Gwasanaeth Benthyciadau

Cefndir benthyciadau oddi wrth y Casgliadau

Mae Amgueddfa Cymru’n annog y defnydd ehangaf posibl o wrthrychau ac eitemau o’i gasgliadau cyfoethog ac amrywiol, er mwyn ysbrydoli, cyffroi ac addysgu. Gweler manylion y casgliadau wrth glicio ar y botwm hyn:

Curadurol ac Ymchwil

Mae'r Amgueddfa'n hwyluso nifer o fenthyciadau bob blwyddyn, nid yn unig o fewn Cymru ond ledled y byd. Maent yn amrywio o fenthyciadau i amgueddfeydd cenedlaethol eraill yn y DG a phrif amgueddfeydd tramor eraill drwy arddangosfeydd teithiol, i fenthyciadau drwy ei chynlluniau Partneriaeth 'Cyfoeth Cymru Gyfan -Sharing Treasures' a 'Celf Cymru Gyfan - ArtShare Wales' ac i amgueddfeydd eraill ledled Cymru. Yn ystod y cyfnod rhwng Ebrill 2005 a Mawrth 2006 gwnaed 405 benthyciad gan yr Amgueddfa o fewn y DG yn unig, gan gynnwys 26,477 o wrthrychau ac eitemau i 253 o sefydliadau. Mae'r isod yn dangos ein hystod o ddarpariaeth benthyciadau ledled Cymru, sy’n cefnogi tua 134 o arddangosfeydd yn y lleoliadau hyn, gan gynnwys 3,135 o wrthrychau ac eitemau.

Map

Mae’r Amgueddfa hefyd yn darparu benthyciadau ymchwil i sefydliadau ledled y byd, yn arbennig o’r casgliadau gwyddoniaeth naturiol; mae’r rhain yn tueddu i fod ar sail tymor hirach na’r rhai sy’n cael eu benthyg ar gyfer arddangosfeydd.

Hwyluso Benthyciadau

Mae hwyluso benthyciadau yn brif weithgaredd o fewn Amgueddfa Cymru, fel y disgrifiwyd yn

Polisi Benthyciadau Allan

(copi caled ar gael drwy gais). Mae’r Amgueddfa hefyd wedi ymrwymo i wella’r broses o hwyluso benthyciadau i amgueddfeydd heb fod yn rhai cenedlaethol drwy ei Chynllun Partneriaeth, ond hefyd drwy fabwysiadu canllawiau a safonau a gyhoeddwyd gan y Gynhadledd Cyfarwyddwyr Amgueddfeydd Cenedlaethol yn ei ddogfen Cyfarwyddyd ynglŷn â threfnau benthyg rhwng amgueddfa genedlaethol ac amgueddfa anghenedlaethol.

Polisi Bethyciadau Allan

Benthyg eitemau gan Amgueddfa Cymru. Canllaw cam wrth gam.

Mae casgliad Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb yng Nghymru, ac rydyn ni am roi cyfle i gymaint o bobl â phosib i’w fwynhau. Un o’r ffyrdd o wneud hyn yw benthyg gwrthrychau i amgueddfeydd, orielau a chymunedau ledled Cymru, fel bod gan gynulleidfaoedd fynediad lleol at y casgliad.

Rydym hefyd eisiau sicrhau bod amgueddfeydd ac orielau y tu allan i Gymru yn gallu benthyg gweithiau i’w harddangos mewn arddangosfeydd newydd, cyffrous.

Rydym wedi adolygu ein ffordd o reoli benthyciadau, a’i symleiddio lle bo modd. Bydd yr wybodaeth isod yn eich tywys drwy’r gwahanol gamau ac yn esbonio beth sydd angen i chi ei wneud.

1. Ymchwil ac ymholiadau cychwynnol

Os oes gennych ddiddordeb mewn benthyg rhywbeth gennym ni, mae’n syniad da i wneud rhywfaint o ymchwil cyn gwneud cais ffurfiol am fenthyciad.

