Amgueddfa Dros Nos: Deinos

Gwahoddiad arbennig – dewch i ddarganfod beth sy’n digwydd yn yr Amgueddfa wedi iddi nosi...ac aros y nos!  

Dyma fydd yn digwydd:

  • Taith dan olau fflachlamp i archwilio Cymru fel yr oedd 200 miliwn o flynyddoedd yn ôl
  • Cyfarfod ambell i ddeinosor cyfeillgar mewn sioe i’w chofio
  • Gweithdy crefft – wedi’u hysbrydoli gan ffosilau, olion troed ac esgyrn o gasgliad yr Amgueddfa
  • Ffilm cyn gwely yn ein theatr fawreddog – cyn cysgu o dan y gromen fawr...a breuddwydio am wlad
  • Dihuno ben bore am frecwast cyn mwynhau sesiwn ymarfer corff (ysgafn!) i’r teulu cyfan gyda  DanceFit Wales
  • Deffro’n gynnar i grwydro’r orielau, cyn mentro’n ôl i’r 21ain ganrif.

Nifer cyfyngedig o docynnau. Ni ellir cael ad-daliad. Mae’r digwyddiad hwn yn addas i blant 6 i 12 oed. Rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn sy'n talu.

Pris Tocyn:  
Prif Neuadd: Plentyn £70 | Oedolyn £70      
Alcof: Plentyn £75 | Oedolyn £75   
VIP Llys Llysysydd: Plentyn £95 | Oedolyn £95    
VIP Criw Cigysydd:  Plentyn £95 | Oedolyn £95   

Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein cwestiynau cyffredin sydd ar y tudalen digwyddiadau isod.

Diolch i gefnogaeth hael chwaraewyr People's Postcode Lottery.

Digwyddiadau Dros Nos: