Yr Eisteddfodau Taleithiol 1819-1834
Fe ddechreuodd Eisteddfodau'r Gwyneddigion ym mis Medi 1789 yn Y Bala, ac mae'n debyg gen i y byddai dylanwad y Gwyneddigion wedi bod yn reit bwysig, mi fydden nhw wedi sefydlu mudiad Eisteddfodol o bwys. Ond wrth gwrs mi ddôth y rhyfeloedd yn erbyn Napoleon i chwalu'r patrwm, ac mewn dim o dro mi roedd Eisteddfodau'r Gwyneddigion fel petai wedi rhedeg i'r tywod.
Wel, pan ddôth y rhyfel hwnnw i ben, fe ailgydiwyd yn y diddordebau eisteddfodol, yn arbennig felly gan gwlwm o glerigwyr, a oedd yn cwrdd adeg y Nadolig a'r Calan lan yng Ngheri ar bwys Y Drenewydd, yn cwrdd yn fanno yn y rheithordy, lle'r oedd Ifor Ceri, y Parchedig John Jenkins, wrth y llyw, gŵr a chanddo fe ddiddordeb arbennig yn yr hen ddiwylliant traddodiadol, yn farddoniaeth ac yn gerddoriaeth pe bai'n dod i hynny, ac roedd yna nifer o glerigwyr brwd o'i gwmpas e. Ac yng Ngheri mewn gwirionedd, yn y flwyddyn 1818 y dechreuwyd meddwl mewn difrif am ailgydio eto yn y mudiad Eisteddfodol a chreu eisteddfodau go iawn.
A'r flwyddyn ddilynol yng Nghaerfyrddin, dan nawdd y Gymdeithas a oedd wedi ei chreu yn Nyfed, dyma nhw'n cynnal yr eisteddfod gynta, yr eisteddfod daleithiol gynta. Ac fe gynhaliwyd honno yng
Nghaerfyrddin ym 1819, y gynta o ddeg o eisteddfodau taleithiol achos mi aeth y mudiad rhagddo hyd y flwyddyn 1834, pan ddaeth y cyfan i ben yng Nghaerdydd. Deg o eisteddfodau taleithiol, heb unrhyw amheuaeth, a wnaeth weddnewid holl stori'r eisteddfod, oherwydd fe gynhaliwyd eisteddfodau nad oedd eu bath nhw ddim erioed wedi'u gweld ar ddaear CymruCaerfyrddin 1819 a Gorsedd y Beirdd
Fe gynhaliwyd y gynta' o'r eisteddfodau taleithiol hyn yng Nghaerfyrddin, fel dywedais i, yn y flwyddyn 1819. Ac fe ddaeth i'r eisteddfod honno bob cam o Ferthyr, lle'r oedd e'n aros ar y pryd gyda'i fab, yr hynafgwr rhyfeddol hwnnw, Iolo Morgannwg, crëwr Gorsedd y Beirdd. Nawr mi roedd yr Orsedd wedi ei chreu wrth gwrs ers rhai blynyddoedd, ac wrth gwrs yn Llundain mi roedd honno wedi'i lansio. Ond doedd hi ddim wedi'i phriodi â'r Eisteddfod.
Ac fe welodd Iolo Morganwg yn saithdeg oed, mi welodd ei gyfle yng Nghaerfyrddin yn y flwyddyn 1819. Mi ddôth lawr bob cam, a'r fan honno, gyda rhyw lond poced o chippings fel petai, mi luniodd gylch Gorsedd ar lawnt yr Ivy Bush, yr hen westy hyglod hwnnw. Ac fe ddechreuodd yn y fan honno urddo, wrth gwrs, beirdd a derwyddon, yn eu plith nhw neb llai na'r enwog Esgob Thomas Burgess Tyddewi, a oedd yn noddwr mawr i'r eisteddfodau taleithiol. Ac mae gyda ni fan hyn yn Sain Ffagan y cleddyf a ddefnyddiwyd gan Iolo Morganwg yn ystod seremonïau derwyddol, gorseddol y flwyddyn honno.
