Cardiau Cymeriadau Calan Gaeaf 2025
Gwrach y Rhibyn
Gwrach erchyll â dannedd mawr du, breichiau hir, main, a gwallt sawl llath o hyd. Ei nodwedd pennaf yw ei hylltra rhyfeddol. Mae hi’n arwydd o farwolaeth ac mae rhai yn meddwl ei bod hefyd yn rhybudd o bla. Nid yw’r wrach hon wedi’i gweld yng Nghaerdydd ers 1878; mae adroddiad llygad-dyst o’r flwyddyn honno yn cofio’r braw ofnadwy a roddodd y wrach hon i breswylydd o Gaerdydd:
‘Yn Llandaf...ar ymweliad â hen ffrind, y gwelais a chlywais Gwrach y Rhibyn...gwelais hi'n glir, syr, hen wraig ofnadwy â gwallt coch hir ac wyneb fel sialc, a dannedd mawr fel genau, yn edrych yn ôl dros ei hysgwydd arnaf wrth iddi fynd trwy'r awyr gyda gŵn hir ddu yn llusgo ar hyd y ddaear o dan ei breichiau, oherwydd ni allwn weld unrhyw gorff...'
Twm Siôn Cati
Ar rai ffyrdd diffaith, os gwrandewch chi’n ddigon astud gallwch glywed sŵn carnau ceffyl… sŵn y lleidr ffordd enwog Twm Siôn Cati. Roedd ‘Robin Hood Cymru’ yn adnabyddus am ddwyn oddi wrth y cyfoethog a thwyllo’r diegwyddor. Llwyddodd i osgoi’r awdurdodau gan gynnwys ei elyn pennaf Siryf Caerfyrddin trwy guddio mewn ogof yn Nyffryn Tywi.
Hwch Ddu Gwta
Hwch ddu ofnadwy heb gynffon, sy’n aml yng nghwmni “Y Ladi Wen heb ddim pen”. Maent yn crwydro cefn gwlad gyda’i gilydd ac yn dychryn pawb ar Calan Gaeaf. Ar ddiwedd noson Galan Gaeaf, rhaid i bawb ruthro adref i ddiogelwch wrth i’r goelcerth ddechrau diffodd, rhag i’ch heneidiau gael eu cymryd gan y bwystfil ofnadwy yma. Peidiwch ag aros allan yn rhy hwyr rhag ofn i’r Hwch Ddu Gwta eich dal!
Arferid adrodd penillion gan gynnwys:
Adref, adref am y cynta’, Hwch Ddu Gwta a gipio’r ola’
neu
Hwch Ddu Gwta a Ladi Wen heb ddim pen
Hwch Ddu Gwta a gipio’r ola’
Hwch Ddu Gwta nos G’langaea
Lladron yn dwad tan weu sana.
ac hefyd
Hwch Ddu Gwta, yn brathu coesau’r hogia’ lleia’.
Ladi Wen
Ysbryd erchyll a allai gynnig trysor neu aur am eich cymorth. Ond byddai unrhyw arwydd o ofn ar eich rhan yn gwneud iddi ddiflannu am flynyddoedd lawer. Mae’n bosib y gwelwch hi’n chwilio am ddioddefwyr gyda’i phartner dychrynllyd, yr Hwch Ddu Gwta.
Milwr
Brwydr Sain Ffagan oedd y frwydr fwyaf erioed i ddigwydd yng Nghymru. Ym mis Mai 1648, ymladdodd tua 11,000 o ddynion frwydr anobeithiol yn y pentref. Lladdwyd cannoedd o ddynion, ac yn ôl y chwedl roedd afon Elái yn llifo’n goch gyda’u gwaed. Yn 2016, adroddodd ymwelwyr â’r Amgueddfa iddynt weld dau ysbryd mewn gwisg filwrol yn cuddio yn y llwyni. Byddwch yn ofalus rhag ofn iddyn nhw ymddangos eto!
Y Dyn Gwiail
Tua 2000 o flynyddoedd yn ôl, yn ystod rhyfel yng Ngâl hynafol (Ffrainc heddiw), cofnododd Julius Caesar fod y Celtiaid yn adeiladu ffigwr pren mawr ar ffurf dyn – y Dyn Gwiail. Byddai’r derwyddon yn barnu’r rhai oedd wedi niweidio’r llwyth, ac os cânt eu canfod yn euog, cânt eu rhoi y tu mewn i’r breichiau a’r corff. Ar ôl gwledd, byddai’r Dyn Gwiail yn cael ei gynnau, gan losgi’r rhai oedd y tu mewn.
Mae syniad y Dyn Gwiail wedi goroesi dros ganrifoedd gyda fawr ddim tystiolaeth, heblaw am baragraff yn llyfr Julius Caesar. Ond, roedd hyn yn ddigon i ysbrydoli llyfrau, celf, cerddoriaeth, a ffilmiau am y pwnc – gan ganolbwyntio’n aml ar yr agweddau erchyll a brawychus.
Ond efallai fod gwir ystyr y traddodiad yn fwy seremonïol. Pe bai’n arfer go iawn, mae’n debygol ei fod yn rhan o Ŵyl y Gwanwyn neu ddechrau’r Haf, i ddod â gwres yr haul yn ôl ac sicrhau tymor ffrwythlon.
Heddiw, rydym yn llosgi’r Dyn Gwiail fel rhan o Wyliau’r Hydref a’r Gaeaf, ble roedd tân yn elfen bwysig iawn o’r dathliad. Rydym hefyd yn nodi Calan Gaeaf – sy’n cael ei ystyried gan rai fel blwyddyn newydd y Celtiaid ac eraill fel gŵyl bwysig yn yr Hydref – amser i ddod ynghyd, myfyrio, a pharatoi ar gyfer y misoedd sydd i ddod. Yn ôl y traddodiad, mae hwn hefyd yn gyfnod peryglus, pan fydd y ffin rhwng ein byd ni a’r arallfyd yn denau.
Dyma yw rôl y tân heno; i ddychryn yr ysbrydion drwg ac i sicrhau gaeaf diogel.