Gerddi Chwarelwyr yn Blodeuo ac yn Datgelu eu Hanes Julie Williams, 30 Ebrill 2020 Mae gerddi Tai’r Chwarelwyr yn Amgueddfa Lechi Cymru yn rhan boblogaidd o brofiad ymwelwyr â’r safle – ond nid edrych yn hardd yw unig bwrpas y planhigion, maen nhw yno hefyd i roi ychydig o hanes y chwarelwyr a’u teuluoedd.Mae’r ardd yn cael ei thrin gan dîm gweithgar o Gyngor Gwynedd, sy’n ymweld o’u canolfan ym Melin Glanrafon, Glynllifon. Mae’r tîm yn rhan o adran Oedolion, Iechyd a Llesiant y Cyngor, ac mae’n cynnig hyfforddiant a phrofiadau i oedolion ag anghenion dysgu. Mae’r tîm yn gofalu am yr ardd drwy gydol y flwyddyn, i sicrhau ei bod mewn cyflwr da ar gyfer yr ymwelwyr.Dyma Cadi Iolen, Curadur Amgueddfa Lechi Cymru yn egluro mwy am hanes y bythynod a'u gerddi:“Symudwyd Tai’r Chwarelwyr o Danygrisiau i’r Amgueddfa Lechi 21 mlynedd yn ôl. Mae pob tŷ yn adlewyrchu cyfnod gwahanol yn hanes y diwydiant llechi – o 1861 yn Nhanygrisiau tua dechrau oes aur y chwareli, i dŷ yn ystod Streic Fawr y Penrhyn ym 1901, a Llanberis ym 1969, pan gaewyd Chwarel Dinorwig am y tro olaf.Cawsom gyngor gan y prif arddwr yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, wnaeth amlinellu beth ddylen ni ei blannu ymhob gardd i adlewyrchu amodau byw’r cyfnod. Wedi hynny, bu’r garddwyr wrthi’n brysur yn plannu. Mae gan dŷ 1861 ardd berlysiau yn cynnwys ffenigl, mint ac eurinllys. Mae gardd 1901 yn fwy ymarferol, gyda gardd lysiau yn y tu blaen a’r cefn gan y byddai teuluoedd angen plannu eu bwyd eu hunain mewn adeg o dlodi. Erbyn 1969, mae’r gerddi’n fwy addurniadol gyda blodau fel begonias a phlanhigion lliwgar eraill, yn debyg i’n gerddi ni heddiw. Rydyn ni hefyd yn tyfu tatws a riwbob yng nghefn y tŷ addysg. Mae’r actorion preswyl yn defnyddio’r rhain, a chânt eu coginio yn y caffi o bryd i’w gilydd.”
Palwch er Iechyd a Lles Sharon & Iwan Ford, 29 Ebrill 2020 Roedd gerddi cynnyrch a blodau yn rhan nodweddiadol o gartrefi Glowyr. Man pwysig lle tyfwyd bwyd, lle'r oedd colomennod, ieir ac yn aml mochyn hefyd yn cael eu cadw. Sharon Ford yw Rheolwr Dysgu a Chyfranogi yn Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru. Ysgrifennodd yr erthygl hon ar gyfer ein blog, i ddathlu buddion iechyd a lles garddio - yn enwedig yn ystod y cyfnod cloi hwn. Mae'n llawn llawenydd garddio ac awgrymiadau a chynghorion defnyddiol, a chafodd Sharon fwy nag ychydig o help gan gyd-arddwr brwd - ei mab, Iwan. ‘We may think we are nurturing our garden, but of course it's our garden that is really nurturing us’ Jenny Uglow Dwi erioed wedi bod mor ddiolchgar am fy ngardd. Mae’n cynnig lloches y tu hwnt i bedair wal y tŷ. Mae’r tywydd braf wedi’n galluogi ni i fod tu allan pan nad ydym yn gweithio, i fynd o dan draed pan fyddwn angen ychydig o lonydd, ac wrth gwrs i roi mwy o sylw nag arfer i’r ardd. Mae bod â rhywbeth i gynllunio a chanolbwyntio arno wedi bod yn wych am dynnu’n meddyliau oddi ar yr argyfwng