Un adnodd defnyddiol yw’r

Casgliadau Ar-lein

. Gallwch hefyd gysylltu â’r Cofrestrydd (benthyciadau@amgueddfacymru.ac.uk) neu’r adran guradurol berthnasol i drafod eich syniadau.

2. Gwneud cais ffurfiol

Pan fyddwch wedi penderfynu beth hoffech chi ei fenthyg, bydd angen i chi anfon cais ffurfiol dros e-bost neu trwy lythyr. Dylid cyfeirio’r cais at y Cyfarwyddwr Casgliadau ac Ymchwil (Dr Kath Davies) a’i anfon i: benthyciadau@amgueddfacymru.ac.uk

Anfonwch eich cais o leiaf naw mis cyn eich bod angen y gwrthrychau. Bydd ceisiadau ffurfiol a wneir o fewn chwe mis i fod angen y gwrthrychau yn cael eu hystyried mewn amgylchiadau eithriadol yn unig.

Y rheswm ein bod yn gofyn am eich cais mor bell ymlaen llaw yw i roi digon o amser i ni weithio gyda chi i ddatrys unrhyw broblemau allai godi. Rydym am wneud popeth a allwn i sicrhau y gall y benthyciad ddigwydd.

Pan fyddwch yn gwneud y cais, rhowch gymaint o wybodaeth â phosibl ynghylch pam eich bod eisiau benthyg gennym ni. Rydym yn argymell eich bod yn cynnwys:

  • Teitl yr arddangosfa, digwyddiad neu weithgaredd cyhoeddus
  • Lleoliad(au) a dyddiadau allweddol
  • Manylion cyswllt y trefnydd
  • Crynodeb o bwnc ac amcanion y rhaglen gyhoeddus
  • Rhestr o’r eitemau yr hoffech, gan gynnwys y rhifau derbynodi os ydynt yn hysbys

Bydd Cofrestrydd yr Amgueddfa yn cydnabod eich cais o fewn deg diwrnod i ni ei dderbyn. Sylwer: nid yw hyn yn golygu ein bod wedi cytuno i’ch cais.

3. Ystyried cais

Bydd ceisiadau am eitemau o’n casgliadau archaeoleg, hanes, diwydiant a gwyddorau naturiol yn cael eu hystyried fel hyn:

  • Benthyciadau o fewn Cymru a’r DU - misol
  • Benthyciadau rhyngwladol - bedair gwaith y flwyddyn, fel arfer ym Mawrth, Mehefin, Medi a Rhagfyr.
  • Benthyciadau o’n casgliad celf - ddwywaith y flwyddyn, fel arfer ym Mehefin a Rhagfyr.

Byddwn yn anfon llythyr i chi unwaith y byddwn wedi penderfynu. Bydd y llythyr yn nodi unrhyw ffioedd a chostau, ac unrhyw ofynion penodol sy’n berthnasol.

4. Beth sy’n digwydd nesaf?

Byddwn yn gofyn i chi am wybodaeth fanwl ynghylch eich adeilad, sut ydych chi’n gofalu amdano ac unrhyw gasgliadau sydd ynddo (gofynion diogelwch), a sut ydych chi’n mesur, cofnodi a rheoli tymheredd, lleithder cymharol a golau (gofynion amgylcheddol). Byddwn yn anfon Adroddiad Cyfleusterau, Atodiad Diogelwch ac Atodiad Casys Arddangos UKRG, er mwyn i chi allu cofnodi hyn. Bydd hefyd angen i chi ddweud wrthym sut y caiff yr eitemau ar fenthyg eu hyswirio.

Unwaith y byddwch wedi anfon yr wybodaeth hon i ni, byddwn yn ei hadolygu a byddwn yn gweithio gyda chi i ddatrys unrhyw broblemau neu bryderon fel bod modd i’r benthyciad fynd yn ei flaen. Os na allwn ni ddatrys popeth, efallai y bydd angen i ni adolygu’r benthyciad a phenderfynu a oes modd benthyg y gwrthrychau i chi ai peidio.

