Amgueddfa Cymru yn Llundain

Gweithdy

© Craig Auckland/Fotohaus

Lleoliad: Eglwys Gymraeg Canol Llundain - 30 East Castle Street, Oxford Circus

Dyddiad: 20 Chwefror 2018 at 12pm

> Wythnos Cymru yn Llundain 2018

Fflach Amgueddfa; 28 Chwefror 2018 Wythnos Cymru yn Llundain 2018 – "Creu Hanes"

Lleoliad – Eglwys Gymraeg Canol Llundain

Fel rhan o Wythnos Wythnos Cymru yn Llundain 2018, bydd Amgueddfa Cymru yn agor fflach amgueddfa yn Eglwys Gymraeg Canol Llundain gan arddangos rhai o eitemau pwysig y casgliad cenedlaethol. Bydd staff yr Amgueddfa wrthlaw i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau cyffrous yn Amgueddfa Cymru, gan gynnwys gwaith ailddatblygu Sain Ffagan.

Amgueddfa Werin Cymru, a adwaenir yn hoffus fel Sain Ffagan, ymhlith amgueddfeydd awyr agored gorau Ewrop ac yn croesawu dros 600,000 o ymwelwyr y flwyddyn. Mae’n eicon diwylliannol sydd wedi tyfu dros ddeg a thrigain o flynyddoedd gan ddod yn ffefryn gan bobl o Gymru a thu hwnt. Saif yr Amgueddfa ar dir Castell Sain Ffagan, maenordy o’r 16eg ganrif a roddwyd gan Iarll Plymouth wedi’r Ail Ryfel Byd. Mae ar gyrion Caerdydd – taith fer ar fws neu mewn tacsi o ganol y ddinas. Ar y diwrnod bydd cyfle i glywed am waith ailddatblygu Sain Ffagan wrth i broject Creu Hanes nesáu at ei derfyn gyda phen-blwydd yr Amgueddfa’n 70 ar y gorwel. Ar noswyl Gŵyl Ddewi bydd yn gyfle perffaith i ddathlu hanes a diwylliant Cymru.

Sain Ffagan yw amgueddfa fwyaf poblogaidd y teulu o saith a elwir yn Amgueddfa Cymru. Mae Amgueddfa Cymru yn elusen gofrestredig (No.525774) a ffurfiwyd dros 100 mlynedd yn ôl drwy Siarter Frenhinol. Mae ein hamgueddfeydd yn parhau am ddim ac mae niferoedd ymwelwyr yn cynyddu gyda dros 1.68m yn croesi’r trothwy yn 2016. Un o brif nodweddion y sefydliad yw y pwyslais ar addysg.

Mae project Creu Hanes Sain Ffagan wedi bod yn broject cyfalaf gweddnewidiol, gan gynnwys chwe mlynedd o waith adeiladu ers 2013 ac yn costio cyfanswm o £31 miliwn.

Mae’n amgueddfa awyr agored o safon ryngwladol gyda dros 40 o adeiladau hanesyddol o bob cwr o Gymru sydd wedi ysbrydoli cenedlaethau o blant ac oedolion.

Byddem wrth ein bodd petai chi’n ystyried noddi yr un digwyddiad hwn ar 20 Chwefror 2018. Fel noddwr, byddwch yn derbyn holl fuddion o ymwneud ag Amgueddfa Cymru.

Yn ddiweddar cawsom ein cydnabod yng Ngwobrau Sefydliad Siartredig Cysylltiadau Cyhoeddus Cymru – Aur yn y categori cyfryngau cymdeithasol ac am ymgyrch Deinosoriaid yn Dianc.

Yn y Gwobrau Cyfathrebu Dylunio Rhyngwladol enillom wobr arian am y ‘Cyfathrebu Arddangosfa Dros-dro Gorau am waith marchnata lansio Deinosoriaid yn Deor.

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru – proffil ymwelwyr, adrannau’r farchnad a thystiolaeth

Ymwelodd bron i 478,000 â Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru yn ystod 2016-17.

Mae Amgueddfa Cymru hefyd wedi cynyddu ei phresenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol mwyaf poblogaidd.

Mae’r wefan, a’n tudalennau Facebook a Twitter yn denu 480,000 o ymweliadau y mis ac oddeutu 876,000 o ddefnyddwyr y flwyddyn.

  • Rydym yn croesawu 1.7miliwn o ymwelwyr y flwyddyn i’n saith amgueddfa (gyda 42% o du hwnt i Gymru).
  • Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â 120 o sefydliadau.
  • Rydym yn cyrraedd 2.1miliwn o sgriniau yr wythnos, ar gyfartaledd, trwy'r cyfryngau cymdeithasol.
  • Byddai 97% o ymwelwyr yn annog eraill i ymweld ag Amgueddfa Cymru.
  • Gwelwyd cynnydd o 85.5% mewn ymweliadau ers cyflwyno mynediad am ddim yn 2001.

Os oes gennych ddiddordeb mewn noddi’r Fflach Amgueddfa ar 28 Chwefror 2018, ac yn dymuno gweld dogfen ffeithiau gynhwysfawr a chynnig llawn, mae croeso i chi gysylltu â mi.

Diolch ymlaen llaw am roi o’ch amser i ystyried y cais hwn.

Caron Ann Elizabeth Jennings – Datblygu caron.jennings@amgueddfacymru.ac.uk Ffôn: (029) 2057 3145