byd-eang a bod oddi wrth deulu a ffrindiau. Mae hyd yn oed ein mab 8 oed bywiog, Iwan wedi bod yn ymwneud mwy â’r ardd eleni, gan gynllunio pa lysiau mae eisiau eu cynaeafu a’u bwyta mewn ychydig fisoedd, ac mae’r awyr iach a’r gweithgarwch yn ei flino erbyn diwedd y dydd. Mae hyn yn bwysig gan ei fod arfer cael gwersi nofio, gymnasteg a rygbi.Mae effaith bositif garddio ar iechyd corfforol a meddyliol yn hysbys i bawb, a gall helpu gyda nifer o broblemau fel pwysau gwaed uchel, gorbryder yn ogystal â phroblemau iechyd meddwl mwy difrifol.Rydyn ni’n arbennig o lwcus i gael gardd adref a rhandir dros y ffordd. Nid pawb sydd mor lwcus, ond gall dim ond ambell i bot o blanhigion neu blannu llysiau mewn corneli a chilfachau leihau straen a hybu hunan barch. Mae gofalu am blanhigion tŷ yn rhoi teimlad o bwrpas i rywun, ac mae’n lle da i gychwyn os nad oes gennych brofiad o arddio.Gofynnais i Iwan os oedd eisiau rhannu ei gyngor ar dyfu a gofalu am blanhigion – mae’n arddwr profiadol erbyn hyn, gan ei fod wrthi ers yn blentyn bach. Roedd hefyd eisiau rhannu ei gyngor ar gadw ieir, rhag ofn bod unrhyw un yn meddwl cael ieir i’w cadw’n hapus! Mae llawer o dystiolaeth am fuddion therapiwtig cadw ieir hefyd.Fy enw i yw Iwan Ford. Rwy’n 8 oed ac yn byw yn Blaenafon. Y dyddiau hyn, rydw i adref gyda Mam a Dad drwy’r amser. Mae’n iawn, ond rwy’n colli fy ffrindiau a fy nghefndryd. Rydyn ni’n lwcus iawn achos mae ganddo ni ddwy ardd a dwy iâr. Enwau’r ieir yw Barbara a Millie. Roedd gen i iâr arall o’r enw Penny, ond roedd hi’n sâl iawn a bu farw ychydig wythnosau yn ôl. Fe wnaethon ni ei chladdu yn yr ardd.Fe gawson ni Millie pan glywodd rhywun fod Barbara ar ben ei hun. Silkie yw Millie, ac mae’n ddoniol iawn ac yn drwsgwl. Mae ganddi draed mawr ac mae’n cerdded dros bopeth. Mae’n gyfeillgar iawn ac yn fy nilyn rownd yr ardd. Mae gan ieir silkie glustiau glas a phlu blewog. Iâr fantam yw Barbara, ac mae ganddi blu hardd iawn. Mae plu oren o gwmpas ei gwddw. Mae’n dodwy wyau bach iawn ond mae nhw’n flasus iawn. Mae nhw’n amlwg yn ieir hapus iawn.Rwy’n helpu Mam a Dad gyda’r garddio achos mae ganddo ni randir a gardd wrth y tŷ. Rwy’n hoffi plannu, dyfrio a hel llysiau a ffrwythau. Mae gen i ardd lysiau fach fy hun ac rwy wedi plannu ffa Ffrengig, pwmpen, maro a ffa coch yn barod. Mae hadau angen pridd da a digon o gompost, haul a dŵr. Rhaid i chi gofio dyfrio yn aml neu chewch chi ddim planhigion.Cyngor plannu Iwan: Llenwch y potiau gyda chompost. Rhowch yr hedyn i mewn. Weithiau byddwch yn llenwi hanner y pot gyda chompost, rhoi’r hedyn i mewn ac wedyn mwy o gompost. Weithiau byddwch yn llenwi’r pot a gwneud twll gyda’ch bys i roi’r hedyn i mewn. Cofiwch ddyfrio, a bydd yr hadau yn tyfu mewn ychydig wythnosau. Pan fyddan nhw wedi tyfu ychydig, a dim perygl o rew, gallwch eu plannu yn y ddaear. Dim gardd? Gallwch blannu tatws mewn bwcedi neu fagiau compost. Mae tomatos yn