Trawsnewid

Cabaret Digidol

Ym mis Gorffennaf 2021, yn ystod y cyfnod clo, creodd aelodau Trawsnewid (grŵp LHDTC+ yr Amgueddfa ar gyfer pobl ifanc 16-25 oed) gabaret digidol. Roedd y cabaret yn cynnwys ffilmiau, gair llafar, perfformiadau drag a chelf wedi’u hysbrydoli gan hanes LHDTC+ Cymru a gwrthrychau o gasgliad yr Amgueddfa. Dyma’r cyfranwyr hefyd yn ymateb i thema trawsnewid, gan ystyried eu profiadau eu hunain o fod yn LHDTC+ yng Nghymru a’u cysylltiad â threftadaeth Cymru. Talwyd comisiwn i bob artist i greu eu gwaith, a cawsant eu mentora drwy’r broses gan staff ymgysylltu ieuenctid yr Amgueddfa a chyfoedion. Crëwyd y cabaret ar adeg pan oedden ni i gyd wedi ein hynysu, gan greu gofod diogel i’r criw gyfarfod yn rheolaidd i rannu syniadau ac i gymdeithasu.

Arddangosfa Trawsnewid

Drwy 2021 a 2022, comisiynwyd 12 artist cwiar ifanc i greu gweithiau mewn ymateb i gasgliad LHDTC+ Amgueddfa Cymru yn Sain Ffagan a chrynhoi eu profiadau o fyw fel pobl cwiar yng Nghymru. Roedd yr arddangosfa’n fynegiant bywiog, cyfoes o fod yn cwiar oedd yn cyfuno gweithiau o’r casgliad a gweithiau newydd yr artistiaid. Roedd cynnwys a chyflwyniad yr arddangosfa yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn drawsnewidiol ac yn gwthio ffiniau drwy orchuddio’r waliau â lliw a chyflwyno cymysgedd o gynnwys ffisegol a digidol.

“Mae’r Amgueddfa’n cynnig llwyfan hanfodol i bobl ifanc fynegi eu hunain yn rhydd a gwneud safiad heb gael eu barnu. Mae cael sefydliad cydnabyddedig ac arwyddocaol yn gwrando arnoch chi wir yn gwneud i chi deimlo’n ddilys ac yn golygu bod yr hyn rydych chi’n ei ddweud yn cael ei glywed gan gymaint mwy o bobl nag y byddai fel arfer.” Aled Williams, un o Gynhyrchwyr Amgueddfa Cymru

Gŵyl Being Human

Fel rhan o ŵyl Being Human cyflwynodd aelodau Trawsnewid, Jake, Reg ac Oska, ddiwrnod o weithdai, gweithgareddau a thrafodaeth banel yn trafod cysylltiadau cwiar â hanes a threftadaeth, a phwysigrwydd cynrychiolaeth a pherthyn yng Nghymru heddiw. Bu’r digwyddiadau’n trafod peth o hanes LHDTC+ Cymru drwy wrthrychau yng nghasgliad Amgueddfa Cymru. Roedd yn bwysig gofyn beth mae'r gwrthrychau hyn yn ei gynrychioli? Beth maen nhw’n ei olygu heddiw? Sut allwn ni eu defnyddio i gysylltu pobl cwiar â'i gilydd a'u hardaloedd?

Grŵp Ieuenctid Trawsnewid

Project sy’n dod â phobl ifanc cwiar at ei gilydd i ddathlu hanes cwiar Cymru gyda’r Amgueddfa yw Trawsnewid. Dechreuodd Trawsnewid yn ystod y cyfnod clo drwy gynnal gweithdai digidol oedd yn rhoi lle positif i bobl ifanc cwiar greu cysylltiadau a mynegi eu hunain yn greadigol o gartref. Bellach, mae Trawsnewid yn cynnal projectau a gweithdai ar-lein ac wyneb yn wyneb a chyfleoedd i weithio'n uniongyrchol gyda’r Amgueddfa. Yn fwy na dim, mae Trawsnewid yn rhoi cyfle i bobl ifanc cwiar ddysgu am hanes cwiar Cymru a datblygu eu hanes eu hunain.

“Ro’n i’n gallu cyfleu fy syniadau’n well a helpu i ddatblygu syniadau fy nghyfoedion, cefnogi gwaith creadigol pobl eraill, a gwneud penderfyniadau cyflym ar newidiadau angenrheidiol. Yn benodol, helpodd Trawsnewid fi i ddatblygu mwy o hunanhyder i ofyn i bethau gael eu cyflawni ac i derfynau amser gael eu cyrraedd.” – Oska, un o Gynhyrchwyr Amgueddfa Cymru

Arddangosfa Cardiau Post

Yn ystod cyfnod clo Covid-19 yn 2021, dyma ni’n newid i gysylltu â'r cyhoedd yn ddigidol. Daeth hi’n hanfodol i Amgueddfa Cymru ymgysylltu â’i chynulleidfa mewn ffyrdd newydd, a meithrin ymdeimlad o gymuned tra bod pobl wedi’u hynysu. Ar gyfer mis hanes LHDTC+, cynhaliodd yr Amgueddfa gystadleuaeth gyhoeddus i ddylunio cerdyn post wedi’i seilio ar eitem yng nghasgliad LHDTC+ yr Amgueddfa. Roedd y gystadleuaeth yn llwyddiant, a chafwyd llwyth o geisiadau. Roedd yn caniatáu i unigolion ymgysylltu â chasgliad yr Amgueddfa, gan greu amrywiaeth o ddelweddau personol wrth sicrhau bod y gymuned LHDTC+ yn cael ei gweld. Mae arddangosfa ddigidol o’r holl geisiadau gwych, ochr yn ochr â disgrifiad byr gan bob artist yn egluro ychydig am eu gwaith.