Lleisiau’r Wal Goch

Roedd y penderfyniad i ddyfarnu Cwpan y Byd 2022 i Qatar yn un dadleuol. Roedd cefnogwyr Cymru ymhlith y rhai oedd yn gwrthwynebu polisïau Qatar yn erbyn diogelwch a chynhwysiant LHDTC+, hawliau llafur a hawliau menywod yn ogystal ag effaith amgylcheddol y penderfyniad. Y Wal Goch yw’r enw ar gefnogwyr ein timau pêl-droed cenedlaethol ac maen nhw’n cael eu disgrifio’n aml fel y deuddegfed chwaraewr ar y cae.

Roedd yr arddangosfa hon yn tynnu sylw at rai o bobl a chymunedau’r Wal Goch, gan gyfeirio at ffasiwn, cerddoriaeth, hunaniaeth a gwleidyddiaeth. Mae'r arddangosfa hefyd yn cynnwys eitemau sy'n ymwneud â'r gymuned LHDTC+ a'u cysylltiad â phêl-droed, Wal yr Enfys a Phêl-droed yn erbyn Homoffobia. Gorau chwarae, cyd-chwarae – ac fel cefnogwyr dylen ni fod yn meddwl yn gyson am gydraddoldeb ac yn brwydro drosto yn y gêm drwyddi draw.