Byddwn yn trafod ac yn cytuno â chi sut caiff y gwrthrychau eu pacio, eu cludo a’u gosod. Byddwn yn penderfynu a ddylai’r gwrthrych gael ei dywys yn gorfforol neu’n rhithiol gan aelod o’n staff (cluder) ai peidio, a byddwn yn gweithio gyda chi i drefnu hyn.

Yn olaf, byddwn yn anfon cytundeb benthyciad i chi, fydd yn cadarnhau’r holl drefniadau. Bydd angen i hwn gael ei lofnodi gan y Cyfarwyddwr Casgliadau ac Ymchwil a gan gynrychiolydd o’r sefydliad sy’n benthyg, cyn i’r gwrthrychau adael yr Amgueddfa.

Unwaith bydd y gwrthrychau wedi gadael yr Amgueddfa, byddwn yn anfon anfoneb i chi am y ffioedd a’r costau a gytunwyd.

5. Ffioedd a chostau benthyg

Fel arfer nid ydym yn codi tâl ar gyfer benthyciadau yng Nghymru, gan fod rhannu’r casgliadau cenedlaethol gyda phobl Cymru yn rhan o nod yr Amgueddfa. Rydym yn codi ffi ar gyfer pob benthyciad y tu allan i Gymru. Rydym yn codi ffi uwch ar gyfer benthyciadau i arddangosfeydd lle codir tâl mynediad ar gyfer y sefydliad cyfan a/neu’r arddangosfa benodol. Mae manylion ein ffioedd presennol i’w gweld yma:

6 Polisi Benthyciadau Allan 2016RevMay21

Yn ogystal ag unrhyw ffi, byddwn yn gofyn i chi dalu’r holl gostau uniongyrchol sy’n gysylltiedig â’r benthyciad. Mae’r rhain yn cynnwys, ond heb eu cyfyngu i: deunyddiau ar gyfer fframio, gwydro a mowntio; trafnidiaeth; ac yswiriant. Pe bai cais i fenthyg yn cael ei dynnu’n ôl, byddwn yn gofyn i chi dalu am unrhyw waith sydd wedi digwydd yn barod, neu unrhyw gostau a ysgwyddwyd gennym ni, ar bwynt canslo’r benthyciad.

6. Adnewyddu

Caiff cytundebau benthyg eu rhoi am gyfnod o 12 mis ar y mwyaf.

Os ydych chi am ymestyn y cyfnod benthyg, bydd angen i chi roi gwybod i Gofrestrydd yr Amgueddfa, un ai drwy lythyr neu e-bost o leiaf fis cyn dyddiad gorffen y cytundeb presennol. Byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl ar ôl derbyn eich cais i roi gwybod beth yw ein penderfyniad. Caiff yr holl ffioedd a chostau yn gysylltiedig ag adnewyddu eu cadarnhau pan gaiff y cais ei wneud.

Rydym yn cadw’r hawl i archwilio’r gwrthrychau sydd ar fenthyg o bryd i’w gilydd, er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn y gofal priodol. Bydd hyn ar gost y benthycwr.

7. Adborth

Er mwyn i ni allu datblygu a gwella ein gwasanaeth benthyg, byddwn yn gofyn i chi gwblhau ffurflen adborth.

Dogfennau defnyddiol

Polisi Benthyciadau Allan 6 Polisi Benthyciadau Allan 2016RevMay21

Cyswllt: benthyciadau@amgueddfacymru.ac.uk

Ymgeisio am fenthyciad ar gyfer gwaith ymchwil neu at ddibenion eraill

Os hoffech fenthyg gwrthrych at ddibenion heblaw am ei arddangos, yn enwedig ar gyfer gwaith ymchwil, cysylltwch â'r adran berthnasol i drafod eich anghenion. Bydd yr adran yn trafod yr amodau perthnasol â chi, er enghraifft amodau ar gyfer cymryd sampl, ac yn rhoi gwybod i chi am unrhyw gostau. Bydd gofyn i ymchwilwyr sy'n benthyg gwrthrych gennym am y tro cyntaf gofrestru fel Benthyciwr Cymeradwy.