Ein Stori Ni
Ein Stori Ni
Cafodd tri o gynhyrchwyr Amgueddfa Cymru eu cyflogi i weithio ar arddangosfa hanes llafar ar straeon gwahanol bobl LHDTC+ sy’n byw yng Nghymru heddiw a’r gwrthrychau sy’n agos i’ calonnau. Mae’r arddangosfa’n agor ym mis Mawrth 2024 yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.
Project ‘The Future is Fungal’
Project ymchwil wedi’i ariannu gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) mewn cydweithrediad â Kate Marston ym Mhrifysgol Caerdydd yw ‘The Future is Fungal’. Yn ystod 2022/23 cynhaliwyd cyfarfodydd rheolaidd gyda grŵp o bobl ifanc LHDTC+ oedd yn gyfuniad o sesiynau creadigol, ymarferol ac addysgol yn archwilio gwyddoniaeth ffyngau, eu cysylltiad â hunaniaeth a’r gymuned cwiar. Cynhaliwyd digwyddiad undydd oedd yn agored i bobl ifanc LHDTC+ er mwyn rhannu'r hyn roedd y project wedi ei drafod. Cyflwynodd Cynhyrchwyr Amgueddfa Cymru sgyrsiau ar hanes ffyngau a gwladychiaeth, yn ogystal â chynnal gweithdai creu bathodynnau, ysgrifennu creadigol a phrofiadau gwneud modelau.
Yng ngeiriau Kate Marston, micro-organebau niferus yw ffyngau sydd wedi cael eu hanwybyddu yn hanesyddol. Maen nhw wedi’u disgrifio fel rhyngrwyd naturiol, rhwydweithiau tanddaearol o hyffae ffwng yn hwyluso ‘rhwydweithio cymdeithasol’ rhwng planhigion a’u galluogi i gyfathrebu am fygythiadau amgylcheddol. Am gyfnod hir, ychydig iawn roedden ni’n ei ddeall am gyfraniad ecolegol helaeth ffyngau oherwydd eu bod nhw’n cael eu hystyried yn 'blanhigion israddol' heb lawer o rywioldeb sefydlog. Mae’n anghyffredin i ffwng fod â dau ryw biolegol yn unig, ac mae gan rai ffyngau, er enghraifft y dagell hollt, gymaint â 23,000 o wahanol hunaniaethau rhywiol.
Mae’r project yma’n eich gwahodd i ymchwilio i fyd cyfareddol ffyngau i ystyried sut mae amrywiaeth cymdeithasol a rhywiol byd natur yn newid y ffordd rydyn ni’n meddwl am ein perthnasoedd ein hunain. Drwy gyfres o weithdai creadigol a chyfranogol, byddwch yn archwilio’r archifau ffwngaidd yn Amgueddfa Cymru yn ogystal ag ymgysylltu ag arbenigwyr mewn ecoleg ffwngaidd er mwyn ystyried sut y gallai meddwl am ffyngau eich ysbrydoli i ail-ddychmygu dyfodol rhwydweithiau cyfathrebu, rhywedd a rhywioldeb. Bydd canfyddiadau'r astudiaeth yma’n llywio adroddiad am feddwl am ffyngau ym maes addysg cydberthynas a rhywioldeb.
“Mae llawer o gysylltiadau rhwng ffyngau a bod yn cwiar. O safbwynt ecoleg, mae ffyngau yn torri normau rhywedd; dydyn nhw ddim yn cydymffurfio â chategori deuaidd, maen nhw’n hylifol a gallan nhw fod ag amrywiadau di-ri o rywiau. Mae’r rhwydwaith myseliwm, sef sut mae’r holl ffyngau’n cysylltu ac yn bwydo planhigion eraill, hefyd yn drosiad gwych o’r ffordd mae rhwydwaith cymorth y gymuned cwiar a’u ffordd o rannu adnoddau yn gweithio. Mae ffyngau hefyd yn hynod gydnerth a gallan nhw oroesi amgylcheddau eithafol sydd, yn fy marn i, yn debyg iawn i lawer o bobl cwiar.” Un o gynhyrchwyr Amgueddfa Cymru” ACP
Ysgrifennu Balch
Cynhaliwyd gweithdai rhad ac am ddim hyn gyda’r hanesydd a’r awdur Norena Shopland, gan wahodd awduron cwiar o bob oed i ddarllen rhwng y llinellau, i archwilio cofnodion hanesyddol o hanes cwiar Cymru ac i greu eu darnau ysgrifenedig eu hunain yn seiliedig arnyn nhw. Yn dilyn y gweithdai, cynhaliwyd digwyddiad i bob cyfrannwr ddod ynghyd i ddathlu eu gwaith.
Teithiau Cwiar
Ymunwch ag Oska a Reg, dau o Gynhyrchwyr Amgueddfa Cymru, ar daith cwiar o amgylch Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Mae'r daith yn mynd â chi i weld holl wrthrychau a lleoliadau’r Amgueddfa sy'n ymwneud â hanes cwiar Cymru, gan roi cipolwg ar eu cyd-destun a'u harwyddocâd. Y nod yw rhoi llwyfan a llais i hanes cymdeithasol pobl LHDTC+ Cymru. Gallwch chi nawr wylio fersiwn ddigidol o daith cwiar Oska a Reg.