Ac mi roedd Gwallter Mechain wrthi o hyd yn cystadlu ac yn ennill. Mae'r fedal ŷch chi'n edrych arni hi nawr yn coffáu ei gamp e yn ennill awdl farwnad i arwr mawr Caerfyrddin, ac ie hyd yn oed maes Waterloo - rwy'n cyfeirio at yr enwog Syr Tomos Picton. Roedd e'n destun awdl farwnad. Roedd hyn'na'n golygu ei fod e'n ganolbwynt mawl yn Eisteddfod Caerfyrddin ym 1819 ac fe roedd Gwallter Mechain yn ennill unwaith eto.
Diwylliant y Cyngerdd
O safbwynt her y diwylliant Seisnig, sef diwylliant y cyngerdd, i'r diwylliant Cymraeg traddodiadol, fe welwyd hwnnw ar unwaith ar waith yn 'Steddfod Caerfyrddin 1819, oherwydd mi ddôth y Parchedig John Bowen â chôr, rhan o'r Bath Harmonic Society, lawr i dre Caerfyrddin ac fe wnaeth y côr hwnnw gynnal dau fuddgyngerdd, y naill ar gyfer gweddwon a phlant offeiriaid oedd wedi darfod amdanyn nhw, a'r llall, credwch fi neu beidio, a defnyddio'r disgrifiad Saesneg, yn fuddgyngerdd ar gyfer "decayed harpists," sef hen delynorion mae'n debyg, oedd wedi mynd yn rhy fusgrell i'w cynnal nhw eu hunain. Ac yn y ddau gyngerdd yma fe welwyd wrth gwrs parchusion tre Caerfyrddin a'r cylch yn tyrru, oherwydd mi roedd hwn yn rhywbeth hollol ffasiynol.
Ac mewn gwironedd, o'r foment honno ymlaen mi welwch chi ddechrau'r frwydr yn yr Eisteddfod rhwng y ddau ddiwylliant. Meddyliwch chi nawr, mae gyda chi Iolo Morgannwg yn cynnal Gorsedd y Beirdd ar lawnt yr Ivy Bush, a'r Orsedd honno'n bod yn un swydd i ddathlu yr hyn a oedd yn unigryw yn y diwylliant Cymraeg. Mae hyn'na'n digwydd ar y naill law, ac ar y llaw arall mae'r cyngerdd ffasiynol yma'n dod mewn. Ac mi fyddai hi'n frwydr o 1819 ymlaen, a honno'n frwydr gyda llaw a fyddai'n costio'n ddrud iawn i'r beirdd ac i'r diwylliant Cymraeg o fewn yr Eisteddfod.
Dinbych 1824: tlws am ganu'r delyn
Dan nawdd Cymdeithas Cymmrodorion Powys y cynhaliwyd dwy eisteddfod drawiadol iawn, yn Ninbych, 1824 a 1828. Yn 1824, fel mae'r llun yma'n dangos i chi, fe enillwyd telyn, hynny yw tlws am ganu'r delyn. Mae'n ddiddorol iawn, oherwydd mae'n amlwg fod y tlws hwnnw yn 1824 wedi'i fodelu, os mynnwch chi, ar y tlws enwog sydd yng nghadw heddi ym Mhlas Mostyn, sef y tlws a enillwyd gan y telynor yn ail eisteddfod Caerwys 'nôl yn 1567. Mae'n werth cofio hynny, mai tlysau i'w gwisgo a oedd yn cael eu rhoi, hyd y gwyddom ni yn sicr, 'nôl yn yr hen eisteddfodau hynny. Ac mae'r delyn a enillwyd yn 1824 yn Ninbych yn amlwg yn dal cyswllt â'r tlws hwnnw, sydd yn gwneud y tlws yn un diddorol iawn a dweud y lleia.