tyfu fel hyn hefyd. Cofiwch ysgrifennu enwau’r planhigion ar ffyn hufen ia a’u rhoi yn y potiau, er mwyn cofio beth yw beth. Cyngor ieir Iwan: Dyw ieir silkie ddim yn crwydro achos dydyn nhw ddim yn hedfan, felly mae nhw’n berffaith ar gyfer gerddi bychan. Mae baw ieir yn dda i’r pridd. Pan mae’r compost baw ieir yn barod, gallwch ei gymysgu yn y pridd i gael planhigion mawr a chryf. Mae ieir yn hoffi cynrhon blawd. Rydyn ni’n rhoi rhai i’r ieir ac yn rhoi rhai i adar yr ardd hefyd. ‘Beaky and Feather’ yw hoff fwyd ieir, ac mae’n gwneud i’w plu sgleinio.
Meddyginiaethau Traddodiadol Lowri Jenkins, 28 Ebrill 2020 Mae’n anodd dychmygu amser, yn enwedig ar hyn o bryd, pan nad oedd modd troi at y Gwasanaeth Iechyd Genedlaethol pan yn dioddef o anhwylder. Cyn sefydlu'r GIG ym 1948, roedd cael gafael ar ofal meddygol yn dasg llawer mwy cymhleth ac ansicr. Rhaid oedd talu am ofal doctor preifat, gyda’r mwyafrif yn ceisio osgoi ymweliad ag ysbytai’r cyfnod. Roedd insiwrans iechyd ar gael, ond nid oedd honno yn system gynhwysfawr o bell ffordd. O dan yr amodau anodd hyn, byddai trigolion Cymru yn troi at natur; at blanhigion a blodau a defnyddiau eraill i greu moddion, elïau, powltisiau a meddyginiaethau o bob math. Roedd rhain yn gynhwysion a fyddai ar gael yn hawdd ac fe’u defnyddid i drin amrywiaeth eang o anhwylderau ac anafiadau a fyddai’n poenydio pobl ac anifeiliaid. Yn ystod yr 1970au a’r 1980au, aeth Amgueddfa Werin Cymru ati i gasglu tystiolaeth lafar gan gannoedd o siaradwyr er mwyn creu casgliad o wybodaeth ac atgofion am feddyginiaethau traddodiadol trigolion Cymru. Yr arbenigwraig yn y maes hwn ar staff yr Amgueddfa ar y pryd oedd ymchwilwraig ifanc a dawnus o’r enw Anne Elizabeth Williams. I ddathlu Wythnos Genedlaethol Garddio dyma gip ar atgofion siaradwyr yr Archif Sain am rai o’r planhigion, y blodau, y coed a’r llysiau a fyddai’n cael eu defnyddio. Blodau a Phlanhigion Dant y Llew o gasgliad Amgueddfa Cymru Roedd Edward Davies, Croes-goch, yn cofio defnyddio Dant y Llew (neu “ddant y ci” neu “ddail clais”) i gael gwared o ddafaden trwy rhwbio’r hylif gwyn o’r coesyn arno. Roedd eraill yn gwneud diod o flodau dant y llew ar gyfer gwella gwynegon. Yn Nhrawsfynydd a Llanuwchllyn, byddai rhai yn yfed trwyth o ddail dant y llew i buro’r gwaed. Yng Nghwm Main byddai trwyth dail dant y llew yn foddion ar gyfer trywinod. Blodyn parhaol o deulu’r Aster yw’r Tansi (Tanacetum Vulgare) yn frodorol o Ewrop ac Asia. Ceir sôn amdano yng nghyfrol Complete Herbal Nicholas Culpeper. Byddai’r planhigyn hwn yn cael ei ddefnyddio yn sir Feirionnydd i drin llyngyr rhuban (tapeworm) tra yn Sir Benfro, byddai rhai yn ei ferwi mewn llaeth i drin rhyddni. Yn Llangybi, cofiai Mai Jones y defnyddiwyd y tansi weithiau i drin anhwylderau merched hefyd. Ffa Corsydd (Bogbean). Yn Nhrawsfynydd, Llangybi a Llandysul byddai ffa corsydd yn cael ei ddefnyddio i drin problemau gyda’r dŵr ac