Telerau ac Amodau Cystadleuthau

1. I gystadlu yn y raffl hon i ennill mynediad am ddim i ddigwyddiad Amgueddfa Dros Nos: Deinosa r 4-5 Mai 2024, maen rhaid i chi gwblhau’r ffurflen ar y dudalen hon

2. Dim ond un (1) ymgais i bob person.

3. Mae'r raffl ar agor i drigolion y DU sy'n 18 oed neu'n hŷn.

4. Nid yw'r raffl yn agored i weithwyr na staff asiantaeth Amgueddfa Cymru, nac unrhyw un sy'n uniongyrchol gysylltiedig â'r gystadleuaeth.

5. Bydd y raffl ar agor rhwng 12.00pm 26/04/2024 hyd at 11.59pm ar 28/04/2024. Ni dderbynnir unrhyw gynigion ar ôl y dyddiad hwn.

6. Byddwn yn dewis dau (2) enillydd ar hap

7. Bydd yr enillwyr yn derbyn tri (3) tocyn Prif Neuadd gwerth £70 yr un ar gyfer digwyddiad Amgueddfa Dros Nos: Deinos ar 4-5 Mai 2024.

8. Rhaid derbyn y wobr sydd wedi'i chynnig, nid oes dewis arall ar gael, ac ni ellir cyfnewid y wobr am arian parod. Ni ellir adbrynu, ail-werthu na chyfnewid y wobr ac ni ellir ei throsglwyddo.

9. Byddwn yn hysbysu'r enillwyr trwy e-bost

10. Os yw enillydd yn methu ag ymateb cyn pen 48 awr ar ôl ein hysbysiad, rydym yn cadw'r hawl i ddewis enillydd arall ar hap yn yr un modd er efallai na roddir 48 awr i unrhyw enillydd amgen ddarparu'r manylion perthnasol.

11. Dim ond at ddibenion y gystadleuaeth hon y bydd unrhyw ddata personol a ddarperir yn cael ei ddefnyddio ac fel y nodir yn wahanol yn yr amodau a thelerau hyn.

12. Trwy gymryd rhan yn y raffl hon, rydych yn cytuno i’r telerau ac amodau yma. Rydym yn cadw'r hawl i ddilysu neu anghymhwyso unrhyw geisiadau yr ydym ni, yn ein barn ni, yn eu hystyried sy’n torri'r telerau ac amodau hyn.

Darllenwch ein Polisi Preifatrwydd am fwy o wybodaeth.