Dinbych 1828: yr Eisteddfod Frenhinol gyntaf
Mi roedd honno'n eisteddfod gyffrous yn 1824 yn Ninbych, a'r gwyr mawr yn tyrru iddi hi. Ond mwy cyffrous o gryn dipyn oedd yr eisteddfod a ddilynodd yn 1828, eto yn Ninbych, a honno'n cael ei galw, rwy'n meddwl am y tro cynta', yn Eisteddfod Frenhinol.
Pam, meddech chi? Yn syml, oherwydd bod brawd y Brenin, Siôr y Pedwerydd, wedi galw heibio, sef yr hen Ddug Sussex, a oedd yn digwydd bod yn y cyffiniau. Dyn, gyda llaw, â diddordeb mawr ganddo fe mewn clociau. Wel mi aeth e i'r eisteddfod yn Ninbych yn 1828, a mawr fu'r cyffro, fel gallech chi gredu.
At hynny, un o feirdd trawiadol y cyfnod, a oedd yn dechrau gwneud enw iddo fe'i hunan - un arall o'r clerigwyr, Evan Evans, y Parchedig Evan Evans, sef yr enwog Ieuan Glan Geirionnydd. Ac yn yr Eisteddfod honno yr enillodd e'i gadair, wrth gwrs, a derbyn medal hardd iawn. Awdl ar wledd Belshasar, sydd yn enghraifft gynnar, os mynnwch chi, yn yr eisteddfodau hyn o'r ffordd yr oedd y Beibl yn mynd i ddominyddu'r testunau a oedd yn cael eu gosod ar gyfer y beirdd, flwyddyn ar ôl blwyddyn. Wel mi fydden i'n bersonol wedi bod yn falch iawn o gael bod yn Eisteddfod Dinbych, er mwyn cael dweud wrth Ddug Sussex nad oedd e ddim wedi dod i'r lle iawn.
Biwmares 1832: awdl ar longddrylliad y Rothsay Castle
Ac mae'n rhaid, wrth gwrs, i ni gael enghraifft nawr o eisteddfod a gynhaliwyd dan nawdd Cymdeithas Gymroaidd Gwynedd, ac fe awn ni i'r flwyddyn 1832 ym Miwmares. Ac os oedd Eisteddfod Dinbych 1828 yn eisteddfod frenhinol, wel credwch fi neu beidio, pwy ddoth ar gyfyl eisteddfod 1832 gyda'i mam, y Dduges Caint, the Duchess of Kent? Neb llai na'r Dywysoges Victoria, oedd yn aros yn Baron Hill yn ystod y cyfnod hwnnw. Nawr mi roedd hi a'i mam fod mynd i'r 'steddfod ond mi drodd y tywydd yn eu herbyn nhw. A'r hyn a ddigwyddodd felly oedd fod y beirdd, yr enillwyr i gyd mewn gwirionedd, wedi cael mynd draw i Baron Hill i gwrdd â'r Dywysoges Victoria, ac i dderbyn eu medalau ganddi hi.
Ac ymhlith yr enillwyr, un ffigur a oedd yn mynd i chwarae rhan reit ddylanwadol yn hanes yr Eisteddfod, lawr hyd at yr Eisteddfod Genedlaethol gynta' yn y chwedegau - yr enwog William Williams Caledfryn, Y Parchedig William Williams Caledfryn. Ac yn 1832 ym Miwmares mi roedd e wedi ennill cadair am awdl a fu yn enwog iawn yn ei dydd - awdl ar longddrylliad y Rothesay Castle, llong a oedd wedi mynd yn llongddrylliad ger Môn. Ac mi fuodd yr awdl honno yn gryn gyffro, os mynnwch chi, yn y cylchoedd barddol ac mi wnaeth enw William Williams, Caledfryn. Mi fuodd e os mynnwch chi yn rhyw fath o farchogaeth ymhlith ei gyd-feirdd yn rhinwedd yr awdl honno.