd, ar Benrhyn Gŵyr. Sêl Richard Madenvei (o’r drydedd ganrif ar ddeg neu’r bedwaredd ar ddeg) Sêl rhywun anhysbys, yn dangos yr un patrwm â sêl Richard Madenvei (o’r drydedd ganrif ar ddeg neu’r bedwaredd ar ddeg) Bron mor gyffredin â’r seren/blodyn oedd gwahanol batrymau ar ffurf croes. Yn wir, mae’r ddau grŵp hyn yn debyg iawn i’w gilydd oherwydd mae i lawer o’r croesau fwy na phedair braich a gellir eu dehongli fel patrymau sêr neu flodau. Un enghraifft sydd wedi cadw’n dda yw sêl Ieuan ap Gronw, a ddarganfuwyd ym Mhont-y-clun, Rhondda Cynon Taf, yn 2013. Mae amrywiad ychydig yn fwy cain o’r patrwm hwn ar sêl Wenllian Kaperot, y soniwyd amdani uchod, a gwelir fersiwn fwy sylfaenol ar sêl Leuel (Llewelyn?) fab Ithael, a ddarganfuwyd yn Nhyddewi, Sir Benfro, yn 2011. Sêl Ieuan ap Gronw o’r 12fed ganrif neu’r 13eg. (NMGW-05F969) Sêl Leuel fab Ithael (o’r drydedd ganrif ar ddeg neu’r bedwaredd ar ddeg) Sêl o Sain Nicolas, yn dangos y Forwyn Fair a’r Baban Iesu a chlerigwr yn gweddïo o dan ganopi wrth ei thraed (13eg ganrif). Roedd delweddau defosiynol, yn cynnwys seintiau, noddwyr a lluniau crefyddol eraill yn boblogaidd. Darganfuwyd enghraifft nodweddiadol yn Sain Nicolas, Bro Morgannwg, yn 2006, yn dyddio o’r drydedd ganrif ar ddeg. Mae’n dangos y Forwyn Fair a’r Baban Iesu, a ffigwr bach o glerigwr yn gweddïo o dan ganopi wrth ei thraed. Mae llawer o’r enghreifftiau hyn ar ffurf hirgrwn, pigfain, sy'n awgrymu bod hynny'n ffurf boblogaidd ar gyfer clerigwyr. Sêl yn dangos y Santes Catherine a’i holwyn (top, dde). Ar sêl gron y Brawd Baldwin, y sonnir amdani uchod, gwelir Oen a Baner, sef symbol Sant Ioan Fedyddiwr. Roedd gan rywun, o’r enw Winton neu Wilton o bosib, sêl â llun sant arall a oedd yn boblogaidd yn yr Oesoedd Canol, sef Catherine. Cafodd ei darganfod yn Sain Dunwyd, Bro Morgannwg yn 2012. Mae’n hawdd adnabod y Santes Catherine wrth lun yr olwyn y cafodd ei merthyru arni. Sêl o’r 14eg-15fed ganrif, a oedd, o bosib, yn eiddo i abades o Lanllŷr, ynghyd ag ôl y sêl mewn cwyr. Un sêl sy’n gysylltiedig â’r enghreifftiau hyn o ddelweddau defosiynol, ac sy’n ddarganfyddiad prin a phwysig yn ei hawl ei hunan, yw sêl o Geredigion sy’n dangos menyw ar ei thraed, yn gwisgo fêl, ac yn dal llyfr a ffon. Dim ond rhan o’r arysgrif sy’n ddarllenadwy, yn dweud ‘[ - - - - -] n l l e i r’, ac felly mae’n bosib mai un o abadesau Llanllŷr, unig leiandy Sistersaidd Cymru, oedd biau’r sêl. Roedd y fleur-de-lys – lili arddulliedig – yn batrwm poblogaidd arall ac yn ddyfais addurnol boblogaidd yn yr Oesoedd Canol. Gwelir enghraifft hyfryd ar sêl blwm Tuder ab Ithel, o ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg, a ganfuwyd yn Llanhenwg, Sir Fynwy, yn 2010. Fodd bynnag, roedd y crefftwr a greodd ddarlun y fleur-de-lys ar sêl Henry David, a ganfuwyd yn Nanhyfer, Sir Benfro, yn 2009, dipyn yn llai medrus. Sêl Tuder ab Ithel o ddiwedd y 13eg ganrif (PUBLIC-929A66) © Cynllun Henebion Cludadwy Sêl Henry David o’r drydedd ganrif ar ddeg neu’r bedwaredd ar ddeg (PUBLIC-9EF6F3) © Cynllun Henebion Cludadwy Os oedd eich teulu’n ddigon pwysig i gael arfbais, gallech benderfynu ei chynnwys ar eich sêl. Roedd arfbeisiau yn