Gwirfoddoli Grŵp

Gwirfoddoli
Gwirfoddoli mewn grwp

Mae Gwirfoddoli Grŵp yn ffordd wych o helpu eich cymuned leol tra'n annog eich grŵp i weithio fel tîm. Yn y gorffennol, mae staff banciau, y gwasanaeth sifil ac elusennau a chlybiau lleol wedi gwirfoddoli gydag Amgueddfa Cymru. Dyma'r grŵp yma yn helpu'r Amgueddfa gyda phrojectau mawr fel garddio, gwaith fferm a threfnu deunydd archif hyd yn oed.

Ers 1907 rydyn ni wedi bod yn geidwaid treftadaeth, a chasgliadau celf a hanes natur Cymru, ac rydyn ni'n credu y gall amgueddfeydd newid bywydau. Rydyn ni'n ddibynnol ar gefnogaeth unigolion, busnesau a sefydliadau elusennol i feithrin treftadaeth Cymru.

Os oes gennych ddiddordeb gwirfoddoli a'n cynorthwyo fel grŵp,

cysyllwtch a ni gan nodi'r canlynol:
  • Enw'r sefydliad.
  • Dyddiadau yr ydych ar gael i wirfoddoli (rhowch rybudd o 8 wythnos).
  • Amgueddfa ddelfrydol.
  • Unrhyw waith penodol yr hoffech helpu gydag ef.
  • Unrhyw ofynion mynediad neu gefnogaeth fydd angen eu hystyried.

Ni allwn warantu cyfle i bawb wirfoddoli, ond fe wnawn ein gorau i'ch cynnwys yn ein cynlluniau.