yng Nghwm Main, byddai’n cael ei ddefnyddio i drin gwynegon a chrydcymalau. Yn Nhrawsfynydd, roedd Laura Morris yn cofio’r arfer o wneud trwyth o lin y mynydd a ffa corsydd i drin dolur cefn ac yn Llanuwchllyn, cofiai Catherine Jones rai yn cymryd trwyth ffa corsydd i buro’r gwaed. Byddai Llysiau’r Dryw (Agrimony) hefyd yn cael eu defnyddio i drin problemau gyda’r dŵr yng Nghwm Main yn ogystal â Gelaets (Yellow Flag) a Chwerwlys yr Eithin (Wood Sage) mewn ardaloedd eraill. Roedd Ceinwen Richards yn cofio y byddai llysiau’r dryw hefyd yn cael eu defnyddio i wneud te i wella llosg cylla yng Nghroes-goch. Arferid defnyddio sudd Llysiau Pen Tai (house-leek) i drin dafaden a chyrn ar y traed. Roedd y ddeilen gron a dail eiddew hefyd yn dda at gyrn. Yn ardal Llansannan, credai rhai hefyd bod llysiau pen tai yn fodd i gael gwared ar y ddrywinen (ringworm) a chofiai David Jones, Bronnant, eu berwi a'u “stwmpio” i wneud eli i iro'r llygaid. Roedd llawer yn credu bod Ysgol Fair (Common Centaury) ac Ysgallen Fraith (Milk Thistle) yn dda at drin heintiau ar yr arennau neu’r bledren. Yn ardal Niwbwrch, roedd Margaret Roberts yn cofio defnyddio Ysgol Fair at stumog anhwylus ac yn Nhregroes, cofiai Elizabeth Lloyd ddefnyddio ysgol fair i wneud diod at ddolur cefn. Coed Cafwyd sôn gan Feddygon Myddfai am bwerau iachaol nifer o goed yn Llyfr Coch Hergest a ysgrifennwyd tua diwedd y 14g (Llyfr Coch Hergest, yn y Bodleian Libraries, MS 111). Mae casgliad eang o dystiolaeth lafar wedi ei gasglu am y defnydd o goed mewn meddyginiaethau traddodiadol yn Ngymru. Roedd gwraig o Landecwyn, sir Feirionnydd yn cofio creu diod o risgl y Griafolen (Mountain Ash) i drin problemau gyda’r nerfau. Credai gŵr o Faenclochog y byddai arllwys dŵr ar risgl Y Ddraenen Ddu (Hawthorn) ac yna yfed y dŵr hwnnw yn lliniaru poenau yn y stumog. Roedd llawer o’r farn bod gan yr Ysgawen (Elder) lawer rhinwedd llesol. Byddid yn sychu’r dail i greu trwyth ar gyfer amryw o anhwylderau a defnyddid yr aeron i wneud gwin – y trwyth a’r gwin yn feddyginiaeth boblogaidd at annwyd. Gellid gwneud eli hefyd trwy gymysgu’r dail neu’r canghennau gyda braster mochyn neu hen fenyn (“menyn gwyrdd”). Ffrwythau a Choed Ffrwythau Roedd diod wedi ei wneud o ddail mwyar duon yn boblogaidd iawn i drin rhyddni a stumog wael a defnyddiwyd y blodau mewn diod i drin clwy’r marchogion (haemorrhoids). Roedd Catherine Jones o Lanuwchlyn y cofio rhoi ychydig o jam mwyar duon mewn dŵr poeth i wella annwyd a Kate Davies, Maesymeillion yn cofio creu moddion o finegr gwin gwyn, mwyar duon a siwgr at annwyd hefyd. Defnyddiwyd riwbob i gael gwared o rwymedd gyda dail y riwbob yn cael eu defnyddio i drin gwynegon y cymalau. Roedd Henry Owen o Langynnog yn cofio y byddai rhai yn rhoi ychydig o riwbob a sunsur i’r gwartheg unwaith y dydd i’w hamddiffyn rhag yr oerfel. Llysiau Byddai garlleg yn cael ei ddefnyddo mewn amryw feddyginiaeth. Yn Llanfallteg