arwydd bwysig o statws yn yr Oesoedd Canol, ac ymddangosent ym mhobman, o furluniau, i feddau, gwydr lliw, harneisiau ceffylau a hyd yn oed ddillad, yn ogystal ag ar seliau. Mae arfbais teulu Turberville o Gastell Coety, Pen-y-bont ar Ogwr, yn ymddangos ar sêl a ddarganfuwyd yn Saint-y-brid yn 2010, ac y cyfeirir ati uchod. Fodd bynnag, mae’n anos gwybod pa deuluoedd sy’n gysylltiedig â seliau herodrol eraill, fel yr un a ddarganfuwyd yn Reynoldston, Gŵyr, yn yr un flwyddyn, neu’r tair chevron a endorrwyd yn fras ar sêl a ganfuwyd yn Llanasa, Sir y Fflint, yn 2012. Sêl o’r drydedd ganrif ar ddeg neu’r bedwaredd ar ddeg ag arfbais teulu anhysbys, a ddarganfuwyd ar Benrhyn Gŵyr (PUBLIC-6C62F1) © Cynllun Henebion Cludadwy Sêl(o’r drydedd ganrif ar ddeg neu’r bedwaredd ar ddeg o Lanasa, Sir y Fflint yn dangos dyfais herodrol a chevrons. Yn ogystal â chroesau, sêr, seintiau ac arfbeisiau, gwelir nifer o batrymau eraill yn cynnwys anifeiliaid, lluniau pobl heb fod yn grefyddol, llythrennau a gwrthrychau. Mae’n bosib bod gan rai, fel y pen hydd a welir ar sêl a ganfuwyd ym Mhenfro yn 2017 neu’r llew ar ei draed ôl sydd ar sêl o Holt, Wrecsam, gysylltiadau herodrol, gan gyfeirio at anifail ar arfbais y perchennog. Sêl o Benfro yn dangos pen hydd (o’r drydedd ganrif ar ddeg neu’r bedwaredd ar ddeg) Sêl o’r drydedd ganrif ar ddeg neu’r bedwaredd ar ddeg o Holt, Wrecsam, yn dangos llew ar ei draed ôl (HESH-D966A6), © Birmingham Museums Trust Weithiau gwelir bwâu a saethau, er enghraifft ar sêl a ddarganfuwyd ger Cynffig, Pen-y-bont ar Ogwr, yn 2012, a gallai hyn fod yn arwydd o gysylltiad â saethyddiaeth, naill ai fel milwr neu fel heliwr. Fodd bynnag, prin yw cyfeiriadau at swyddi. Dim ond ar un sêl a ddarganfuwyd yng Nghymru ac a gofnodwyd gyda PAS y gwelir cyfeiriad clir at alwedigaeth. Roedd y sêl blwm hirgrwn bigfain a ganfuwyd yn Llawhaden, Sir Benfro, yn 2006, ac sy’n dyddio o ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg, yn eiddo i ‘I’his Carpentarii’ (Siôn y Saer) ac arni gwelir darn o offer saer, sef cwmpawd mesur. Sêl yn dangos dyfais bwa a saeth (12fed ganrif-13eg) Sêl Siôn y Saer, yn dangos cwmpawd mesur (tua 1250-1300). © Cynllun Henebion Cludadwy. Casgliad O’r holl fathau o wrthrychau a gofnodir fel arfer gan y Cynllun Henebion Cludadwy, mae matricsau seliau yn unigryw a gwerthfawr gan eu bod yn ein cyfeirio at bobl benodol a enwir. Yn aml, dyma’r unig dystiolaeth sydd gennym o fodolaeth y bobl hyn, oherwydd mae’n bosib nad oes cofnod arall, hanesyddol nac archaeolegol, ohonynt. Yn fwy na hynny, maent yn rhoi cipolwg difyr ar fywydau eu perchnogion: eu gweithgareddau, eu statws a hyd yn oed eu hunaniaeth ethnig, eu swyddi a’u credoau. Darllen Pellach David H. Williams, Catalogue of Seals in the National Museum of Wales, 2 gyfrol, (Amgueddfa Genedlaethol Cymru, 1993 ac 1998, Caerdydd). David H. Williams, Welsh History through Seals (Amgueddfa Genedlaethol Cymru, 1982). Seals in Context: Medieval Wales and the Welsh Marches, John McEwan ac Elizabeth New, golygyddion, (Prifysgol Aberystwyth, 2012). Gwefan prosiect Imprint: https://www.imprintseals.org Yr holl luniau ©Amgueddfa Cymru oni nodir yn wahanol.