ger Caerfyrddin, byddai llawer yn rhoi darn o arlleg mewn hosan a gwisgo’r hosan honno dros nos. Credid y byddai arogl y garlleg yn amddiffyn rhag annwyd a rhag peswch. Roedd dwy wraig o Landysul yn cofio cael eu gorfodi i wisgo garlleg o gwmpas eu gyddfau pan yn blant gan y byddai hyn, yn ôl pob sôn, yn eu gwarchod rhag llyngyr. Byddai rhai hefyd yn defnyddio garlleg i drin brathiad neidr. Roedd gan datws eu defnydd iachaol hefyd – byddai rhai yn rhoi sleisen o daten ar y cymalau i liniaru poen ac eraill yn gwneud powltis i’r gwddf i drin cwinsi. Roedd Margaret Williams, Tregaron, yn cofio rhai yn rhoi taten y tu fewn i’w hosan i leddfu crydcymalau. Roedd Olive Evans o’r Rhos, ger Hwlffordd yn cofio defnyddio Winwnsyn (neu nionyn) ar gyfer pigyn clust. Byddid yn rhoi’r winwnsyn yn y ffwrn i’w gynhesu yna tynnu’r galon (canol) allan a’i roi yn y glust. Roedd hi hefyd yn arfer rhoi winwnsyn poeth mewn cadach a gosod y cadach wedyn ar y glust. Byddai rhai yn rhwbio hanner winwnsyn ar losg eira er mwyn lliniaru’r boen ac eraill yn bwyta winwnsyn wedi ei falu’n fân mewn griwel i wella rhwymedd. Mae hyd yn oed sôn yn yr Archif o rwbio’r pen gyda winwnsyn i atal moelni. Rhywbeth Braidd yn Wahanol.. Ond beth yw’r feddyginiaeth fwyaf anghyffredin yn yr Archif? Mae llawer un braidd yn ddiddorol ac anarferol â dweud y lleiaf. Gan adael byd y planhigion am funud, mae un arfer o ardal Abertawe yn haeddu peth sylw yma. Mae’n debyg yr arferid defnyddio llysnafedd malwoden i drin llefrithen (stye) ar y llygad. Casgliad Materia Medica, Amgueddfa Cymru
Amser ‘Cwestiwn y Garddwr’ Treftadaeth, o Erddi Sain Ffagan Juliet Hodgkiss, 28 Ebrill 2020 Mae Juliet Hodgkiss yw Uwch Gadwraethwr Gerddi Amgueddfa Cymru. Mae hi'n arwain tîm ymroddedig o arddwyr a gwirfoddolwyr yn Sain Ffagan, sy'n gofalu am y gerddi a'u casgliadau o blanhigion treftadaeth arbennig. Mewn ymateb i ddiddordeb cynyddol yn ein gerddi ein hunain, a dyhead cynyddol am harddwch rhai o erddi godidog ein cenhedloedd yn ystod y cyfyngiadau symud, dros yr ychydig ddyddiau diwethaf rydyn ni wedi bod yn casglu'ch cwestiynau chi i Juliet am ei gwaith. Dyma ei hatebion yn ein fersiwn ‘treftadaeth’ ni o Gardener’s Questiontime.Beth yw'r peth gorau am eich swydd? Y peth gorau am fy swydd yw cael fy nhalu i weithio mewn gerddi mor brydferth. Mae gennym ni amrywiaeth eang o erddi, felly rydw i'n gwneud rhywbeth gwahanol bob dydd. Rwyf hefyd yn cael cwrdd â chymaint o bobl wych trwy fy ngwaith - staff, gwirfoddolwyr, ymwelwyr, cyd-arddwyr a mwy.Pa un o erddi Sant Fagan yw eich hoff un a pham? Yr adeg hon o'r flwyddyn, fy hoff ran o'r gerddi yw'r ardal ger y pyllau. Trwy gydol y gwanwyn, mae banciau'r teras wedi'u gorchuddio â bylbiau gwanwyn; cennin Pedr, clychau'r gog a ffritil, i gyd uwchben carped o anemonïau. Daw’r godidog Magnolia ‘Isca’ i'w blodau yn gyntaf, ac yna’r ceirios a’r afalau. Y goeden ddiweddaraf i flodeuo yw'r Davidia, gyda'i bracts gwyn anferth sy'n siglo yn yr awel, gan roi ei henw iddi - y goeden hances.Pa un yw'r planhigyn prinnaf yn y casgliad?Un o'r planhigion prinnaf sydd gennym yw rhosyn Bardou Job, a oedd yn un o'r rhosod gwreiddiol yn yr Ardd Rhosod. Credwyd bod hwn wedi diflannu, yna cafodd ei ail-ddarganfod gan grŵp o selogion rhosyn, yn tyfu yn hen ardd prif warder ar Alcatraz! Fe'i lluosogwyd, a danfonwyd 6 rhosyn atom i dyfu yn ein gerddi. Mae gennym hefyd gasgliad o datws treftadaeth, a roddwyd i ni gan Asiantaeth Ymchwil Amaethyddol yr Alban.Un o'r tatws rydyn ni'n eu tyfu yw'r Lumper, y tatws a dyfwyd ar adeg newyn tatws Iwerddon. Ni ellir prynu'r rhain, felly mae'n rhaid i ni eu tyfu bob blwyddyn i gynnal ein casgliad.Pa un yw'r planhigyn anoddaf y mae'n rhaid i chi fynd i'r afael ag ef - un sydd anoddaf i'w gynnal? Y planhigion anoddaf i'w cadw yw'r tatws treftadaeth. Mae'n rhaid i ni dyfu'r rhain bob blwyddyn i gynnal ein casgliad, ac mae'r rhan fwyaf o'r hen amrywiaethau hyn yn agored iawn i falltod, felly mae angen eu rheoli'n ofalus i sicrhau cnwd da.Pa un yw'r planhigyn anoddaf i'w reoli? Y planhigyn anoddaf i'w reoli yw Oxalis, chwyn parhaus gyda deilen debyg i feillion, sy'n lluosi trwy fylbiau. Mae'r bylbiau hyn yn cael eu lledaenu pan fydd y pridd yn cael ei drin. Mae bron yn amhosibl ei ddileu. Ar ôl treulio blynyddoedd yn ceisio ei chwynnu, rydyn ni nawr yn ei gadw dan reolaeth gyda phlannu a gorchuddio tomwellt.Pa un yw eich hoff amser o'r flwyddyn yn yr ardd? Fy hoff amser o'r flwyddyn yw'r gwanwyn, gyda bylbiau'r gwanwyn, coed yn blodeuo, y rhedyn yn agor eu ffrondiau, a'r holl blanhigion yn yr ardd yn blaguro i dyfiant. Mae popeth yn edrych yn ffres a newydd, ac rydyn ni arddwyr yn llawn gobaith am flwyddyn wych o'n blaenau yn yr ardd.
Tîm GRAFT Amgueddfa Genedlaethol Y Glannau yn Hadu Lles a Blodau'r Haul yn y Gymuned Angharad Wynne, 28 Ebrill 2020 Er na all tîm a gwirfoddolwyr prosiect GRAFT Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, ymgynnull i arddio gardd yr Amgueddfa ar yr adeg hon, maent serch hynny yn cadw'n brysur yn sefydlu 'Hadau Allan yn y Gymuned' ac yn ein hannog ni i gyd i dyfu blodau haul mewn mannau gweladwy a chyhoeddus i ddangos cefnogaeth ar gyfer gweithwyr allweddol. Dyma ychydig mwy am y prosiect cymunedol arloesol hwn a sut mae wedi tyfu o hedyn syniad i brosiect llewyrchus sy'n tyfu planhigion, bwyd a phobl.GRAFT: maes llafur wedi'i seilio ar bridd, yw prosiect tir ac addysg fwytadwy Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, a darn parhaol o seilwaith gwyrdd yng Nghanol Dinas Abertawe. Mae'r prosiect hefyd yn waith celf sy'n ymgysylltu'n gymdeithasol gan yr artist Owen Griffiths, ac fe'i comisiynwyd yn wreiddiol fel rhan o Nawr Yr Arwr yn 2018, a ariannwyd gan 1418NOW fel rhan o brosiect diwylliannol enfawr ledled y DU sy'n coffáu'r Rhyfel Byd cyntaf.Mae GRAFT yn gweithio gyda grwpiau cymunedol o ystod eang o gefndiroedd ledled y ddinas a ddaeth ynghyd, i drawsnewid cwrt yr Amgueddfa i mewn i amgylchedd tyfu organig hardd, cynaliadwy; creu tirwedd fwytadwy i annog cyfranogiad a sgwrs ynghylch defnydd tir, bwyd a chynaliadwyedd mewn ffordd hygyrch a grymusol.Mae Owen a'r Uwch Swyddog Dysgu Zoe Gealy yn datblygu rhaglen barhaus GRAFT o amgylch y syniadau hyn o gydweithredu, cynaliadwyedd a'r gymuned. Bob dydd Gwener, (heblaw yn ystod y cyfnod cloi hwn), mae gwirfoddolwyr hen ac ifanc yn gweithio ochr yn ochr â'i gilydd i rannu sgiliau gweithio mewn pren a metel, dysgu sut i dyfu planhigion, ennill cymwysterau a chefnogi ei gilydd ar hyd y ffordd. Mae'r prosiect wedi gweld prentisiaethau llwyddiannus yn datblygu o ganlyniad i'w raglen, yn ogystal â gweld buddion iechyd meddwl tymor hir trwy weithio y tu allan gyda'i gilydd. Mae cyfeillgarwch yn datblygu, ac mae pobl, yn ogystal â phlanhigion, yn ffynnu. Yn ystod datblygiad GRAFT, yn ogystal â gwelyau uchel, mae pergola a meinciau o bren lleol, popty pizza cob a chychod gwenyn wedi’u cyflwyno i’r ardd. Daw gwirfoddolwyr ieuengaf GRAFT o Ysgol Cefn Saeson yng Nghastell-nedd ac maent yn gweithio gydag Alyson Williams, y Gwenynwr preswyl, yn dysgu am fioamrywiaeth, yr amgylchedd ac yn gweithio gyda'i gilydd i ofalu am y gwenyn.Mae peth o'r cynnyrch sy'n cael ei dyfu yn yr ardd fel arfer yn gwneud ei ffordd i mewn i brydau blasus yng nghaffi'r Amgueddfa tra bod rhywfaint yn cael ei ddefnyddio ar gyfer prydau cymunedol yn GRAFT. Mae cyfran o gynnyrch yn cael ei ddefnyddio gan wirfoddolwyr, a rhoddir peth i brosiectau a grwpiau ledled yr ardal sy'n darparu bwyd i'r rhai mewn angen, fel Tŷ Matts, Ogof Adullam a chanolfan galw heibio ffoaduriaid Abertawe.HADAU A HEULWEN YN YSTOD Y CYFNOD YMA O WAHARDDIADAUDros yr wythnosau nesaf bydd GRAFT yn postio hadau trwy gynllun parseli bwyd Dinas a Sir Abertawe, ac i grwpiau cymunedol y maent yn gweithio gyda nhw yn rheolaidd megis Roots Foundation a CRISIS. Mae'r hadau'n cynnwys pwmpen sgwash a blodau haul, a gynaeafwyd gan y garddwyr y tymor diwethaf.Mae menter arall y mae GRAFT yn ei datblygu yn ystod yr wythnosau nesaf yn annog pobl i blannu blodau haul mewn mannau gweladwy a chyhoeddus, i ddangos cefnogaeth i weithwyr allweddol ochr yn ochr â phaentiadau enfys. Gwahoddir pobl hefyd i bostio lluniau o’u tyfiant llwyddiannus ar dudalennau cyfryngau cymdeithasol GRAFT.I ofyn am hadau, cysylltwch â zoe.gealy@museumwales.ac.uk07810 657170Wrth gloi, mae angen rhywfaint o ofal ar ardd GRAFT yn ystod y cyfnod yma, ac felly mae tîm ar-safle Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn dyfrio'r ardd a gofalu am y planhigion ifanc yn ystod eu sifftiau dyddiol.Gyda diolch i chwaraewyr Loteri Cod Post y Bobl am gefnogi rhaglen gyhoeddus o weithgareddau a digwyddiadau Amgueddfa Cymru.DILYNWCH GRAFFT:www.facebook.com/graft.a.soil.based.syllabusINSTAGRAM: Graft____